Agenda item

I rannu cynnwys gwybodaeth am adolygu Cynllun Rheoli’r AHNE.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Swyddog AHNE Llŷn.

 

Atgoffwyd bod trafodaeth gychwynnol ar y Cynllun Rheoli wedi cael ei gynnal yng nghyfarfod diwethaf y Cyd-bwyllgor, a gynhaliwyd ar 26 Tachwedd 2024. Diweddarwyd bod Canllaw wedi cael ei ddiweddaru a’i gyhoeddi gan Land Use Consultants ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru yn ddiweddar ar sut i baratoi ac adolygu Cynlluniau Rheoli. Pwysleisiwyd bod ymgynghori gyda trigolion a rhanddeiliaid yr AHNE yn allweddol. Nodwyd bod y canllaw hwn yn hirfaith ac bod fersiwn cryno ar waith yn y Gymraeg a’r Saesneg ond nid yw wedi cael ei gyhoeddi ar hyn o bryd.  Tynnwyd sylw bod y prif gamau a ddylid eu cyflawni wrth greu ac llunio cynllun rheoli yn cynnwys:

 

·       Asesu’r wybodaeth ddiweddaraf am nodweddion yr ardal

·       Ystyried ac ymgorffori gwybodaeth o gynlluniau a strategaethau perthnasol

·       Adolygu Nodau / Amcanion a Pholisïau’r Cynllun

·       Creu cynllun gweithredu newydd ar gyfer cyfnod y Cynllun

·       Adolygu'r Asesiad Amgylcheddol Strategol / Rheoliadau Cynefinoedd

 

Nodwyd bod Adroddiad o Gyflwr AHNE Llŷn wedi cael ei gomisiynu gan yr Uned AHNE yn 2021, gyda chopïau ohono wedi cael ei gylchredeg i aelodau’r Cyd-bwyllgor yn ddiweddar. Tynnwyd sylw at rhai o sylwadau a dderbyniwyd yn dilyn hyn megis:

 

·       Gofyn pam bod yr adroddiad yn uniaith Saesneg

·       Diffyg gwybodaeth am rai materion megis newid hinsawdd, tirlun, llesiant, llygredd a bioamrywiaeth.

·       Dim cyfeiriad at y Cynllun Rheoli Traethlin.

·       Bod gwybodaeth fwy diweddar ar gael ar rai materion erbyn hyn megis amaethyddiaeth.

·       Byddai’n defnyddiol gweld sut mae cynlluniau eraill yn cydblethu fel rhan o gynnwys y Cynllun Rheoli diwygiedig megis Y Cynllun Datblygu Lleol, Asesiad Llesiant Gwynedd a Môn a Datganiad Ardal Gogledd Orllewin.

·       Bod angen i’r Adroddiad Cyflwr gyd-fynd â’r canllaw newydd sydd wedi ei gomisiynu gan Gyfoeth Naturiol Cymru

 

Eglurwyd y bwriedir addasu a diweddaru’r Adroddiad Cyflwr er mwyn cael darlun cywir o’r ardal a’r pwysau ar yr amgylchedd. Sicrhawyd bydd fersiwn Cymraeg a Saesneg yn cael ei baratoi. Nodwyd y bwriedir i’r adroddiad diwygiedig hwn gael ei gyhoeddi erbyn Tachwedd 2025.

 

Atgoffwyd nad oes addasiadau wedi bod i’r Rhinweddau Arbennig i’r AHNE ond bod yr aelodau wedi ffurfio gweledigaeth newydd yng nghyfarfod diwethaf y Cyd-bwyllgor hwn, sef:

 

Ardal o dirlun ac arfordir hardd gyda bywyd gwyllt cynhenid a’u cynefinoedd yn ffynnu, lefel isel o lygredd amgylcheddol ac amrywiaeth o gyfleon mynediad a chyhoeddus. Adeiladau a nodweddion hanesyddol mewn cyflwr da, busnesau lleol yn llwyddo a chymunedau AHNE Llŷn yn cynnal a chryfhau'r iaith Gymraeg a’i diwylliant.

 

Diweddarwyd bod swyddogion wedi gofyn i’r aelodau am eu barn ynglŷn â beth yw’r materion llosg sydd yn berthnasol i rinweddau'r AHNE, er mwyn ystyried eu ymgorffori mewn i’r Cynllun Rheoli, gan gyflwyno crynodeb o’r sylwadau a ddaeth i law ac ymatebion y swyddogion iddynt.

 

Adroddwyd y bydd swyddogion yn addasu amcanion a pholisïau'r Cynllun Rheoli presennol er mwyn sicrhau eu bod yn gyfredol. Eglurwyd ei fod yn debygol bydd angen cyflwyno polisïau newydd o ganlyniad i sylwadau a hefyd er mwyn ymateb yn effeithiol i heriau newydd sydd wedi codi. Tynnwyd sylw hefyd at Raglen Weithredu dros gyfnod o 5 mlynedd sydd i’w weld fel rhan o’r Cynllun Rheoli presennol gan gadarnhau bod y mwyafrif o’r eitemau sydd yn rhan ohono bellach wedi cael eu cwblhau. Nodwyd bod posibilrwydd i’r ddogfen hon gael ei addasu ar gyfer y cyfnod nesaf gyda gweithgareddau o’r newydd a sicrhau bod unrhyw beth sydd ar y rhestr eisoes yn cael ei nodi ar gyfer y cyfnod hwn hefyd.

 

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:

 

Mynegwyd balchder bod gan y Cyd-bwyllgor hwn rôl i’w chwarae wrth i’r Cynllun gael ei ddatblygu. Gofynnwyd i’r swyddogion sicrhau bod y Cyd-bwyllgor yn ganolog i benderfyniadau, gan holi os oes modd derbyn caniatâd aelodau’r Cyd-bwyllgor i rannu cyfeiriadau e-bost fel bod ystyriaethau ehangach yn gallu cael eu cyflawni y tu hwnt i’r cyfarfod hwn. Mewn ymateb, cadarnhaodd Swyddog yr AHNE y bydd swyddogion yn derbyn arweiniad ar y mater hwn er mwyn sicrhau bod modd rhannu cyfeiriadau pawb yn unol â rheoliadau diogelu data.

 

Rhannwyd nifer o syniadau am bartneriaid a all gyfoethogi’r cynllun megis Menter Iaith Gwynedd, GwyrddNi a Chylch yr Iaith yn ogystal â rhai pethau sydd angen eu hymateb iddynt o fewn y cynllun megis Asesiadau Tai a Chyfarwyddyd Erthygl 4 o fewn y maes cynllunio. Ystyriwyd hefyd gofyn am farn y Cynghorau Cymuned leol ar gyfer yr Adroddiad Cyflwr ac mewn ymateb, eglurodd Swyddog yr AHNE bod yr Adroddiad yn cael ei lunio ar sail ffeithiau am rinweddau’r AHNE yn unig gan gadarnhau bydd cyfle i drafod gyda chynghorau ac unigolion yn hwyrach o fewn y broses datblygu.

 

Mewn ymateb i ymholiad, sicrhaodd Swyddog yr AHNE bod yr iaith Gymraeg a’i diwylliant yn derbyn ystyriaeth ganolog wrth ymdrin â holl agweddau’r Cynllun.

 

Mewn ymateb i'r ymholiad, eglurodd Swyddog yr AHNE yr angen i sefydlu dwy ddogfen, oherwydd bod Cynllun Cyflwr yr AHNE yn cynnwys gwybodaeth angenrheidiol sydd wedi ei dderbyn o gyfrifiadau neu gan bartneriaid megis Dŵr Cymru neu Gyfoeth Naturiol Cymru, gyda’r Cynllun Rheoli yn ymateb i unrhyw heriau a ymddengys, gyda chyfle i’r gymuned nodi sylwadau unwaith bydd cynllun drafft wedi cael ei lunio.

 

            PENDERFYNIAD

 

·       Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth.

·       Cefnogi’r bwriad i ddiweddaru’r Adroddiad Cyflwr yr AHNE a pharhau â’r gwaith i adolygu’r Cynllun Rheoli.

 

Dogfennau ategol: