Agenda item

Alwen Williams, Prif Weithredwr i gyflwyno’r adroddiad.  

 

Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig. Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol awdurdod cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth fasnachol heb ei gyhoeddi.. Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau gwerth am arian a’r allbwn cyfansawdd gorau . Mae’r elfennau sydd wedi eu duo allan yn cynrychioli ymateb gymesurol I'r gofyn yma gan warchod hawl y cyhoeddi gael gwybodaeth am gynllun rhanbarthol pwysig yma. Am y rhesymau yma bydd rhai atodiadau yn eithriedig yn unol a Paragraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.  

Penderfyniad:

Cymeradwywyd y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol a'r ddogfennaeth ategol i'w cyflwyno i Lywodraeth Cymru i'w gymeradwyo a'i gyhoeddi gan y Gweinidogion ym mis Medi 2025.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Alwen Williams, Prif Weithredwr.

 

PENDERFYNWYD

 

Cymeradwywyd y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol a'r ddogfennaeth ategol i'w cyflwyno i Lywodraeth Cymru i'w gymeradwyo a'i gyhoeddi gan y Gweinidogion ym mis Medi 2025.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr adroddiad a’r dogfennau yn garreg filltir i’r CBC ac yn enghraifft dda o gyd-ddatblygu gydag amrywiol unigolion a mudiadau a grwpiau. Diolchwyd i bawb am ymateb i’r ymgynghoriad. Mynegwyd fod hwn yn nodi’r cam cyntaf i weithredu’r prif gynlluniau trafnidiaeth. Ategwyd fod y cynlluniau hyn nid yn unig yn mynd i gynorthwyo i ffynnu’r economi ond ei fod yn cyd-fynd a chyfrifoldebau amgylcheddol a cymdeithasol y CBC.

 

Amlygwyd fod datblygu a gweithredu’r Cynllun Trafnidiaeth yn swyddogaeth statudol ac amlygwyd fod cefndir ac ystyriaethau perthnasol am eu creu wedi ei nodi yn yr adroddiad.

 

Tynnwyd sylw at y prif bwyntiau a godwyd yn ystod yr ymgynghoriad cyhoeddus a oedd yn cynnwys y canlynol. O ran y Cynllun Trafnidiaeth Ranbarthol, tynnwyd sylw at  Rwydwaith Gogledd Cymru a gyhoeddwyd gan y Llywodraeth yn ôl ym mis Mai, gan nodi fod y polisïau a’r cynllun trafnidiaeth wedi ei adeiladu i mewn iddo. Nodwyd fod diweddariad wedi ei wneud er mwyn eglurdeb yn dilyn diweddariad ac adborth Llywodraeth Cymru am eu cynllun 20 milltir yr awr sy’n amlygu’r eithriadau ac addasiadau i’r Cynllun sydd am gael eu gwneud gan rai Awdurdodau Lleol. Tynnwyd sylw at ddeheuad 3 o’r Rhwydwaith Lonydd Strategol, ei fod wedi ei addasu yn benodol er mwyn rhoi budd ehangach i deithio cynaliadwy. Yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru eu bod yn tynnu yn ôl o waith ar yr A55/A494 a gyfeiriwyd ato yn gyffredin fel y Llwybr Coch, nodwyd yr angen i addasu’r elfen hwn o’r Cynllun. 

 

Mynegwyd fod ymgynghoriad wedi nodi’r angen i amlygu Trafnidiaeth Gymunedol a’i bwysigrwydd i bobl leol. Nodwyd fod angen amlygu pwysigrwydd a defnydd o’r Iaith Gymraeg fwy nodi’r polisïau a’r strategaethau iaith. Amlygwyd fod y dogfennau gan gynnwys y dogfennau syml i’w darllen wedi eu diweddaru yn dilyn y diweddariadau.

 

O ran y Cynllun Cyflawni, nodwyd fod gwaith wedi ei wneud i edrych ar yr holl gynlluniau a’i chostau cyfalaf, er mwyn amlygu sut mae’r cynllun rhanbarthol yn cyd-fynd a’r cynlluniau a’r polisïau cenedlaethol. Esboniwyd fod adran ar fforddiadwyeth wedi ei gynnwys a oedd yn elfen gafodd lawer o sylw yn yr ymgynghoriad. Mynegwyd er mwyn amlygu fforddiadwyaeth yr holl gynlluniau eu bod wedi amlygu’r cynlluniau blaenoriaeth uchel a’i amserlen, er mwyn sicrhau eu bod yn cyd-fynd a chyllidebau trafnidiaeth ranbarthol Llywodraeth Cymru. Amlygwyd y cynlluniau sydd wedi eu diweddaru - megis dileu cynllun yn ymwneud  a Phont Llannerch, wedi i Gabinet Cyngor Sir Ddinbych wneud y penderfyniad i dynnu’r prosiect yn ei ôl.

 

Tynnwyd sylw at yr Arfarniad Llesiant Integredig gan nodi ei fod wedi ei gynnwys yn dilyn sylwadau Llywodraeth Cymru, a'i fod yn amlygu sut mae’r Cynllun yn cyd-fynd a chanllawiau cenedlaethol. Mynegwyd fod Datganiad Ôl-fabwysiadu ar gyfer yr Arfarniad Llesiant Integredig wedi ei greu bellach sydd yn amlygu sut mae adborth yn cael ei ddefnyddio er mwyn bodloni rheoliadau strategol amgylcheddol.

 

Diolchwyd am yr holl waith sydd wedi ei gwneud i sicrhau fod y Cynllun hwn yn cael ei wneud. Pwysleisiwyd fod y Cynllun yn ddibynnol ar gymeradwyaeth Gweinidogion Llywodraeth Cymru ym mis Medi. Gobeithir y bydd yn cael ei dderbyn yn enwedig cyn etholiad Mai 2025. Gofynnwyd i’r Prif Weithredwr a’i staff erfyn ar Lywodraeth Cymru i gadw at derfyn amser mis Medi.

 

Derbyniwyd esboniad gan Arweinydd Sir Ddinbych am y rhesymeg dros dynnu cais am Bont Llannerch yn ei ôl, oherwydd y siawns o lifogydd i nifer o uchel o dai petai’r gwaith yn mynd yn ei flaen a amlygwyd gan Dwr Cymru.

 

Gofynnwyd a fydd dogfen syml a llai technegol i’w rannu a’r cyhoedd ac aelodau lleol, er mwyn ei rannu yn ehangach. Nodwyd fod fersiwn hawdd i’w ddarllen wedi ei greu a bod angen ei gyhoeddi fel rhan o’r pecyn.

 

Dogfennau ategol: