Cais llawn i ddymchwel tŷ (C3) a modurdy presennol a chodi tŷ newydd (C3) 3 ystafell wely yn eu lle
AELOD LLEOL: Cynghorydd Gareth Williams
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD: Gohirio penderfyniad a chynnal ymweliad safle
Cofnod:
Cais llawn i ddymchwel tŷ (C3) a modurdy presennol a chodi tŷ
newydd (C3) 3 ystafell wely yn eu lle.
Tynnwyd sylw at y
ffurflen sylwadau hwyr
a)
Amlygodd yr Uwch Swyddog
Cynllunio mai cais llawn
ydoedd i ddymchwel tŷ deulawr presennol ac adeiladu tŷ newydd deulawr
3 ystafell wely yn ei le. Yn ogystal, bydd bwriad cynnal newidiadau allanol gan
gynnwys gwaredu modurdy unllawr presennol a chreu
mannau parcio. Byddai'r tŷ newydd, or un ôl troed yn cynnig lolfa,
ystafell fwyta/cegin, ystafell gawod a chyntedd ar y llawr daear a tair
ystafell wely ac ystafell ymolchi ar y llawr cyntaf.
Nodwyd bod yr ymgeisydd wedi cadarnhau y bydd
yr eiddo yn dŷ cymdeithasol gyda Tim Opsiynau Tai Cyngor Gwynedd yn arwain
ar y broses o glustnodi’r eiddo ar y cyd gyda Cynefin i ddefnyddwyr ar restr
aros. Ategwyd bod bwriad ei osod fel eiddo rhent canolraddol, ar flaenroaeth fyddai edrych ar y ddeiliadaeth yma i gychwyn,
ac os hynny ei hysbysebu drwy Tai Teg.
Eglurwyd bod y safle wedi ei leoli y tu allan i unrhyw ffin ddatblygu
gyfredol ac felly yng nghefn gwlad agored o fewn dynodiadau Ardal o Harddwch
Naturiol Eithriadol Llŷn a Thirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol
Llŷn ac Enlli. Yn gyfochrog i’r safle ceir dau dŷ ar wahân a ffordd
gyhoeddus ddi-ddosbarth yn rhedeg ar hyd ffin ddwyreiniol y safle. Nodwyd bod
yr adeilad presenol
mewn cyflwr bresgus a ffens ddiogelwch yn gwarchod y
safle.
Cyflwynwyd y cais
i’r Pwyllgor Cynllunio am benderfyniad yn dilyn derbyn sylwadau’r Aelod Lleol a
gadarnhaodd ei fod yn gwrthwynebu’r bwriad.
Ystyriwyd bod y bwriad yn cydymffurfio gyda
chanllawiau a pholisïau cynllunio ac felly roedd y swyddogion yn argymell caniatáu y cais gydag
amodau oedd wedi eu rhestru yn yr adroddiad ynghyd ag amodau ychwanegol yn
ymwneud a chytuno gorffeniadau, drysau, ffenestri a manylion triniaethau ffin.
b)
Yn manteisio ar yr hawl i
siarad, nododd yr Asiant y sylwadau canlynol
·
Y bwriad yw dymchwel yr
eiddo presennol ac adeiladu tŷ newydd, 3 llofft fydd yn diwallu’r
anghenion tai lleol
·
Bod Ael Y Bryn wedi bod
ym mherchnogaeth Cynefin ers iddo gael ei adael iddynt mewn ewyllys
·
Yn cydnabod bod yr eiddo
wedi bod yn wag ers tro, ond heriol oedd cael cynllun ar ei gyfer oedd yn hyfyw
a chynaliadwy
·
Nid yw’r eiddo yn addas
yn ei ffurf bresennol ar gyfer teulu
·
Nid yw’n cwrdd gyda
safonau ansawdd tai Llywodraeth Cymru ac ni fuasai gwaith atgyweirio yn ei
ffurf strwythurol bresennol yn bodloni’r safonau chwaith, e.e., yr adroddiad
strwythurol yn amlygu bod y grisiau presennol yn creu risg i unrhyw breswylydd
ac y byddai eu hail wneud yn golygu colli un stafell wely
·
Opsiwn gorau fyddai
dymchwel a chreu eiddo newydd fydd yn cydymffurfio gyda gofynion Llywodraeth
Cymru ar gyfer tai newydd
·
Byddai Cynefin yn arwain
ar y gwaith gyda chefnogaeth grant gan Lywodraeth Cymru fydd yn cael ei reoli
drwy raglen datblygu Cyngor Gwynedd - bydd yn cyfarch Strategaeth Tai Cyngor
Gwynedd
·
Bod Cynefin wedi
ymgynghori a chydweithio gydag ymgynghorwyr perthnasol i sicrhau bod y
cynlluniau yn dderbyniol ac hefyd wedi cyfarfod gyda Chyngor Cymuned Aberdaron
a swyddogion Cyngor Gwynedd i drafod y cynlluniau - diolchwyd iddynt am eu
sylwadau.
·
Er yn cydnabod pryderon
gan rai am y dyluniad ac nad oedd yn gweddu i’r ardal, nodwyd bod bwriad ail
ddefnyddio cerrig o’r hen dŷ ar y tŷ newydd
·
Bod y cais yn
cydymffurfio gyda pholisïau cynllunio
·
Bod bwriad gosod y
tŷ newydd ar sail rent gan flaenoriaethu rhent canolraddol drwy bolisïau
Tai Teg sydd yn blaenoriaethu cysylltiad lleol fel rhan o’u gofynion
·
Bod y rhestr aros yn
dangos bod angen eiddo yn Rhiw
·
Bod Tai Teg yn darparu
tai i bobl leol, gan gynnwys rhai sydd yn siarad Cymraeg
·
Yn gofyn i’r Pwyllgor
gymeradwyo’r cais am dŷ fforddiadwy yn Rhiw
c)
Yn manteisio ar yr hawl i
siarad, nododd yr Aelod Lleol y sylwadau canlynol
·
Bod Ael y Bryn yn fwthyn
traddodiadol sydd yn rhan ehangach o glwstwr o fythynnod traddodiadol Mynydd y
Rhiw sydd yn gorwedd ynghanol AHNE LlŷN
·
Yn rhan o Arfordir
Treftadaeth Llyn ac yn ymylu ar SAC Ardal Cadwraeth Penllyn a'r Sarnau.
Bythynnod a ddylasai cael eu gwarchod rhag datblygiadau fel hyn
·
Y cais arfaethedig yn
groes i'r polisïau canlynol: AMG1 Gwrthodir ceisiadau a fydd yn amharu'n
negyddol ar olygfeydd i mewn ac allan o'r AHNE; AMG3; AMG4; PS19 Bydd y
cynghorau 'n rheoli datblygiadau er mwyn gwarchod a lle bo'n berthnasol gwella
amgylchedd naturiol cefn gwlad ac arfordir ardal y cynllun a gwrthodir cynigion
a fydd yn cael effaith sylweddol andwyol arnynt.
·
Y datblygiad newydd yn
groes i Awyr Dywyll AHNE Llŷn
·
Bod Ael y Bryn wedi ei
adael i Dai Eryri / Cynefin mewn ewyllys gan y cyn-berchennog gydag amod bod
teulu ifanc lleol yn ymgartrefu ynddo - hyn wedi digwydd ddeuddeg mlynedd yn ôl
·
Y teimlad yn lleol yw
bod Cynefin wedi amddifadu teulu lleol o gael cartref a gyda’r eiddo wedi bod
yn wag dros ddegawd, y gwaith strwythurol wedi dirywio
·
Yn dilyn cyflwyniad gan
Cynefin yn egluro’r opsiwn i ddymchwel, amlygwyd y rhesymeg dros hynny gan nodi
bod gofyn i’r eiddo ennill sgôr gradd A effeithlonrwydd ynni - i gyrraedd
hynny, dymchwel ac ail adeiladu fyddai’r unig opsiwn i sicrhau grant
·
Er derbyn y rhesymeg,
rhaid i’r tŷ newydd fod yn debyg i’r eiddo gwreiddiol a gweddu i’r ardal a
chadw cymeriad - nid oed ymdrech ddigonol wedi ei wneud gyda’r cais arfaethedig
i sicrhau hyn
·
Yn ôl sylwadau’r Swyddog
AHNE, nodwyd bod yr adeilad traddodiadol yn cyfrannu at gymeriad yr AHNE a’i
fod yn awgrymu amod yn sicrhau y byddai angen ffenestri traddodiadol eu maint i
weddu a chyfyngu llif-goleuadau. Serch hynny, nid yw’r amodau hyn wedi eu
cynnwys yn yr adroddiad - pam felly holi am sylwadau? Ystyriwyd bod dyletswydd
ar y pwyllgor i ystyried sylwadau ac amodau'r Swyddog AHNE
·
Bod gormod o glading plastig ar gynllun y tŷ newydd – nid yw hyn yn
gweddu - angen mwy o ddefnydd carreg naturiol
·
Dim yn gofyn i’r
Pwyllgor wrthod y cais gan y byddai hyn yn amddifadu grant i adnewyddu’r bwthyn
fydd o ganlyniad yn sefyll yn wag, ond rhaid gwneud gwelliannau i’r cais i
weddu’r ardal a chadw cymeriad Ael y Bryn.
ch) Cynigiwyd ac eiliwyd cynnal ymweliad safle
Rheswm: Bod clystyrau o fythynnod
traddodiadol yn cael eu colli - angen rhoi cyfle i’r Pwyllgor ymgyfarwyddo a’r
lleoliad naturiol yma i asesu effaith weledol y safle
d)
Yn ystod y drafodaeth
ddilynol, nodwyd y sylwadau canlynol gan yr Aelodau:
·
Nad oes angen tŷ
modern, fel tŷ o Hollywood ynghanol bythynnod
traddodiadol
·
Bod angen cynllun a dyluniad sydd yn gweddu i’r
ardal
·
Bod ymweliad safle yn dileu y grant – adeiladu
tŷ i bobl leol yw’r flaenoriaeth
PENDERFYNWYD: Gohirio penderfyniad a chynnal
ymweliad safle
Dogfennau ategol: