Agenda item

Adeiladu 8 annedd (dosbarth defnydd C3)

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Geraint Parry

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Dirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Amgylchedd ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i gytundeb 106 ar gyfer tŷ fforddiadwy ac amodau’n ymwneud a’r canlynol:

 

1.     Amser o ran cychwyn y datblygiad

2.     Unol a’r cynlluniau

3.     Llechi ar y to

4.     Deunyddiau

5.     Defnydd C3 i’r holl dai

6.     Enw Cymraeg i’r stad a’r tai.

7.     Arwyddion Cymraeg neu ddwyieithog

8.     Oriau gwaith adeiladu

9.     Carreg ddyddiad Capel Gwylfa i’w gosod yn ei lle yn unol gyda’r cynllun cymeradwy cyn meddiannu’r tai.

10.  Unol gydag Adroddiad Archwiliad Halogiad Tir.

11.  Amod CNC yn ymwneud gyda llygredd na chafodd ei ganfod.

12.  Cyflwyno a chytuno manylion draeniad dŵr budr.

13.  Amodau Adran Trafnidiaeth (Llywodraeth Cymru) yn ymwneud gyda’r fynedfa a diogelwch ffyrdd.

14.  Gwaith tirlunio yn unol gyda’r manylion gyflwynwyd yn y tymor plannu cyntaf yn dilyn meddiannu / cwblhau’r datblygiad ac ail blannu os oes unrhyw goeden / gwrych yn methu o fewn 5 mlynedd.

15.  Blychau adar ac ystlumod i’w gosod yn unol gyda’r Datganiad Seilwaith Gwyrdd cyn i’r tai cael eu meddiannu am y tro cyntaf.

 

Nodiadau:

Nodyn SuDS

Cyfeirio at sylwadau Dŵr Cymru ac Adran Trafnidiaeth (Llywodraeth Cymru – cyflwyno.

 

Cofnod:

Adeiladu 8 annedd (dosbarth defnydd C3)

 

a)           Amlygodd Hyfforddai Proffesiynol Cynllunio mai cais llawn ydoedd i adeiladu 8 tŷ annedd gyda bwriad o ddarparu 1 tŷ fforddiadwy fel rhan o’r datblygiad, ynghyd ag 18 o lefydd parcio o fewn y safle (2 ar gyfer pob eiddo a 2 ychwanegol ar gyfer ymwelwyr). Nodwyd bod y safle wedi ei leoli oddi fewn i ffin ddatblygu Blaenau Ffestiniog, ac oddi fewn i Safle Treftadaeth y Byd a’r Tirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol.  Eglurwyd bod y safle yn bresennol yn wag gydag adeiladau’r cyn fodurdy wedi eu dymchwel. I’r gogledd o’r safle mae cae chwarae, i’r dwyrain mae cae pêl droed, i’r gorllewin ceir cefnffordd yr A470 ac i’r de mae’r safle yn ffinio gyda thŷ annedd.

 

Cyflwynwyd y cais i Bwyllgor gan ei fod yn gais am 5 neu fwy o dai.

 

Adroddwyd bod y datblygiad yn cael ei gefnogi yn erbyn y lefel cyflenwad dangosol ar gyfer Blaenau Ffestiniog.  Ystyriwyd fod y bwriad yn un derbyniol o ran dwysedd ac yn cwrdd gyda gofynion maen prawf (3) Polisi PCYFF 2 CDLl. Ategwyd y byddai’n briodol gosod amod i’r tai gael eu cyfyngu i ddosbarth defnydd C3 yn unig sef tai annedd i’w defnyddio fel unig neu brif breswylfa.

 

Ystyriwyd bod y cymysgedd a’r math o dai a fwriedir yn dderbyniol ac yn cwrdd gyda’r galw yn lleol - y bwriad yn dderbyniol o ran Polisi TAI 8 a’r CCA - Cymysgedd Tai. Yn unol â Pholisi TAI 15 disgwylir cyfraniad o 10% o dai fforddiadwy - 8 tŷ ac felly bydd disgwyl cyfraniad o 0.8 uned fforddiadwy.  Eglurwyd, pan fydd y gofyniad am dai fforddiadwy yn disgyn o dan 1 uned ar y safle, yna bydd darparu uned fforddiadwy yn parhau i fod yn flaenoriaeth ble’n bosibl.  Ategwyd bod y datblygwr wedi cadarnhau y bydd llain 1 o’r cynllun yn cael ei gynnig fel safle tŷ fforddiadwy.  O ganlyniad, byddai darparu'r un uned yma ar y safle yn cwrdd gyda’r gofynion o ran y nifer unedau fforddiadwy.

 

Yng nghyd-destun effaith ar yr iaith Gymraeg, ystyriwyd  mai effaith niwtral fydd gan y  bwriad arfaethedig ar yr Iaith. Amlygywd bod enwau Cymraeg wedi cael eu hargymell ar gyfer y stad yn y Datganiad Iaith a Chymunedol ac ystyriwyd y byddai’n briodol cynnwys amod i sicrhau enw Cymraeg i’r datblygiad yn unol gyda maen prawf 5 o Bolisi PS 1. 

 

Er bod nifer o ddatblygiadau llinellog gerllaw’r safle mae enghreifftiau o ystadau tai o’r math yma i’w gweld yn yr ardal ac ni ystyriwyd fod ystâd o’r dyluniad dan sylw allan o gymeriad yr ardal.  Byddai’r bwriad dan sylw yn cynnig amrywiaeth ym math a maint y tai ac ystyriwyd fod gosodiad, ymddangosiad, graddfa, uchder a mas y tai arfaethedig yn addas i’r safle.

 

Wedi ystyried yr holl faterion cynllunio perthnasol roedd y swyddogion yn argymell caniatáu’r cais gydag amodau.

 

b)           Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr ymgeisydd y sylwadau canlynol:

·        Bod y cais cynllunio yn un ar gyfer adeiladu 8 tŷ anedd ar safle cyn-fordudy ym Manod gydag elfen fforddiadwy

·        Bod y cynllun yn un addas ac yn ymateb i anghenion lleol – yn dod a manteision cymdeithasol, economaidd ac ieithyddol i’r ardal

·        Y safle, sydd eisoes yn wag, yn gorwedd o fewn ffin datblygu Blaenau Ffestiniog 

·        Bod bwriad darparu 8 tŷ modern gyda threfniant mewnol ymarferol sy’n parchu cymeriad yr ardal, gyda tai Stad yr Ysgol

·        Bydd un uned fforddiadwy a phob eiddo yn cynnwys 2 le parcio, gyda llefydd ychwanegol i ymwelwyr

·        Un o gryfderau’r cynllun yw’r ymrwymiad i ddefnyddio enwau Cynmraeg ar yr eiddo ac i hyrwyddo’r Gymaeg fel rhan naturiol o fywyd cymdeithasol

·        Bod Datganiad Iaith a Chymunedol wedi ei gyflwyno a bod bwriad ymrwymo i barchu ac atgyfnerthu hunaniaeth Gymraeg yr ardal

·        Y datblygiad yn rhoi cyfle i gontractwyr lleol a gweithwyr adeiladu gael gwaith yn ystod cyfnod adeiladu’r prosiect fydd yn golygu incwm lleol, swyddi lleol a buddsoddiad sy’n aros yn y gymuned - yn hanfodol mewn ardal ddifreintiedig fel Blaenau Ffestiniog

·        Y cynllun yn mynd i’r afael ar angen lleol am dai – yn galluogi pobl ifanc a theuluoedd i aros neu ddychwelyd i’r ardal – hyn i helpu cadw’r boblogaeth leol yn fyw a gweithgar.

·        Y cynllun yn cefnogi Ysgol Gynradd Manod sy’n croesawu’r cynllun. Trwy ddenu teuluoedd gyda phlant ifanc, gall y cynllun gyfrannu’n uniongyrchol at gynaliadwyedd yr ysgol – yn cynnig budd uniongyrchol i addysg Cymraeg yn y gymuned

·        Bod gwybodaeth gan yr Uned Strategol Tai yn profi'r angen am dai lleol - mae diffyg tai pâr ar hyn o bryd yn yr ardal

·        Y safle wedi ei leoli drws nesaf i’r parc chwarae sydd yn ddelfrydol i deuluoedd

·        Daw’r cynllun a sawl budd i Manod – tai i bobl lleol, gwaith i gontractwyr lleol, cefnogaeth i’r Gymraeg, darpariaeth barcio priodol ac effaith gadarnhaol ar yr ysgol ar gymuned.

·        Y cynllun yn un cytbwys, cyfrifol a chymdeithasol fuddiol - yn cydymffurfio gyda pholisïau a chanllawiau cynllunio lleol

 

c)           Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr Aelod Lleol y sylwadau canlynol

·        Mai safle Capel Gwylfa ydoedd cyn y modurdy

·        Nad oedd gwrthwynebiadau cryf yn lleol i’r cais

·        Bod angen cadw at yr enwau Cymraeg

·        Bod lle digonol i blant o’r tai yn yr ysgol

·        Yn gefnogol i’r cais, ond yn dymuno gweld amod i hwyluso materion traffig ger mynedfa y datblygiad

 

Mewn ymateb  i gais am amod, nododd y Pennaeth Cynorthwyol, nad oedd yr Asiantaeth Cefnffyrdd wedi gwrthwynebu’r cais a gan mai cefnffordd sydd yma, yr Asiantaeth fyddai’n adolygu’r sefyllfa o ran materion diogelwch. Awgrymwyd i’r Swyddogion Cynllunio gysylltu yn uniongyrchol gyda’r Asiantaeth a Swyddogion Trafnidiaeth y Cyngor i drafod y mater a cheisio sgopio gwelliannau posib. Eglurwyd na ellid amodi hyn ond yn sicr bydd modd cynnal trafodaethau.

 

ch)    Cynigiwyd ac eiliwyd caniatáu y cais

 

d)      Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd y sylwadau canlynol gan yr Aelodau:        

·        Datblygiad fydd yn llenwi darn o dir yn Manod sydd yma

·        Na fydd goredrcyh gan mai caeau chwarae sydd yn ffinio’r datblygiad

 

PENDERFYNWYD: Dirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Amgylchedd ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i gytundeb 106 ar gyfer tŷ fforddiadwy ac amodau’n ymwneud a’r canlynol:

 

1.            Amser o ran cychwyn y datblygiad

2.            Unol a’r cynlluniau

3.            Llechi ar y to

4.            Deunyddiau

5.            Defnydd C3 i’r holl dai

6.            Enw Cymraeg i’r stad a’r tai.

7.            Arwyddion Cymraeg neu ddwyieithog

8.            Oriau gwaith adeiladu

9.            Carreg ddyddiad Capel Gwylfa i’w gosod yn ei lle yn unol gyda’r cynllun cymeradwy cyn meddiannu’r tai.

10.          Unol gydag Adroddiad Archwiliad Halogiad Tir.

11.          Amod CNC yn ymwneud gyda llygredd na chafodd ei ganfod.

12.          Cyflwyno a chytuno manylion draeniad dŵr budr.

13.          Amodau Adran Trafnidiaeth (Llywodraeth Cymru) yn ymwneud gyda’r fynedfa a diogelwch ffyrdd.

14.          Gwaith tirlunio yn unol gyda’r manylion gyflwynwyd yn y tymor plannu cyntaf yn dilyn meddiannu / cwblhau’r datblygiad ac ail blannu os oes unrhyw goeden / gwrych yn methu o fewn 5 mlynedd.

15.          Blychau adar ac ystlumod i’w gosod yn unol gyda’r Datganiad Seilwaith Gwyrdd cyn i’r tai cael eu meddiannu am y tro cyntaf.

 

Nodiadau:

Nodyn SuDS

Cyfeirio at sylwadau Dŵr Cymru ac Adran Trafnidiaeth (Llywodraeth Cymru)

 

Dogfennau ategol: