Y Prif
Weithredwr a’r Swyddog Cynllunio Strategol Rhanbarthol i gyflwyno’r adroddiad.
Penderfyniad:
Cymeradwyo'r materion cyllido a'r opsiynau a nodir yn y
nodyn briffio atodol ac argymell i'r Cyd-bwyllgor Corfforedig ystyried pob
opsiwn i gyllido'r CDS, gan gynnwys gwneud sylwadau pellach i Lywodraeth Cymru.
Gofynnwyd i’r swyddogion addasu geiriad yr Adroddiad i amlygu disgwyliadau
cyllidebol rhwng y Llywodraeth a’r CBC ac annog cyfraniad ariannol cyson gan y
Llywodraeth er mwyn osgoi’r angen am grantiau dros dro wrth osod y gyllideb
hirdymor.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Swyddog Cynllunio Datblygu
Strategol Rhanbarthol.
PENDERFYNWYD
Cymeradwyo'r materion cyllido a'r opsiynau a nodir yn y nodyn
briffio atodol ac argymell i'r Cyd-bwyllgor Corfforedig ystyried pob opsiwn i
gyllido'r CDS, gan gynnwys gwneud sylwadau pellach i Lywodraeth Cymru.
Gofynnwyd i’r swyddogion addasu geiriad yr Adroddiad i amlygu disgwyliadau
cyllidebol rhwng y Llywodraeth a’r CBC ac annog cyfraniad ariannol cyson gan y
Llywodraeth er mwyn osgoi’r angen am grantiau dros dro wrth osod y gyllideb
hirdymor.
RHESYMAU DROS Y
PENDERFYNIAD
Sicrhau bod yr Is-bwyllgor Cynllunio Strategol yn gwbl
ymwybodol o'r materion cyllido a'r opsiynau sy'n ymwneud â'r CDS i lywio eu
hargymhellion i'r Cyd-bwyllgor.
TRAFODAETH
Eglurwyd
bod yr adroddiad yn amlygu opsiynau sy’n ymwneud ag ariannu’r gwaith o gynhyrchu’r Cynllun Datblygu Strategol, cyn paratoi cyllidebau dros tymor yr hydref.
Diolchwyd i grŵp o brif swyddogion cynllunio gogledd Cymru am eu gwaith o ymchwilio i mewn i
wahanol faterion ariannol ynghlwm a’r Cynllun. Nodwyd
bod modd rhoi ystyriaeth bellach i’r materion ariannol
sydd wedi cael ei baratoi
gan Swyddogion hyd yma, gan
fod yr Aelodau wedi cymeradwyo cyflwyno fersiwn drafft o’r Cynllun Datblygu Strategol i’r Cyd-bwyllgor Corfforedig yn gynharach yn ystod
y cyfarfod hwn.
Atgoffwyd
bod dyletswydd gyfreithiol yn cael ei
roi ar y Cyd-bwyllgor Corfforedig drwy statud i ddatblygu
Cynllun Datblygu Strategol yn ogystal â’i
ariannu. Nodwyd bod swyddogion wedi derbyn nifer o sylwadau yn ystyried
a ddylai Llywodraeth Cymru ariannu’r Cynllun a’r broses o’i sefydlu ond mewn
ymateb, cadarnhawyd nad oes cynllun
hirdymor wedi cael ei gyflwyno
gan Lywodraeth i’r ariannu gan
ei wneud yn ofynnol i’r
Cyd-bwyllgor gydymffurfio â’r gofynion statudol.
Er nad oes cyllideb
hir-dymor wedi cael ei glustnodi
gan Lywodraeth Cymru, adroddwyd eu bod wedi adnabod cyllideb
o oddeutu £400,000 sydd yn berthnasol ar gyfer holl Gyd-bwyllgorau
Corfforedig Cymru. Nodwyd na fydd yr arian
hwn yn cael
ei rannu’n hafal rhwng y Cyd-bwyllgorau ond yn hytrach yn
cael ei ddyrannu
yn unol â pherfformiad y Cyd-bwyllgorau i ddatblygu eu
Cynllun Cyflawni er cymeradwyaeth. Eglurwyd bod Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd yn awyddus i
sicrhau bod datblygiadau
yn cael ei
wneud i Gynllun
Cyflawni’r Cynllun Datblygu
Strategol yn ystod y flwyddyn ariannol hon er mwyn gallu denu’r arian
hwn i gyfrannu
at gyllido’r Cynllun. Cysidrwyd byddai modd gwneud cais
am oddeutu £100,000 o’r arian
hwn yn dilyn
cyfarfod 19 Medi 2025 o’r Cyd-bwyllgor
Corfforedig, os yw’r aelodau yn
cymeradwyo’r Cynllun Cyflawni drafft. Eglurwyd os oes
modd cadarnhau ymrwymiad ariannol ychwanegol i gyfrannu
at gyllideb y Cynllun o fewn y flwyddyn ariannol gyfredol, y byddai modd ymgeisio
am oddeutu £200,000 ychwanegol
o’r arian grant hwn a gynigir gan Lywodraeth
Cymru.
Mynegwyd balchder bod gwaith cyllidebu’r Cyd-bwyllgor wedi bod yn effeithiol
iawn hyd yma ac er bod cryn dipyn o arian wedi
cael ei glustnodi
er mwyn cefnogi’r Cynllun, mae oddeutu
£1.1miliwn o’r gyllideb ar ôl
i gael ei
ganfod o ffynonellau amgen. Ymhelaethwyd bydd ystyriaethau ar sut i gyfarch
y bwlch ariannol hwn yn cael
ei wneud wrth gysidro cyllidebau
dros dymor yr hydref.
Manylwyd
ar un opsiwn cyllidebol sef i gynyddu
cyfraniadau gan Awdurdodau Lleol rhanbarth y gogledd o 5%. Adroddwyd byddai hyn yn gyfwerth
ag oddeutu £3.27miliwn i
£3.3miliwn i gyllido’r Cynllun.
Tynnwyd sylw y bydd Cynllun
Datblygu Strategol a’r wybodaeth am ei ariannu yn cael
ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru er cymeradwyaeth os byddai’n derbyn cefnogaeth yr is-bwyllgor hwn a’r Cyd-bwyllgor
Corfforedig.
Adroddwyd yr amcangyfrifwyd bwlch o oddeutu £1.1miliwn yng
nghyllideb y Cynllun Datblygu Strategol dros gyfnod o 5 mlynedd. Mynegwyd
pryder y byddai hynny’n cyfateb i gynnydd o 50% yng nghyfraniadau’r Awdurdodau
Lleol i’r gyllideb, gan fod hyn yn rhoi pwysau ychwanegol sylweddol ar yr
Awdurdodau. Ychwanegwyd bod y cyfraniadau yn amrywio rhwng
yr Awdurdodau yn unol â maint y boblogaeth a fyddai’n cael effaith niweidiol
ar yr Awdurdodau hynny. Mewn ymateb i’r
pryderon, pwysleisiodd Swyddog Cynllunio Datblygu Strategol Rhanbarthol mai dim ond opsiwn
cyllidol fyddai hyn gan sicrhau
nad oes unrhyw
benderfyniad wedi cael ei wneud
ar y mater hyd yma. Ymhelaethwyd bydd y Cyd-bwyllgor yn mynd
drwy broses o edrych ar gyllidebau dros y misoedd nesaf ac yn obeithiol bydd
cyllid yn cael ei ganfod
o ffynonellau eraill, gan hefyd gydnabod
bod gofyn am gyfraniad ychwanegol gan yr Awdurdodau Lleol yn opsiwn y bydd
rhaid ei ystyried fel rhan
o’r broses honno - gan nodi
byddai hyn oddeutu £30,000 ychwanegol yn flynyddol gan
y 7 Awdurdod.
Ymhellach,
nododd Swyddog Cynllunio Datblygu Strategol Rhanbarthol os byddai’r Cyd-bwyllgor Corfforedig yn llwyddo i ddenu
arian grant o oddeutu
£200,000 fel y’i trafodwyd yn flaenorol,
byddai hynny gyfwerth â’r cyfraniad
ychwanegol a byddai’n ofynnol gan yr Awdurdodau Lleol am flwyddyn gyntaf y Cynllun. Pwysleisiodd y Prif Swyddog Cyllid
y byddai hyn yn effeithiol gan
hefyd nodi byddai angen edrych ar y sefyllfa yn flynyddol
wrth baratoi cyllidebau. Atgoffwyd o’r angen i gyflwyno
cyllidebau a’r lefi gyfraniadau ar gyfer pob Awdurdod
Lleol erbyn mis Ionawr, gan sicrhau
bydd swyddogion yn cydweithio â nhw er mwyn ymdrechu
i osod y llefi mor isel â phosib. Sicrhawyd na fyddai cymeradwyo’r opsiynau a gyflwynwyd fel rhan o’r adroddiad
i ariannu’r Cynllun yn cytundebu’r
Awdurdodau Lleol i gyfrannu cyllidebau
ychwanegol i’r datblygiad, gan nodi bydd trafodaethau pellach yn cael
eu cynnal yn dilyn cadarnhau’r
gyllideb.
Mewn ymateb i’r drafodaeth,
mynegwyd pryder y byddai’r Awdurdodau Lleol yn llwyddo
i gyfarch unrhyw ofynion am gyfraniadau ychwanegol, tra hefyd yn
ystyried nad oes ymrwymiad cyllidol
hir-dymor wedi cael ei gyhoeddi
gan Lywodraeth Cymru i gynorthwyo datblygiad
y Cynllun. Gofynnwyd i’r swyddogion amlygu disgwyliadau cyllidebol rhwng y Llywodraeth a’r CBC i’r dyfodol ac annog cyfraniad ariannol cyson gan y Llywodraeth er mwyn osgoi’r angen
am grantiau dros dro wrth osod
y gyllideb hirdymor, gan gynnig ac eilio
i gryfhau’r geiriad hwn erbyn
i’r ddogfen gael ei gyflwyno
i’r Cyd-bwyllgor Corfforedig ar 19 Medi 2025.
Ystyriwyd
os byddai modd gohirio penderfyniad
ar ariannu’r gwaith o gynhyrchu’r Cynllun Datblygu Strategol nes i etholiadau’r Senedd gael eu cynnal
yn 2026, er mwyn sicrhau bod cynlluniau Llywodraeth Cymru yn parhau gyda’r trefniadau
presennol ac ystyried os byddai modd
i’r Llywodraeth gyfannu’n fwy sylweddol
i’r datblygiad. Mewn ymateb i’r
ystyriaethau, eglurodd y prif Weithredwr y gobeithiai bod parhau gyda’r trefniadau sydd ar waith yn
denu cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru maes o law, ac yn sicrhau bod y Cyd-bwyllgor yn llwyddo
i ddatblygu’r Cynllun yn amserol.
Yn yr un modd, ychwanegwyd byddai’r Cyd-bwyllgor Corfforedig yn methu â chyrraedd targedau a disgwyliadau statudol os oes
unrhyw oedi o’r math yma ar benderfyniadau.
Dogfennau ategol: