Agenda item

I ystyried y cais

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Caniatáu y cais

 

Oriau Agor:

 

Dydd Sul 11:00 – 22:00

Dydd Llun 11:00 - 22:00

Dydd Mawrth 11:00 - 22:00

Dydd Mercher 11:00 - 22:00

Dydd Iau 11:00 - 22:00

Dydd Gwener  11:00 - 22:00

Dydd Sadwrn 11:00 - 22:00

 

Gweithgareddau Trwyddedadwy

 

Cyflenwi Alcohol ar ac oddi ar yr Eiddo

 

Dydd Sul 11:00 - 22:00

Dydd Llun 11:00 22:00

Dydd Mawrth 11:00 - 22:00

Dydd Mercher 11:00 - 22:00

Dydd Iau 11:00 - 22:00

Dydd Gwener 11:00 - 22:00

Dydd Sadwrn 11:00 - 22:00

 

Y mesurau ychwanegol, fel y nodir yn rhan M y cais, i'w cynnwys fel amodau ar y drwydded:

  • Hyfforddiant Staff
  • Her 25
  • Bydd alcohol, a archebir fel gwerthiant oddi ar y safle i'w ddanfon allan (tecawê), yn cael ei werthu mewn cynwysyddion wedi'u selio.
  • Bydd pob gwerthiant alcohol arall i'w yfed ar y safle ac oddi arno yn cael ei werthu mewn cwpanau plastig y gellir eu hailddefnyddio o dan gynllun blaendal.
  • TCC yn weithredol ar y safle

 

Cofnod:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.

 

a)                         Adroddiad yr Adran Trwyddedu

 

Cyflwynwyd adroddiad Pennaeth yr Adran Amgylchedd yn manylu ar gais am drwydded eiddo ar gyfer Otto’s Aberdyfi, Unit 2, Information Centre, The Wharf, Seaview Terrace, Aberdyfi, Gwynedd, LL35 0ED. Eglurwyd mai caffi bychan yw’r eiddo wedi ei leoli yng ngherddi y cei yn Aberdyfi sydd gydag ardal eistedd ddynodedig tu allan ac yn wynebu’r môr, i ffwrdd oddi wrth y ffordd a phreswylfeydd. Amlygwyd bod yr ardal yn cael ei rentu gan Harbwr Aberdyfi a Chyngor Gwynedd.

 

Nodwyd bod y caffi yn gwerthu pitsas, brechdanau ac ati o’r eiddo ar gyfer eu bwyta ar yr eiddo yn yr ardal tu allan, neu oddi ar yr eiddo fel pryd ar glyd. Bydd bwriad hefyd gwerthu alcohol i’w yfed ar yr eiddo yn ddyddiol neu ei werthu gyda bwyd pryd ar glyd mewn cynhwysyddion wedi eu selio – yr ymgeisydd yn ceisio am drwydded i werthu alcohol (ar ac oddi ar yr eiddo) o 11:00 – 22:00, o ddydd Llun i Sul. Bydd yr amser agor yn cael ei amrywio yn dymhorol.

 

Nodwyd bod gan Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu dystiolaeth ddigonol bod y cais wedi ei gyflwyno yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol. Cyfeiriwyd at y mesurau yr oedd yr ymgeisydd yn ei argymell i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu ac amlygwyd y byddai’r mesurau hyn yn cael eu cynnwys ar y drwydded.

 

Adroddwyd nad oedd yr Awdurdodau Cyfrifol wedi cyflwyno sylwadau, ond tynnwyd sylw at ymatebion a dderbyniwyd gan Aelodau o’r Cyhoedd a’r Gwasanaeth Morwrol. Roedd y cyhoedd, yn pryderu, o safbwynt diogelwch y gallai cais am unrhyw werthiant alcohol ger y porthladd / harbwr arwain at ddamweiniau gerllaw ardal lle mae teuluoedd â phlant yn mwynhau pysgota cranc. Amlygwyd pryder hefyd,

·        byddai cyfuno gwerthu alcohol gyda gwerthiant bwyd i’w fwyta i ffwrdd o’r eiddo yn cynyddu'r posibilrwydd y bydd Gerddi Wharf yn cael eu defnyddio i fwyta'r bwyd ac yfed unrhyw alcohol a brynwyd ar yr un pryd - hyn yn cynyddu'r posibilrwydd o drafferthion ymddygiad anghymdeithasol, gan gynnwys sŵn annheg ac amhriodol, arogleuon, gwastraff (gan gynnwys gwydr).

·        bod lleoliad y bwyty mewn lle prysur iawn ar yr harbwr yn Aberdyfi – cychod pysgota gweithredol a cherbydau yn lansio a llwytho. Y Gwaun, sydd yn cael ei redeg gan Rheolwr yr Harbwr, yn brysur gyda materion diogelwch.

 

Roedd sylwadau’r Gwasanaeth Morwrol yn nodi pryder nad oedd yr ymgeisydd heb dderbyn caniatâd gan Bwyllgor Ymgynghorol Harbwr Aberdyfi cyn cyflwyno cais gwerthu alcohol.

 

Roedd y swyddogion, yn unol â Deddf Drwyddedu 2003, yn argymell bod y Pwyllgor yn ystyried sylwadau'r ymatebwyr, ac ymateb yr ymgeisydd i’r pryderon - ac yn caniatáu’r cais.   Ystyriwyd bod yr oriau a ofynnwyd amdanynt yn rhesymol, ac yn cyd-fynd hefo busnesau cyffelyb gerllaw. Nid prif bwrpas y busnes yw gwerthu alcohol; y bwriad yw bod y gwerthiant alcohol yn cyd-fynd ac yn ategu gwerthiant bwyd o’r eiddo. Nid yw'r eiddo yn agos at dai, a’r ardal eistedd yn wynebu'r môr, sydd yn gwneud y risg o niwsans sŵn yn isel. 

 

Rhannwyd lluniau ar y sgrin o leoliad y safle.

Eglurwyd:

·        nad oedd mynediad cerbydau masnachol i’r Harbwr

·        Bod yr ardal eistedd tu allan i’r eiddo yn gyfyngedig

·        Bod y cais arfaethedig yn cyd-fynd a chais cynllunio diweddaraf yr eiddo

 

b)                         Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-:

·        Cyfle i Aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i gynrychiolydd y Cyngor.

·        Ar ddisgresiwn y Cadeirydd, yr ymgeisydd neu ei gynrychiolydd i ofyn cwestiynau i gynrychiolydd y Cyngor.

·        Rhoi cyfle i’r ymgeisydd a/neu ei gynrychiolydd ymhelaethu ar y cais a galw tystion

·        Rhoi cyfle i Aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i’r ymgeisydd a/neu ei gynrychiolydd

·        Ar ddisgresiwn y Cadeirydd gall cynrychiolydd y Cyngor ofyn cwestiynau i’r ymgeisydd neu ei gynrychiolydd

·        Rhoi gwahoddiad i bob Ymgynghorai gefnogi unrhyw sylwadau ysgrifenedig

·        Rhoi cyfle i gynrychiolydd y Cyngor a’r ymgeisydd neu ei gynrychiolydd grynhoi eu

hachos.

·        Swyddog cyfreithiol i grynhoi gofynion y cais

 

c)        Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â beth oedd yr adeilad drws nesaf i’r safle, nodwyd mai Canolfan Croeso Parc Cenedlae4thol Eryri oedd yma. Ategwyd bod safle'r Clwb Rhwyfo gerllaw.

 

ch)    Wrth ymhelaethu ar y cais, nododd yr ymgeisydd y sylwadau canlynol:

·        Bod y caffi yn gaffi bach yn gwerthu pitsas a brechdanau ac ati

·        Bod y caffi ar agor tan 21:00

·        Bod y caffi yn un ar gyfer teuluoedd – yn ymwybodol o weithgareddau teulu cyfagos – diogelwch plant yn flaenoriaeth

·        Gyda chefnogaeth Parc Cenedlaethol Eryri a Swyddfa’r Harbwr Feistr, cymeradwywyd cais defnydd A3 ar gyfer seddi awyr agored ym mis Gorffennaf 2024. Ym mis Mai 2025 derbyniodd y safle drwydded gan Adran Forwrol Gwynedd ar gyfer seddi awyr agored o fis Chwefror i fis Hydref. Nid oedd y brydles yn gwahardd gwerthu alcohol.

·        Ym mis Mehefin 2025, cymeradwywyd addasiad i’r cais cynllunio i ganiatáu gwerthu bwyd poeth i'w gludo oddi ar yr eiddo. Roedd amod ar y drwydded yn nodi bod angen i’r ardal eistedd gael ei hamgylchynu gan rwystrau diogelwch. Adroddwyd bod ffens newydd wedi ei godi o amgylch y cei ac fe'i gynlluniwyd gyda diogelwch plant yn pysgota am grancod mewn golwg. Dilynwyd proses asesu risg drylwyr wrth adeiladu'r cei a'r ardal wedi'i ffensio.

·        Bod yr ardal eistedd o flaen y caffi yn gyfyngedig, fydd ond yn cael ei ddefnyddio pan fydd y tywydd yn ffafriol

·        Nad oedd bwriad gwerthu diod heb fwyd - ni fyddai hyn o fudd i’r busnes. Ni fydd yr alcohol yn cael ei weini mewn poteli / gwydr

·        Wedi agor am 3 noson, rhai cwsmeriaid wed dod â diodydd alcohol o leoliadau trwyddedig eraill i fwynhau gyda’u bwyd, felly mae galw amlwg amdano

·        Yn pwysleisio nad oedd bwriad rhedeg y lle fel tafarn neu far gwin

·        Yn rhagweld bydd y rhan fwyaf o’r busnes mewn bwyd tecawe neu bryd ar glyd - bod angen trwydded i gynnig gwerthu alcohol i’r cleientiaid hyn

·        Ei fod yn ymddiheuro nad oedd wedi cysylltu gyda'r Gwasanaeth Morwrol cyn cyflwyno’r cais

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â’r oriau agor, nododd yr ymgeisydd bod y caffi ar agor tan 21:00, ond bod y gwasanaeth tecawe a phryd ar glyd ar gael tan 22:00

 

d)           Manteisiodd yr ymgynghorai oedd yn bresennol ar y cyfle i ymhelaethu ar sylwadau a gyflwynwyd yn ysgrifenedig ganddynt:

 

Daniel Cartwright, Uwch Swyddog Harbyrau

·        Bod materion gweithredol a diogelwch i’w trafod yng nghyfarfod Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Aberdyfi. Y pwyllgor heb gyfarfod i drafod y cais - cyfarfod nesaf ym mis Hydref

 

            Gary Loveman, Preswylydd / Dyn Busnes Lleol

 

Mewn ymateb i awgrym gan Mr Loveman bod penderfyniad i ganiatáu’r cais eisoes wedi ei wneud cyn y gwrandawiad, nododd y Swyddog Cyfreithiol a’r Cadeirydd nad oedd trafodaeth wedi bod ar y mater ac mai argymhelliad gan y swyddogion trwyddedu yn unig oedd wedi ei gyflwyno.

 

·        Bod pryderon am ddiogelwch plant ar y safle

·        Byddai mwy o sbwriel o gwmpas y safle

·        Nad oedd person dynodedig ar y safle i oruchwylio pethau o ddydd i ddydd. Y perchennog yn ddyn prysur iawn

·        Nad oedd lle i eistedd tu mewn i’r caffi

·        Bod angen cefnogaeth yr Harbwr

·        Nad oedd y safle yn addas ar gyfer gwerthiant alcohol yn Aberdyfi

 

dd)       Manteisiodd y Rheolwr Trwyddedu ar y cyfle i grynhoi ei hachos, gan nodi bod yr argymhelliad wedi ei gynnig ar sail gwybodaeth a gyflwynwyd, gan ategu nad oedd tystiolaeth wedi ei gyflwyno gan yr ymatebwyr i gynnig argymhelliad i wrthod y cais. Nodwyd nad oedd yr awdurdodau cyfrifol wedi cynnig sylwadau i wrthod y cais a chwestiynwyd swyddogaethau a hawliau Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Aberdyfi i ganiatáu / wrthod trwydded.

 

            Nodwyd nad oedd angen trwydded i eistedd allan i yfed alcohol a bod busnesau eraill yn y dref yn manteisio ar hyn. Bychan iawn yw’r ardal eistedd tu allan i’r caffi ac ni fydd gwerthiant alcohol o’r safle yn arwain at gynnydd sylweddol mewn eistedd allan i yfed alcohol

 

            Manteisiodd yr ymgeisydd ar y cyfle i grynhoi ei achos gan nodi ei fod yn darparu cyflogaeth yn lleol, a pe byddai Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Aberdyfi eisiau cynnig sylwadau, byddai modd iddynt drefnu cyfarfod arbennig o’r pwyllgor.

 

e)                     Cymerodd y Swyddog Cyfreithiol y cyfle i grynhoi gofynion y cais

-        Cais i gyflawni alcohol ar ac oddi ar yr eiddo o 11:00 – 22:00 dydd Llun i ddydd Sul

-        Bod rheolaeth a chofnod Teledu Cylch Cyfyng yn cael ei amodi ar y drwydded

 

dd)        Ymneilltuodd cynrychiolydd yr ymgeisydd a’r Rheolwr Trwyddedu o’r cyfarfod tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais.

Wrth gyrraedd y penderfyniad ystyriodd yr Is-bwyllgor ffurflen gais yr ymgeisydd, sylwadau ysgrifenedig a gyflwynwyd gan y partïon â diddordeb, adroddiad y Swyddog Trwyddedu ynghyd â sylwadau llafar pob parti yn bresennol yn y gwrandawiad.  Ystyriwyd  Polisi Trwyddedu’r Cyngor a chanllawiau’r Swyddfa Gartref. Rhoddodd yr Is-bwyllgor ystyriaeth briodol i’r holl sylwadau gan eu pwyso a’u mesur yn erbyn yr  amcanion trwyddedu o dan y Ddeddf Trwyddedu 2003, sef:

 

                             i.         Atal trosedd ac anhrefn

                           ii.         Atal niwsans cyhoeddus

                          iii.         Sicrhau diogelwch cyhoeddus

                          iv.         Gwarchod plant rhag niwed

 

Diystyrwyd y sylwadau a ddaeth i law i’r graddau eu bod yn amherthnasol i’r amcanion uchod.

PENDERFYNIAD: Caniatáu y cais

 

Oriau Agor: 

 

Dydd Sul 11:00 – 22:00 

Dydd Llun 11:00 - 22:00 

Dydd Mawrth 11:00 - 22:00 

Dydd Mercher 11:00 - 22:00 

Dydd Iau 11:00 - 22:00 

Dydd Gwener  11:00 - 22:00 

Dydd Sadwrn 11:00 - 22:00 

 

Gweithgareddau Trwyddedadwy 

 

Cyflenwi Alcohol ar ac oddi ar yr Eiddo  

 

Dydd Sul 11:00 - 22:00  

Dydd Llun 11:00 22:00 

Dydd Mawrth 11:00 - 22:00  

Dydd Mercher 11:00 - 22:00 

Dydd Iau 11:00 - 22:00 

Dydd Gwener 11:00 - 22:00 

Dydd Sadwrn 11:00 - 22:00 

 

Y mesurau ychwanegol, fel y nodir yn rhan M y cais, i'w cynnwys fel amodau ar y drwydded: 

·        Hyfforddiant Staff 

·        Her 25 

·        Bydd alcohol, a archebir fel gwerthiant oddi ar y safle i'w ddanfon allan (tecawê), yn cael ei werthu mewn cynwysyddion wedi'u selio.  

·        Bydd pob gwerthiant alcohol arall i'w yfed ar y safle ac oddi arno yn cael ei werthu mewn cwpanau plastig y gellir eu hailddefnyddio o dan gynllun blaendal. 

  • TCC yn weithredol ar y safle 

 

Yng nghyd-destun Rhwystro Trosedd ac Anrhefn, ni chyflwynwyd sylwadau na thystiolaeth oedd yn berthnasol i'r egwyddor yma.

 

Yng nghyd-destun materion Diogelwch Cyhoeddus derbyniwyd sylwadau a gwrthwynebiadau gan gymdogion i'r Caffi oedd wedi mynegi pryderon am ddiogelwch   cyhoedd o ystyried lleoliad y cais. Fodd bynnag, ni dderbyniwyd unrhyw sylwadau na gwrthwynebiadau gan Adran Gwarchod y Cyhoedd ac ni chyflwynwyd unrhyw dystiolaeth i gefnogi’r pryderon. Er derbyn a nodi’r pryderon a fynegwyd gan y preswylwyr lleol, nid oedd yr Is-bwyllgor yn ystyried bod tystiolaeth yn dangos bod yr egwyddor yma yn cael ei danseilio. Roedd yr is-bwyllgor yn nodi bod gweithredu teledu cylch cyfyng yn amod o'r drwydded ac y dylai’r system gael ei monitro yn rheolaidd.

 

Yng nghyd-destun Atal niwsans cyhoeddus, ni chyflwynwyd sylwadau na thystiolaeth oedd yn berthnasol i'r egwyddor hon.

 

Yng nghyd-destun Gwarchod Plant Rhag Niwed, derbyniwyd ac ystyriwyd sylwadau am yr egwyddor yma, ond ni chyflwynwyd unrhyw dystiolaeth berthnasol i gefnogi’r sylwadau.

 

Nodwyd, fel gyda phob trwydded a ganiateir, pe byddai unrhyw broblemau'n codi mewn cysylltiad â'r egwyddorion trwyddedu, bod y Ddeddf yn caniatáu i unrhyw drwydded gael ei chyfeirio am adolygiad gan yr Awdurdod Trwyddedu.

 

Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei gadarnhau yn ffurfiol drwy lythyr i bawb oedd wedi cyflwyno sylwadau ysgrifenedig. Ategwyd bod gan bob parti i’r cais yr hawl i gyflwyno apêl yn Llys Ynadon Caernarfon yn erbyn penderfyniad yr Is-bwyllgor. Dylid cyfeirio unrhyw apêl o’r fath drwy roi rhybudd o apêl i’r Prif Weithredwr, Llys Ynadon Llandudno, Llandudno, o fewn cyfnod o 21 diwrnod gan gychwyn â’r dyddiad y bydd yr apelydd yn derbyn llythyr (neu gopi ohono) yn cadarnhau’r penderfyniad.

 

 

Dogfennau ategol: