Alwen
Williams (Prif Weithredwr) i gyflwyno’r adroddiad.
Penderfyniad:
1. Cytuno ar yr argymhelliad a’r ffordd
ymlaen sy’n cael ei ffafrio - Rhaglen Tir ac Eiddo Diwygiedig (Opsiwn 2) gan
nodi y byddai yn fater i’r Is-bwyllgor benderfynu ar y prosiectau fydd yn cael
eu blaenoriaethu a chymeradwyaeth ariannu Cynllun Twf.
2. Gofyn bod y Cyfarwyddwr Portffolio yn cychwyn ar y broses newid i gynnwys yr elfennau hyn yn ffurfiol yn y Rhaglen Tir ac Eiddo.
Cofnod:
Cyflwynwyd
yr adroddiad gan y Prif Weithredwr a’r Pennaeth Gweithrediadau.
PENDERFYNIAD
1. Cytuno
ar yr argymhelliad a’r ffordd ymlaen sy’n cael ei ffafrio - Rhaglen Tir ac
Eiddo Diwygiedig (Opsiwn 2) gan nodi y byddai yn fater i’r Is-bwyllgor
benderfynu ar y prosiectau fydd yn cael eu blaenoriaethu a chymeradwyaeth
ariannu Cynllun Twf.
2. Gofyn bod y Cyfarwyddwr Portffolio yn cychwyn ar y broses
newid i gynnwys yr elfennau hyn yn ffurfiol yn y Rhaglen Tir ac Eiddo.
RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD
Ym mis Mawrth 2025,
lansiodd Uchelgais Gogledd Cymru broses 'Mynegi Diddordeb' i ddethol prosiectau
ar gyfer y Rhestr Wrth Gefn newydd a fyddai'n medru cyflwyno achosion busnes
ar gyfer cyllid yn y dyfodol. Un o'r meini
prawf a osodwyd oedd bod angen i brosiectau fod o fewn sgôp y pum rhaglen presennol y Cynllun Twf –
Cysylltedd Digidol, Ynni Carbon Isel, Tir ac Eiddo, Arloesi mewn
Gweithgynhyrchu Gwerth Uchel a Bwyd-amaeth a Thwristiaeth.
O'r 27 Mynegiant
o Ddiddordeb a gyflwynwyd, roedd pedwar yn cael eu hystyried fel rhai oedd y tu
allan i sgôp y Cynllun Twf. Roedd un o'r rhain yn brosiect a oedd yn seiliedig
ar refeniw ac roedd y tri arall yn brosiectau trafnidiaeth yn bennaf. Nodwyd y
cyflwynwyd dau gan Lywodraeth Cymru ac un gan Gyngor Gwynedd. Dim ond un o'r
prosiectau, 'Padeswood', oedd yn cwrdd â'r trothwy
sgorio i gael ei ystyried
i'w gynnwys ar y rhestr wrth gefn; fodd bynnag, roedd yr adroddiad i'r
is-bwyllgor yn nodi'n glir y byddai hyn yn destun penderfyniad ar wahân ar
gynnwys prosiectau trafnidiaeth yn
y Cynllun Twf.
Yn yr
Is-bwyllgor Llesiant Economaidd ym mis Mai, cytunwyd bod:
a) yr Is-bwyllgor yn cytuno
i gychwyn proses i asesu ac adolygu'r sgôp a'r achos ar gyfer ymestyn y Cynllun
Twf presennol i gynnwys prosiectau trafnidiaeth.
b) yr Is-bwyllgor yn
comisiynu'r Cyfarwyddwr Portffolio i baratoi adroddiad opsiynau manwl mewn
ymgynghoriad â Llywodraethau Cymru a'r DU a swyddogion y Cynghorau Cyfansoddol
a Phartneriaid Addysg.
c) yr adroddiad opsiynau yn
cael ei gyflwyno i'r Is-bwyllgor gyda'r bwriad o bennu p'un a ddylid cychwyn y broses newid ffurfiol i
sicrhau cytundeb ar gyfer y Cynllun Twf estynedig i gynnwys prosiectau
Trafnidiaeth.
TRAFODAETH
Atgoffwyd bod yr adroddiad hwn yn cael ei gyflwyno yn
dilyn cais gan y bwrdd yn dilyn y cyfarfod diwethaf er mwyn gallu penderfynu a
oes angen ystyried cychwyn proses newid ffurfiol er mwyn ymestyn y Cynllun Twf
i gynnwys prosiectau sydd ag elfennau Trafnidiaeth ai peidio.
Eglurwyd os byddai prosiect ‘Padeswood’ yn cael ei
gymeradwyo ar y Rhestr Wrth Gefn, byddai hyn yn galluogi’r posibilrwydd o
ychwanegu mwy o gynlluniau ar y rhestr wrth gefn yn y dyfodol, os ydynt yn
cyrraedd gofynion y Cynllun Twf. Nodwyd mai dyma’r unig gynllun a oedd yn
cyrraedd y trothwyon sgorio yn dilyn proses Mynegi Diddordeb i fod ar y Rhestr
Wrth Gefn a gynhaliwyd gan Uchelgais Gogledd Cymru ym mis Mawrth 2025.
Manylwyd ar y cefndir ac ystyriaethau perthnasol sydd
wedi cael eu cyflawni cyn cyflwyno’r adroddiad hwn, gan nodi bod sgôp ehangach
o raglenni wedi cael eu hystyried wrth gysyniadau’r Cynllun Twf yn wreiddiol,
cyn penderfynu ar y pum rhaglen sydd eisoes yn weithredol (Cysylltedd Digidol,
Ynni Carbon Isel, Tir ac Eiddo, Arloesi mewn Gweithgynhyrchu Gwerth Uchel a
Bwyd-amaeth a Thwristiaeth). Eglurwyd mai dim ond un prosiect a oedd yn cynnwys
agweddau Trafnidiaeth oedd yn cael ei ystyried wrth drafod Penawdau Telerau
cytundeb y Cynllun Twf yn 2019 a bu i’r prosiect hwnnw gael ei weithredu o fewn
y rhaglen Ynni Carbon Isel gan ddiddymu’r angen am sefydlu Rhaglen Trafnidiaeth
Strategol o fewn y Cynllun Twf. Fodd bynnag, pwysleisiwyd bod Trafnidiaeth yn
ogystal â datblygu sgiliau a chyflogadwyedd yn parhau i fod yn feysydd
allweddol.
Tynnwyd sylw bod yr Is-bwyllgor Lles Economaidd wedi
gwneud cais yn ystod eu cyfarfod ym mis
Mai 2025 bod asesiad trylwyr o wahanol opsiynau sydd ar gael er mwyn gallu
cyflwyno prosiectau sydd ag agweddau Trafnidiaeth o fewn y Cynllun Twf. Nodwyd
bod tri opsiwn wedi derbyn ystyriaeth gan y Swyddfa Rheoli Portffolio (PMO),
gan ymhelaethu arnynt fel a ganlyn:
·
Opsiwn
1: Rhaglen Trafnidiaeth Newydd - Nodwyd
y golygai hyn byddai Rhaglen newydd yn cael ei gyflwyno fel rhan o’r Cynllun
Twf. Eglurwyd bod yr opsiwn hwn wedi cael ei ddiystyru oherwydd bod angen
cyllidebau swmpus i’w wireddu ac ni fyddai’n ymarferol i’w weithredu o fewn y
cyllidebau sydd ar gael.
·
Opsiwn
2: Rhaglen Tir ac Eiddo Ddiwygiedig - Ystyriwyd
addasu geiriad y rhaglen hon er mwyn amlygu y gall gynnwys prosiectau sydd ag
agweddau seilwaith trafnidiaeth ar safleoedd prosiectau ac oddi ar y safleoedd
pan yn gysylltiedig i ddatblygiadau. Nodwyd bod addasu’r Rhaglen i gynnwys yr
eglurder hwn yn synhwyrol a chyraeddadwy.
·
Opsiwn
3: Dim newid - Eglurwyd mai dyma’r opsiwn a
fyddai wedi cael y lleiaf o effaith a chadarnhawyd bod yr opsiwn hwn wedi cael
ei ddiystyru oherwydd y byddai’n golygu bod y Cyd-bwyllgor Corfforedig wedi
colli cyfle i ariannu prosiectau sydd yn gallu cyfrannu i dargedau’r Cynllun
Twf.
Cadarnhawyd bod dau opsiwn wedi cael eu diystyru a bod
argymhelliad yn cael ei gyflwyno i’r aelodau eu bod yn mabwysiadu Opsiwn 2 -
Rhaglen Tir ac Eiddo Diwygiedig. Adroddwyd bod cyflwyno’r addasiad hwn yn unol
ag opsiwn 2 o fewn cylch gorchwyl yr Is-bwyllgor hwn oherwydd ei fod yn darparu
eglurder ehangach ar y gwaith a all gael ei gyflawni o fewn y Rhaglen.
Mynegwyd cefnogaeth i’r addasiad hwn i’r Rhaglen Tir ac
Eiddo Diwygiedig, gan ymfalchïo ei fod yn darparu hyblygrwydd ar gyfer materion
trafnidiaeth sydd yn fuddiol ar gyfer y rhanbarthol. Fodd bynnag, pwysleisiodd
mai penderfyniad Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd bydd cadarnhau pa
brosiectau all gael eu gweithredu drwy’r addasiad hwn.
Dogfennau ategol: