Agenda item

Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd.

 

Cofnod:

Cydymdeimlwyd â theulu’r diweddar William Tudor Owen – cyn Aelod a Chadeirydd y Cyngor hwn, a rhoddwyd teyrnged iddo gan y Cyng. Dewi Jones.   

  

Cydymdeimlwyd a theulu’r diweddar Ieuan Roberts, Porthmadog a fu yn Aelod o’r Cyngor hwn.  Rhoddwyd teyrnged iddo gan Cyng. June Jones.  

  

Nodwyd  y bu farw’r gweinidog adnabyddus,  y Parchedig Marcus Robinson  yn ddiweddar, a chydymdeimlwyd â’i deulu yntau yno gystal. 

  

Nodwyd ymhellach bod y Cyngor yn dymuno cofio am bawb o fewn cymunedau’r sir oedd wedi colli anwyliaid yn ddiweddar. Ymdawelodd y Cyngor fel arwydd o barch a choffadwriaeth.  

 

 

Nodwyd fod sawl aelod o’r Cyngor wedi bod yn anhwylus yn ddiweddar a dymunwyd iddynt adferiad llwyr a buan.  

  

Croesawyd y Cynghorydd Wendy Cleaver i’w chyfarfod cyntaf yn dilyn cael ei hethol yn Gynghorydd dros y Bermo yn ystod yr haf, a dymunwyd yn dda iddi yn ei rôl.  

 

Croesawyd Catrin Thomas yn ôl i’r Cyngor wedi iddi gychwyn ar ei swydd fel Cyfarwyddwr Corfforaethol. 

 

Llongyfarchwyd y canlynol: 

  • Pawb o Wynedd a fu’n llwyddiannus yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam yn ddiweddar, yn benodol  Bryn Jones, Bangor ar ennill y Fedal Ryddiaith  ac i Owain Rhys o Gaerdydd ond yn wreiddiol o Landwrog, mab y cyn Cynghorydd Richard Morris Jones,  ar gipio’r Goron.   
  • Pwyllgor Trefnu Sir Gaernarfon fu’n noddi’r  Sioe Frenhinol eleni 
  • Chris Williams o Fethesda  sydd wedi bod yn rhedeg Ras Cefn y Ddraig er mwyn diolch i Gymdeithas Deillion Gogledd Cymru am eu cymorth i'w wraig, sef y Cynghorydd Einir Williams.    
  • I’r nofwraig Ela Letton-Jones o'r Felinheli ar ennill medal arian i Brydain ym Mhencampwriaeth Para-Nofio y Byd yn Singapore 
  • Cedron Dafydd o Bentir ar ennill Medal Arian yng Nghystadleuaeth Rhwyfo'r Byd.  
  • Richard Eirig Rowlands ar ennill Pencampwriaeth Dartiau Cymru 2025.  
  • Nick Thomas ar ennill medal aur ym Mhencampwriaethau Para-Saethyddiaeth y Byd.  
  • Ymgynghoriaeth Gwynedd am ennill gwobr amrywiaeth gwobrau ICE Cymru am brosiect atal llifogydd Hirael Bangor.  

 

Tynnwyd sylw ei bod yn 60 mlynedd ers i ar gael Llyn Celyn ei agor yn swyddogol a oedd yn groes i ddymuniad gwleidyddion a’r gymuned yn lleol. Mynegwyd ei bod yn holl bwysig cofio, ac atgoffa’r genedl o’r cam o foddi Cwm Celyn a llawer i gwm arall i ddyfrhau dinasoedd Lloegr. Nodwyd y byddwn yn cofio Tryweryn. 

 

Bu i’r Cadeirydd wahodd y Prif Weithredwr i roi diweddariad i’r Cyngor Llawn ar yr Adolygiad Amddiffyn Plant. Mynegodd y Prif Weithredwr nad yw yn arferol i wneud datganiad o’r math hwn ond ei bod yn holl bwysig iddo gyfarch y mater. Wythnos yn ôl, eglurodd, fod trefniadau yn ei lle ar gyfer cyhoeddi’r adroddiad holl bwysig hwn, gyda sesiwn briffio ar gyfer y Cynghorwyr wedi ei drefnu. Ond am 16:30 y noson cynt derbyniwyd neges i ohirio'r cyhoeddi. Pwysleisiwyd nad oedd y Cyngor yn rhan o’r penderfyniad na’ unrhyw ymgynghoriad ar y mater. 

 

Mynegwyd ei fod yn teimlo'r un siom a rhwystredigaeth gan fod 2 flynedd bellach wedi mynd heibio, a bod staff yn gweld penllanw a rhyddhad o gael y cyfle i drafod yn agored. Pwysleisiwyd ei fod am fod yn adroddiad poenus ac anodd ond fod y Cyngor yn barod i ymddiheuro i’r unigolion dewr ac ymrwymo i wella ei systemau. 

 

Eglurwyd nad oes gwybodaeth bellach ar hyn o bryd, ond unwaith y bydd mi fydd yn cael ei rannu.  

 

Pwysleisiwyd fod effaith gohirio wedi bod yn llawer mwy ar y dioddefwyr sydd yn parhau i gael eu cefnogi.