Agenda item

Bella Pizza, 19 Twll yn y Wal, Caernarfon, Gwynedd LL55 1RF.

 

I ystyried y cais.

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Caniatáu y cais

 

Oriau Agor:

 

Oriau Agor:

Dydd Sul 16:00 – 00:00

Dydd Llun 16:00 – 00:00

Dydd Mawrth 16:00 – 00:00

Dydd Mercher 16:00 – 00:00

Dydd Iau 16:00 – 00:00

Dydd Gwener 16:00 – 01:00

Dydd Sadwrn 16:00 – 01:00

 

Gweithgareddau Trwyddedadwy:

 

Lluniaeth hwyr yn y nos – Oddi ar yr eiddo 

 

Dydd Sul 23:00 – 00:00

Dydd Llun 23:00 – 00:00

Dydd Mawrth 23:00 – 00:00

Dydd Mercher 23:00 – 00:00

Dydd Iau 23:00 – 00:00

Dydd Gwener 23:00 – 01:00

Dydd Sadwrn 23:00 – 01:00

 

Y mesurau ychwanegol, fel y nodir yn rhan M y cais, i'w cynnwys fel amodau ar y drwydded:

 

  • Camerâu TCC mewnol ac allanol yn weledol iawn
  • Hyfforddi staff ar sut i ymdrin â chwsmeriaid annifyr / meddw ac afreolus
  • 2 llifolau mawr ar flaen yr adeilad
  • Staff i sicrhau nad yw cwsmeriaid yn ymgynnull o flaen y siop
  • Staff i lanhau'r stryd ar ôl oriau agor

 

 

 

 

Nodyn:

 

Dylid cadw'r amodau cynllunio sy'n ymwneud â'r uned echdynnu neu'r offer cysylltiedig, a chadarnhau bod hyn wedi'i gytuno a'i dderbyn gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol

 

Cofnod:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.

 

a)                         Adroddiad yr Adran Trwyddedu

 

Cyflwynwyd adroddiad Pennaeth yr Adran Amgylchedd yn manylu ar gais am drwydded eiddo ar gyfer Bella Pizza, 19 Twll yn y Wal, Caernarfon, Gwynedd. Roedd y cwmni yn gwneud cais am drwydded eiddo ar gyfer darparu Lluniaeth Hwyr yn y Nos oddi ar yr eiddo dydd Llun - dydd Iau 23:00-00:00, dydd Gwener - dydd Sadwrn 23:00-02:00, a dydd Sul 23:00-00:00. 

 

Nodwyd bod gan Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu dystiolaeth ddigonol bod y cais wedi ei gyflwyno yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol. Cyfeiriwyd at y mesurau yr oedd yr ymgeisydd yn ei argymell i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu ac amlygwyd y byddai’r mesurau hyn yn cael eu cynnwys ar y drwydded.

 

Adroddwyd bod Iechyd yr Amgylchedd wedi cyflwyno gwrthwynebiad yn ymwneud ag agosatrwydd yr eiddo at adeiladu preswyl ynghyd a phryder am effaith gronnus lleoliadau trwyddedig eraill ar y stryd fyddai’n tanseilio'r amcan i atal niwsans cyhoeddus. Roedd Aelod o’r cyhoedd hefyd yn gwrthwynebu ar sail aflonyddwch a chynnydd posib mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol sydd eisoes yn bodoli yn yr ardal yma. Ategwyd y gall y datblygiad gael effaith negyddol ar leoliad hanesyddol a gwaethygu’r broblem o sbwriel. Gwnaed awgrym y dylid cael swyddogion diogelwch ar y drws.

 

Cyfeiriwyd at gadarnhad gan yr Adran Cynllunio bod cais Cynllunio i ddiwygio’r oriau wedi ei ddilysu ac yn cael ei ystyried, er yn tynnu sylw mai estyniad hyd at 1:00 yn unig oedd ar y cais.

 

Roedd Heddlu Gogledd Cymru yn cadarnhau nad oedd ganddynt wrthwynebiad i’r cais a Chyngor Tref Caernarfon yn unfrydol yn cefnogi’r cais gan gydnabod nad yw'r eiddo yn gwerthu alcohol nac yn chwarae cerddoriaeth, ac yn weithredol yn annog pobl i beidio â pharcio ar y stryd

 

Roedd y swyddogion, yn unol â Deddf Drwyddedu 2003, yn argymell i’r Pwyllgor ystyried y sylwadau a dderbyniwyd, yn enwedig y pryderon am y posibilrwydd y gallai ymestyn oriau agor y busnes bwyd i'w gario allan waethygu'r ymddygiad gwrthgymdeithasol presennol yn y stryd drwy ddenu grwpiau o bobl ifanc a'u cadw yno'n hwyrach.

 

b)                         Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-:

·        Cyfle i Aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i gynrychiolydd y Cyngor.

·        Ar ddisgresiwn y Cadeirydd, yr ymgeisydd neu ei gynrychiolydd i ofyn cwestiynau i gynrychiolydd y Cyngor.

·        Rhoi cyfle i’r ymgeisydd a/neu ei gynrychiolydd ymhelaethu ar y cais a galw tystion

·        Rhoi cyfle i Aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i’r ymgeisydd a/neu ei gynrychiolydd

·        Ar ddisgresiwn y Cadeirydd gall cynrychiolydd y Cyngor ofyn cwestiynau i’r ymgeisydd neu ei gynrychiolydd

·        Rhoi gwahoddiad i bob Ymgynghorai gefnogi unrhyw sylwadau ysgrifenedig

·        Rhoi cyfle i gynrychiolydd y Cyngor a’r ymgeisydd neu ei gynrychiolydd grynhoi eu

hachos.

·        Swyddog cyfreithiol i grynhoi gofynion y cais

 

c)        Mewn ymateb i gwestiwn am y nifer lleoliadau tebyg yn y dref sydd gydag oriau cyffelyb ac yn gwerthu bwyd tecawe, nodwyd bod chwe lleoliad yn y dref, ond dim un gyda swyddogion diogelwch ar y drysau.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â thorri amod caniatâd cynllunio yn ymwneud ag unedau echdynnu, nododd yr ymgeisydd bod Swyddog Cynllunio wedi ymweld â’r eiddo ac wedi derbyn bod y cyfarpar yn dderbyniol. Ategodd bod y system echdynnu yn un mewnol.

 

ch)    Wrth ymhelaethu ar y cais, nododd yr ymgeisydd y sylwadau canlynol:

·        Bod ganddi gysylltiad personol gyda’r stryd – yn gyfarwydd â’r stryd ac nad oedd yn benderfyniad ar hap i ail leoli yno

·        Nad yw yn gadael i staff barcio ar y stryd er nad oes cyfyngiadau parcio ar y stryd

·        Ei bod yn gymydog cyfrifol – yn cadw’r stryd yn lan ac yn cadw trefn

·        Yn annog cwsmeriaid i symud ymlaen ar ôl prynu bwyd

·        Ei bod wedi trafod y cais i ymestyn yr oriau gyda phreswylwyr

·        Bod yr uned echdynnu aer yn un mewnol ac felly, er y gost i’r busnes, yn cael llai o effaith ar drigolion

·        Bod ganddi 12 o staff cydwybodol iawn, pam felly bod angen swyddogion diogelwch ar y drws

·        Bod ganddi bum mlynedd o brofiad rheoli eiddo

·        Ei bod yn hapus i addasu’r oriau agor ar nos Wener a nos Sadwrn i 1:00

 

Rhannwyd fideos gan yr ymgeisydd yn amlygu sŵn ar y stryd

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â sylw gan Cyngor Tref Caernarfon nad yw arwyddion y siop yn gyson gydag edrychiad cyffredinol y stryd, nododd nad oedd yn deall y sylw ond ei bod wedi ceisio cadw'r arwydd fel pob un arall yn y stryd fel ei fod yn gweddu.

 

d)           Manteisiodd yr ymgynghorai oedd yn bresennol ar y cyfle i ymhelaethu ar sylwadau a gyflwynwyd yn ysgrifenedig ganddynt:

 

Awen Gwyn, Perchennog eiddo cyfagos

·        Bod angen plismona sŵn o’r tafarndai

·        Bod angen ymddwyn yn gyfrifol

·        Bod y sŵn yn amharu ar ei thenantiaid

·        Bod rhaid cwyno am y sŵn yn ffurfiol

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn ag eiddo Bella House, Caernarfon ac os oedd Bella House a Bella Pizza yr un cwmni, nododd nad oedd gan Bella Pizza ddim byd i wneud efo Bella House

 

Ffion Lewis, Swyddog Gwarchod y Cyhoedd

·        Pryder bydd y siop yn annog mwy o bobl i ymgynnull a gwneud sŵn o flaen tai preswylwyr

·        Pryder y bydd lefelau uchel o sŵn rhwng 00:00 a 01:30

·        Pryder am effaith gronnus lleoliadau trwyddedig ar y stryd

·        Pryder y bydd cynnydd mewn problemau ymddygiad / niwsans cyhoeddus

 

Elizabeth Williams, Heddlu Gogledd Cymru

·        Bod y lleoliad yn un prysur

·        Dim cwynion wedi eu derbyn ers i Bella Pizza agor

 

dd)       Nid oedd gan y Swyddog Trwyddedu sylwadau pellach i’w cyflwyno i gloi ei hachos

 

            Manteisiodd yr ymgeisydd ar y cyfle i grynhoi ei hachos gan nodi nad oedd preswylwyr y stryd wedi cwyno am Bella Pizza er iddynt gwyno yn ddyddiol am sŵn o Neuadd y Farchnad a Four Alls

 

e)                     Cymerodd y Swyddog Cyfreithiol y cyfle i grynhoi gofynion y cais

·        Oriau trwyddedig 23:00 - 00:00 dydd Sul tan ddydd Iau

·        Oriau trwyddedig 23:00 – 01:00 dydd Gwener a dydd Sadwrn

 

Ymneilltuodd cynrychiolydd yr ymgeisydd a’r Rheolwr Trwyddedu o’r cyfarfod tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais.

Wrth gyrraedd y penderfyniad ystyriodd yr Is-bwyllgor ffurflen gais yr ymgeisydd, sylwadau ysgrifenedig a gyflwynwyd gan y partïon â diddordeb, adroddiad y Swyddog Trwyddedu ynghyd â sylwadau llafar pob parti yn bresennol yn y gwrandawiad.  Ystyriwyd  Polisi Trwyddedu’r Cyngor a chanllawiau’r Swyddfa Gartref. Rhoddodd yr Is-bwyllgor ystyriaeth briodol i’r holl sylwadau gan eu pwyso a’u mesur yn erbyn yr  amcanion trwyddedu o dan y Ddeddf Trwyddedu 2003, sef:

 

                             i.         Atal trosedd ac anhrefn

                           ii.         Atal niwsans cyhoeddus

                          iii.         Sicrhau diogelwch cyhoeddus

                          iv.         Gwarchod plant rhag niwed

 

Diystyrwyd y sylwadau a ddaeth i law i’r graddau eu bod yn amherthnasol i’r amcanion uchod.

PENDERFYNIAD: Caniatáu y cais

 

Oriau Agor:

Dydd Sul 16:00 – 00:00

Dydd Llun 16:00 – 00:00

Dydd Mawrth 16:00 – 00:00

Dydd Mercher 16:00 – 00:00

Dydd Iau 16:00 – 00:00

Dydd Gwener 16:00 – 01:00

Dydd Sadwrn 16:00 – 01:00

 

Gweithgareddau Trwyddedadwy:

 

Lluniaeth hwyr yn y nos – Oddi ar yr eiddo 

 

Dydd Sul 23:00 – 00:00

Dydd Llun 23:00 – 00:00

Dydd Mawrth 23:00 – 00:00

Dydd Mercher 23:00 – 00:00

Dydd Iau 23:00 – 00:00

Dydd Gwener 23:00 – 01:00

Dydd Sadwrn 23:00 – 01:00

 

Y mesurau ychwanegol, fel y nodir yn rhan M y cais, i'w cynnwys fel amodau ar y drwydded:

 

           Camerâu TCC mewnol ac allanol yn weledol iawn

           Hyfforddi staff ar sut i ymdrin â chwsmeriaid annifyr / meddw ac afreolus

           2 llifolau mawr ar flaen yr adeilad

           Staff i sicrhau nad yw cwsmeriaid yn ymgynnull o flaen y siop

           Staff i lanhau'r stryd ar ôl oriau agor

 

Nodyn: Dylid cadw'r amodau cynllunio sy'n ymwneud â'r uned echdynnu neu'r offer cysylltiedig, a chadarnhau bod hyn wedi'i gytuno a'i dderbyn gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol

 

Yng nghyd-destun Rhwystro Trosedd ac Anrhefn, ni chyflwynodd yr Heddlu unrhyw wrthwynebiad mewn ymateb i’r cais ac ni chyflwynwyd sylwadau na thystiolaeth arall perthnasol i'r egwyddor yma.

 

Yng nghyd-destun materion Diogelwch Cyhoeddus ni chyflwynwyd sylwadau na thystiolaeth oedd yn berthnasol i'r egwyddor yma.

 

Yng nghyd-destun Atal niwsans cyhoeddus, ni chyflwynwyd tystiolaeth oedd yn berthnasol i’r egwyddor hwn, fodd bynnag derbyniwyd sylwadau a gwrthwynebiadau gan Adran Iechyd yr Amgylchedd ac unigolyn a gyflwynodd bryderon am y potensial o ymddygiadau gwrthgymdeithasol a materion niwsans cyhoeddus all ddod i'r amlwg o ganiatáu'r cais. Bu i’r Is-bwyllgor ystyried y sylwadau a'r pryderon y byddai caniatáu'r cais yn cynyddu ymddygiad gwrthgymdeithasol a / neu gynyddu lefelau sŵn, ond nid oedd yr Is-bwyllgor o'r farn bod tystiolaeth wedi ei gyflwyno yn amlygu bod niwsans cyhoeddus yn berthnasol i’r eiddo yma. Ymhellach, derbyniodd yr Is-bwyllgor gynnig yr ymgeisydd i sicrhau byddai cwsmeriaid yn cael eu hannog i adael yr ardal ar ôl iddynt gael eu harcheb a'u hymdrechion i symud pobl o’r tafarndai cyfagos i beidio ymgynnull yn y stryd. Bu I’r Is-bwyllgor hefyd ystyried bod yr ymgeisydd yn fodlon lleihau’r oriau trwyddedadwy i 1:00 yn hytrach na 2:00 i gyfyngu effeithiau ar eiddo cyfagos. 

 

Nid oedd yr Is-bwyllgor o'r farn bod unrhyw dystiolaeth i gefnogi'r angen i osod amod i'r ymgeisydd gyflogi staff diogelwch drws.

 

Fel unrhyw gais arall, petai unrhyw broblemau yn codi mewn cysylltiad â’r egwyddorion Trwyddedu, mae’r Ddeddf yn caniatáu cyfeirio trwydded i’w hadolygu gan yr Awdurdod Trwyddedu.

 

Yng nghyd-destun Gwarchod Plant Rhag Niwed, ni chyflwynwyd unrhyw dystiolaeth berthnasol i gefnogi’r sylwadau.

 

Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei gadarnhau yn ffurfiol drwy lythyr i bawb oedd wedi cyflwyno sylwadau ysgrifenedig. Ategwyd bod gan bob parti i’r cais yr hawl i gyflwyno apêl yn Llys Ynadon Caernarfon yn erbyn penderfyniad yr Is-bwyllgor. Dylid cyfeirio unrhyw apêl o’r fath drwy roi rhybudd o apêl i’r Prif Weithredwr, Llys Ynadon Llandudno, Llandudno, o fewn cyfnod o 21 diwrnod gan gychwyn â’r dyddiad y bydd yr apelydd yn derbyn llythyr (neu gopi ohono) yn cadarnhau’r penderfyniad.

 

Dogfennau ategol: