I rannu
gwybodaeth am gynllun grant amgylcheddol newydd – Ffermio Bro.
COFNODION:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Swyddog AHNE Llŷn a
chynrychiolydd Ffermio Bro.
Eglurwyd bod Ffermio Bro yn gynllun grant amgylcheddol
newydd sydd gyda’r nod o gynorthwyo ffermwyr i warchod natur a’r amgylchedd tra
hefyd yn cefnogi busnesau a chymunedau gwledig. Nodwyd eu fod wedi cael ei
ddatblygu gan Llywodraeth Cymru, ar y cyd gyda’r Parciau Cenedlaethol ac
Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol, gan sicrhau mai dim ond i ardaloedd y
tirweddau dynodedig hyn bydd y grant yn weithredol. Manylwyd bod hon yn gynllun
sydd wedi cael ei raglennu ar gyfer y tair blynedd nesaf.
Adroddwyd bod y tirweddau dynodedig hyn yn derbyn cronfa
ariannol er mwyn galluogi ffermwyr i wneud cais yn uniongyrchol gyda’r
awdurdodau perthnasol am gymorth grant, gan fanylu bod £104,000 wedi cael ei
ddyrannu i AHNE Llŷn ar gyfer y flwyddyn ariannol hon. Tynnwyd sylw bydd
yr arian yn cael ei ddyrannu ar gyfer prosiectau sydd yn llesol i natur a
bioamrywiaeth megis creu ac adfer waliau cerrig, adfer mewndiroedd, creu
pyllau, gwrychoedd a chefnogi dulliau naturiol o reoli llifogydd, ymysg prosiectau
eraill. Eglurwyd bod pwyslais yn cael ei roi ar glystyru a chyd-weithio gan
amlygu ei fod yn rhagflaenydd i’r Rhaglen Ffermio Cynaliadwy (SFS).
Nodwyd bod swyddogion wedi cael eu penodi ar gyfer
gweinyddu’r grant hwn yn ardaloedd AHNE Llŷn a Pharc Cenedlaethol Eryri,
gan adrodd bydd ceisiadau bychan a syml yn cael eu penderfynu gan y swyddogion
yn annibynnol. Pwysleisiwyd bydd ceisiadau mawr yn cael eu cysidro gan Banel.
Gofynnwyd i’r Aelodau ethol cynrychiolydd o’r Cyd-bwyllgor hwn i fod yn
bresennol ar Banel Grantiau Ffermio Bro a fyddai’n cyfarfod oddeutu 2 waith y
flwyddyn ym Mhenrhyndeudraeth, gan nodi byddai gofyn i’r cynrychiolydd wneud
ychydig o waith cefndirol i’r ceisiadau sydd wedi dod i law yn flaenorol i
fynychu’r cyfarfod.
Atgoffwyd bod cynlluniau ar waith i godi ymwybyddiaeth o’r
cynllun grant hwn mewn nifer o amrywiol ffyrdd megis drwy’r Undebau
Amaethyddol, Llygad Llŷn, Sioe Nefyn a’r cyfryngau cymdeithasol gan
gadarnhau bod cryn ddiddordeb wedi cael ei ddatgan hyd yma. Tynnwyd sylw bod 23
cais am arian wedi dod i law yn yr ardal ar hyn o bryd gyda’r cyfnod dynodedig
i gyflwyno ceisiadau ar gyfer y flwyddyn ariannol hon bellach wedi dod i ben
oherwydd ei fod yn debygol y bydd y gyllideb yn cael ei wario wrth ystyried y
ceisiadau hyn. Adroddwyd bod y mwyafrif o geisiadau o fewn yr AHNE yn ymwneud
ag adeiladu cloddiau a chreu mannau cysgodol er mwyn gwarchod stoc gyda rhai
o’r ceisiadau yn manylu ar brosiectau ansawdd dŵr. Manylwyd bod unrhyw
brosiect sydd yn cael ei ariannu o fewn y flwyddyn ariannol hon angen eu
cwblhau erbyn 1 Mawrth 2026.
Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:
Mynegwyd balchder bod cymaint o geisiadau am arian wedi dod
i law, gan ofyn a oes ymgeiswyr o wahanol ardaloedd o fewn AHNE Llŷn wedi
datgan diddordeb. Gofynnwyd hefyd sut mae niferoedd yr ymgeiswyr yn cymharu
gydag ardaloedd eraill sydd yn gymwys i’r grant. Mewn ymateb, cadarnhaodd
cynrychiolydd Ffermio Bro bod ymgeiswyr o fewn AHNE Llŷn yn dod o wahanol
ardaloedd yr AHNE, gyda rhai ardaloedd gyda nifer o ymgeiswyr. Adroddwyd hefyd
bod ardal AHNE Llŷn wedi derbyn mwy o geisiadau am arian grant na’r
ardaloedd eraill.
Mewn ymateb i bryderon, sicrhaodd cynrychiolydd Ffermio Bro
nad yw’r cynllun yn mynd i’r afael ag ail-wylltio nac yn bwriadu addasu dulliau
ffermio mewn unrhyw fodd. Nodwyd mai’r bwriad yw i gefnogi’r ffermwyr gan mai
nhw sydd yn arwain arno gan bwysleisio nad oes pwyslais i wneud unrhyw beth i’w
tir nad ydynt yn dymuno ei wneud. Ymhelaethwyd bod y grant yn gallu cefnogi
ffermwyr i feithrin yr hyn sydd ar y tir yn barod ac ddim yn bwriadu gwneud
unrhyw lwybrau tramwy o’r newydd. Eglurwyd byddai trafodaethau yn cael eu
cynnal gyda swyddogion yr AHNE a Chyngor Gwynedd os oes materion o’r fath yn
codi er mwyn sicrhau nad yw’r un prosiectau yn cael eu ariannu mewn mwy nag un
modd.
PENDERFYNIAD
· Derbyn
yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth.
· Ethol
y Cynghorydd Gruffydd Williams i gynrychioli’r Cyd-bwyllgor ar Banel Grant
Ffermio Bro.
Dogfennau ategol: