Adeiladu
tai annedd preswyl yn cynnwys mynedfa
AELOD LLEOL: Cynghorydd Elin Hywel
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD:
Caniatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r amodau canlynol:
1.
Amser o ran cychwyn y datblygiad
2.
Amser o ran cyflwyno cais materion gadwyd yn ôl
3.
Cyflwyno cais materion gadwyd yn ôl ar gyfer llunwedd, graddfa,
golwg a thirweddu
4.
Unol a’r cynlluniau
5.
Llechi ar y to
6.
Deunyddiau
7.
Defnydd C3 i’r holl dai
8.
Enw Cymraeg i’r stad a’r tai.
9.
Arwyddion Cymraeg neu ddwyieithog
10. Cyflwyno a chytuno Cynllun
Rheoli Amgylcheddol Adeiladu
11. Oriau gwaith adeiladu
12. Lefelau sŵn mewnol
13. Lefelau sŵn allanol
14. Unol gyda’r Adroddiad Effaith
Sŵn
15. Manylion pympiau gwres
ffynhonnell aer gan gynnwys lefelau sŵn ac unrhyw fesurau lliniaru
angenrheidiol Amodau priffyrdd o ran cwblhau ffordd a phalmentydd yr ystâd
ynghyd a’r goleuadau stryd
16. Cwblhau gwelliannau ffyrdd a
gytunwyd ar gais C22/0969/45/LL
17. Amodau priffyrdd o ran cwblhau
ffordd a phalmentydd yr ystâd ynghyd a’r goleuadau stryd
18. Parcio
19. Atal dŵr wyneb rhag arllwys
i’r briffordd
20. Unol gyda Adroddiad Arolwg
Ecolegol
21. Cynllun goleuadau allanol
22. Cyflwyno a chytuno manylion ar
gyfer y ddôl / dôl gwlyb
23. Cyflwyno a chytuno cynllun
rheoli ar gyfer y coetir sy’n ffurfio rhan o’r Safle Bywyd Gwyllt Ymgeisiol.
24. Amod cwblhau gwaith tirlunio fel
a gytunwyd yn y manylion tirlunio.
25. Unol gyda’r Adroddiad
Coedyddiaeth
26. Amod Dŵr Cymru i wneud
asesiad modelu hydrolig cyn i’r datblygiad gychwyn
27. Dim dŵr wyneb / draeniad
tir i gysylltu i’r garthffos gyhoeddus.
28. Amodau archeolegol
29. Amod i gyflwyno a chytuno
manylion ar gyfer darparu 4 o dai fforddiadwy.
30. Tynnu hawliau a ganiateir ar yr
unedau fforddiadwy o ran estyniadau, adeiladau allanol ac ati.
31. Cytuno a chyflwyno manylion o
sut y bwriedir darparu llecyn agored yn rhan o’r datblygiad.
Nodiadau:
Nodyn
Datblygiad Mawr
Nodyn SuDS
Cyfeirio
at sylwadau Dŵr Cymru a’r Gwasanaeth Tân
Caniatâd
Cwrs Dŵr Cyffredin
Cofnod:
Cais ar gyfer
adeiladu tai annedd preswyl yn cynnwys mynedfa
Tynnwyd sylw at y
ffurflen sylwadau hwyr
a)
Amlygodd y Rheolwr Cynllunio bod y cais yn un amlinellol ar gyfer codi 12 tŷ preswyl ym Mhwllheli ar ddarn o dir rhwng garej Glan y Don ac
archfarchnad Aldi.
Fel y cais blaenorol, (6.1 Cais Rhif C23/0673/45/AM) penderfyniad y Pwyllgor Cynllunio ddiwedd mis Mawrth 2025 oedd gwrthod y
cais yn groes i argymhelliad swyddogion oherwydd diffyg tai fforddiadwy, diffyg
gwybodaeth am y cymysgedd/cydbwysedd tai ac effaith niweidiol ar yr Iaith
Gymraeg. Yn unol â chyfarwyddyd Pennaeth Cynorthwyol Adran Amgylchedd, gan fod
risg sylweddol i’r Cyngor o ran y bwriad
i wrthod y cais yn groes i’r argymhelliad, cafodd y cais ei roi mewn cyfnod
cnoi cil. Erbyn hyn, mae’r cais wedi ei ddiwygio i gynnwys 30% o dai fforddiadwy o fewn y
datblygiad ac felly’r cais yn cael ei gyflwyno yn ôl i’r Pwyllgor am ystyriaeth
bellach ar sail y newidiadau hyn.
Amlygwyd,
er nad yw cynlluniau manwl na thirlunio yn rhan o’r cais bod angen ystyried
egwyddor y bwriad ynghyd a manylion y fynedfa. Nodwyd, pe byddai’r cais yn cael
ei ganiatáu, byddai angen i’r ymgeisydd gyflwyno cais arall i gytuno ar y
materion a gadwyd yn ôl.
Yng
nghyd-destun egwyddor y datblygiad, mynegwyd bod datblygu tai ar y safle yn
dderbyniol gan ei fod yn dir sydd oddi fewn i ffin datblygu Pwllheli ac wedi ei
glustnodi ar gyfer datblygiad preswyl o fewn y CDLl.
Ystyriwyd bod y dwysedd datblygu a gynigiwyd yn
dderbyniol o ystyried lefelau’r safle ond bod angen gwarchod bioamrywiaeth a
darparu sustem draenio gynaliadwy a llecyn chwarae agored.
Fel sydd
wedi ei nodi uchod, o safbwynt ffigyrau tai Pwllheli bod y bwriad yn dderbyniol
oherwydd dynodiad y safle ar gyfer tai ble disgwylid 150 o dai newydd, er yn
derbyn na fydd 150 yn bosib oherwydd cyfyngiadau ffisegol y safle a
phresenoldeb archfarchnad Aldi. Tynnwyd sylw at
Polisi TAI 15 sydd yn gofyn am gyfraniad tai fforddiadwy ar ddatblygiadau
preswyl o 2 uned neu fwy. Ar gyfer Pwllheli, gofynnwyd am gyfraniad o 30% ac
mae’r ddarpariaeth yn cael ei gynnig erbyn hyn - 30% ar gyfer y datblygiad yma yn
gyfystyr a 3.6 uned ac yn unol a’r Canllaw Cynllunio Atodol Tai Fforddiadwy
byddai hyn yn golygu darparu 4 uned fforddiadwy.
Mae’r
ymgeisydd wedi nodi mai’r gobaith yw y bydd RSL a / neu ddatblygwr/adeiladwr
tai yn rhan o’r datblygiad erbyn i gais materion a gadwyd yn ôl gael ei
gyflwyno ac y gallai hynny gynnig ffordd ymlaen o ran darparu tai fforddiadwy
trwy gymorth grant datblygu o bosib gan Lywodraeth Cymru. Byddai’r math yna o
grantiau yn rhoi gwell cyfle i faterion hyfywedd o ran datblygu’r safle gael
cefnogaeth, o’u cymharu gyda’r gefnogaeth a fyddai ar gael i ddatblygwr yn y
sector breifat. Rhaid cofio hefyd fod caniatâd cynllunio yn parhau am 5 mlynedd
ac fe all y sefyllfa newid yn sylweddol o fewn y cyfnod hynny. Gyda’r bwriad
erbyn hyn yn cynnig darparu 30% o dai fforddiadwy ystyrir fod y bwriad yn
dderbyniol o ran Polisi TAI 15 CDLL.
Amlygwyd
bod bwriad gosod amod i sicrhau fod yr unedau i gyd yn dai annedd i’w defnyddio
fel unig neu brif breswylfa sef defnydd C3. Ategwyd, wrth sylweddoli naill
ffordd neu’r llall nad oes sicrwydd y byddai’r tai yn cael eu meddiannu gan
deuluoedd sy’n medru a’r Gymraeg, ystyriwyd bod y ffaith y byddent yn dai
parhaol yn golygu y byddai’r teuluoedd a fyddai’n eu meddiannu yn cael eu
hintegreiddio i’r gymuned leol gydag unrhyw blant yn mynychu ysgolion lleol
sydd yn darparu addysg trwy’r iaith Gymraeg. Cydnabuwyd bod capasiti
digonol o fewn ysgolion lleol i ymdopi gyda phlant ychwanegol fyddai’n byw yn y
tai.
Cyfeiriwyd
at y Datganiad Iaith Gymraeg oedd yn nodi y byddai enw Cymraeg i’r tai a bod
bwriad gwneud defnydd o arwyddion a hysbysebu dwyieithog (byddai modd amodi
hyn)
Yng
nghyd-destun effaith gweledol nodwyd bod y safle wedi ei leoli mewn pant ac
felly ystyriwyd mai lleol yn unig
fyddai’r effaith gweledol ac na fyddai’n debygol o gael effaith ar y dirwedd yn
ehangach. Yn ychwanegol, byddai’r bwriad yn mewn lenwi darn o dir rhwng
busnesau presennol oddi fewn ardal ble ceir amrywiol ddefnyddiau, gyda thai
hefyd yn y cyffiniau agos. Ni ystyriwyd felly y byddai tai annedd yn y lleoliad
yma yn edrych allan o’i le.
Yng
nghyd-destun mwynderau preswyl, oherwydd lleoliad y safle mewn perthynas â thai
eraill yn yr ardal ynghyd a’r lefelau tir, mae’n annhebygol byddai’r datblygiad
yn effeithio ar fwynderau preswyl, ond cyfeiriwyd at effaith datblygiadau
eraill, ynghyd ac effaith y lon ar feddianwyr y tai newydd o safbwynt sŵn
ac aflonyddwch. Ategwyd bod asesiad sŵn wedi ei gyflwyno rhan o’r cais ac
roedd Uned Gwarchod y Cyhoedd yn fodlon bod modd gosod amodau i warchod
mwynderau preswylwyr y tai.
Ategwyd y
bydd modd gosod amodau i sicrhau mynedfa ddiogel, ymchwiliadau archeolegol,
mesurau lliniaru a gwella bioamrywiaeth a chynllun draenio tir.
Roedd y
swyddogion yn argymell caniatáu y cais gydag amodau.
b)
Yn manteisio ar yr hawl i
siarad, nododd yr Aelod Lleol y sylwadau canlynol
·
Bod y cais amlinellol
yma yn agor y drws i ddatblygiad o dai yn lleol
·
Rhaid sicrahu bod y datblgyiad yn ymateb i’r angen lleol
·
Rhaid sicrahu bod y gofod
bach sydd ar gael ar gyfer adeiladu yn darparu y tai o’r math cywir
·
Yn annog y Pwyllgor i
gefnogi’r cais amlinellol yma, ac eto, cadw llygad allan am y cais llawn i sicrhau y bydd yn ymateb i’r angen - y pris
cywir, rhent fforddiadwy, tai cymdeithasol, maint, nifer llofftydd a bod y data
lleol / cymunedol yn gywir.
c)
Cynigiwyd ac eiliwyd caniatáu’r cais
PENDERFYNWYD: Caniatáu’r cais yn
ddarostyngedig i amodau.
Caniatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r amodau
canlynol:
1. Amser
o ran cychwyn y datblygiad
2. Amser
o ran cyflwyno cais materion gadwyd yn ôl
3. Cyflwyno
cais materion gadwyd yn ôl ar gyfer llunwedd, graddfa, golwg a thirweddu
4. Unol
a’r cynlluniau
5. Llechi
ar y to
6. Deunyddiau
7. Defnydd
C3 i’r holl dai
8. Enw
Cymraeg i’r stad a’r tai.
9. Arwyddion
Cymraeg neu ddwyieithog
10. Cyflwyno
a chytuno Cynllun Rheoli Amgylcheddol Adeiladu
11. Oriau
gwaith adeiladu
12. Lefelau
sŵn mewnol
13. Lefelau
sŵn allanol
14. Unol
gyda’r Adroddiad Effaith Sŵn
15. Manylion
pympiau gwres ffynhonnell aer gan gynnwys lefelau sŵn ac unrhyw fesurau
lliniaru angenrheidiol Amodau priffyrdd o ran cwblhau ffordd a phalmentydd yr
ystâd ynghyd a’r goleuadau stryd
16. Cwblhau
gwelliannau ffyrdd a gytunwyd ar gais C22/0969/45/LL
17. Amodau
priffyrdd o ran cwblhau ffordd a phalmentydd yr ystâd ynghyd a’r goleuadau
stryd
18. Parcio
19. Atal
dŵr wyneb rhag arllwys i’r briffordd
20. Unol
gyda Adroddiad Arolwg Ecolegol
21. Cynllun
goleuadau allanol
22. Cyflwyno
a chytuno manylion ar gyfer y ddôl / dôl gwlyb
23. Cyflwyno
a chytuno cynllun rheoli ar gyfer y coetir sy’n ffurfio rhan o’r Safle Bywyd
Gwyllt Ymgeisiol.
24. Amod
cwblhau gwaith tirlunio fel a gytunwyd yn y manylion tirlunio.
25. Unol
gyda’r Adroddiad Coedyddiaeth
26. Amod
Dŵr Cymru i wneud asesiad modelu hydrolig cyn i’r datblygiad gychwyn
27. Dim
dŵr wyneb / draeniad tir i gysylltu i’r garthffos gyhoeddus.
28. Amodau
archeolegol
29. Amod
i gyflwyno a chytuno manylion ar gyfer darparu 4 o dai fforddiadwy.
30. Tynnu
hawliau a ganiateir ar yr unedau fforddiadwy o ran estyniadau, adeiladau
allanol ac ati.
31. Cytuno
a chyflwyno manylion o sut y bwriedir darparu llecyn agored yn rhan o’r
datblygiad.
Nodiadau:
Nodyn Datblygiad Mawr
Nodyn SuDS
Cyfeirio at sylwadau Dŵr Cymru a’r Gwasanaeth
Tân
Caniatâd Cwrs Dŵr Cyffredin
Dogfennau ategol: