Agenda item

Alwen Williams, Prif Weithredwr ac Andy Roberts, Swyddog Cynllunio Datblygu Strategol Rhanbarthol i gyflwyno’r adroddiad.  

Penderfyniad:

Nododd yr Aelodau'r diweddariad ar y cynnydd wrth baratoi Cytundeb Cyflawni ar gyfer y Cynllun Datblygu Strategol ar gyfer Gogledd Cymru a'r prif faterion a amlygwyd a fydd angen eu datrys yn y dyfodol.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Alwen Williams, Prif Weithredwr y CBC ac Andy Roberts, Swyddog Cynllunio Datblygu Strategol Rhanbarthol.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nododd yr Aelodau'r diweddariad ar y cynnydd wrth baratoi Cytundeb Cyflawni ar gyfer y Cynllun Datblygu Strategol ar gyfer Gogledd Cymru a'r prif faterion a amlygwyd a fydd angen eu datrys yn y dyfodol.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod creu Cynllun Datblygu Strategol (CDS) ar gyfer Gogledd Cymru yn ofyniad statudol, ac amlygwyd fod yr adroddiad yn nodi’r prif gamau ar gyfer creu’r Cynllun.

 

Mynegodd Swyddog Cynllunio Datblygu Strategol Rhanbarthol ei bod yn bleser rhoi diweddariad ar y gwaith sydd wedi ei wneud. Pwysleisiwyd eu bod yn y camau cychwynnol yn y broses o greu’r CDS. Nodwyd fod drafft cychwynnol o’r Cytundeb Cyflawni wedi ei wneud ac wedi ei rannu gyda’r Llywodraeth ynghyd a rhanddeiliad perthnasol ac Is-bwyllgor Cynllunio Strategol y CBC. Mynegwyd fod yr is-bwyllgor wedi cytuno yn ei hanfod ond wedi amlygu risgiau ariannol a fydd yn cael ei nodi yn hwyrach yn yr adroddiad.

 

Nodwyd fod y rhaglen ddrafft yn dilyn amserlen o 5 mlynedd, a bod cyfnod y cynllun yn un 25 mlynedd. Mynegwyd ei farn bersonol fod yr amserlen rhaglen ddrafft o 5 mlynedd braidd yn hir ond ei fod yn dilyn canllawiau'r Llywodraeth, ac amlygwyd y gwir bryder yw sicrhau fod y Cynllun yn cael ei wneud yn iawn. O ran y cynllun 25 mlynedd, nodwyd fod rhai o’r cynlluniau wedi eu nodi i gychwyn mor fuan â phosib.

 

Nodwyd o ran cyfathrebu ac ymgynghori, gydag ardal mor eang bydd llawer o’r ymgynghori yn mynd i fod yn rhithiol yn rhanbarthol ond y bydd modd cynnal digwyddiadau wyneb i wyneb yn lleol ynghyd a rhai rhanbarthol.

 

Pwysleisiwyd mai’r risg mwyaf yw’r risg ariannol, gan fod y ffigwr mor uchel, nid oes arian wedi ei gadarnhau ar gyfer y Cynllun ac o ganlyniad bydd angen dod o hyd i’r bwlch ariannol. Eglurwyd fod y Cytundeb Cyflawni wedi mynd i ymgynghoriad heddiw, a gobeithir y bydd modd ym mis Medi cyflwyno’r Cytundeb i’r CBC fel yr un a fydd yn cael ei gyflwyno i’r Llywodraeth. Ond amlygwyd y bydd angen dod o hyd i ateb i’r bwlch ariannol er mwyn ei gwblhau. Mynegwyd fod Arweinydd y CBC yn y Gogledd ynghyd a’r CBC eraill ar draws Cymru wedi codi’r mater yma gyda’r Llywodraeth. 

 

Tynnwyd sylw at adran 7 a oedd yn amlygu’r camau yn dilyn cyflwyno’r Cytundeb Cyflawni gan nodi y bydd angen trafodaeth agored i greu gweledigaeth lawn ar gyfer y Cynllun yn yr Hydref. 

 

Diolchwyd am yr adroddiad gan nodi os oes problem gyllidol gyda phroblemau i lenwi’r bwlch ariannol gofynnwyd iddo gael ei adrodd i’r CBC yn syth. Mynegwyd gobaith y bydd modd cael ateb gan y Llywodraeth cyn yr etholiad a fydd yn cael ei gynnal ym mis Mai.  Nodwyd y bydd prif bryderon yr Is-bwyllgor Cynllunio Strategol yn cael eu hadrodd yn syth i’r CBC.

 

Gofynnwyd a fydd y Cynllun yn cael ei gyhoeddi i’r cyhoedd ar ffurf fwy syml, dealladwy a chryno. Nodwyd y bydd camau yn cael eu gwneud i sicrhau fod y ddogfen yn gynhwysol a hygyrch fel bod mynediad ar gael i unrhyw un fydd yn awyddus i’w darllen.

 

Dogfennau ategol: