Datblygiad arfaethedig ar gyfer newid defnydd eiddo presennol i ffurfio 13no. fflat preswyl hunangynhaliol (defnydd C3) ar hyd y llawr gwaelod isaf, llawr gwaelod, llawr cyntaf, ail a thrydydd llawr. Mae'r cynnig hefyd yn ceisio cadw elfen o arwynebedd llawr masnachol ar y llawr gwaelod i'w gyflwyno at ddibenion manwerthu (A1).
AELODAU LLEOL: Cynghorywr Dylan Fernley a Nigel Pickavance
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD: Caniatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r amodau
canlynol:
1. Amser 5 mlynedd
2. Yn unol â’r cynlluniau
3. Cyfyngu’r defnydd i anheddau
preswyl dosbarth defnydd C3 yn unig
4. Cyfyngu’r oriau adeiladu
5. Rhaid cyflwyno a chytuno mesurau
ynysu sŵn
6. Rhaid gweithredu amcanion y
Datganiad Seilwaith Gwyrdd
7. Amod tai fforddiadwy
Nodiadau:
Nodyn Dŵr Cymru
Cofnod:
Datblygiad arfaethedig ar gyfer newid defnydd eiddo presennol i ffurfio
13 fflat preswyl hunangynhaliol (defnydd C3) ar hyd y llawr gwaelod isaf, llawr
gwaelod, llawr cyntaf, ail a thrydydd llawr. Mae'r cynnig hefyd yn ceisio cadw
elfen o arwynebedd llawr masnachol ar y llawr gwaelod i'w gyflwyno at ddibenion
manwerthu (A1).
a)
Amlygodd yr Uwch Swyddog
Cynllunio mai cais llawn ydoedd i newid defnydd adeilad presennol yn 13 fflat
preswyl gyda chynllun i gadw elfen o arwynebedd llawr ar gyfer defnydd
manwerthu ar y llawr gwaelod. Bydd y fflatiau wedi eu gosod dros y 5 llawr gyda
mynediad i’r fflatiau drwy risiau yng nghefn yr adeilad a mynediad i’r ardal
manwerthu o’r stryd fawr. Bydd y
datblygiad yn cynnwys storfa biniau a storfa beiciau ar y llawr gwaelod.
Defnydd C3 fydd i’r fflatiau hunangynhwysol a defnydd A1 fydd i’r ardal manwerthu
gyda blaen y siop yn aros yr un fath. Ni fydd y gwaith yn cynnwys unrhyw waith
allanol.
Saif yr adeilad yng nghanol Stryd Fawr Bangor, o fewn ffin ddatblygu'r
Ganolfan Isranbarthol fel y'i diffinnir gan y CDLl.
Saif o fewn Ardal Gadwraeth ac o fewn y Canol Tref Diffiniedig a'r Brif Ardal
Siopa.
Cyfeiriwyd at lefel cyflenwad dangosol o dai ar gyfer Bangor dros gyfnod
y CDLl gan nodi bod y ddarpariaeth eisoes yn cael ei
gyfarch trwy’r safleoedd yn y banc tir. Mewn amgylchiadau o’r fath fe fydd
ystyriaeth yn cael ei roi i’r unedau sydd wedi eu cwblhau hyd yma o fewn yr
haen y Prif Ganolfannau. Ystyriwyd, drwy ychwanegu 13
uned anheddol at y stoc dai, byddai'r datblygiad sy’n destun y cais hwn yn
gymorth i gyfrannu tuag at dargedau tai'r CDLl mewn
ffordd sy'n ymateb yn gadarnhaol i ofynion y farchnad dai lleol. Ategwyd bod
maint a math yr anheddau a gynigiwyd yn gymysgedd
priodol o ddarpariaeth tai ac yn cydymffurfio gyda Polisi TAI 8.
Cyflwynwyd y cais i bwyllgor gan ei fod yn ddatblygiad o bum annedd neu
fwy.
Ystyriwyd bod y defnydd arfaethedig yn dderbyniol ac yn bodloni gofynion
polisïau. Roedd y
swyddogion yn argymell caniatáu y cais gydag amodau.
b)
Yn manteisio ar yr hawl i
siarad, nododd yr Asiant y sylwadau canlynol:
·
Bod y cais yn ymwneud a
throi adeilad gwag ar Stryd Fawr Bangor i ffurfio 13 fflat ac ardal manwerthu
·
Bod yr adeilad, oedd yn
gyn fanc, yn wag ers Ebrill 2023 a dim defnydd ohono ers hynny
·
Bod y bwriad yn cynnig
defnydd addas o’r adeilad fyddai yn cwrdd â gofynion tai yn lleol a hyfywedd y
Stryd Fawr
·
Bod ymchwil marchnata gan
arwerthwyr tai wedi amlygu bod galw pendant am fflatiau rhent gyda 1,2 a 3
stafell wely
·
Er bod tai llety
myfyrwyr ar gael ym Mangor, bod diffyg anheddau ar gyfer unigolion
proffesiynol, cyplau a theuluoedd bach, gyda rhai yn symud allan o’r ddinas i
rentu yn Ynys Môn, Bethesda a Chaernarfon
·
Bydd maint y fflatiau yn
fforddiadwy - ni fyddant allan o gyrraedd pobl leol
·
Bod yr uned manwerthu,
er yn llai, ar gael am rent fforddiadwy. Hyn yn annog busnesau lleol i symud
i’r Stryd Fawr a chael effaith gadarnhaol economaidd ar yr ardal
·
Byddai’r bwriad yn
cynnig effaith meintiol ar yr iaith Gymraeg - bod gan Uned Iaith Cyngor Gwynedd
dystiolaeth ddigonol i gefnogi hyn
·
Bod y safle yng nghanol
Dinas Bangor, gyda mynediad da at drafnidiaeth gyhoeddus - y lleoliad yn un
cynaliadwy ac yn un fyddai’n hyrwyddo defnydd o deithio heb gar
·
Bod y bwriad yn diwallu
gofynion tai yn lleol ac yn arwain at fuddiannau economaidd o ran cyflogaeth a
defnydd manwerthu ar y Stryd Fawr
·
Bod y bwriad yn dod ag
adeilad sydd wedi bod yn wag am ddwy flynedd yn ôl i ddefnydd pwrpasol.
c)
Cynigiwyd ac eiliwyd caniatáu y cais
ch) Yn ystod y drafodaeth
ddilynol, nodwyd y sylwadau canlynol gan yr Aelodau:
·
Yn croesawu’r cais
·
Er nifer ceisiadau am
fflatiau ym Mangor yn cael eu cyflwyno heb yr elfen fforddiadwy (gan gynnig yr
esgus y byddant yn fforddiadwy beth bynnag), da gweld bod rhai o’r anheddau yma
wedi eu hamodi i fod yn fforddiadwy
·
Bod galw am anheddau
newydd o safon ym Mangor - e.e., nyrsys eisiau byw mewn llefydd sydd yn hwylus
i’r gwaith
·
Bod niferoedd sydd yn
mynychu Prif Ysgol Bangor yn gostwng, bod llai o dramor yn dod i’r ddinas ers y
cyfnod clo a llai o alw am dai amlfeddiannaeth. Dywed bod poblogaeth Bangor yn
gostwng 4% erbyn 2043, - i bwy felly fydd y tai yma? Y ddinas yn llenwi gyda
thai amlfeddiannaeth - angen tai i deuluoedd
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â
darpariaeth parcio ac egwyddorion mwynderol y
tenantiaid, nodwyd yng nghyd-destun materion mwynderau megis darpariaeth
parcio, bod hyn yn cael ei gyfarch tu allan i’r safle gan feysydd parcio
cyhoeddus cyfredol a thiroedd gwyrdd, sydd yn safonol i ddatblygiad mewn canol
dinas. Ategwyd bod y bwriad yn cyfarch yr angen am dai ac yn dod ag adeilad
gwag yn ôl i ddefnydd sydd yn cyfrannu at adfywiad y Stryd Fawr. Nodwyd hefyd
nad oedd y cais yn un ar gyfer tai amlfeddiannaeth - cais am fflatiau
hunangynhaliol oedd yma gyda’r Uned Strategol Tai ac ymchwil gan arwerthwyr tai
wedi cydnabod yr angen.
PENDERFYNWYD: Caniatáu’r cais yn
ddarostyngedig i amodau.
1. Amser
5 mlynedd
2. Yn
unol â’r cynlluniau
3. Cyfyngu’r
defnydd i anheddau preswyl dosbarth defnydd C3 yn unig
4. Cyfyngu’r
oriau adeiladu
5. Rhaid
cyflwyno a chytuno mesurau ynysu sŵn
6. Rhaid
gweithredu amcanion y Datganiad Seilwaith Gwyrdd
7. Amod
tai fforddiadwy
Nodiadau:
Nodyn Dŵr Cymru
Dogfennau ategol: