Agenda item

Alwen Williams (Prif Weithredwr) i gyflwyno’r adroddiad.

Penderfyniad:

Cytuno ar y broses ar gyfer recriwtio a phenodi Ymgynghorwyr Anweithredol yn unol â gofynion Deddf Caffael 2023 a rheoliadau cysylltiedig.

a)    Yn ogystal â'r gofynion Swydd a Phersonol a fabwysiadwyd, bydd pecyn caffael yn cael ei baratoi gyda meini prawf dyfarnu perthnasol

b)     Hysbyseb – Bydd y rolau Ymgynghorydd Anweithredol yn cael eu hysbysebu ar wefan Uchelgais Gogledd Cymru a sianeli cyfryngau cymdeithasol (Gorffennaf 2025) ac fel sy'n ofynnol gan y Ddeddf

c)    Ceisiadau – Gofynnir i ymgeiswyr sydd â diddordeb gyflwyno eu CV a'u llythyr eglurhaol yn nodi pam eu bod eisiau'r rôl (Gorffennaf 2025)

d)    Asesu a Rhestr Fer – Bydd llythyrau eglurhaol a CVs yn cael eu hasesu yn erbyn y disgrifiadau  rôl gan yr SRO a'r Prif Weithredwr a chynrychiolydd o'r Swyddfa Rheoli Portffolio a chytunir ar restr fer i gael eu gwahodd i gyfweliad (ar ddyddiad i'w gadarnhau ym mis Awst)

e)    Cyfweliadau – Yna bydd ymgeiswyr ar y rhestr fer yn cael eu cyfweld gan banel a fydd yn cynnwys y Cadeirydd, yr Is-gadeirydd, yr SRO, y Prif Weithredwr a'r Swyddog Monitro ynghyd â thrydydd aelod Etholedig o’r Is-bwyllgor (i’w gadarnhau) a fydd yn gwneud argymhellion i'w penodi i'r Is-bwyllgor Lles Economaidd (ar ddyddiad i’w gadarnhau ym mis Medi) yn seiliedig ar y sgoriau terfynol ar ôl y cyfweliad.

f)      Penodiadau – penodiadau terfynol yn cael ei gwneud gan yr Is-bwyllgor Lles Economaidd (3 Hydref 2025)

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Prif Weithredwr.

PENDERFYNWYD

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

Ym mis Mawrth 2025, cymeradwyodd y Cyd-bwyllgor Corfforedig y Cylch Gorchwyl a’r broses benodi ar gyfer Bwrdd Busnes Ymgynghorol newydd yn dilyn trosglwyddo’r Cynllun Twf ynghyd â chymeradwyo’r disgrifiadau rôl ar gyfer dau Ymgynghorydd Anweithredol newydd.

Awdurdododd y Cyd-bwyllgor Corfforedig y Prif Weithredwr dros dro i gymryd yr holl gamau angenrheidiol i gaffael ymgeiswyr i’w hargymell i’w penodi i Is-bwyllgor Lles Economaidd  CBC.

TRAFODAETH

Eglurwyd bod yr adroddiad hwn yn diweddaru Aelodau ar drafodaethau sydd wedi cael eu cynnal gyda Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU ynglŷn â recriwtio Ymgynghorwyr Anweithredol ac egluro’r broses o benodi’r unigolion hynny.

Atgoffwyd bod y penderfyniad i benodi dau Ymgynghorwr Anweithredol wedi cael ei wneud yng nghyfarfod mis Mawrth 2025 o’r Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru. Eglurwyd byddai’r Ymgynghorwyr yn gweithio er mwyn cefnogi’r Cynllun Twf gan eu bod yn unigolion a fyddai gyda phrofiad sylweddol o fewn y sector breifat a masnachol. Ymhelaethwyd byddai hyn yn eu galluogi i wneud penderfyniadau yn effeithiol.

Manylwyd byddai’r Ymgynghorwyr Anweithredol yn cefnogi swyddogion y Swyddfa Rheoli Portffolio yn ogystal â’u penodi yn Gadeirydd ac Is-gadeirydd y Bwrdd Busnes Ymgynghorol sydd yn y broses o gael eu sefydlu. Ychwanegwyd byddent yn mynychu pwyllgorau’r Cyd-bwyllgor Corfforedig mewn rôl ymgynghorol.

Adroddwyd bod cyllidebau a disgrifiadau rôl eisoes wedi cael eu cymeradwyo gan y Bwrdd Uchelgais Economaidd a Chyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd, gan gadarnhau bod trafodaethau wedi cael eu cynnal gyda Llywodraeth Cymru er mwyn cadarnhau’r cyllidebau yn ogystal â’r broses penodi. Manylwyd bod y gyllideb yn caniatáu tâl o hyd at £30,000 yn flynyddol ar gyfer pob Ymgynghorydd Anweithredol, gyda £10,000 ychwanegol ar gyfer y Cadeirydd a £5,000 ychwanegol ar gyfer yr Is-gadeirydd. Cadarnhawyd bod y ffigyrau hyn o fewn yr uchafswm o £50,000 yr Ymgynghorydd a gymeradwywyd o fewn trafodaethau blaenorol.

Esboniwyd bydd yr Ymgynghorwyr Anweithredol yn cael eu penodi drwy weithdrefn gystadleuol agored, gan bwysleisio bod gofynion penodol yn cael eu dilyn er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â Deddf Caffael 2023 ac unrhyw Reoliadau cysylltiedig. Manylwyd ar y broses recriwtio gan fanylu bydd hysbyseb yn cael ei ryddhau ar wefan y Cyd-bwyllgor hyd at ddiwedd mis Gorffennaf, gyda chyfweliadau yn cael eu cynnal ym mis Medi cyn cadarnhau penodiadau yng nghyfarfod 03 Hydref 2025 o’r Is-bwyllgor hwn.

Cadarnhawyd bod Uchelgais Gogledd Cymru wedi derbyn Cyngor cyfreithiol er mwyn sicrhau bod yr Ymgynghorwyr yn cael eu penodi’n briodol o fewn y trefniant llywodraethu.

Croesawyd y broses o benodi Ymgynghorwyr Anweithredol gan yr Aelodau gan nodi y byddent yn ychwanegu budd mawr i brosesau’r Cyd-bwyllgor Corfforedig.

Mewn ymateb i ymholiad, cadarnhaodd y Prif Weithredwr bod disgrifiadau rolau’r Ymgynghorwyr Anweithredol yn gofyn iddynt oruchwylio gwaith a phrosiectau’r Cyd-bwyllgor Corfforedig yn ei gyfanrwydd gan nodi bydd elfennau Trafnidiaeth Strategol a Chynllunio yn rhan o’r swyddogaeth. Fodd bynnag, dymunir targedu ffocws tuag at y Cynllun Twf fel man cychwyn cyn ei ymestyn ehangach.

Mewn ymateb i ymholiad, cadarnhaodd y Prif Weithredwr ei fod yn hanfodol bod yr Ymgynghorwyr Anweithredol yn rhan o broses o lunio’r Bwrdd Busnes Ymgynghorol o fewn eu rôl fel Cadeirydd ac Is-gadeirydd. Cadarnhawyd bod yr amserlen o ddatblygu’r Bwrdd yn digwydd yn dilyn cadarnhau penodiadau’r Ymgynghorwyr Anweithredol. Ymhelaethwyd bydd adroddiad ychwanegol yn cael ei gyflwyno i’r Is-bwyllgor hwn er mwyn manylu ar yr amserlen a chamau o sefydlu’r Bwrdd Busnes Ymgynghorol pan yn amserol.

Mewn ymateb i ymholiadau ar dermau cyflogaeth yr Ymgynghorwyr Anweithredol, cadarnhaodd y Swyddog Monitro nad oes modd iddynt fod yn Aelodau cyfetholedig o unrhyw gyfarfod gan eu bod yn swyddogion cyflogedig. Cadarnhawyd mai cyflogi ymgynghorwyr drwy gytundeb caffael yw’r bwriad yn dilyn cyngor cyfreithiol, ac nid yw hyn yn arwain at agweddau megis cyfrannu at bensiynau fel rhan o’r gyflogaeth. Ymhelaethodd y Prif Weithredwr byddai cytundeb yr Ymgynghorwyr yn weithredol am dymor o ddwy flynedd.

Yn dilyn ymholiad ynglŷn â’r cyfweliadau, cynigwyd ac eiliwyd cynnig lle i aelod arall o’r Is-bwyllgor bod yn bresennol fel rhan o’r Panel Cyfweld. Nodwyd bod y Panel eisoes yn cynnwys y Cadeirydd, Is-gadeirydd, Prif Weithredwr, a’r Uwch Swyddog Cyfrifol (SRO) ac ystyriwyd y byddai’n ddefnyddiol i aelod arall o’r Is-bwyllgor bod yn bresennol i ennyn profiad a bod yn rhan o’r penderfyniad. Gwahoddwyd yr Aelodau i ddatgan diddordeb os ydynt yn dymuno bod yn rhan o’r Panel a fyddai’n cael ei gynnal ym mis Medi, y tu hwnt i’r cyfarfod hwn.

Dogfennau ategol: