Agenda item

 

Cynnig i greu Llwybr Troed cyhoeddus yng Nghymuned Llanystumdwy o dan Adran 26 Deddf Priffyrdd 1980,  dros ddarn o dir sydd yn rhan o eiddo preifat a elwir yn Fferm Afonwen, Glanllynnau a Tŷ’n Morfa i hwyluso Prosiect Llwybr Arfordir Cymru a buddiannau trigolion yr ardal.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Cymeradwyo cais ar gyfer:

 

a)    Gorchymyn Creu Adran 26 er mwyn sicrhau mynediad cyhoeddus dros ran sylweddol (2.63km) o dir mewn perchnogaeth breifat.

b)    Os na dderbynnir gwrthwynebiad ir gorchymyn, neu os derbynnir gwrthwynebiad sydd cael ei dynnu nôl ar ddyddiad hwyrach fod y Gorchymyn yn cael ei gymeradwyo.

c)    Os derbynnir gwrthwynebiad sydd ddim yn cael ei dynnu’n ôl bod y Cyngor yn cyflwyno`r gorchymyn creu i PCAC am ddyfarniad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd cynnig gan Swyddog Prosiect Llwybr Arfordir i greu llwybr cyhoeddus newydd yng Nghymuned Llanystumdwy dros ddarn o dir sydd yn rhan o eiddo preifat Fferm Afonwen, Glanllynnau a Tŷ’n Morfa fyddai’n hwyluso Prosiect Llwybr Arfordir Cymru a buddiannau trigolion yr ardal.

 

Nodwyd, pe byddai’r Pwyllgor yn cymeradwyo’r gorchymyn, bydd angen dilyn trefn statudol fyddai’n dechrau gyda chyhoeddi rhybudd bod gorchymyn wedi ei wneud a chynnal ymgynghoriad eang. Eglurwyd, os na ddaw gwrthwynebiadau i law, bydd y gorchymyn yn parhau, ond petai gwrthwynebiadau yn cael eu derbyn bydd y Cyngor yn cyflwyno’r holl dystiolaeth at Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PCAC) i benderfynu arno. Pwysleisiwyd nad y Cyngor fydd yn gwneud y penderfyniad -  bydd archwilydd annibynnol yn cael ei apwyntio gan PCAC.

 

Eglurwyd bod y cynnig yn amlygu bwriad i greu darn newydd o Lwybr Arfordir Cymru fydd yn rhoi mynediad ar droed rhwng ardal Afonwen a rhwydwaith llwybrau presennol yng nghyffiniau Ty’n Morfa.

 

Er yr ymdrech i sicrhau cytundeb gwirfoddol, amlygwyd nad oedd y tirfeddianwyr yn gweld angen am y llwybr ac felly rhaid oedd ystyried opsiynau posib a dilyn trefn creu drwy orfodaeth. Bydd y llwybr arfaethedig yn rhedeg oddeutu 2.63km ar ochr fewndirol y rheilffordd. Ystyriwyd bod y cynnig yn welliant i’r Llwybr Arfordir, yn welliant sylweddol i’r llwybr presennol (sydd wedi ei leoli ar hyn o bryd ar ffordd brysur iawn) ac yn cyfarch gofynion Llywodraeth Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru - yr opsiwn yn un rhesymol gyda chefnogaeth yn lleol, gan yr Aelod Lleol, a’r Cyngor Cymuned. Os caiff y cynnig ei gymeradwyo, bydd y drws yn agored i’r tirfeddianwyr drafod opsiynau posib.

 

a)           Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr Aelod Lleol y sylwadau canlynol:

·        Ei fod, mewn egwyddor yn croesawu’r cynllun

·        Bod diffyg llwybr cyhoeddus ar hyd yr arfordir rhwng Afonwen ac Afon Dwyfor

·        Braf fyddai gweld llwybr yn dilyn yr arfordir

·        Bod y dargyfeiriad (detour) yn sylweddol ar hyn o bryd - byddai dilyn yr arfordir yn fwy delfrydol

·        Braf fydd cael barn y tirfeddiannwyr os am lwybr amgen gwell

·        Bod hwn yn gam sylweddol - y bwriad yn un i’w ganmol

·        A oes ystyriaeth wedi ei roi i osod y llwybr ochr fewnol i’r rheilffordd neu ydy hyn i wneud efo erydiad tir ger y môr?

 

b)               Cynigiwyd ac eiliwyd cymeradwyo’r cais

 

ch)       Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd y sylwadau canlynol gan yr Aelodau:

·        Yn gobeithio bydd y tirfeddianwyr yn barod i drafod opsiynau amgen

·        Gwych gweld datblygiad o’r llwybr a gweld pobl yn gwneud defnydd ohono

·        Bod y ffordd, y mae’r llwybr yn rhan ohono ar hyn o bryd, yn eithriadol o brysur

·        Yn cefnogi’r cais ar gyfer cerddwyr yn unig

 

c)               Mewn ymateb i gwestiwn a fyddai modd gwneud y llwybr yn un ar gyfer ceffylau hefyd, nodwyd bod y llwybr yma yn ymuno â llwybr troed 54 ac oherwydd bod bwriad i’r llwybr redeg gyfochrog â rheilffordd swnllyd, ystyriwyd na fyddai’n rhesymol i ddefnydd ceffylau.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â therfyn y cynllun yn Tŷ’n y Morfa ac oes oedd cynlluniau i uwchraddio’r ardal a chysylltu ymlaen gyda’r llwybr arfordir, nodwyd byddai rhaid adeiladu pont oddeutu 36m dros yr afon i barhau â’r llwybr. Er costau sylweddol, nodwyd mai dyma’r dyhead i’r dyfodol, ond nid oedd yn rhan o’r cynllun yma.

 

Mewn ymateb i gwestiwn pam bod rhaid i’r llwybr fod ar ochr fewndirol y rheilffordd ac felly ni fydd modd cael golygfeydd o’r môr, ac a oedd modd ystyried ‘automatic roll back’ fel sydd yn cael ei wneud yn Lloegr, nodwyd mai Network Rail yw perchennog y tir ar ochr y môr ac nid oeddynt yn fodlon gosod llwybr yma. Ategwyd nad oedd pwerau roll back yng Nghymru

 

PENDERFYNWYD: Cymeradwyo cais ar gyfer:

 

a)     Gorchymyn Creu Adran 26 er mwyn sicrhau mynediad cyhoeddus dros ran sylweddol (2.63km) o dir mewn perchnogaeth breifat.

b)     Os na dderbynnir gwrthwynebiad i'r gorchymyn, neu os derbynnir gwrthwynebiad sydd cael ei dynnu nôl ar ddyddiad hwyrach fod y Gorchymyn yn cael ei gymeradwyo.

c)     Os derbynnir gwrthwynebiad sydd ddim yn cael ei dynnu’n ôl bod y Cyngor yn cyflwyno’r gorchymyn creu i PCAC am ddyfarniad.

 

Dogfennau ategol: