I ystyried
yr adroddiad.
Penderfyniad:
Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd yn
ystod y drafodaeth.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Bennaeth yr Adran
Amgylchedd ac yr Uwch Swyddog Gweithredol. Tynnwyd sylw’n fras at y prif
bwyntiau canlynol:
Atgoffwyd bod yr adran yn cynnwys amrediad o
wasanaethau rheng flaen ac yn dod i gyswllt gyda’r cyhoedd yn gyson drwy
feysydd megis gwastraff ac ailgylchu, trafnidiaeth, cynllunio a gwarchod y
cyhoedd. Sicrhawyd bod pob ymdrech yn cael ei wneud er mwyn sicrhau bod y
gwasanaethau hyn yn cael eu cyflawni drwy iaith dewis y cwsmer, gan sicrhau bod
gwasanaethau ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg.
Adroddwyd bod yr Adran yn arwain ar brosiect
Cynllun y Cyngor o baratoi Cynllun Datblygu Lleol newydd, sy’n flaenoriaeth o
fewn Cynllun y Cyngor 2023-28 (Gwynedd Werdd). Yn yr un modd, nodwyd bod y Tîm
Polisi Cynllunio yn monitro’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd 2011-26 ac yn
paratoi Canllawiau Cynllunio Atodol yn gyson. Pwysleisiwyd bod Polisi Cynllunio
PS1, sydd yn ymwneud â’r iaith Gymraeg a’r diwylliant Cymreig, yn ganolog i’r
Cynllunio a’r Canllawiau hyn. Mynegwyd balchder bod y ddarpariaeth hon yn mynd
ymhellach na’r gofynion statudol Llywodraeth Cymru ar yr iaith Gymraeg, gan
rannu enghraifft bod y gofynion a’r arweiniad ar asesiadau a datganiadau’r
iaith Gymraeg o fewn y maes yn fanylach na’r hyn a ddisgwylir yn genedlaethol.
Tynnwyd sylw mai Cyngor Gwynedd yw’r awdurdod
lleol cyntaf yng Nghymru i gyflwyno cyfarwyddyd Erthygl 4, gan nodi ei bod yn
arf i sicrhau bod tai yng Ngwynedd ar gael i drigolion a bod yr iaith Gymraeg
yn cael ei gefnogi. Cydnabuwyd bod heriau yn wynebu’r cyfarwyddyd ar hyn o bryd
ond ei fod yn parhau i fod yn weithredol.
Amlygwyd bod gan y Gwasanaeth Rheolaeth
Adeiladau gyfrifoldeb am reoli enwi strydoedd ac enwi a rhifo eiddo. Sicrhawyd
bod y gwasanaeth yn cymryd ymagwedd ragweithiol i amlygu arwyddocâd hanesyddol
a diwylliannol enwau Cymraeg ar eiddo, er y cydnabuwyd nad oes ganddynt unrhyw
bŵer i wrthod ceisiadau oni bai bod
enwau yn dyblygu neu os nad yw’r dewis enw yn briodol. Adroddwyd bod 113 o
geisiadau wedi dod i law er mwyn newid neu cofrestru enwau eiddo a bod 88% o’r
enwau a gofrestrwyd yn rhai Cymraeg. Ymhellach, mynegwyd balchder bod 18
perchennog eiddo wedi newid enw eu heiddo o’r Saesneg yn ôl i’r Gymraeg yn
dilyn trafodaethau gyda’r Gwasanaeth. Yn debyg, cyfeiriwyd at y Gwasanaeth
Cynllunio a osodwyd amod cynllunio ar 54 o fusnesau newydd a 110 o dai newydd
er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu henwi yn Gymraeg.
Yn dilyn cais gan aelodau’r pwyllgor,
darparwyd diweddariad ar becyn addysg ddwyieithog ‘Tir a Môr’ dan arweiniad tîm
Ardal Cadwraeth Arbennig Pen Llŷn a’r Sarnau. Mynegwyd balchder bod copïau
caled o’r pecyn wedi cael eu dosbarthu o bob ysgol gynradd yng Ngwynedd ers i’r
Adran gyflwyno eu hadroddiad blaenorol i’r Pwyllgor hwn. Ymhelaethwyd bod y tîm
Ardal Cadwraeth Arbennig hefyd yn gweithio i gynhyrchu cylchgrawn dwyieithog ‘O
Dan y Don’, er mwyn cynyddu ymwybyddiaeth o amgylchedd morol unigryw'r ardal a hyrwyddo’r
defnydd o’r Gymraeg ochr yn ochr â’r Saesneg.
Diweddarwyd bod yr Adran wedi bod yn gweithio
ar ddarparu hyfforddiant angenrheidiol yn ysgolion cynradd ac uwchradd Gwynedd.
Mynegwyd balchder bod oddeutu 3,500 o blant wedi derbyn hyfforddiant
cyffredinol ar ddiogelwch y ffordd drwy gyfrwng y Gymraeg. Ymhelaethwyd bod
oddeutu 800 o ddisgyblion wedi derbyn hyfforddiant seiclo.
Mynegwyd balchder bod yr Adran wedi
cydweithio gyda haneswyr yn ardal Bethesda, y gymdeithas leol yn ogystal â
Gwasanaeth Archifau’r Cyngor er mwyn gosod llinell amser dwyieithog ger ‘Coeden
Meurig’ er mwyn nodi digwyddiadau o bwysigrwydd hanesyddol sydd wedi cymryd lle
yn Nyffryn Ogwen yn ystod y 500 mlynedd ers i’r goeden gael ei phlannu.
Ymhelaethwyd bod bwrdd arddangos arall wedi cael ei osod er mwyn pwysleisio
arwyddocâd y goeden a’r planhigion ac anifeiliaid sydd gerllaw, gan nodi bod
ymateb y cyhoedd i’r prosiect wedi bod yn gadarnhaol iawn.
Adroddwyd bod 93% o staff yr Adran wedi
cwblhau eu hunanasesiad iaith gan gadarnhau bod 89% o’r aelodau staff hynny yn
cyrraedd dynodiad iaith eu swydd. Ystyriwyd bod hyder unigolion am eu sgiliau
ieithyddol yn ffactor sydd yn effeithio ar y canlyniad hwn gan fod rhai aelodau
staff yn feirniadol o’u sgiliau. Fodd bynnag, sicrhawyd bod yr Adran yn
ymgymryd â phob cyfle i aelodau staff i fynychu hyfforddiant ac ymarfer eu
sgiliau Cymraeg.
Diolchwyd am gefnogaeth gwasanaeth Technoleg
Gwybodaeth y Cyngor sydd wedi bod yn cydweithio â’r Adran Amgylchedd er mwyn
sicrhau bod fersiynau Cymraeg rai rhaglenni meddalwedd ar gael yn y Gymraeg ble
nad oedd hynny yn bosib yn flaenorol. Eglurwyd bod nifer o systemau’r
gwasanaethau gwastraff a llunio cylchdeithiau ar gael yn Saesneg yn unig gan eu
bod yn rhai arbenigol ac yn cael eu cynhyrchu y tu hwnt i Gymru, ond bod y
cydweithio hwn gyda’r gwasanaeth Technoleg Gwybodaeth wedi caniatáu i’r Cyngor
gynnig y meddalwedd yn y Gymraeg i’r cyhoedd.
Yn ystod y
drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:-
Mewn ymateb i ymholiad am gyflwyno prosiect tebyg i
hysbysfwrdd ‘Coeden Meurig’ ym Methesda i ardaloedd eraill yng Ngwynedd,
cadarnhaodd Pennaeth yr Adran y byddai’n hapus i gydweithio gyda chymunedau
eraill i ddatblygu cynllun o’r fath. Fodd bynnag, pwysleisiwyd bod y prosiect
hwn wedi cael ei ariannu gan arian grant ac felly byddai angen ystyried
opsiynau ariannu wrth gysidro unrhyw brosiect pellach. Mewn ymateb i ymholiad
pellach am gydweithio gwarchodfeydd natur ar gyfer cynnal prosiect o’r fath, eglurodd
Pennaeth yr Adran y byddai hyn yn fwy heriol i’w wireddu gan nad oes gan y
Cyngor reolaeth o’r tir.
Mewn ymateb i ymholiad ar sut oedd yr Adran yn
sicrhau bod yr iaith Gymraeg yn derbyn ystyriaeth deg wrth lunio Cynllun Datblygu
Lleol, sicrhaodd Pennaeth yr Adran bod pob ymdrech yn cael ei wneud i sicrhau
bod y Gymraeg yn ganolog i’r Cynllun. Eglurwyd bod Gweithgor wedi cael ei
sefydlu ar gyfer datblygu’r Cynllun a bod y mwyafrif o’r sgyrsiau sydd yn cael
eu cynnal yn gysylltiedig â’r Iaith er mwyn sicrhau eu bod yn gadarn ym mhob
agwedd ohono.
Derbyniwyd sylw yr ystyrir bod nifer o swyddogion y
gwasanaeth Gwastraff ac Ailgylchu yn ardal Meirionnydd yn ddi-gymraeg a bod
negyddiaeth cyffredinol i waith y gwasanaeth yn yr ardal, gan ofyn i’r
gwasanaeth pa waith sydd yn mynd rhagddo i newid meddylfryd y cyhoedd at y
gwaith er mwyn denu pobl i ddilyn gyrfa o fewn y gwasanaeth. Mewn ymateb i’r
sylwadau, cydnabuodd Pennaeth yr Adran bod heriau wedi bod o fewn y gwasanaeth
hwn yn y gorffennol ond erbyn hyn mae boddhad y cyhoedd llawer uwch a bod niferoedd
y cwynion sydd yn dod i sylw’r Adran wedi lleihau yn sylweddol. Ymhelaethwyd
bod technoleg newydd sydd wedi cael eu rhoi ar y lorïau bellach yn gallu dod yn
fuddiol ar gyfer ymateb i gwynion, megis camerâu sydd yn dangos cyflwr y
strydoedd a chyfarpar ailgylchu yn dilyn casgliadau gan staff y gwasanaeth.
Pwysleisiwyd nad oedd yr Adran yn ymwybodol o unrhyw drafferthion ieithyddol o
fewn y gwasanaeth gan egluro bod ymweliadau cyson yn cael ei wneud o amgylch y
sir ac nid oes llawer o aelodau staff angen yr offer cyfieithu sydd yn cael ei
gynnig fel rhan o’r ymweliadau hynny. Ymhelaethwyd bod gwaith yn mynd rhagddo i
ennyn hyder aelodau staff i ddefnyddio’r Gymraeg yn fwy aml ac i sicrhau bod
aelodau staff yn parhau i weithio o fewn y gwasanaeth fel rhan o’u llwybr
gyrfaol.
Mewn ymateb i ymholiad ar barodrwydd perchnogion
tai i newid enw eu heiddo i enw Cymraeg, cadarnhaodd Pennaeth yr Adran bod
perchnogion tai yn awyddus i gael enw Cymraeg yn y mwyafrif o’r achosion.
Eglurwyd bod y broses o annog perchnogion i newid enwau tai yn un syml ble mae
swyddogion yn cynnal trafodaethau er mwyn egluro arwyddocâd yr enwau Cymraeg ac
unrhyw gyswllt hanesyddol sydd iddo. Nodwyd bod y perchnogion yn dueddol o
hoffi’r enwau Cymraeg wedi iddynt ddeall ei ystyr ac yn dewis ei ddefnyddio.
Pwysleisiwyd nad oes gan yr Adran y pŵer i orfodi enwau Cymraeg ar dai ond
bod yr anogaeth hon yn ddigonol ar hyn o bryd.
Mewn ymateb i ymholiad os yw’r Adran yn trefnu bod
offer cyfieithu ar y pryd o flaen llaw wrth gynnal hyfforddiant ar ddiogelwch
ffyrdd, cadarnhaodd Pennaeth yr Adran bod hyfforddiant ar gyfer plant yn cael
ei gynnal drwy gyfrwng y Gymraeg. Fodd bynnag, eglurwyd bod gwaith yn cael ei
wneud o flaen llaw wrth drefnu hyfforddiant ar gyfer oedolion ar bob achlysur,
er mwyn sicrhau bod offer cyfieithu ar y pryd ar gael i unrhyw un sydd yn
dymuno mynychu ond ddim yn deall Cymraeg.
Diolchwyd am yr adroddiad.
Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a
dderbyniwyd yn ystod y drafodaeth.
Dogfennau ategol: