Agenda item

Cynnig i godi 5 tŷ fforddiadwy, gan gynnwys gwaith i ffurfio ffordd fynediad fewnol, gwaith tirweddu caled a meddal a darpariaethau draenio cysylltiedig ar dir ger Maes Llwyd, Llanystumdwy. 

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Rhys Tudur

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Caniatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r amodau canlynol:

 

1.     5 mlynedd.

2.     Yn unol â’r cynlluniau.

3.     Llechi

4.     Tynnu hawliau datblygu a ganiateir.

5.     Materion Fforddiadwy

6.     Defnydd C3 yn unig

7.     Cytuno Cynllun Rheoli Datblygu a’r Amgylchedd

8.     Enw Cymraeg i’r stad a’r tai.

9.     Materion bioamrywiaeth

10.  Materion Gwarchod y Cyhoedd

11.  Materion Priffyrdd:

-        Rhaid cyflwyno Cynllun Rheoli Trafnidiaeth Adeiladu (CTMP), Cynllun Rheoli Traffig (TMP) ac arolwg cyn-gyflwr o gyrbau ac arwyneb Maes Llwyd i'r Awdurdod Cynllunio a'u cytuno gydag ef cyn i unrhyw waith ddechrau ar y safle.

-        Rhaid cwblhau'r lle parcio ceir yn gwbwl unol fel y dangoswyd cyn preswylio yn yr uned(au) preswylio.

-        Rhaid cwblhau’r ffordd a’r palmentydd i’r cwrs sylfaen a hefyd y goleuadau’n gweithio cyn i unrhyw un o’r tai mae'r ffordd honno yn ei gwasanaethu cael eu meddiannu. Rhaid gosod cyrbiau wrth ochrau'r ffordd/ffyrdd stad gan gwblhau wynebau'r gerbydlon a'r droedffordd a'u goleuo cynbod preswylwyr yn yr annedd olaf ar y stad neu o fewn 2 f lynedd i ddyddiad cychwyn y gwaith ar y safle neu unrhyw gytundeb arall y cytunir arno mewn ysgrifen gyda'r Awdurdod Cynllunio Lleol, pa un bynnag fo gyntaf.

-        Rhaid i’r ymgeisydd gymryd pob gofal i atal dŵr wyneb o gwrtil y safle arllwys i'r briffordd.

 

Nodiadau:

Nodyn SuDS

Nodyn Dŵr Cymru

Cyfarwyddir yr ymgeisydd i ysgrifennu at y Rheolwr Gwaith Stryd i gael hawl o dan Adran 171/184 o’r Ddeddf Priffyrdd, 1980, i gario unrhyw waith allan o fewn y ffordd/palmant / ymyl glas sydd yn angenrheidiol i adeiladu’r fynedfa

 

Cofnod:

Cynnig i godi 5 tŷ fforddiadwy, gan gynnwys gwaith i ffurfio ffordd fynediad mewnol, gwaith tirweddu caled a meddal a darpariaethau draenio cysylltiedig ar dir ger Maes Llwyd, Llanystumdwy.

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

 

a)           Amlygodd Hyfforddai Proffesiynol Cynllunio bod Polisi TAI 16 (‘Safleoedd Eithrio’) yn galluogi datblygu tai ar safleoedd sydd y tu allan ond yn ffinio â ffiniau datblygu ond bod rhaid sicrhau fod y bwriad yn cydymffurfio yn effeithiol â gofyniad y Polisi. Adroddwyd bod y  bwriad ar gyfer 100% o dai fforddiadwy canolradd ar ffurf  rhan - berchnogaeth. Cyflwynwyd aolwg anghenion tai gyda’r cais oedd yn datgan bod angen am y math yma o dai yn ardal Llanystumdwy ar sail fod y rhai sydd mewn angen ar gyfer tai fforddiadwy yn cael eu prisio allan o’r farchnad. Yn ogystal roedd yr Uned Strategol Tai wedi cadarnhau fod y bwriad yn cyfarch yr angen ar gyfer unedau fforddiadwy canolradd yn lleol a bod diffiniad lleol yn yr achos yma yn golygu pobl sydd mewn angen am dai fforddiadwy ac sydd â chysylltiad 5 mlynedd gyda Phentref Lleol Llanystumdwy neu ei gefnwlad wledig. O ganlyniad, ystyriwyd bod yr angen lleol wedi ei brofi am dai fforddiadwy, a byddai unrhyw ganiatâd yn destun amod cynllunio ar gyfer sicrhau’r ddarpariaeth fforddiadwy.

 

Yng nghyd-destun lleoliad y cais, ystyriwyd bod y safle yn addas ar gyfer datblygiad preswyl o’r fath gan ei fod yn cynnig estyniad i stad o dai presennol ac y byddai’n cyd-fynd gyda defnydd presennol y tir wrth ei ymyl, ac oherwydd natur fechan y datblygiad ar gyfer 5 tŷ. Nodwyd bod y datganiad cynllunio yn egluro bod yr unedau am gael eu datblygu gan Dŷ Gwynedd ac yna eu gwerthu ar sail model ecwiti sydd am alluogi i’r prynwr brynu’r eiddo am bris fforddiadwy. Ymgynghorwyd gyda’r Uned Strategol Tai oedd yn nodi bod 68 o bobl ar gofrestr tai cyffredin am eiddo cymdeithasol yn yr ardal, a bod 19 o ymgeiswyr ar gofrestr Tai Teg am eiddo canolradd gyda’r gofyn uchaf am dai dwy ystafell wely a thŷ tair ystafell wely'r ail fwyaf poblogaidd. Nododd yr Uned Strategol fod y cynllun arfaethedig yn cyfarch yr angen yn yr ardal ac yn nodi bod y cynlluniau yn cyfrannu’n uniongyrchol at nod Cynllun Gweithredu Tai Cyngor Gwynedd i ddarparu mwy o dai i gwrdd â’r galw uchel bresennol sydd yn bodoli yn y Sir.

 

Saif y safle o fewn 25m i ddau adeilad rhestredig gradd II, ac Ardal Cadwraeth Llanystumdwy. Adroddwyd mai tai cerrig sydd yn amgylchynu’r adeiladau hyn ar hyn o bryd, ac oherwydd bod elfennau o gerrig am fod yn bresennol yn edrychiadau’r tai arfaethedig a’i gysylltiad gyda stad Maes Llwyd, ystyriwyd nad yw’n debygol y bydd y datblygiad arfaethedig yn cael effaith andwyol sylweddol ar yr adeiladau rhestredig nac Ardal Cadwraeth Llanystumdwy. Ystyriwyd felly bod y datblygiad yn cydymffurfio a pholisi AT1 a PS 20 y CDLl.

 

Tynnwyd sylw at yr Asesiad Effaith Iaith Gymraeg oedd wedi ei gyflwyno i gefnogi’r bwriad a’r Uned Iaith wedi cadarnhau bod digon o dystiolaeth wedi dod i law i gefnogi’r casgliad y bydd y datblygiad yn debygol o gael effaith fuddiol gyffredinol ar yr ardal.

 

         Roedd y swyddogion yn argymell caniatáu’r cais gydag amodau.

b)           Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr Aelod Lleol y sylwadau canlynol;

·        Ei fod yn gefnogol i’r cais am 5 tŷ

·        Bod y raddfa yn dderbyniol ar gyfer yr angen yn lleol

·        Bod bwriad cyflwyno cynlluniau rhan berchnogi sydd yn gynllun gwerth ei annog – yn croesawu’r treial yma

·        Pryder wedi amlygu yn y sylwadau am y data sydd yn dangos y galw am dai - er yn ddryslyd, o ran y model yma ystyriwyd bod 5 ar gofrestr  prynu Tai Teg a 10 ar gofrestr rhentu Tai Teg ac felly hyn i’w groesawu. Be byddai’r cais am 15-20 tŷ, yna byddai angen gwell data i gyfiawnhau’r angen

·        Yn gefnogol ac yn falch o’r cynlluniau rhan berchnogi  ar gyfer y safle

 

c)           Cynigiwyd ac eiliwyd caniatáu y cais gan nodi ei fod yn gynllun am 5 tŷ o dan gynllun Tai Gwynedd. Braf fyddai gweld cynlluniau tebyg ar draws Gwynedd.

 

PENDERFYNWYD: Caniatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r amodau canlynol:

 

1.            5 mlynedd.

2.            Yn unol â’r cynlluniau.

3.            Llechi

4.            Tynnu hawliau datblygu a ganiateir.

5.            Materion Fforddiadwy

6.            Defnydd C3 yn unig

7.            Cytuno Cynllun Rheoli Datblygu a’r Amgylchedd

8.            Enw Cymraeg i’r stad a’r tai.

9.            Materion bioamrywiaeth

10.          Materion Gwarchod y Cyhoedd

11.          Materion Priffyrdd:

·        Rhaid cyflwyno Cynllun Rheoli Trafnidiaeth Adeiladu (CTMP), Cynllun Rheoli Traffig (TMP) ac arolwg cyn-gyflwr o gyrbau ac arwyneb Maes Llwyd i'r Awdurdod Cynllunio a'u cytuno gydag ef cyn i unrhyw waith ddechrau ar y safle.

·        Rhaid cwblhau'r lle parcio ceir yn gwbwl unol fel y dangoswyd cyn preswylio yn yr uned(au) preswylio.

·        Rhaid cwblhau’r ffordd a’r palmentydd i’r cwrs sylfaen a hefyd y goleuadau’n gweithio cyn i unrhyw un o’r tai mae'r ffordd honno yn ei gwasanaethu cael eu meddiannu. Rhaid gosod cyrbiau wrth ochrau'r ffordd/ffyrdd stad gan gwblhau wynebau'r gerbydlon a'r droedffordd a'u goleuo cyn bod preswylwyr yn yr annedd olaf ar y stad neu o fewn 2 f lynedd i ddyddiad cychwyn y gwaith ar y safle neu unrhyw gytundeb arall y cytunir arno mewn ysgrifen gyda'r Awdurdod Cynllunio Lleol, pa un bynnag fo gyntaf.

·        Rhaid i’r ymgeisydd gymryd pob gofal i atal dŵr wyneb o gwrtil y safle arllwys i'r briffordd.

 

Nodiadau:

Nodyn SuDS

Nodyn Dŵr Cymru

Cyfarwyddir yr ymgeisydd i ysgrifennu at y Rheolwr Gwaith Stryd i gael hawl o dan Adran 171/184 o’r Ddeddf Priffyrdd, 1980, i gario unrhyw waith allan o fewn y ffordd/palmant / ymyl glas sydd yn angenrheidiol i adeiladu’r fynedfa

 

 

Dogfennau ategol: