Y Prif
Weithredwr a’r Swyddog Cynllunio Strategol Rhanbarthol i gyflwyno’r adroddiad.
Penderfyniad:
Argymell i'r Cyd-bwyllgor Corfforedig ei fod yn
barod i gymeradwyo’r Cytundeb Cyflawni drafft yn dilyn ymgynghori a’i gyflwyno
i Lywodraeth Cymru, yn amodol ar benderfyniad cyllid yr CDS.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Swyddog Cynllunio Datblygu
Strategol Rhanbarthol.
PENDERFYNWYD
Argymell i'r
Cyd-bwyllgor Corfforedig ei fod yn barod i gymeradwyo’r Cytundeb Cyflawni
drafft yn dilyn ymgynghori a’i gyflwyno i Lywodraeth Cymru, yn amodol ar
benderfyniad cyllid yr CDS.
RHESYMAU DROS Y
PENDERFYNIAD
Yr Is-bwyllgor Cynllunio Strategol sydd yn gyfrifol am
baratoi’r Cytundeb Cyflawni drafft. Mae gan yr is-bwyllgor swyddogaethau
cydlynu a chynllunio ynghylch pob cam tuag at gyflawni'r CDS.
TRAFODAETH
Atgoffwyd bod yr Aelodau wedi cymeradwyo cynnal ymgynghoriad
cyhoeddus o Gytundeb Cyflawni’r Cynllun Datblygu Strategol ar ffurf draft am gyfnod o 6 wythnos, mewn cyfarfod anffurfiol o’r
Is-bwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 27ain Mehefin 2025. Diweddarwyd bod yr
ymgynghoriad cyhoeddus bellach wedi dod i ben gan gadarnhau bod yr adroddiad
hwn yn cyflwyno’r adborth ac ymatebion a dderbyniwyd gan y cyhoedd a
rhanddeiliaid.
Adroddwyd
bod Cynllun Cyflawni’r Cynllun Datblygu Strategol wedi cael ei
gymeradwyo gan y Cyd-bwyllgor Corfforedig yn ei gyfarfod
ar 18 Gorffennaf 2025 a bod yr ymatebion
a dderbyniwyd fel rhan o’r ymgynghoriad yn cyfrannu at ddiweddariad o’r ddogfen honno.
Tynnwyd sylw bod Swyddogion wedi gwahodd nifer
fawr o rhanddeiliaid a phartneriaid i gymryd rhan yn
yr ymgynghoriad cyhoeddus,
er mwyn sicrhau proses agored. Diweddarwyd bod 16 ymateb ffurfiol wedi cael ei
derbyn i’r ymgynghoriad cyhoeddus gan nifer o sefydliadau
megis Awdurdodau Lleol a swyddogion penodol oddi fewn
iddynt, Comisiynydd y Gymraeg, grwpiau cymunedol a Heneb. Cydnabuwyd nad oes nifer fawr
o ymatebion wedi dod i law ond
sicrhawyd bod y sylwadau a dderbyniwyd yn safonol iawn a bod y broses hon yn allweddol o godi ymwybyddiaeth o’r Cynllun Datblygu Strategol yn ei gyfanrwydd.
Nodwyd
bod fersiwn diwygiedig o’r ymatebion a dderbyniwyd fel rhan o’r ymgynghoriad
cyhoeddus wedi cael ei gylchredeg
i’r Aelodau yn dilyn cyhoeddi’r Rhaglen ar gyfer y cyfarfod hwn. Eglurwyd
nad oedd yr ymgynghoriad wedi dod i ben pan roedd
dogfennaeth y cyfarfod hwn yn cael
eu cyhoeddi ac roedd nifer o’r ymatebion wedi cyrraedd Swyddogion ar ddiwrnod olaf yr ymgynghoriad. Ystyriwyd ei fod yn
bwysig bod yr aelodau yn derbyn yr holl
wybodaeth a ddaeth i law ac felly rhannwyd fersiwn diwygiedig o’r ymatebion i’r Aelodau gyda chaniatâd y Cadeirydd.
Amlygwyd
bod yr ymatebion yn gofyn a oes
amser digonol wedi cael ei
glustnodi ar gyfer ymarferion ymgynghorol. Eglurwyd bod y gofyniadau statudol o sicrhau bod ymgynghoriadau cyhoeddus yn cael eu
cynnal am gyfnod o 6 wythnos yn cael
ei lynu ato
er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth ddeddfwriaethol. Nodwyd hefyd bod gan y Cyd-bwyllgor bwerau i ymestyn
cyfnodau ymgynghoriadau cyhoeddus os yw’n
dymuno gwneud hynny.
Pwysleisiwyd bod nifer o ymatebion i’r ymgynghoriad yn tynnu
sylw at ystyriaethau’r iaith Gymraeg. Diolchwyd iddynt am eu sylwadau gan
sicrhau bod yr iaith Gymraeg yn derbyn ystyriaeth barhaus o fewn gwaith y
Cyd-bwyllgor.
Eglurwyd bod nifer o ymatebwyr wedi tynnu sylw at hyd y
Cynllun Cyflawni, sef cyfnod o 5 mlynedd, gan ystyried os yw’r amserlen hon yn
rhy heriol ac os bydd angen amser ychwanegol i gyflawni’r Cynllun Datblygu
Strategol. Mewn ymateb i’r ystyriaethau hyn, cadarnhaodd y Swyddog Cynllunio
Datblygu Strategol Rhanbarthol bod amserlen y Cynllun yn cyd-fynd â gofynion
statudol gan bwysleisio bod swyddogion yn derbyn arweiniad a chyngor er mwyn
sicrhau nad yw’r amserlen hon yn llithro.
Adroddwyd
bod nifer o’r Awdurdodau Lleol a gyflwynodd sylwadau i’r ymgynghoriad
cyhoeddus wedi ystyried sut mae’r
Cynllun yn cael ei ariannu
a pha effaith byddai hynny yn
ei gael ar gyllidebau ac adnoddau’r Awdurdodau Lleol. Cydnabuwyd bod cyllido’r Cynllun yn fater
i’r Cyd-bwyllgor Corfforedig a’i fod yn derbyn
ystyriaeth gyson. Ymhelaethwyd bod Swyddogion yn awyddus i
sicrhau bod adnoddau yn cael eu
defnyddio yn y dull mwyaf effeithiol er mwyn sicrhau proses cydweithredol ar draws y rhanbarth.
Manylwyd bydd rhaid creu swyddi
a chynnig secondiadau er mwyn sicrhau bod y Cynllun yn cael
ei gyflawni gan wneud pob
ymdrech i sicrhau bod y broses honno yn effeithiol a pheidio amharu’n negyddol ar adnoddau’r Awdurdodau Lleol.
Dogfennau ategol: