Cynyddu nifer carafanau i gyfanswm o 15 uned symudol, adeiladu bloc toiledau/ cawod, tirlunio a gwaith cysylltiedig.
AELOD LLEOL: Cynghorydd John Brynmor Hughes
Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD: Gwrthod yn unol â’r argymhelliad
Rhesymau:
· Ni ystyrir y byddai’r unedau
arfaethedig yn cydweddu’n hawdd i’r dirwedd ac ni ystyrir fel lleoliad
anymwthiol wedi'i guddio'n dda gan nodweddion presennol y dirwedd, felly
byddai’r datblygiad yn niweidiol i ansawdd gweledol y dirwedd. Ni fyddai'r
bwriad yn ychwanegu at gynnal, gwella neu adfer cymeriad cydnabyddedig Ardal o
Harddwch Nat uriol
Eithriadol Llŷn. Pryderir hefyd am greu safle carafanau newydd gryn
bellter o’r prif rwydwaith ffyrdd ar lon wledig brysur ble ceir dwysedd uchel o
safleoedd gwyliau ac eff aith
y gwaith datblygu cysylltiedig ar nodweddion a chymeriad y dirwedd. Fe ystyrir
felly fod y bwriad yn groes i ofynion perthnasol Polisïau TWR 5 ac AMG 1 y
Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn a Chanllawiau Cynllunio Atodol
(CCA): Cyfleusterau a Llety i Dwristiaid.
· Ni chyflwynwyd tystiolaeth
ddigonol fel rhan o’r cais cynllunio i ddangos fod ystyriaeth lawn wedi ei roi
i’r effaith o golli tir amaethyddol gorau a mwyaf aml bwrpas. Ystyrir felly fod
y cais yn groes i ofynion maen prawf 6 Polisi PS 6 Cynllun Datblygu Lleol ar y
Cyd Gwynedd a Môn 2011-2026 ynghyd a’r cyngor a roddir ym mharagraffau 3.58 a
3.59 o Bolisi Cynllunio Cymru.
Cofnod:
Cynyddu nifer carafanau i gyfanswm o 15 uned symudol, adeiladu bloc
toiledau / cawod, tirlunio a gwaith cysylltiedig.
Tynnwyd sylw at y
ffurflen sylwadau hwyr
a)
Amlygodd Hyfforddai Cynllunio mai cais llawn ydoedd yn ymwneud ag ymestyn
safle carafanau presennol i gae amaethyddol cyfochrog ynghyd â chodi bloc
toiledau a chawodydd newydd, thirlunio a gwaith cysylltiedig. Nodwyd bod y
safle wedi ei leoli tu allan i’r ffin datblygu, ac felly ystyriwyd bod y safle
mewn cefn gwlad agored.
Tynnwyd sylw bod yr
eiddo o fewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Llŷn ac o fewn Tirwedd o
Ddiddordeb Hanesyddol cofrestredig Llŷn ac Enlli gyda’r safle wedi ei
wasanaethu
gan ffordd
ddi-ddosbarth wledig sengl. Ategwyd bod y tir dan sylw wedi ei raddio fel
tiroedd dosbarth 2, sef tir amaethyddol o ansawdd da. Cyfeiriwyd at baragraff
3.58 o Bolisi Cynllunio Cymru (PC) sy’n nodi mai “tir amaethyddol gradd 3a yn
ogystal â dosbarthiadau 1 a 2 yn y Dosbarthiad Tir Amaethyddol (ALC)16 sydd yn
cael ei ystyried fel y tir amaethyddol gorau a mwyaf amlbwrpas, a dylid ei
warchod fel adnodd y mae terfyn iddo ar gyfer y dyfodol”.
Wedi ymchwilio i
hanes cynllunio’r safle, ymddengys nad oedd unrhyw ganiatâd Cynllunio yn bodoli
ar gyfer carafanau ar y safle ac er bod arwydd lleoliad ardystiedig ‘Caravan
and Motorhome Club’ yn cael
ei arddangos yno, yn dilyn ymholiadau gyda’r Clwb eithriedig, derbyniwyd
cadarnhad nad oedd tystysgrif ar gyfer y safle bellach. O ganlyniad, nid cais i
ymestyn safle presennol oedd dan sylw, ond cais am safle carafanau teithiol (15
carafán) o’r newydd.
Cyflwynwyd y cais i
Bwyllgor gan ei fod yn ddatblygiad ar safle sydd yn 0.5 hectar neu fwy o ran
maint.
Rhoddwyd
ystyriaethau i bolisi TWR 5, AMG1 a PS6 o’r CDLl
Adroddwyd, er bod y
cais yn datgan bod coed a gwrychoedd helaeth yn cuddio’r safle o bob gwelfan o archwilio’r safle, gwan oedd ansawdd tirlunio
cloddiau terfyn y safle ar y cyfan. Ategwyd mai lled cae oedd yn gwahanu’r
safle o’r ffordd sirol, gyda chloddiau cymharol foel ar y terfynau dwyreiniol,
fyddai’n gwneud y safle yn amlwg o’r lon gyhoeddus sy’n rhedeg heibio’r eiddo ac o lwybr cyhoeddus sydd led cae i’r
gorllewin o’r safle. Er bod natur wastad
i'r safle, cyfyngedig fydd y golygfeydd, ond bydd yn amlwg o’r ffordd gyfochrog
ac o diroedd uwch Bwlchtocyn a rhai mannau ar lwybrau cyhoeddus yr ardal.
Cydnabuwyd bod bwriad i atgyfnerthu sgrinio’r safle trwy wella ac ychwanegu
tirlunio ar y cloddiau presennol, ond o ystyried lleoliad uchel ac agored y safle,
nid oedd sicrwydd y byddai’r tirlunio yn sefydlu a phwysleisiwyd y byddai’n
cymryd nifer o flynyddoedd i sgrinio’r
safle yn ddigonol, os o gwbl. Nodwyd bod dibyniaeth ar dirlunio i ffurfio sgrin
ddigonol yn cynnwys elfen o risg gydag amheuaeth y byddai modd sicrhau sgrinio
digonol yn y tymor byr.
Cyfeiriwyd at
polisi AMG 1 sy’n nodi bydd angen i gynigion sydd o fewn neu’n effeithio ar
osodiad / golygfeydd i mewn ac allan o’r AHNE ystyried Cynllun Rheolaeth yr
AHNE. Tynnwyd sylw at sylwadau'r uned AHNE oedd yn nodi, bod “... nifer
sylweddol o garafanau teithiol yn ardal Sarn Bach/ Bwlchtocyn sydd yn rhoi
pwysau ar amgylchedd yr AHNE a gwasanaethau lleol.” Ni ystyriwyd felly y
byddai’r unedau carafanau teithiol yn cydweddu’n hawdd i’r dirwedd ac ni
ystyriwyd fel lleoliad anymwthiol wedi'i guddio'n dda gan nodweddion presennol
y dirwedd, felly byddai’r datblygiad yn niweidiol i ansawdd gweledol y dirwedd.
Ni fyddai'r bwriad yn ychwanegu at gynnal, gwella neu adfer cymeriad Ardal o
Harddwch Naturiol Eithriadol Llŷn.
Nodwyd pryder am greu safle carafanau newydd
gryn bellter o’r prif rwydwaith ffyrdd ar lon wledig brysur ble ceir dwysedd
uchel o safleoedd gwyliau ac effaith y gwaith datblygu cysylltiedig ar
nodweddion a chymeriad y dirwedd. Ystyriwyd bod y bwriad yn groes i ofynion
perthnasol Polisïau TWR 5 ac AMG 1 y CDLl Chanllawiau
Cynllunio Atodol (CCA): Cyfleusterau a Llety i Dwristiaid. Ni chyflwynwyd
tystiolaeth ddigonol fel rhan o’r cais cynllunio i amlygu bod ystyriaeth lawn
wedi ei roi i’r effaith o golli tir amaethyddol gorau ac aml bwrpas. Ystyriwyd
bod y cais yn groes i ofynion maen prawf 6 Polisi PS 6 CDLl
ynghyd a’r cyngor a roddir ym mharagraffau 3.58 a 3.59 o Bolisi Cynllunio
Cymru.
Roedd y swyddogion yn argymell gwrthod
y cais
c) Cynigiwyd ac eiliwyd gwrthod y cais
ch) Yn ystod y drafodaeth
ddilynol, nodwyd y sylwadau canlynol gan yr Aelod;
·
Bod y safle yn gweithredu drwy drwydded clwb ar
gyfer 5 llain, ond sydd bellach gyda 7 llain – 2 uned yno heb gytundeb
·
Bod y cais yn bwriadu cynyddu o 7 llain i gyfanswn o 15 llain – nid oes caniatâd cynllunio yn bodoli
ar gyfer y carafanu, byddai hwn yn gais am safle
carafanau teithiol o’r newydd
PENDERFYNWYD: Gwrthod y cais yn unol a’r
argymhelliad.
Rhesymau:
·
Ni ystyrir y byddai’r
unedau arfaethedig yn cydweddu’n hawdd i’r dirwedd ac ni ystyrir fel lleoliad
anymwthiol wedi'i guddio'n dda gan nodweddion presennol y dirwedd, felly
byddai’r datblygiad yn niweidiol i ansawdd gweledol y dirwedd. Ni fyddai'r
bwriad yn ychwanegu at gynnal, gwella neu adfer cymeriad cydnabyddedig Ardal o
Harddwch Naturiol Eithriadol Llŷn. Pryderir hefyd am greu safle carafanau
newydd gryn bellter o’r prif rwydwaith ffyrdd ar lon wledig brysur ble ceir
dwysedd uchel o safleoedd gwyliau ac effaith y gwaith datblygu cysylltiedig ar
nodweddion a chymeriad y dirwedd. Fe ystyrir felly fod y bwriad yn groes i
ofynion perthnasol Polisïau TWR 5 ac AMG 1 y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd
Gwynedd a Môn a Chanllawiau Cynllunio Atodol (CCA): Cyfleusterau a Llety i
Dwristiaid.
·
Ni chyflwynwyd
tystiolaeth ddigonol fel rhan o’r cais cynllunio i ddangos fod ystyriaeth lawn
wedi ei roi i’r effaith o golli tir amaethyddol gorau a mwyaf aml bwrpas.
Ystyrir felly fod y cais yn groes i ofynion maen prawf 6 Polisi PS 6 Cynllun
Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2011-2026 ynghyd a’r cyngor a roddir ym
mharagraffau 3.58 a 3.59 o Bolisi Cynllunio Cymru.
Dogfennau ategol: