Agenda item

Gosod llety efaill (twin lodge) arfaethedig fel anecs gyda decin. 

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Elfed Wyn ap Elwyn

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r amodau canlynol:

 

1.     5 mlynedd

2.     Unol a chynlluniau

3.     Cytuno unrhyw olau allanol

4.     Amod Datganiad Seilwaith Gwyrdd.

 

Cofnod:

Gosod llety efaill (twin lodge) arfaethedig fel anecs gyda decin.

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

 

a)           Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais ydoedd ar gyfer gosod siale ar ffurf uned ddeuol (twin lodge) i’w defnyddio fel anecs cysylltiol i’r prif eiddo, ynghyd a gosod llwyfan a ramp fydd yn mesur oddeutu 0.5m o uchder ar ei bwynt uchaf ac yn amgylchynu’r siale arfaethedig.  Ategwyd, nad yw’r siale, oherwydd ei wneuthuriad fel uned ddeuol, ei leoliad o fewn cwrtil yr eiddo a’i ddefnydd ( fyddai’n atodol i ddefnydd y prif eiddo), angen caniatâd cynllunio, ac felly amlinellwyd mai asesiad ar gyfer gosod y llwyfan a’r ramp yn unig oedd ei angen.

 

Adroddwyd bod safle’r datblygiad arfaethedig wedi ei leoli tu allan i unrhyw ffin datblygu, a thu mewn i Ardal Tirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol ac o fewn 500m o Heneb gofrestredig.

 

Eglurwyd bod y llwyfan a’r ramp bwriedig ar gyfer darparu mynediad hygyrch i’r siale ac ystyriwyd bod lleoliad y llwyfan yn dderbyniol gyda llystyfiant presennol yn lliniaru unrhyw effaith i’r de-orllewin. Ni ystyriwyd y byddai’r llwyfan yn cael effaith sylweddol andwyol ar fwynderau’r trigolion cyfagos, gan y byddai wedi ei leoli ar ochr y siale sy’n wynebu cwrtil yr eiddo sy’n destun y cais. Ategwyd bod yr annedd agosaf oddeutu 15m i ffwrdd o’r llwyfan arfaethedig, ac fe gyfeiriwyd at wrthwynebiad oedd wedi ei dderbyn ar sail gosod golau ychwanegol ar y safle. Cydnabuwyd y gall golau arwain at niwsans i drigolion cyfagos ac i’r perwyl hyn ystyriwyd mai priodol fyddai gosod amod ar gyfer cytuno unrhyw olau allanol ar y llwyfan.

 

Cydnabuwyd bod gwrthwynebiadau hefyd wedi eu derbyn gan drigolion cyfagos, a bod y sylwadau yn cynnwys cyfeiriad at y siale a’r effaith ar y system ymdrin gyda charthion presennol ar y safle, ond gan nad oedd angen caniatâd cynllunio ar y siale, roedd y materion hyn tu hwnt i’r hyn y gellid ei reoli drwy’r cais dan sylw.

 

Daethpwyd i’r casgliad bod modd gosod amod i gwblhau gwelliannau bioamrywiaeth.

 

         Roedd y swyddogion yn argymell caniatáu y cais

 

b)           Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr Ymgeisydd y sylwadau canlynol:

·        Mai’r unig reswm dros gyflwyno’r cais oedd anabledd ei dad a'r safle mae’n byw ynddo ar hyn o bryd yn anaddas - yn byw mewn un ystafell, yn methu cael cawod ac yn disgyn yn aml. 

·        Y sefyllfa yn dorcalonnus ac felly cyflwyno cais i wneud bywyd ei rieni yn haws, ei fywyd ef yn haws o fedru bod gerllaw a theulu i gefnogi’r teulu

·        Bydd gosodiad y siale yn golygu mynediad at ystafell ymolchi a mwy o le i symud – ar hyn o bryd gall ond fynd o’r gwely i’r gader

·        Nid yw’r grisiau i’r tŷ presennol yn addas ac mae anodd gorfod defnyddio offer gwahanol i’w gael i mewn ac allan hefo’r grisiau.

·        Nid yw’n benderfyniad ysgafn oherwydd bod y tŷ yn dŷ teulu sydd yn mynd yn ôl canrifoedd, sydd erioed wedi cael ei werthu, ond oherwydd iechyd ei rieni, bydd rhaid cymryd y camau hyn

·        Yn deulu lleol, Cymraeg - ei rieni wedi gweithio trwy ei bywydau hyd cafodd ei dad  strôc, ac o ganlynaid popeth yn gorfod newid yn gyfan gwbl.

 

c)      Roed yr Aelod Lleol wedi datgan buddiant oedd yn rhagfarnu ac felly nid oedd yn siarad ar y cais             

 

ch)    Cynigiwyd ac eiliwyd caniatáu y cais

 

c)           Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd y sylw canlynol gan yr Aelod:

·        O ystried amgylchiadau’r cais, syndod bod y Cyngor Cymuned yn gwrthwynebu

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn a’r ffaith nad oedd angen caniatâd cynllunio ar gyfer llety dwbl (twin lodge), nodwyd bod llety dwbl yn cael ei ddiffinio fel carafán ac os yw carafán yn cael ei gosod o fewn cwrtil eiddo fel defnydd atodol i’r eiddo hwnnw, nid oes angen caniatâd cynllunio.

 

PENDERFYNWYD: Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r amodau.

 

1.            5 mlynedd

2.            Unol a chynlluniau

3.            Cytuno unrhyw olau allanol

4.            Amod Datganiad Seilwaith Gwyrdd.

 

Dogfennau ategol: