Cyflwynwyd gan:Cyng. Llio Elenid Owen
Penderfyniad:
Nodwyd cynnwys a chymeradwywyd Adroddiad Blynyddol 2024-25,
Cynllun Cydraddoldeb 2024-28.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Llio Elenid Owen
PENDERFYNIAD
Derbyniwyd yr adroddiad.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adroddiad gan ddatgan mai hwn yw adroddiad
blynyddol cyntaf Cynllun Cydraddoldeb 2024-2028.
Eglurwyd bod yr adroddiad yn nodi’r cynnydd sydd wedi ei
wneud yn erbyn y 5 amcan cydraddoldeb a gaiff ei nodi yn yr adroddiad, sef y
gwaith hwnnw fydd yn flaenoriaeth i’r Cyngor drwy gydol cyfnod y Cynllun.
Ymfalchïwyd yn y ffaith bod y rhan fwyaf o’r gwaith a
glustnodwyd ar gyfer y cyfnod wedi ei gwblhau, a bydd unrhyw waith heb ei
gwblhau yn cael ei wneud eleni.
Amlygwyd rhai o brif bwyntiau’r adroddiad:
- Soniwyd bod y Cyngor wedi
derbyn achrediad lefel 2 o’r Cynllun Hyderus o ran Anabledd, a nawr yn
gweithio tuag at lefel 3.
- Nodwyd bod Fforwm
Cydraddoldeb Staff wedi cychwyn fel bod modd i staff gyfrannu a rhoi barn
ar faterion cydraddoldeb o fewn eu cyflogaeth.
- Amlygwyd bod hyfforddiant
yn cael ei roi i staff ac i aelodau etholedig yn y maes niwroamrywiaeth. Ychwanegwyd bod y niferoedd o staff
sy’n gwneud yr hyfforddiant mandadol nawr ar gael i’r aelodau, ac mae
meysydd blaenoriaeth ar gyfer hyfforddiant wedi cael eu hadnabod felly
mae’r gwaith i drefnu hyfforddiant yn y meysydd cydraddoldeb eraill ar
droed.
- Datgelwyd bod yr Adran Tai
ac Eiddo wedi bod yn casglu gwybodaeth drwy’r arolwg corfforaethol Ardal
Ni, yn uchafu’r nifer o dai fforddiadwy ac yn darparu cymorth er mwyn
cynyddu effeithlonrwydd tai. Ategwyd bod trefniadau wedi cael eu
symleiddio fel ei bod yn haws i bobl gael mynediad at grant cymorth tai
a’r drefn tai cymdeithasol.
- Nodwyd bod camau
gweithredu wedi eu sefydlu ar gyfer ysgolion drwy ddadansoddi’r Siarter ‘Y Gost o
Fynychu’r Ysgol’, sy’n edrych ar y gost ariannol ac emosiynol i blant
fynychu’r ysgol.
- Mae Cydlynydd Cyfathrebu
ac Ymgysylltu wedi’i benodi i sefydlu trefniadau effeithiol i dderbyn
mewnbwn plant a phobl ifanc, drwy gynghorau a fforymau ysgol, gan sicrhau
gweithredu ar lais y disgybl, beth bynnag eu nodweddion gwarchodedig a’u
hanghenion.
Eglurwyd bod nifer o adrannau gwahanol ar draws y Cyngor
wedi bod yn rhan o adeiladu’r Cynllun, a bod hyn wedi cyfrannu at ei
lwyddiant.
Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:
- Diolchwyd am yr adroddiad,
a mynegwyd balchder o weld ffocws wedi ei roi ar drafod gyda chymunedau a
gwrando ar leisiau pobl ifanc y sir.
- Holwyd am yr ymateb sy’n
deillio o’r Fforwm Cydraddoldeb Staff. Cadarnhawyd mai un cyfarfod sydd
wedi bod hyd yma, a bod bwriad i adeiladu ar hyn.
- Crybwyllwyd cyfraniad yr
Adran Tai ac Eiddo i’r cynllun a thynnwyd sylw at y ffaith fod y Siop Un
Stop nawr ar agor. Nodwyd y bydd hyn yn ehangu mynediad y cyhoedd at
wasanaethau tai a fydd, yn y pen draw, yn hyrwyddo cydraddoldeb.
- Pwysleisiwyd pwysigrwydd y
parhad yn ymrwymiad y Cyngor i gydraddoldeb. Soniwyd am y gwaith gwych a
wneir gan y tîm awtistiaeth yn ogystal. Mynegwyd balchder bod Gwynedd yn
Awdurdod Oed Gyfeillgar sydd wedi ei ddynodi gan sefydliad Iechyd y Byd, a
bod y cynllun hwn yn cadarnhau ymrwymiad y Cyngor i’r dynodiad hwnnw.
- Ategwyd ei bod yn hanfodol
i’r Cabinet ystyried cydraddoldeb ar bob adeg yn ei benderfyniadau.
- Tynnwyd sylw at y ffaith
bod 18 cwyn yn gysylltiedig â chydraddoldeb wedi eu nodi yn yr adroddiad,
a 7 o’r rheiny yn gwynion dilys; holwyd sut y defnyddir y wybodaeth hon i
wella gwasanaethau. Nodwyd bod ‘mynediad’ wedi ei adnabod fel patrwm yn y
cwynion hyn, ac ychwanegwyd ei fod yn bwnc sydd o fewn y Cynllun yn barod
â’r mannau problemus wedi eu hadnabod ac yn cael sylw arbennig.
- Soniwyd am roi ffocws
ychwanegol o fewn y prosiect Merched Mewn Arweinyddiaeth ar ferched o
gefndiroedd lleiafrifol ethnig a’r rheiny sydd ag anableddau er
enghraifft. Cadarnhawyd bod sylw’n cael ei roi i’r mater hwn o fewn Amcan
1 y Cynllun yn barod.
Awdur:Delyth G Williams, Ymgynghorydd Cydraddoldeb a Gwenno M Owen, Hyfforddai Cydraddoldeb
Dogfennau ategol: