Ystyried
unrhyw gwestiynau y rhoddwyd rhybudd priodol ohonynt o dan Adran 4.18 o’r
Cyfansoddiad.
Cofnod:
(Cyhoeddwyd atebion ysgrifenedig yr Aelodau Cabinet
i’r cwestiynau ymlaen llaw.)
Mynegwyd fod y cwestiynau wedi bod yn hwyr yn cyrraedd yr
aelodau heddiw a gofynnwyd am esboniad dros eu derbyn mor hwyr. Ymddiheurwyd am
hyn gan nodi fod nifer uchel o gwestiynau wedi eu cyflwyno a'u bod yn cymryd
amser i ymateb iddynt. Nodwyd y byddant yn eu cyrraedd yn gynt i’r cyfarfod
nesaf.
Rwy’n ymwybodol fod adolygiad llawn wedi ei gychwyn ar
wasanaethau Derwen nôl yn 2024 oherwydd pryderon am y nifer cynyddol o blant yn
aros am fynediad neu am wasanaeth Derwen. Tybed a all yr aelod cabinet roi
diweddariad ar ganlyniadau’r adolygiad erbyn hyn, ac yn wir, ar sefyllfa
Derwen.
Ateb - Aelod Cabinet yr Adran Blant a Chefnogi Teuluoedd,
Y Cynghorydd Menna Trenholme
Fe wnaethpwyd penderfyniad i gynnal adolygiad o Wasanaeth
Derwen yn y Bwrdd Rheoli ar 7fed o Dachwedd 2024. Gan ei fod yn Fwrdd Rheoli ar
y cyd gydag Ynys Môn, a bod y Bwrdd Iechyd yn rhan integredig o’r gwasanaethau
yn y naill awdurdod lleol a’r llall, mae’r adolygiad yn cyd-redeg ar draws y
ddwy sir.
Yn dilyn y penderfyniad i gynnal yr adolygiad, fe wnaethpwyd
cais am arian rhanbarthol er mwyn comisiynu cymorth allanol i arwain arno.
Llwyddwyd i ddenu arian ar gyfer y pwrpas a dilynwyd proses o dendro ar gyfer
comisiynu’r gwaith. Penodwyd ymgynghorydd allanol ddiwedd Chwefror 2025 gyda
rhaglen waith i redeg o fis Mai tan Mis Medi 2025. Am resymau tu hwnt i
reolaeth y ddau wasanaeth, mae’r rhaglen waith wedi llithro a bellach disgwylir
i’r adolygiad fod wedi ei gwblhau erbyn diwedd Rhagfyr 2025.
Mae sgôp yr adolygiad yn cynnwys ystyried y meini prawf
mynediad presennol, dadansoddi trefniadau presennol y gwasanaeth, deall
anghenion plant a’u rhieni, deall disgwyliadau rhanddeiliaid ac ystyriaeth i
ddyluniad y gwasanaeth i’r dyfodol.
Fe gyflwynir yr adroddiad terfynol i’r Bwrdd rheoli yn y lle
cyntaf a bydd y gwaith yn cael ei gynnwys ar raglen y Pwyllgor Craffu
Gofal.
Dylid nod yn ogystal bod gwaith ymchwil mewnol yn mynd
rhagddo i edrych ar dueddiadau poblogaeth Gwynedd, yn cynnwys nifer y
genedigaethau, poblogaeth bresennol plant, yn ogystal â nifer y plant anabl
a niwroamrywiol. Pwrpas y gwaith hwn fydd canfod
a yw nifer y plant a phobl ifanc anabl yn cynyddu, hyd yn oed wrth i nifer y
genedigaethau yng Ngwynedd leihau ers 2012, a deall y rhesymau am
hyn.
Bydd y gwaith hefyd yn ystyried gallu’r gwasanaethau
cymdeithasol a’r Adran Addysg (Anghenion Dysgu Ychwanegol) i ddiwallu’r
anghenion dros yr ugain mlynedd nesaf. Bydd y gwaith yn dilyn patrwm
adroddiad Llechen Lân ar wasanaethau cymdeithasol pobl hŷn
i’r dyfodol a gyhoeddwyd yn hydref 2024.
Cwestiwn Atodol Y Cynghorydd Dawn
Lynne Jones
Diolchwyd am yr ymateb ac am y cyfeiriad at wasanaeth Derwen
yn adroddiad blynyddol Gwasanaethau Cymdeithasol, a'i bod yn ymwybodol fod
amserlen wedi llithro. Oes posib cael eglurdeb ar feini prawf y gwasanaeth a
sut mae modd cloriannu anghenion amrywiol plant y sir yn erbyn gofynion
cynyddol ar wasanaeth, sut mae sicrhau meini prawf cadarn sydd ddigon hyblyg i
sicrhau gwasanaeth i bob plentyn sydd ei angen ond hefyd yn gwarchod yr adnodd
prin?
Ateb yr Aelod Cabinet dros Blant a
Chefnogi Teuluoedd, Y Cynghorydd Menna Trenholme.
Diolchwyd am y cwestiwn atodol. Mae’r cwestiynau yma yn rhai
sydd yn codi yn rhan o’r adolygiad a bydd yn rhannu’r adroddiad a’r Aelod wrth
gael ei ryddhau.
O ystyried fod y Cyngor yn ystod y flwyddyn hon wedi
rhoi heibio’r drefn o rifo
ardaloedd ar ffurflen geisiadau i fod ar y rhestr aros ac ein bod
o ganlyniad wedi colli data pwysig, i ba raddau y gwnaed
ymgynghoriadau, asesiadau effaith, hysbysiadau i gynghorwyr
ac adroddiadau cyhoeddus i gyfiawnhau’r penderfyniad fel ei fod yn
un tryloyw, cytbwys a democrataidd?
Ateb – Aelod Cabinet Tai ac Eiddo, Y Cynghorydd Paul
Rowlinson
Hoffwn eich cyfeirio at yr atebion a roddais i’r cwestiynau
tebyg a ofynnwyd yng nghyfarfodydd y Cyngor Llawn ym mis Gorffennaf a mis
Mawrth pan esboniais nad ydym wedi colli data pwysig o gwbl. Ar yr hen ffurflen
gais, gofynnid i ymgeiswyr ar gyfer tai cymdeithasol nodi’r ardaloedd lle yr
hoffent fyw, gan eu gosod mewn trefn blaenoriaeth. Gan fod llawer o ymgeiswyr
yn llenwi’r ffurflen heb flaenoriaethu’r ardaloedd a chan nad oedd y
blaenoriaethu hwn yn cymryd unrhyw ran yn y broses ddyrannu tai, penderfynwyd
nad oedd pwrpas parhau i ofyn i bobl flaenoriaethu ardaloedd. Addaswyd y
ffurflen gais yn unol â hynny. Mater gweithredol yn unig oedd hyn, nid
gwleidyddol, ac ni chafwyd unrhyw effaith ar y cyhoedd heblaw gwneud y broses
yn symlach iddynt.
Cwestiwn Atodol y Cynghorydd Rhys Tudur
O ystyried y dylai’r Cyngor weithredu yn dryloyw a theg, ac
ar sail tystiolaeth gadarn wrth wneud newidiadau, ac o ystyried y dylai’r
Cyngor fod wedi ymgynghori’n briodol yn unol â’r gofynion Llywodraethu da ac
nad oes mae’n debyg yr un adroddiad cyhoeddus i gyfiawnhau’r penderfyniad. Ac o
ystyried y newidiad yn amharu ar ansawdd data ac yn ei wneud yn llai manwl a
defnyddiol i asesu angen lleol a hefyd i roi tystiolaeth eglur ar gyfer
dibenion cynllunio. Onid yw’n amlwg bod y newidiad yn annemocrataidd, yn
anffafriol unigolion bregus sydd eisiau nodi lle maen nhw ddyheu i fyw ac yn
achosi i ddatblygwyr tai elwa’n helaeth, drwy eu galluogi i ddefnyddio data
amwys heb fanylder i gefnogi adeiladu nifer uchel o dai mewn lleoedd anaddas.
Ateb – Yr Aelod Cabinet Tai ac Eiddo, Y Cynghorydd
Paul Rowlinson
I ddechrau mi roedd 'na dystiolaeth gadarn sef fod pobl ddim
yn llenwi'r ffurflen yn gywir, ac felly doedd dim angen ymgynghoriad gan nad
oedd newid i’r broses tai. Nid oedd y newid yn amharu ar ddata o gwbl. Tydi
newid ffurflen ddim yn newid sydd angen mewnbwn gwleidyddol, ac felly does dim
angen yr holl ymgynghori y nodwch. O ran prosesau cynllunio, mae’r prosesau
sydd yn cael ei defnyddio yn brosesau cydnabyddedig ar lefel genedlaethol, ac
yr un rhai a welir mewn Cynghorau ar draws Cymru.
Yn dilyn yr adran dai’n derbyn cyngor trwy law Cyfeillion Llyn gan Gomisiynydd yr Iaith yn nodi’r gallu i roi’r Gymraeg fel ystyriaeth polisi gosod ac yn dilyn ceisiadau i godi nifer uchel o dai cymdeithasol mewn ardaloedd Cymraeg fel Nefyn yn ddiweddar, pa mor frwd a chyflym y mae’r Cyngor hwn am fod yn rhoi’r Gymraeg fel un o ystyriaethau’r polisi gosod?
Ateb – Aelod Cabinet Tai ac Eiddo, Y Cynghorydd Paul Rowlinson
Mae Polisi Gosod Tai Cyffredin Cyngor Gwynedd a’n Cynllun Gweithredu Tai yn chwarae rhan bwysig yn y frwydr dros gadw’r iaith Gymraeg yn fyw yn ein cymunedau. Mae mewnfudiad gan bobl ddi-gymraeg ac allfudiad o bobl Gymraeg ill dau yn bygwth ffyniant y Gymraeg fel iaith gymunedol. Mae pwyslais cryf yn y Polisi Gosod ar gysylltiad lleol yn sicrhau bod y rhan helaeth o’r cartrefi yn cael eu dyrannu i bobl leol.
Ond mae allfudiad o bobl Gymraeg yn fwy o fygythiad o lawer i’r iaith. Mae’n ffaith drist bod dros hanner ohonon ni yma yng Ngwynedd yn methu fforddio prynu tŷ, a mwy na hynny mewn rhai ardaloedd. Mae lefelau rhenti preifat hefyd yn uchel ac felly mae angen tai cymdeithasol i’r rhai sy’n methu prynu neu rentu yn y farchnad. Dwi’n credu yn gryf fod gennym hawl i fyw gartref. Mae hynny yn rhywbeth creiddiol i ni. Bydd rhai yn dewis mudo o yma ond ni ddylai neb gael ei orfodi i ymadael oherwydd nad yw’n methu fforddio byw yn ei gynefin. Ac mae dros 4,400 o bobl a theuluoedd (sydd dros 2,200 o geisiadau) ar y rhestr aros.
Felly, fel rydym ni i gyd yn gwybod, mae angen codi mwy o dai cymdeithasol ymhob cwr o Wynedd. Mae’r Cynllun Gweithredu Tai yn gosod nod o godi 700 erbyn 2029, trwy ein partneriaid y cymdeithasau tai, ac rwy’n falch o ddweud ein bod ar drac i gyflawni hynny.
Mae’r Polisi Gosod yn rhoi pwyslais cryf (y cryfaf yng Nghymru) ar gysylltiad lleol, a hynny ar ddwy lefel – lefel Gwynedd a’r lefel gymunedol. O ganlyniad, mae 97% o’r cartrefi yn cael eu dyrannu i bobl leol gyda chysylltiad â Gwynedd a 60% i bobl yn yr un gymuned. Mae’r meini prawf yn y polisi yn diogelu unigolion sy’n lleol i Wynedd cyn belled ag sy’n rhesymol bosibl.
Rydych chi’n gywir wrth nodi nad yw’r polisi gosod yn cynnwys yr iaith yn benodol fel un o’r ystyriaethau. Rydych chi’n cyfeirio at gyngor cyfreithiol a gomisiynwyd gan Gomisiynydd yr Iaith. Ond, mae angen i’r Cyngor a’i bartneriaid hefyd ddal sylw at faterion cyfreithiol ehangach ynglŷn â gweithredu ymarferol darpariaeth mewn modd sydd yn cyfarch gofynion a dyletswyddau eraill.
Mae Deddf Tai 1996 yn gosod dyletswydd gyfreithiol ar y Cyngor i roi blaenoriaeth resymol i’r ymgeiswyr mwyaf anghenus ac mae’n diffinio’r rhain. Mae’n rhaid i ni hefyd roi “sylw dyladwy” i ganllawiau Gweinidogion Cymru. Mae un o’r Cyfarwyddyd (3.69) yn caniatáu “sustaining Welsh speaking communities by giving priority to those in housing need with a local connection to the area.” Dyna yn union beth rydym yn ei wneud ac mae’r pwyslais yr ydym yn ei roi ar gysylltiad lleol yn un o’r rhai mwyaf sydd i’w gweld yng Nghymru ac yn mynd mor bell â beth y gellir ei gynnwys.
Mae’r Polisi Gosod yn rhoi’r rhai sy’n gwneud cais am dŷ cymdeithasol mewn bandiau ac wedyn o fewn bob band mae blaenoriaeth yn cael ei roi i’r ymgeiswyr (neu aelodau’r teulu) sydd wedi byw am bum mlynedd neu fwy yn ardal Cyngor Cymuned yr eiddo dan sylw. Golyga hyn bod ymgeisydd sydd â’r un raddfa o angen tai ond hefyd gyda chysylltiad cymunedol yn uwch mewn blaenoriaeth nag ymgeisydd sydd heb y cysylltiad cymunedol. Petai unrhyw flaenoriaeth yn cael ei roi i allu’r ymgeisydd i siarad Cymraeg, byddai’n gorfod cael ei roi ar ôl y blaenoriaethau hyn, sef lefel yr angen, cysylltiad â Gwynedd a chysylltiad cymunedol. Oherwydd hynny, mae’n annhebygol o wneud llawer o wahaniaeth.
Mae canran y siaradwyr Cymraeg sy’n byw ar stadau tai cymdeithasol yn uchel. Yn ddiweddar, rydym wedi gofyn i’r cymdeithasau tai wneud arolygon iaith yn eu datblygiadau tai cymdeithasol newydd. Gwelwyd bod 90% o’r preswylwyr hyn yn medru’r Gymraeg, mewn wardiau lle mae canran cyfartalog y siaradwyr yn 76%, sef 14% yn uwch. Mae tai cymdeithasol yn helpu i gryfhau’r iaith trwy ddarparu cartrefi fforddiadwy i bobl leol, y mae canran uchel ohonynt yn medru’r Gymraeg, a’u helpu i aros yn eu cynefin.
Ar ben hyn i gyd, mae nifer o resymau da dros beidio â newid
ein polisi presennol.
Mae gennym ni fel Cyngor ddyletswydd i wasanaethu pawb yng Ngwynedd, y lleiafrif di-Gymraeg yn ogystal â’r mwyafrif Cymraeg. Buasai ffafrio siaradwyr Cymraeg yn peryglu dieithrio trigolion sydd wedi byw ar hyd eu hoes yng Ngwynedd ond sydd ddim yn siarad Cymraeg, a thrwy hynny greu ‘ail ddosbarth’ o drigolion yn seiliedig ar iaith yn unig.
Rydym wedi ymgynghori â’n partneriaid y cymdeithasau tai, y
sefydliadau sy’n adeiladu a rheoli’r tai. Ac mae’r ateb yn glir: mae pob un yn
cefnogi’r polisi fel y mae, polisi sy’n blaenoriaethu pobl Gwynedd ac yn
gwrthwynebu’r egwyddor o wahaniaethu ar sail yr iaith y mae’r bobl yn ei
siarad. Mae yna berygl y byddai rhai ohonynt yn gwrthod gweithredu mwyach yng
Ngwynedd petaem yn gwneud hynny.
Mae angen i’r Cyngor weithredu’r polisi yn deg a chyson a nododd y cyngor cyfreithiol a gawsom y byddai ymarferoldeb ei gyflwyno yn hynod o gymhleth. Yn sicr byddai’n creu anawsterau o ran sut i ddiffinio ac asesu’n wrthrychol gallu iaith yr ymgeiswyr a’u teuluoedd a’i adolygu hyn bob blwyddyn fel sy’n ofynnol.
Dyna’r rhesymau pam rwy’n credu bod y Polisi Gosod Cyffredin yn addas i’w bwrpas ac nid oes angen ei newid ar hyn o bryd. Wedi dweud hynny, mae Bil Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru) yn gwneud ei ffordd trwy’r Senedd ar hyn o bryd. Os daw yn ddeddf, bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi canllawiau newydd a byddwn yn sicr yn adolygu ein polisi gosod bryd hynny.
Cwestiwn atodol Y Cynghorydd Gruffydd Williams
O ystyried fy mhrofiad i yn Nefyn a phentrefi cyfagos, a siarad gyda fy nghyd-aelodau yn Nwyfor, mae niferoedd sy’n siarad Cymraeg mewn tai cymdeithasol newydd a hen wedi dirywio yn ofnadwy, gan fod trosiant cyson a helaeth mewn tenantiaeth tai cymdeithasol ac am nad oes ystyriaeth gosod i’r Gymraeg na galw lleol digonol. Onid nad yw’n amlwg bod agen i ni beidio bod mor annoeth ac ymwrthod i’r grym sydd ganddom ni yn ôl y Comisiynydd Iaith i roi’r Gymraeg fel ystyriaeth polisi gosod yn yr ardaloedd hynny.
Ateb – Aelod Cabinet Tai ac Eiddo, Y Cynghorydd Paul
Rowlinson
Rwyf wedi rhoi ateb helaeth a chyfro'r pwyntiau. Byddai
unrhyw newid o’r fath yn gorfod bod gyda’r ystyriaethau o’r Ddeddf Tai 1996, ac
mae problemau ymarferol a mater o egwyddor hefyd a dyna pam na fydd diwygiad ar
hyn o bryd.
Ydy Cyngor Gwynedd o’r farn fod diwylliant Ffordd Gwynedd,
sef i ddarparu’r gwasanaeth gorau posibl i drigolion Gwynedd, yn gweithredu’n
effeithlon a llwyddiannus ym mhob rhan o’r Cyngor? Mae fy mhrofiadau i yn
awgrymu nad ydyw.
Ateb – Aelod Cabinet Gwasanaethau Corfforaethol, Y
Cynghorydd Llio Elenid Owen
Mae’r adroddiad blynyddol a gyflwynwyd i gyfarfod o’r
Cabinet ar 8 Gorffennaf, 2025 yn dangos bod Cyngor Gwynedd yn cydnabod bod
diwylliant Ffordd Gwynedd a’r “ffordd o weithio” yn symud i’r cyfeiriad cywir,
gyda nifer o enghreifftiau lle mae adrannau’n cymryd camau rhagweithiol i
hyrwyddo amcanion y cynllun.
Fodd bynnag, mae’r adroddiad hefyd yn onest am y ffaith bod
y cynnydd a’r ymdrechion i wreiddio’r diwylliant yn parhau’n gymysg, ac mae
amrywiaethau i’w gweld rhwng adrannau unigol ac ar draws y Cyngor fel sefydliad
cyfan.
Mae’r adroddiad yn pwysleisio bod rôl technoleg,
hyfforddiant, a gwerthuso parhaus yn allweddol i lwyddiant y diwylliant hwn,
ond bod rhai meysydd lle nad yw’r arferion gorau wedi gwreiddio’n llawn eto. Er
enghraifft, mae angen ymestyn hyfforddiant sylfaenol ar y “ffordd o weithio”,
gwreiddio’r arfer o werthuso parhaus, a hyrwyddo perchnogaeth o berfformiad
ymysg holl staff y Cyngor.
Mae cynllun penodol o fewn y rhaglen waith o ran gofal
cwsmer a bu i’r Cabinet gymeradwyo Cynllun Gofal Cwsmer newydd hefyd yn ei
gyfarfod ar 8 Gorffennaf, 2025. Bydd rhaglen waith y Cynllun hwn yn rhoi
pwyslais penodol ar ymateb i ymholiadau a gohebiaeth gan drigolion ac aelodau
gyda’r nod o weld gwelliant ym mherfformiad y Cyngor.
Pe byddai unrhyw un yn derbyn gwasanaeth israddol anogir hwy
i ddwyn ein sylw drwy’r prosesau perthnasol fel ein bod yn gallu adnabod ble yn
union mae’r gwendidau hynny a rhoi sylw iddynt.
Cwestiwn Atodol y Cynghorydd Huw Llwyd
Rowlands
O gofio bod diwylliant ffordd Gwynedd wedi bod ar waith ers
dros 10 mlynedd, ydych chi yn hyderus bod Cyngor Gwynedd yn blaenoriaethu’r
mater yma yn ddigonol, er mwyn sicrhau gwelliant a newid amlwg yn niwylliant y
Cyngor o fewn cyfnod penodol e.e. 12 mis?
Ateb yr Aelod Cabinet Gwasanaethau Corfforaethol, Y
Cynghorydd Llio Elenid Owen
Egwyddorion Ffordd Gwynedd ydi rhoi pobl Gwynedd yn ganolog
i bob dim, gwrando ar eu hanghenion, a sefydlu’r ffordd orau posib o
ymateb a sicrhau fod hyn yn digwydd yn dda ac yn amserol. Mae ymrwymo’r
diwylliant yma i’r Cyngor yn flaenoriaeth i mi ac i’r Cabinet, ac yn
ddiflino yn eu hymrwymiad. Mae newid diwylliant yn cymryd amser a dros y
10 mlynedd diwethaf dwi’n grediniol fod y trwch helaeth staff y Cyngor yn
prynu i mewn i’r diwylliant.
Mae’n anffodus fod y 10 mlynedd wedi bod yn 10 mlynedd o
doriadau ariannol, a bod hyn wedi cael effaith ar y cynnydd. Ond methu cuddio
tu ôl i doriadau ariannol yn unig, a does dim dadl fod rhai agweddau o’r
diwylliant yn parhau angen eu gwella, ac mae ymateb i ymholiadau aelodau yn un
o’r rheini. Dwi’n ymwybodol fod y Prif Weithredwr ac Aelodau’r Tîm Rheoli o’r
un farn a bod cynlluniau eisoes ar waith i wella’r agwedd honno’n benodol, a
bod cynlluniau i aelodau fod yn craffu a chynorthwyo gyda’r gwaith a'u bod mewn
cyswllt a chi yn barod i gychwyn y sgwrs honno.
O ystyried penderfyniad Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru i ohirio
cyhoeddi adroddiad yr Adolygiad Ymarfer Plant (CPR) yr wythnos diwethaf, a all
yr Arweinydd ein diweddaru am y sefyllfa bresennol o ran y CPR, os gwelwch yn
dda.
Ateb – Yr Arweinydd, Cynghorydd Nia Jeffreys
Diolch i'r Cynghorydd am ei chwestiwn amserol ac am roi'r
cyfle i mi gael rhannu'r wybodaeth sydd ar gael gyda'r Cyngor.
Roedd hi'n siom i mi nad oedd hi'n bosib i'r Bwrdd Diogelu
Rhanbarthol fynd yn eu blaen i gyhoeddi'r adroddiad ar 24 Medi, fel yr oeddem
wedi ei obeithio a'i ddisgwyl. Roedd y siom a’r boen wrth gwrs yn fwy i’r
dioddefwyr a’r goroeswyr. Alla i ddim dychmygu pa mor heriol fyddai y disgwyl
am y cyhoeddi wedi bod i'r dioddefwyr a’r goroeswyr ac mae'n wirioneddol
ddrwg gen i fod yr oedi yma wedi ymestyn y boen a'r pryder iddyn
nhw.
Rydym wedi cysylltu’n ffurfiol gyda’r Bwrdd Diogelu i ofyn
am esboniad ond yn anffodus hyd yma does gennym ddim gwybodaeth am y rhesymau
am yr oedi. Mi alla i roi sicrwydd i'r Cyngor nad oedd gan Gyngor Gwynedd
unrhyw ran i'w chwarae yn y penderfyniad ac rydym yn awyddus i weld yr
adroddiad yn cael ei gyhoeddi cyn gynted â phosib.
Rydw i'n rhagweld y bydd yr adroddiad yn tynnu sylw at
fethiannau i atal y pedoffeil, Neil Foden, a bod nifer o’r rhain yn gyfrifoldeb
ar y Cyngor hwn. Mae’n loes calon i mi feddwl bod ein systemau diogelu ni
ar y pryd wedi methu diogelu ac amddiffyn plant a ddylai fod wedi bod yn
ddiogel yn eu hysgol.
Bydd derbyn yr adroddiad yn rhoi cyfle i ni ddeall yn iawn
beth ddigwyddodd; pa wersi sydd i'w dysgu a pha systemau sydd angen eu cryfhau
er mwyn sicrhau bod ein plant mor ddiogel ag sydd bosibl yng Ngwynedd a
gweddill Cymru. Bydd yn rhoi'r cyfle i ni gydnabod ein ffaeleddau ac i
ymddiheuro eto i'r dioddefwyr, i'r niferoedd mawr o bobl eraill sydd wedi eu
heffeithio gan hyn, ac i bobl Gwynedd am eu gadael i lawr.
Yn dilyn mabwysiadu’r Cynllun Ymateb dechrau’r flwyddyn
sefydlwyd Bwrdd Rhaglen Cynllun Ymateb er mwyn monitro a mesur cynnydd y
Cynllun a gwireddu argymhellion. Bellach mae saith prif amcan ar gyfer y
Cynllun hwn sef ‘Cydnabod’, ‘Ymddiheuro’, ‘Cefnogi’, ‘Sefydlu’, ‘Dysgu’,
‘Gwella’ ac 'Atebolrwydd'.
Mae’r Bwrdd Cynllun Ymateb yn cael ei gadeirio gan yr Athro
Sally Holland gyda chynrychiolwyr o nifer o asiantaethau allanol sy’n
gweithredu fel sylwedyddion er mwyn sicrhau her annibynnol i waith y Bwrdd. Mae
pedwar Aelod Cabinet yn eistedd ar y Bwrdd yn ogystal â swyddogion y Cyngor a
chynrychiolaeth o Ysgol Friars a’r sector
Uwchradd yng Ngwynedd.
Rhaid i mi bwysleisio nad mabwysiadu’r Cynllun Ymateb a’r
Bwrdd Rhaglen Cynllun Ymateb oedd cychwyn y gwaith. Roedd nifer o bethau wedi
digwydd cyn hynny ac mae llawer mwy i’w wneud.
Adroddodd yr Athro Sally Holland yn ei hadroddiad chwarterol
i’r Cabinet ym mis Gorffennaf bod cynnydd cadarnhaol yn cael ei wneud ar draws
y ffrydiau gwaith. Wedi dweud hynny mae llawer mwy i’w wneud a rhagwelir nifer
o argymhellion pellach yn dilyn cyhoeddi’r Adolygiad Ymarfer Plant (CPR) -
byddwn yn eu derbyn i gyd ac yn eu rhoi ar waith yn syth. Ni fyddwn yn cuddio
o’n cyfrifoldeb; rhaid sicrhau y bydd popeth yn cael ei wneud er mwyn diogelu
plant Gwynedd.
Mae fy meddwl i yn parhau gyda’r dioddefwyr, eu teuluoedd
a’r gymuned gyfan sydd wedi aros yn hir i weld yr adroddiad holl bwysig yma.
Yn dilyn y cyhoeddiad yr wythnos ddiwethaf na fyddai'r
adroddiad ar ymddygiad ffiaidd, rheibus Foden yn cael ei ryddhau eto, mae'n
codi cwestiwn ynghylch pa mor effeithiol yw gweithdrefnau canu'r gloch y Cyngor
hwn. Rydym i gyd dan gwmwl yn sgil y sefyllfa ofnadwy hon. Mae rhieni
sy'n anfon eu plant i'n hysgolion yn ymddiried yng Nghyngor Gwynedd i wneud yn
siŵr eu bod yn ddiogel. Mae dal canfyddiadau'r adroddiad yn ôl yn
atal hawliau'r dioddefwyr, eu rhieni a'r bobl gyffredin sydd, yn gwbl
ddealladwy, yn ddig am sut y caniatawyd i hyn ddigwydd dros gyfnod mor hir o
amser.
Pam na chafodd y pryderon a godwyd yn y gorffennol eu dilyn
i fyny a'u hymchwilio o dan Ddeddf Addysg 2002 ar gyfer Diogelu Plant mewn
Addysg - pa sicrwydd y gall Cyngor Gwynedd ei roi yr ymdrinnir o ddifri â
phryderon diogelu yn y dyfodol, a'u gweithredu'n gadarn?
Ateb – Yr Aelod Cabinet Addysg, Cynghorydd Dewi
Jones
Diolch i chi am godi’r mater difrifol hwn. Yn gyntaf oll,
hoffwn ymddiheuro’n ddiffuant i bawb sydd wedi dioddef yn sgil gweithredoedd
erchyll y pedoffeil, Neil Foden, a phwysleisio bod diogelwch a lles pob plentyn
yng Ngwynedd yn brif flaenoriaeth i ni bob amser.
Rydych yn gofyn yn benodol pam na chafodd pryderon a godwyd
yn y gorffennol eu dilyn i fyny o dan Ddeddf Addysg 2002. Comisiynwyd
ymchwiliad annibynnol gan Fwrdd Diogelu Rhanbarthol Gogledd Cymru i archwilio
nid yn unig pam nad oedd prosesau diogelu ddylai fod wedi amddiffyn plant heb
weithio fel y dylent ond hefyd y diwylliant a’r trefniadau a ganiataodd i
ymddygiad o’r fath barhau heb ei herio. Fel sawl un, rydw i hefyd yn siomedig
gyda phenderfyniad y Bwrdd Diogelu Rhanbarthol i oedi cyn cyhoeddi’r adroddiad.
Yn ôl y Bwrdd, mae angen iddynt ystyried eu “rhwymedigaethau cyfreithiol”. Rydw
i’n siŵr bod hwn wedi bod yn brofiad ofnadwy i’r plant a ddioddefodd
dan law'r troseddwr. Dydw i heb dderbyn
unrhyw wybodaeth bellach ers cael gwybod hyn ddiwedd y dydd ddydd Mawrth
diwethaf.
O ran sicrhau hyder yn y dyfodol:
Fel Aelod Cabinet Addysg, ac aelod o’r Bwrdd Ymateb, fy rôl
i ydi sicrhau fod Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n briodol, ac yn ymateb yn
gadarnhaol i unrhyw argymhellion sy’n cael eu gwneud yn ystod y broses hon, a
bod gwersi yn cael eu dysgu fel bod trefniadau diogelu yn cael eu cryfhau.
Cadeirir y Bwrdd Cynllun Ymateb gan yr Athro Sally Holland, a chynrychiolwyr o
wahanol asiantaethau allanol sy’n gweithredu fel sylwedyddion. Yn ogystal, mae
pedwar Aelod Cabinet, swyddogion y Cyngor, a chynrychiolwyr o Ysgol Friars a’r sector uwchradd yng Ngwynedd yn cymryd rhan
yn y Bwrdd. Mewn adroddiad ym mis Gorffennaf dywedodd yr Athro Holland bod
cynnydd cadarnhaol wedi'i wneud hyd yma gyda 32 o’r 63 tasg gwaith wedi'u
cwblhau gydag awydd y Cyngor i gyflawni’r gweddill yn glir.
Hoffwn sicrhau rhieni a gofalwyr bod unrhyw bryderon diogelu
a godir heddiw yn cael eu trin gyda’r difrifoldeb mwyaf, eu hymchwilio’n
brydlon, a gweithredu cadarn yn dilyn hynny. Ni fyddwn yn goddef dim
llai.
Rhaid i wersi’r gorffennol lunio diwylliant y presennol. Dim
ond drwy wynebu’r gwersi hynny yn onest, a thrwy gryfhau ein systemau yn
ddi-ildio, y gallwn anrhydeddu’r ymddiriedaeth y mae teuluoedd yn ei roi ynom
bob dydd.
Cwestiwn Atodol – Y Cynghorydd Louise Hughes
Diolch am eich ymateb, er rydym yn anwybyddu’r ffaith fod
Foden yn fwli, bod bwlio yn y gweithle yn annerbyniol, ac mi ddylai hyn fod
wedi’i fflagio yn gynharach. Felly mae’r tawelwch llwyr am y mater hwn yn
golygu nad ydym ni fel Aelodau Etholedig wedi derbyn unrhyw eglurhad ar
fethiannau rhieniol gweithdrefnol, ac mae’n codi nifer o gwestiynau pellach. Pa
mor aml wnaeth corff llywodraethu Ysgol Friars gyfarfod?
A beth oedd mewnbwn y llywodraethwr diogelu plant. Mae nifer o bobl wedi gofyn
i mi a fydd Foden yn derbyn ei bensiwn?
Yr Ateb – Aelod Cabinet dros Addysg Y Cynghorydd
Dewi Jones
Fel nodwyd yn yr ateb gwreiddiol, mae diwylliant yn rhywbeth
mae’r Ymchwiliad Annibynnol yn edrych i mewn iddo, dwi’n cytuno efo chi fod
bwlio yn y gweithle yn annerbyniol ac yn rhywbeth mae Cyngor Gwynedd ym mhob
adran yn trio cael gwared ohono. Ond yn amlwg mi roedd Foden yn dangos
tueddiadau bwlio ac mi roedd y Barnwr yn y Llys wedi cyfeirio ato fel bwli.
Mae 'na awgrymiadau yn eich araith yn awgrymu fod Gwynedd
mewn rhyw ffordd yn ceisio tawelu pobl, ond dydi hyn ddim yn wir. Nid
penderfyniad Cyngor Gwynedd oedd peidio cyhoeddi’r adroddiad wythnos ddiwethaf,
penderfyniad y bwrdd diogelu rhanbarthol. Nid ni sydd yn ymchwilio i mewn i
fethiannau’r Cyngor, ond y Bwrdd Diogelu Rhanbarthol sydd ar wahân. Felly
gobeithio beth fydd hwn yn rhoi wrth symud ymlaen ydi hyder i bobl fod yr
ymchwiliadau wedi eu gwneud yn annibynnol, yn drylwyr ac yn cryfhau ein systemau
ni. Dwi’n hynod falch o allu deud ein bod yn croesawu unrhyw argymhellion ac yn
barod yn gweithredu nifer o’r argymhellion, wedi dysgu gwersi ac yn parhau i
ddysgu gwersi. Mae gan bawb yn yr ystafell yma gyfrifoldeb dros hyn. Oes mae
gennym ni Gabinet sydd yn arwain y Cyngor ond mi rydan ni i gyd yn ein rolau
fel Llywodraethwyr, fel aelodau’r Pwyllgorau Craffu i sicrhau fod gwersi yn
cael eu dysgu, a bod ein systemau ni yn cael ei gryfhau. Oherwydd mi rydym ni
yn gweld beth sydd yn mynd o’i le pan nad yw systemau yn ddigon cryf. Allai
ddim deud na wnaiff hyn ddim digwydd eto, ond mi allwn ni wneud ein gorau i
sicrhau fod gennym ni'r trefniadau gorau
posib.
Dyma pam fy mod yn aelod o’r Cyngor hwn, a dyma pam dwi’n
ymddiddori mewn addysg, oherwydd mae dyfodol ein plant ni sydd ar y lein. Mi
fyddai’n gwneud pob peth o fewn fy ngallu i sicrhau hyn yn digwydd. Dwi’n
siarad yn angerddol am hyn oherwydd dwi wedi teimlo i’r byw, a dwi ddim yn
gwybod sut mae rhieni, teuluoedd y plant sydd wedi eu cam-drin yn teimlo, a’r
plant eu hunain.
Mae’r sylwadau am y pensiwn, nid Cyngor Gwynedd sydd yn
gweithredu pensiwn y Prifathro, mae hwn yn fater i Lywodraeth Prydain. Dwi ar
ddeall fod yr Aelod Seneddol Lleol wedi codi hyn gyda’r Gweinidog yn San
Steffan.
O ystyried:
Sut mae’r Adran Gyllid, yn absenoldeb polisi, yn ymdrin â
phob achos yn ôl ei rinwedd ei hun (yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru) ac
yn ymgyrraedd at weithredu’n deg ac yn gyson a chyda’r mesur
dyladwy o gymesuroldeb rhag i’r Awdurdod
orfod wynebu her gyfreithiol yn y mater hwn yn y man.
Ateb – Aelod Cabinet Cyllid, Cynghorydd Huw Wyn
Jones
Diolch am y cwestiwn
Yn gyntaf dwi’n credu fod angen cywiro cam syniad. Does dim
canllawiau gan Lywodraeth Cymru yn mynnu fod gan y Cyngor bolisi eithrio - yr
hyn mae’n ei ddweud yw bod anogaeth i ystyried os oes lle i gynghorau
ddefnyddio defnyddio eu pwerau disgresiwn i deilwra penderfyniad neu i
leihau atebolrwydd y dreth gyngor. Mae’r ddeddfwriaeth ei hun yn gosod
allan eithriadau statudol a does dim rhaid i unrhyw Gyngor gael polisi eithrio
ychwanegol.
Wedi dweud hyn mae trafodaethau wedi cychwyn dros yr haf i
drafod os oes angen creu polisi eithriadau Premiwm Treth Cyngor i Gyngor
Gwynedd, ac o dan pa amgylchiadau bydda eithrio yn addas. Mae nifer o
ystyriaethau cymhleth a thechnegol i’w trafod, ac rydym hefyd angen deall yn
llawn be fyddai effaith unrhyw bolisi er sicrhau na fyddwn yn creu canlyniadau
nad ydym yn eu dymuno.
Y gwir annhegwch fan hyn ydi bod ein pobol ifanc yn methu
cael to uwch eu pennau mewn rhannau helaeth o’r Sir. Nid yw’n glir o’r cwestiwn
pa eiddo sydd yn “teilyngu” eithriad, ac ar ba sail.
Cwestiwn Atodol Y Cynghorydd Richard Glyn Roberts
O ystyried
Dylai’r sawl sy’n gwneud penderfyniadau ar y mater fod yn
fwy cyfarwydd â union eiriad y canllawiau, mi allaf anfon copi i chi?
Ateb – Aelod Cabinet Cyllid, Y Cynghorydd Huw Wyn
Jones
Mae’r defnydd o’r “rhaid” sydd ar dudalen 18 o’r canllawiau,
ac yr hyn y byddwn yn nodi ydi mai dehongliad y Cyngor, o ddechrau’r paragraff
mai mater dewisol yw i Awdurdodau i ddefnyddio pwerau yn 13A i ostwng y dreth,
neu osod polisi eithrio. Dydw i ddim yn gyfreithiwr ac felly yn dilyn y cyngor
dwi yn ei gael ar y mater yma. Mae trafodaethau dros yr haf wedi bod er mwyn
adnabod ffordd i gael polisi dewisiol sydd
yn sicrhau tegwch a thryloywder a pheidio ein gadael yn agored i gyhoeddiadau o
wahaniaethu nac ein gadael mewn sefyllfa ble gorfod rhoi eithriad i bob eiddo
gwag ac ail gartref yn y sir. Mi fyddwn ni yn cyflwyno polisi adran 13a dros y
misoedd nesaf, ond bydd hwn yn ehangach na materion premiwm yn unig.
Roedd hi’n Ddiwrnod Rhyngwladol Heddwch ar Fedi’r 21ain – diwrnod sy’n rhoi’r cyfle i bobl y byd
ymrwymo i greu byd heddychlon ac i fyfyrio ar sut y gallem i gyd gyfrannu tuag
at greu diwylliant o heddwch.
Gyda hynny mewn golwg, nodaf fod gwaith profi a datblygu
drôns wedi bod yn digwydd ar faes awyr Llanbedr yng Ngwynedd ers dros ddegawd,
a hynny i bwrpasau amrywiol. O ystyried effeithiau erchyll drôns ar sifiliaid
mewn rhyfeloedd, ac o gofio’n bod yn byw mewn byd sy’n teimlo’n gynyddol
ansefydlog, a allem fod yn sicr nad yw’r drôns sy’n cael eu datblygu yn
Llanbedr yn cael eu defnyddio i bwrpasau milwrol?
Ateb – Aelod Cabinet dros Economi, Cynghorydd Medwyn
Hughes
Mae Cyngor Gwynedd wedi bod yn gweithio gyda lesddalwyr
Canolfan Awyrofod Eryri ers i’r Safle ddod yn rhan o Ardal Fenter Eryri yn
2011. Mae’r Ganolfan yn cynnig gofod datblygu a phrofi i gwmnïau
gwahanol yn y maes cerbydau di-beilot, lloerennau a thechnoleg gofod
ehangach. Mae’r Cyngor wedi eu cynorthwyo gyda phrosiectau allasai
arwain at ddiogelu a chreu cyfleoedd gwaith newydd yn Llanbedr. Maent yn
ddiweddar wedi derbyn grant o £820,000 gan Asiantaeth Gofod y DG i ymestyn eu
cyfleusterau ymchwil a phrofi. Nid ydi Cyngor Gwynedd yn
cynorthwyo gydag unrhyw brosiect na gweithgaredd ar y safle ar hyn o
bryd.
Mae’r Cyngor wedi cysylltu gyda Chwmni Snowdonia Aerospace LLP,
lesddalwyr y Safle, er mwyn derbyn sicrwydd nad ydi eu cwsmeriaid yn
datblygu dronau at bwrpasau milwrol.
Derbyniwyd cadarnhad gan y Cwmni mai cwmnïau masnachol sydd yn gwneud defnydd
o’r safle yn unig, ond gan eu bod wedi cytuno i gytundeb peidio-a-datgelu (NDA)
gyda'u cwsmeriaid, nid ydynt mewn sefyllfa i fedru darparu manylion gweithrediadau’r
cwmnïau hyn. Serch hynny, mae’r Cwmni wedi cadarnhau nad oes ganddynt
unrhyw weithrediadau drôn milwrol wedi'u cynllunio gyda'r Weinyddiaeth
Amddiffyn ar safle yn Llanbedr.
Cwestiwn Atodol Y Cynghorydd Beca Brown
Diolch, dwi’n nodi o’r ateb nad oes cynlluniau ar y funud i
ddatblygu na phrofi dronau ar gyfer
pwrpasau militaraidd ond o gofio bod dronau yn
hawdd i’w trosglwyddo o un defnydd i’r llall, sut all trigolion Gwynedd
fod yn sicr na fydd y dronau sydd yn
cael eu datblygu yn Llanbedr byth yn cael eu rhoi at
ddefnydd rhyfel?
Ateb yr Aelod Cabinet dros
Economi, Y Cynghorydd Medwyn Hughes
Er mai dim hyn yw gweledigaeth y cwmni ar hyn o bryd, nid
oes unrhyw gyfyngiadau a fyddai’n atal dronau milwrol
rhag gweithredu o’r safle yn y dyfodol. Mae gan y cwmni dystysgrif defnydd
cyfreithlon, sydd yn caniatáu gweithrediadau cerbydau di-beilot ar y stad, ond
nid yw hyn yn gwahaniaethu technoleg a all gael ei ddefnyddio at bwrpasau
masnachol neu filwrol. Nid yw trwyddedau diogelwch na chaniatâd cynllunio yn
gwahaniaethu rhwng pa fath o ddrôn gall weithredu ar y safle. A gallwn ddatgan
yn glir i’r cwmni fod pryderon gyda chytundebau a chwmnïau a fyddai’n
datblygu dronau ar gyfer pwrpas milwrol yn
y dyfodol.
Dogfennau ategol: