Agenda item

I ystyried yr adroddiad.

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd yn ystod y drafodaeth.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Bennaeth Cyllid Cynorthwyol - Cyfrifeg a Phensiynau a Phennaeth Cynorthwyol Technoleg Gwybodaeth. Tynnwyd sylw’n fras at y prif bwyntiau canlynol:

 

.Atgoffwyd bod yr Adran yn gweithredu Cynllun Digidol Cyngor Gwynedd 2023/2028 drwy gwmpasu 29 prosiect er mwyn bod yn ‘Gyngor Digidol’. Tynnwyd sylw penodol at System Rheoli’r Sefydliad, sydd yn cynorthwyo’r systemau cyflogau ac adnodau dynol, sydd bellach wedi cyrraedd y drefn caffael. Ymfalchïwyd bod yr Adran wedi mynd y tu hwnt i ddisgwyliadau mesurau ieithyddol wrth gynnal y drefn caffael ar gyfer y system hon. Eglurwyd bod 26 o gwestiynau o fewn y broses yn ymwneud â’r iaith Gymraeg sydd yn sylweddol uwch na threfniadau caffael safonol Gwynedd a chenedlaethol.

 

Amlygwyd bod deallusrwydd artiffisial yn ddatblygiad technolegol mawr ar hyn o bryd. Eglurwyd bod peilot yn cael ei gynnal ar hyn o bryd er mwyn asesu cryfder a chywirdeb meddalwedd ‘Copilot’ gan Microsoft, sef adnodd deallusrwydd artiffisial. Tynnwyd sylw nad oedd modd gwneud hynny yn y gorffennol gan nad oedd ar gael yn y Gymraeg.

 

Diweddarwyd bod systemau ffôn y Cyngor bellach wedi cael eu diweddaru. Esboniwyd bod systemau ffôn bellach wedi ei osod ar gyfrifiaduron aelodau staff a bod y meddalwedd sydd yn caniatáu hynny wedi cael ei osod yn ddiofyn yn y Gymraeg ar holl gyfrifiaduron corfforaethol y Cyngor yn ogystal â holl gyfrifiaduron yr ysgolion yng Ngwynedd. Mynegwyd balchder bod y system hon yn arloesol a bod y Cyngor wedi gallu gwerthu’r meddalwedd hwn ar gyfer defnydd allanol.

 

Adroddwyd bod Archwilio Cymru yn archwilio cyfrifon Cyngor Gwynedd, Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, Harbyrau Gwynedd, Pensiynau a GwE, gyda chydweithrediad yr Adran gyllid sydd wedi datblygu a gweinyddu’r cyfrifon hynny. Mynegwyd balchder bod cyfarfodydd gyda swyddogion Archwilio Cymru yn parhau i gael eu cynnal drwy gyfrwng y Gymraeg. Atgoffwyd bod heriau wedi codi wrth geisio cynnal trafodaethau gyda hwy yn y Gymraeg yn y gorffennol ond mynegwyd balchder bod y trafferthion hynny wedi arwain at ddatblygiad cynlluniau hyfforddi o fewn y sefydliad er mwyn sicrhau bod mwy o siaradwyr Cymraeg ar gael i gynnal archwiliadau.

 

Tynnwyd sylw at gynllun Hyfforddeion a Phrentisiaethau’r Cyngor gan gadarnhau bod yr adran wedi manteisio ar y cynllun hwn eleni drwy benodi dau hyfforddai proffesiynol yn ogystal â phedwar prentis newydd. Manylwyd bod yr unigolion hyn yn gweithio ym meysydd pensiynau, trethi a budd-dal ac yn ffynhonnell bwysig o recriwtio er mwyn diwallu anghenion yr adran wrth gynnig llwybr gyrfaol cryf. Ymfalchïwyd bod Tomos Pritchard, sydd yn brentis yn y gwasanaeth cyfrifeg, wedi derbyn gwahoddiad i gynrychioli’r cyngor ar banel yng nghynhadledd Comisiynydd y Gymraeg yng Nghaerdydd a fydd yn trafod y defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle. Ymfalchïwyd bod y cyfle hwn wedi dod i law i rannu ei brofiadau gyda phrentisiaid eraill a’r pwysigrwydd o siarad Cymraeg yn y gweithle.

 

Datganwyd bod y Gwasanaeth Pensiwn wedi cyflwyno system hunanwasanaeth newydd i’r gronfa bensiwn yn Ebrill 2024. Nodwyd mai Cronfa Bensiwn Gwynedd oedd y gronfa gyntaf yng Nghymru i uwchraddio i’r safle newydd hwn. Yn anffodus, golyga hyn nad oedd fersiwn Cymraeg ohono ar gael bryd hynny, serch hynny, mae’r gwasanaeth wedi bod yn cydweithio’n sylweddol gyda’r darparwyr er mwyn sicrhau dyfodiad fersiwn Gymraeg o’r safle. Cyfeiriwyd at ddatblygiad arloesol fel rhan o’r system hunanwasanaeth hwn, sef rhithffurf (avatar) sydd yn manylu ar ddatganiadau pensiwn blynyddol yr unigolyn. Cadarnhawyd bod rhithffurf Cymraeg wedi cael ei ddatblygu, sydd yn rhannu gwybodaeth yn syml ac yn eglur ar gyfer defnyddwyr. Rhannwyd clip fideo o’r rhithffurf yn egluro rhan o ddatganiadau blynyddol yn ystod y cyfarfod er mwyn i’r Aelodau weld y dechnoleg newydd hwn ar waith.

 

Mynegwyd balchder bod yr Adran yn hyrwyddo’r Gymraeg yn genedlaethol wrth i Gronfeydd Pensiwn eraill uwchraddio i’r system hunanwasanaeth. Cadarnhawyd bod Cronfeydd Pensiwn Powys, Torfaen, Abertawe a Rhondda Cynon Taf yn defnyddio’r safle gan nodi y disgwylir i fwy o Gronfeydd uwchraddio dros y misoedd nesaf. Eglurwyd bod ymdrech parhaus yn cael ei wneud i gyflwyno eitemau ychwanegol i’r safle hunanwasanaeth yn ogystal â gwaith technolegol i wella sut mae’r rhithffurf yn ynganu termau Cymraeg. Ychwanegwyd bod y Gronfa Bensiwn wedi derbyn adborth cadarnhaol yn dilyn llwyddiant eu stondin yn Eisteddfod Genedlaethol 2023 ym Moduan, a bod adborth cadarnhaol pellach wedi cael ei dderbyn wrth i’r Gronfa rannu stondin gyda Chronfa Bensiwn Clwyd yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam eleni. Tynnwyd sylw bod y mwyafrif o bobl yn ddi-Gymraeg yng Nghronfa Bensiwn Clwyd gan obeithio bydd y cydweithio hyn yn arwain mwy o ddefnydd o’r Gymraeg yn y Gronfa honno. Hefyd, adroddwyd bod swyddogion y Gwasanaeth Pensiwn wedi darparu geiriadur o dermau Cymraeg i’r Gymdeithas Llywodraeth Leol ac Arolygwyr Trethi ei Mawrhydi er mwyn sicrhau bod defnydd o’r termau hynny yn cael eu defnyddio.

 

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:- 

 

Mewn ymateb i ymholiad am argraffiadau o’r peilot sydd ar waith o Microsoft Copilot ar systemau Technoleg Gwybodaeth y Cyngor, cadarnhaodd Pennaeth Cynorthwyol Technoleg Gwybodaeth nad oes canlyniadau llawn i’w gweld hyd yma. Fodd bynnag, eglurwyd bod treial o’r meddalwedd wedi cael ei gynnal yn y gorffennol a bod y trawsgrifiad o gyfarfodydd rhithiol a ddatblygwyd yn y Gymraeg drwy’r system bryd hynny yn wael iawn. Er hyn, cadarnhawyd bod canlyniadau cychwynnol y peilot yn awgrymu bod y meddalwedd wedi datblygu llawer yn ddiweddar a bod y trawsgrifiadau Cymraeg sydd yn cael ei ddatblygu o gyfarfodydd rhithiol o fewn y meddalwedd yn llawer mwy cywir.

 

Holiwyd os yw’r Cyngor yn rhagweithiol wrth werthu meddalwedd sydd yn cael ei ddefnyddio gan sefydliadau a Chynghorau eraill, ac os oes incwm i’r Cyngor o werthu’r cynnyrch hyn. Eglurwyd bod gwaith hyrwyddo penodol yn cael ei wneud ar feddalwedd addysgiadol a gafwyd ei ddatblygu gan Cynnal;, cyn i’r gwasanaeth hwnnw gael ei drosglwyddo i’r Adran Gyllid. Cadarnhawyd bod y rhain, megis rhaglen ‘CDU ar lein’ wedi cael ei hyrwyddo a'i werthu i siroedd eraill. Serch hyn, tynnwyd sylw bod hyrwyddo meddalwedd eraill megis system i dracio cerbydau’r fflyd, ddim wedi dwyn ffrwyth gan nad oedd llawer o ddiddordeb eraill gan Gynghorau eraill i’w prynu. Fodd bynnag, nodwyd bod mwy o ddiddordeb yn y math hwn o feddalwedd erbyn hyn. Tynnwyd sylw bod mwy o ddiddordeb mewn meddalwedd os yw’n cael ei genhadu gan gynghorau eraill yn hytrach na drwy waith hyrwyddo Cyngor Gwynedd.

 

Mewn ymateb i ymholiad os oes unrhyw wrthdaro o fewn systemau wrth i feddalwedd deallusrwydd artiffisial gael ei integreiddio i systemau presennol y Cyngor, cadarnhaodd bod datblygiad deallusrwydd artiffisial wedi derbyn sylw penodol o fewn Cynllun Digidol Cyngor Gwynedd. Eglurwyd bod cyllideb dros dro wedi cael ei adnabod er mwyn penodi aelod o staff i arwain ar y maes hwn a sicrhau ei fod yn cael ei wreiddio yn gywir a diogel o fewn systemau’r Cyngor.

 

Diolchwyd am yr adroddiad, gan longyfarch yr adran ar eu gwaith arloesol.

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd yn ystod y drafodaeth.

 

 

Dogfennau ategol: