I rannu
diweddariad am brosiectau cyfalaf AHNE Llŷn.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Swyddog AHNE Llŷn.
Adroddwyd bod y prosiectau cyfalaf hyn yn cael eu hariannu
drwy gynllun grant Tirweddau Cynaliadwy Lleoedd Cynaliadwy (TCLC) Llywodraeth
Cymru, gan nodi bod TCLC dim ond ar gael i dirweddau dynodedig Cymru (Ardaloedd
o Harddwch Naturiol Eithriadol a Pharciau Cenedlaethol). Eglurwyd bod y
prosiectau a soniwyd amdanynt yn yr adroddiad bellach wedi dod i ben gan fod
mai rhwng 2022-2025 oedd cyfnod cynllun TCLC. Fodd bynnag, sicrhawyd bodd y
cynllun yn parhau ar gyfer 2025-2027.
Manylwyd ar y prosiectau cyfalaf ar gyfer 2022-2025 gan nodi
mai themâu Llywodraeth Cymru ar gyfer prosiectau o fewn y cyfnod hwn oedd ;
‘Bioamrywiaeth ac adfer natur’, ‘Dad-garboneiddio’, ‘Cymunedau gwydn a gwyrdd’
a ‘Thwristiaeth Gynaliadwy’. Atgoffwyd bod gan AHNE Llŷn prosiectau a oedd
yn gymwys ar gyfer yr holl themâu hyn fel y soniwyd amdanynt mewn cyfarfodydd
blaenorol ac yn fwy diweddar drwy newyddlen Llygad Llŷn. Ymhelaethwyd bod
y prosiectau hyn yn cynnwys:
·
Tiroedd Comin – gwelliannau i diroedd
comin Foel Gron, Horeb a Rhos Botwnnog.
·
Coed Cynhenid – plannu 5,000 o goed ar
safleoedd adnabyddedig.
·
Rhywogaethau ymledol estron – mynd i’r
afael â phlanhigion estron megis jac y neidiwr, rododendron a changlwm
tsapaneaidd mewn sawl ardal o fewn yr AHNE, gan ganolbwyntio ar ardal Trefor yn
benodol.
·
Y Ganolfan, Llithfaen - adnewyddu’r
ganolfan ar y cyd gyda chyllideb sylweddol gan gronfa Ffyniant Bro, Llywodraeth
y DU. Mynegwyd balchder bod y Ganolfan bellach wedi ailagor i’r cyhoedd.
·
Maes Parcio Chwarel Llanbedrog –
tacluso’r ardal gan gynnwys ail-wynebu’r maes parcio, gosod meinciau picnic a
torri tyfiant a phlannu coed.
Eglurwyd bod gwaith cydweithredol wedi cael ei gwblhau gyda
thirweddau dynodedig eraill megis prosiectau ‘Terfynau Traddodiadol’ yn ardal
Cilan ac Edern, ‘Yr Awyr Dywyll’ a ‘Pecyn Addysg Tirlun’ mewn cydweithrediad â
Chyngor Penfro.
Cadarnhawyd bod y cynllun TCLC wedi cael ei ariannu gan
Lywodraeth Cymru am ddwy flynedd ychwanegol. Nodwyd nad oes addasiadau i
themâu’r prosiectau a gefnogir ond bod pwyslais penodol yn cael ei roi ar
‘adfer natur’ a ‘dad-garboneiddio’ yn ystod y cyfnod hwn.
Diweddarwyd bod prosiectau cyfalaf AHNE Llŷn ar gyfer y
ddwy flynedd nesaf yn cynnwys; Plannu coed cynhenid yn yr AHNE, Gwaredu
rhywogaethau ymledol estron, Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Abergeirch a
Dad-garboneiddio neuaddau/ canolfannau pentref.
Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:
Cytunwyd gyda’r safbwynt bod rhywogaethau ymledol estron yn
amharu ar blanhigion yr AHNE gan fynegi balchder bod cynlluniau yn eu lle er
mwyn parhau i fynd i’r afael a’r heriau hyn.
Mewn ymateb i ymholiad am atal rhywogaethau ymledol estron,
cadarnhaodd Swyddog AHNE Llŷn mai delio gyda thyfiant ar dir cyhoeddus neu
dir sydd yn ymylu â thir cyhoeddus yw nod yr AHNE. Nodwyd yr angen i gysylltu
gyda Chyngor Gwynedd gydag unrhyw drafferthion sydd yn codi ar dir cyhoeddus.
Mewn ymateb i ymholiad ar y gyllideb sydd ar gael ar gyfer y
prosiectau cyfalaf hyn, cadarnhaodd Swyddog AHNE Llŷn bod oddeutu £200,000
ar gael, gan sicrhau bydd gwybodaeth fanylach yn cael ei gylchredeg i aelodau’r
Cyd-bwyllgor.
PENDERFYNIAD
Derbyn
yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth.
Dogfennau ategol: