Agenda item

Cais llawn i ddymchwel tŷ (C3) a modurdy presennol a chodi tŷ newydd (C3) 3 ystafell wely yn eu lle

 

Aelod Lleol: Y Cynghorydd Gareth Williams

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r amodau canlynol: 

 

  1. Amser
  2. Cydymffurfio gyda chynlluniau
  3. Cytuno deunyddiau gan gynnwys llechi to
  4. Materion Ecolegol gan gynnwys cynnal y datblygiad yn unol â’r gwelliannau fel y nodir yn y Datganiad Isadeiledd Gwyrdd.
  5. Cytuno ar Gynllun Rheoli Adeiladu
  6. Tirlunio
  7. Materion Priffyrdd
  8. Materion draenio
  9. Amod rheoli sŵn ynghlwm a’r pwmp gwres

 

Cofnod:

Cais llawn i ddymchwel tŷ (C3) a modurdy presennol a chodi tŷ newydd (C3) 3 ystafell wely yn eu lle.

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr.

 

Yng nghyfarfod 14 Gorffennaf 2025, penderfyniad y Pwyllgor oedd cynnal ymweliad safle.

Bu i rai o Aelodau’r Pwyllgor ymweld â’r safle ar Fedi’r 5ed 2025.

 

a)          Amlygodd yr Uwch Swyddog Cynllunio mai cais llawn ydoedd i ddymchwel tŷ deulawr presennol ac adeiladu tŷ newydd deulawr 3 ystafell wely yn ei le o’r un ôl troed. Yn ogystal, bydd bwriad cynnal newidiadau allanol gan gynnwys gwaredu modurdy unllawr presennol a chreu mannau parcio.

 

Nodwyd bod yr ymgeisydd wedi cadarnhau y bydd yr eiddo yn dŷ cymdeithasol gyda Thîm Opsiynau Tai Cyngor Gwynedd yn arwain ar y broses o glustnodi’r eiddo ar y cyd gyda Grŵp Cynefin i ddefnyddwyr ar restr aros. Ategwyd bod bwriad ei osod fel eiddo rhent canolraddol, ar flaenoriaeth fyddai edrych ar y ddeiliadaeth yma i gychwyn, ac os hynny ei hysbysebu drwy Tai Teg.

 

Eglurwyd bod y safle wedi ei leoli y tu allan i unrhyw ffin ddatblygu gyfredol ac felly yng nghefn gwlad agored o fewn dynodiadau Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Llŷn a Thirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Llŷn ac Enlli. Yn gyfochrog i’r safle ceir dau dŷ preswyl ar wahân a ffordd gyhoeddus ddi-ddosbarth yn rhedeg heibio’r safle. Nodwyd bod yr adeilad  presennol mewn cyflwr bregus a ffens ddiogelwch yn gwarchod y safle.

 

Tynnwyd sylw bod cynlluniau diwygiedig wedi eu cyflwyno yn cynnig newidiadau dyluniad oedd yn cynnwys ffenestri mwy traddodiadol, newid lliw'r paneli cladin a darparu wal garreg i ben y bae parcio er mwyn gweddu gydag edrychiadau lleol.

 

Ystyriwyd bod y bwriad yn cydymffurfio gyda chanllawiau a pholisïau cynllunio. Argymhelliad y swyddogion oedd caniatáu’r cais gydag amodau oedd wedi eu rhestru yn yr adroddiad.

b)           Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr Aelod Lleol y sylwadau canlynol

·        Bod Ael y Bryn yn fwthyn traddodiadol sydd yn rhan ehangach o glwstwr o fythynnod traddodiadol Mynydd y Rhiw sydd yn gorwedd ynghanol AHNE Llŷn

·        Yn rhan o Arfordir Treftadaeth Llyn ac yn ymylu ar SAC Ardal Cadwraeth Penllyn a'r Sarnau. Bythynnod a ddylasai cael eu gwarchod rhag datblygiadau fel hyn

·        Y cais arfaethedig yn groes i'r polisïau canlynol: AMG1 Gwrthodir ceisiadau a fydd yn amharu'n negyddol ar olygfeydd i mewn ac allan o'r AHNE; AMG3; AMG4; PS19 Bydd y cynghorau 'n rheoli datblygiadau er mwyn gwarchod a lle bo'n berthnasol gwella amgylchedd naturiol cefn gwlad ac arfordir ardal y cynllun a gwrthodir cynigion a fydd yn cael effaith sylweddol andwyol arnynt.

·        Y datblygiad newydd yn groes i Awyr Dywyll AHNE Llŷn

·        Bod Ael y Bryn wedi ei adael i Dai Eryri / Cynefin mewn ewyllys gan y cyn-berchennog gydag amod bod teulu ifanc lleol yn ymgartrefu ynddo - hyn wedi digwydd deuddeg mlynedd yn ôl a’r sefyllfa wedi achosi rhwystredigaeth yn lleol.

·        Y teimlad yn lleol yw bod Cynefin wedi amddifadu teulu lleol o gael cartref a gyda’r eiddo wedi bod yn wag dros ddegawd, y gwaith strwythurol wedi dirywio

·        Yn dilyn cyflwyniad gan Cynefin yn egluro’r opsiwn i ddymchwel, amlygwyd y rhesymeg dros hynny gan nodi bod gofyn i’r eiddo ennill sgôr gradd A effeithlonrwydd ynni - i gyrraedd hynny, dymchwel ac ail adeiladu fyddai’r unig opsiwn i sicrhau grant angenrheidiol

·        Er derbyn y rhesymeg, rhaid i’r tŷ newydd fod yn debyg i’r eiddo gwreiddiol a gweddu i’r ardal a chadw cymeriad - nid oed ymdrech ddigonol wedi ei wneud gyda’r cais arfaethedig i sicrhau hyn

·        Yn ôl sylwadau’r Swyddog AHNE, nodwyd bod yr adeilad traddodiadol yn cyfrannu at gymeriad yr AHNE a’i fod yn awgrymu amod, pe byddai’r eiddo yn cael ei ddymchwel, yn sicrhau y byddai angen ffenestri traddodiadol eu maint i weddu a chyfyngu llif-goleuadau. Serch hynny, nid yw’r amodau hyn wedi eu cynnwys yn yr adroddiad - pam felly holi am sylwadau? Ystyriwyd bod dyletswydd ar y pwyllgor i ystyried sylwadau ac amodau'r Swyddog AHNE

·        Bod gormod o gladin plastig ar gynllun y tŷ newydd - nid yw hyn yn gweddu - angen mwy o ddefnydd carreg naturiol

·        Dim yn gofyn i’r Pwyllgor wrthod y cais gan y byddai hyn yn amddifadu grant i adnewyddu’r bwthyn fydd o ganlyniad yn sefyll yn wag, ond rhaid gwneud gwelliannau i’r cais i weddu’r ardal a chadw cymeriad Ael y Bryn.

 

c)      Cynigiwyd ac eiliwyd caniatáu y cais

 

ch)    Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd y sylwadau canlynol gan yr Aelodau:

·        Bod ymdrech wedi ei wneud i gynnwys ffenestri mwy traddodiadol

 

·        Nad oedd addasiadau digonol i’r cynlluniau diwygiedig a gyflwynwyd

·        Bod y cynllun yn rhyd fodern – yn ymylu ar ddinistrio’r rhan yma o’r AHNE

·        Mai clwstwr o dai traddodiadol oedd yma - angen cynllun a dyluniad fyddai’n gweddu’r ardal

·        Bod gormod o gladin yn y dyluniad

·        Annog y pwyllgor i wrthod oherwydd effaith negyddol y dyluniad ar yr ardal neu ohirio i geisio dyluniad mwy traddodiadol ei naws yn hytrach na’r hyn sydd gerbron

·        Bod y bythynnod yma yn rhan o dreftadaeth Penllyn. Cyfrifoldeb i warchod hanes yr ardal

·        Nad yw’r dyluniad yn gweddu - yn hollol wahanol i’r tŷ gwreiddiol. Pryder gall hyn osod cynsail

·        Derbyn bod angen moderneiddio a chyrraedd safon, ond y dyluniad yn ddiolwg

·        Y lleoliad yn un amlwg gyda golygfeydd ysblennydd – cais i addasu ochr blaen y dyluniad

 

Mewn ymateb i’r sylwadau, nododd Pennaeth Cynorthwyol Amgylchedd mai addasiadau i’r tŷ oedd prif ystyriaethau’r cais, ond bod rhaid edrych ar yr hyn sydd yn bodoli yn barod - bod mwy o wydr ar yr eiddo presennol nag ar y dyluniad newydd. Ategodd mai 95m² fydd y tŷ newydd sydd yn bell o fod yn blasty ac nid oedd yr AHNE wedi gwrthwynebu’r cais a bod y sylwadau wedi eu hystyried.

 

PENDERFYNWYD: Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r amodau canlynol:

 

 

1.            Amser

2.            Cydymffurfio gyda chynlluniau

3.            Cytuno deunyddiau gan gynnwys llechi to

4.            Materion Ecolegol gan gynnwys cynnal y datblygiad yn unol â’r gwelliannau fel y nodir yn y Datganiad Isadeiledd Gwyrdd.

5.            Cytuno ar Gynllun Rheoli Adeiladu

6.            Tirlunio

7.            Materion Priffyrdd

8.            Materion draenio

9.            Amod rheoli sŵn ynghlwm a’r pwmp gwres

 

Dogfennau ategol: