I ystyried
yr adroddiad.
Penderfyniad:
Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd yn
ystod y drafodaeth.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Bennaeth yr Adran
Priffyrdd, Peirianneg ac YGC a'r Rheolwr Datblygu Busnes. Tynnwyd sylw’n fras
at y prif bwyntiau canlynol:
Nodwyd bod yr adran yn arwain ar dri
phrosiect yng Nghynllun y Cyngor ar hyn o bryd, sef; Cymunedau Glân a Thaclus,
Gweithredu ar risgiau llifogydd ac Ymestyn cyfleoedd chwarae a chymdeithasu ar
gyfer plant a phobl ifanc y Sir.
Adroddwyd bod 11 o feinciau clyfar wedi cael
eu gosod yng Ngwynedd eleni. Eglurwyd bod y meinciau hyn yn gallu adrodd hanes
lleol cyfagos drwy gydweithio gydag unigolion adnabyddus megis Casi Wyn, Rhys
Iorwerth, Guto Dafydd, Gwyneth Glyn, Manon Steffan Ros a Cedron Sion. Mynegwyd
balchder bod y prosiect hwn yn arloesol gan ei fod yn ddull newydd o rannu
hanes lleol drwy gyfrwng y Gymraeg. Tynnwyd sylw bod y meinciau wedi cael eu
gosod ym Mangor, Caernarfon, Pwllheli, Cricieth, Tywyn a Phorthmadog.
Atgoffwyd bod Ymgynghoriaeth Gwynedd yn cael
ei weinyddu fel endid masnachol, gan gadarnhau bod y Cynllun Busnes newydd wedi
cael ei lansio ym mis Ebrill eleni, ar gyfer y pum mlynedd nesaf. Sicrhawyd bod
y cynllun busnes hwn yn cael ei ddatblygu a’i raeadru drwy’r iaith Gymraeg.
Ymhelaethwyd bod gwella sgiliau iaith staff yn nod yn ystod y cyfnod hwn drwy
ddarparu addysg a hyfforddiant Cymraeg. Rhannwyd fideo recriwtio Ymgynghoriaeth
Gwynedd a fydd yn cael ei rannu ar y cyfryngau cymdeithasol yn fuan.
Cadarnhawyd bod yr adran yn cydweithio gyda
busnesau lleol ac isgontractwyr yn rheolaidd gan rannu enghraifft bod Tîm
Categori Amgylchedd wedi cynnal digwyddiad yn Nhŷ Gwyrddfai ym Mhenygroes
gyda chydweithrediad adrannau eraill y Cyngor, Cymdeithas Tai Adra Cyf yn
ogystal â chwmnïau eraill. Yn debyg, nodwyd bod yr Adran yn mynychu ffeiriau
swyddi a digwyddiadau er mwyn ymgysylltu a phobl Gwynedd, drwy gynnal sgyrsiau
wyneb i wyneb ar gyfleon y cwmni a’r buddion o weithio i sefydliad gyda
gweithle Cymraeg.
Diolchwyd i’r Adran Gyllid a’r gwasanaeth
Technoleg Gwybodaeth am ddatblygu system i reoli Fflyd y Cyngor drwy gyfrwng y
Gymraeg gan ei fod yn cynorthwyo’r broses o archebu deunyddiau, cofnodi gwaith,
rheoli gyrwyr, cynnal rhaglen cynnal a chadw a chadw manylion am gerbydau.
Nodwyd bod y rhaglen hon yn Gymraeg ac wedi cael ei werthu ymlaen i awdurdodau
eraill fel y nodwyd yn eitem flaenorol y cyfarfod hwn.
Diweddarwyd bod yr Adran yn y broses o
ddiweddaru cerbydau’r fflyd i fod yn rhai trydan, gan nodi bod 88 cerbyd trydan
yn rhan o’r fflyd ar hyn o bryd. Cydnabuwyd bod defnyddio cerbydau trydan yn
parhau i fod yn brofiad newydd i aelodau staff y Cyngor ac felly mae fideo
Cymraeg ‘Sut i ddefnyddio cerbydau trydan’ wedi cael ei ddatblygu gan yr Adran
i gynorthwyo aelodau staff wrth ddefnyddio’r cerbyd a'i wefru.
Manylwyd bod yr Adran yn cyflogi 433 o
aelodau staff a bod 265 (61.2%) wedi cyflawni eu hunanasesiad iaith.
Pwysleisiwyd bod y 149 aelod arall o staff yn weithwyr rheng flaen ac mae’r
rheolwyr wedi cwblhau eu hunanasesiad ar eu rhan. Cadarnhawyd mai dim ond 19 o
aelodau staff sydd heb gyflawni unrhyw fath o asesiad iaith ar hyn o bryd.
Mynegwyd balchder bod 96.9% o aelodau staff yr Adran yn cyrraedd dynodiad iaith
eu swydd, gan nodi bod gwaith yn cael ei wneud er mwyn cynnig hyfforddiant
Cymraeg i’r 13 aelod staff sydd ddim yn cyrraedd y dynodiad iaith berthnasol ar
gyfer eu swydd.
Cydnabuwyd bod rhai systemau a ddefnyddir gan
yr Adran yn rhai uniaith Saesneg, gan sicrhau bod pob ymdrech yn cael ei wneud
i sicrhau eu bod yn cael eu cyfieithu i’r Gymraeg i’r dyfodol er budd yr
aelodau staff a’r cyhoedd.
Mynegwyd balchder bod gan wasanaeth
Ymgynghoriaeth Gwynedd achrediad Buddsoddwyr Mewn Pobl gan ymfalchïo bod modd
cynnal yr arolwg er mwyn derbyn yr achrediad drwy gyfrwng y Gymraeg.
Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd
y sylwadau a ganlyn:-
Ystyriwyd bod y nifer o aelodau
staff sydd wedi cyflawni’r hunanasesiad iaith yn isel iawn, gan ofyn i’r
swyddogion am wybodaeth bellach am y mater hwn. Mewn ymateb i’r ystyriaethau,
eglurodd Pennaeth yr Adran bod hyn yn deillio o’r ffaith bod nifer o aelodau
staff yr adran yn weithwyr rheng flaen ac nid oes ganddynt gyfrifiadur y Cyngor
yn rhinwedd y swydd gan olygu nad oes ganddynt fynediad i’r asesiad.
Ymhelaethodd y Rheolwr Datblygu Busnes bod gwaith yn mynd rhagddo i sicrhau bod Rheolwr yr aelodau staff hynny
sydd heb fynediad i’r asesiad yn ei gyflawni gyda hwy ar eu rhan. Cadarnhaodd Swyddog Dysgu a Datblygu’r Iaith Gymraeg bod
sylwadau a gyflwynir gan Reolwr yn ystod asesiadau iaith yn gallu bod yn
adlewyrchiad mwy teg o wir sefyllfa ieithyddol y staff gan fod unigolion yn
dueddol o fod yn ddihyder yn eu sgiliau ieithyddol wrth hunanasesu.
Clodforwyd yr Adran am hyrwyddo eu gwaith
mewn amrywiol ffyrdd gan ystyried os yw’r ymgyrchoedd recriwtio hyn wedi bod yn
llwyddiannus. Mewn ymateb, cadarnhaodd Pennaeth yr Adran bod nifer o swyddi
cyffrous wedi cael eu hysbysebu yn ddiweddar. Nodwyd mai prif her yr Adran yw
denu pobl yn ôl i Wynedd i weithio oherwydd bod rhagdybiaeth nad oes swyddi
arbenigol ar gael yma. Mynegwyd balchder bod yr Adran wedi llwyddo i gynnig
swyddi arbenigol a denu pobl yn ôl i’r ardal a chodi proffil yr Adran ac
Ymgynghoriaeth Gwynedd fel cyflogwr lleol. Gobeithiwyd bod y fideo recriwtio a
fydd yn cael ei rannu ar y cyfryngau cymdeithasol yn fuan yn hwb ychwanegol i'r
nod hwn i’r dyfodol, gan gadarnhau bod yr Adran yn cynnig swyddi a
phrentisiaethau. Yn debyg, cadarnhaodd y Rheolwr Datblygu Busnes bod yr Adran
wedi hyrwyddo gwaith yr Adran i dros 40 o fyfyrwyr gyda chymorth MSbarc yn
ddiwedd a bod myfyrwyr profiad gwaith yn cael eu derbyn yn rheolaidd i ddysgu
mwy am yr hyn mae’r Adran yn ei gyflawni.
Diolchwyd am yr adroddiad.
PENDERFYNWYD
Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd yn ystod y
drafodaeth.
Dogfennau ategol: