Agenda item

I nodi'r diweddariad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn rhoi diweddariad i’r Bwrdd o waith PPC. Fel sydd yn wybyddus i bawb, mae Cronfa Bensiwn Gwynedd wedi  cydweithio gyda chronfeydd pensiwn eraill yng Nghymru ers 2017 a bellach gydag  oddeutu £25 biliwn o asedau o dan reolaeth y pŵl sydd wedi arwain at arbedion cost, gwella cyfleoedd buddsoddi, gwella perfformiad a chynyddu cyd-weithio a llywodraethu ar draws Cymru, bod y cydweithio wedi bod yn fanteisiol i Wynedd sydd gyda dros 85% o gronfa Bensiwn Gwynedd wedi ei bwlio erbyn hyn.

 

Atgoffwyd yr Aelodau, ers Hydref 2023, bod Llywodraeth y DU wedi bod yn adolygu trefniadau buddsoddi Cynlluniau Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL) yng Nghymru a Lloegr, gydag ymgynghoriad cychwynnol wedi ei gynnal yn Hydref 2024, a’r Bil Pensiynau wedi ei gyhoeddi yn Mehefin 2025

 

Tynnwyd sylw at y tri maes sydd wedi derbyn sylw:

·        Diwygio model gweithredu’r pŵl – sydd yn elfen sydd wedi creu llawer o waith yn y tymor byr mewn ymateb i’r gofynion sef parhau i fod yn gyfrifol am osod strategaeth buddsoddi ar gyfer Cronfa Bensiwn Gwynedd, ond bydd angen dirprwyo gweithrediad y strategaeth i’r pwl. Ategwyd y bydd rhaid i’r awdurdodau gweinyddol dderbyn eu prif gyngor buddsoddi gan y pwl ac nid gan Hymans Robertson fel sydd yn cael ei wneud ar hyn o bryd, ac y angen trosglwyddo holl asedau gweddilliol y Gronfa i’r pwl (sydd ddim yn newid mawr gan fod canran uchel gan Wynedd eisoes yn y pwl). Bydd rhaid i'r pwl hefyd ddatblygu ffyrdd mewnol o gwblhau diwydrwydd dyladwy ar fuddsoddiadau lleol a rheoli’r buddsoddiadau hyn.

 

Yn ychwanegol, bydd angen creu cwmni buddsoddiadau sydd wedi ei rheoleiddio gan yr FCA (Financial Conduct Authority). Bydd hyn yn cynnig cyfle unigryw i sefydlu canolfan o arbenigedd mewn buddsoddiadau llywodraeth leol yng Nghymru. Nodwyd bod y cais wedi ei gymeradwyo gan Cyngor Llawn Cyngor Gwynedd ar y 3ydd o Orffennaf, ac y bydd angen iddo dderbyn cymeradwyaeth gan yr wyth Cyngor yng Nghymru sydd yn rhan o’r pwl, cyn parhau gyda’r cam i greu’r cwmni newydd.

 

·        Hybu buddsoddiad CPLlL yn eu hardaloedd a'u rhanbarthau yn y DU

·        Cryfhau llywodraethu

 

(y ddwy elfen yma yn derbyn sylw o fewn y misoedd nesaf – angen ystyried sut y gellid eu gweithredu ar gyfer y pwl a Cronfa Bensiwn Gwynedd)

 

Diolchwyd am yr adroddiad ac am y gwaith manwl a gwblhawyd o fewn amserlen dynn iawn gan Llywodraeth y DU. Ystyriwyd bod y sefyllfa yn un nad oedd dewis ond cydymffurfio â hi.

 

Mewn ymateb i sylw bod Cronfa Gwynedd wedi arbed ffioedd drwy bwlio gyda PPC, ond bellach PPC yn cael eu gorfodi, yn unol â rheolau Llywodraeth y DU, i wario oddeutu £5m i sefydlu cwmni newydd (IMCo), ac a fydd cyfleodd i arbed arian yn deillio o’r newid, nododd y Pennaeth Cyllid mai IMCo fydd yn gyfrifol am y strwythur llywodraethiant a’r cyfrifoldeb o gynghori a sicrhau gwerth am arian. Ategodd er bod y swm i weld yn uchel, ystyriwyd y byddai’r costau yn lleihau wrth i’r cynllun symud yn ei flaen a bod y £5 miliwn yn adlewyrchu'r gost uchaf. Nododd bod y sylwadau wedi eu cyfleu i’r Llywodraeth, a bod bwriad cadw llygad agos ar y sefyllfa rhag ofn colli rheolaeth ar y gwariant. Nodwyd hefyd bod costau cyfreithiol sylweddol ynghlwm a’r newid ynghyd a chyfradd cyflogau uwch na chyfraddau cyflogaeth Llywodraeth Leol.

 

Yn ychwanegol, yr IMCo fydd yn cynghori'r pwl ac nid Hymans Robertson, ac felly yn amlwg bydd y cyngor ar gefnogaeth mae Hymans yn ei gynnig i Gronfa Gwynedd yn lleihau yn sylweddol.

 

Adroddwyd bod prif swyddogion PPC yn cyfarfod yn wythnosol i drafod y datblygiad a  bod ffiniau clir wedi eu gosod i sicrhau na fydd Gwynedd yn colli allan.

 

PENDERFYNWYD

Derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth

 

 

Dogfennau ategol: