Agenda item

Cais o dan Adran 73 ar gyfer diwygio amod 1 o ganiatâd cynllunio cyfeirnod C20/1063/22/AC (Estyniad dwyreiniol arfaethedig ar gyfer echdynnu tywod a graean a gwaith adfer graddol) er mwyn rhoi 4 mlynedd ychwanegol i gwblhau’r gwaith mwynau ac adfer

 

Aelod Lleol: Y Cynghorydd Dafydd Davies

 

Dolen i ddogfennau cefndir perthnasol

Penderfyniad:

 

PENDERFYNIAD: Dirprwyo'r hawl i Bennaeth yr Adran Amgylchedd gymeradwyo'r cais, gydag amodau

 

1.     Daw'r gwaith o echdynnu mwynau i ben erbyn 31 Rhagfyr 2028 ac erbyn hynny bydd yr holl weithfeydd a pheiriannau wedi'u gwaredu o'r safle; bydd y gwaith adfer wedi'i gwblhau erbyn 31 Rhagfyr 2039

2.     Cyfyngu ar yr Hawliau Datblygu a Ganiateir, adeiladau, strwythurau, rhai a godir, ffyrdd preifat, llifoleuadau a ffensys

3.     Mesurau lliniaru ar gyfer effeithiau posib ar ffynhonnau i'r gogledd o'r ardal echdynnu

4.     Mesurau lliniaru ar gyfer bioamrywiaeth leol, Moch Daear, adar sy'n bridio ac ymlusgiaid 

5.     Gweithgareddau a ganiateir a Chydymffurfiaeth â’r Manylion/Cynlluniau a Gyflwynwyd

6.     Oriau Gweithio

7.     Diogelu hawliau tramwy cyhoeddus

8.     Ymdrin â phridd a hwsmonaeth

9.     Draenio, mesurau i atal llygru cyrsiau dŵr lleol 

10.  Adfer i ddefnydd amaethyddol cymysg a chadwraeth natur

11.  Ail-adfer terfynau caeau

12.  Micro-addasu lefelau adfer i sicrhau llif dŵr wyneb i'r gwlypdir tua'r gogledd o ardal y cais

13.  Lliniaru a chofnodi archeolegol

14.  Mesurau ôl-ofal ar gyfer defnyddiau amaethyddol a rheoli bioamrywiaeth

15.  Rheolaethau llwch a chyfyngu ar sŵn yn yr un modd ag y gwneir eisoes, ond hefyd, gosod larymau sŵn gwyn ar beiriannau'r gwaith yn yr wyneb gweithio.

 

 

Cofnod:

Cais o dan Adran 73 ar gyfer diwygio amod 1 o ganiatâd cynllunio cyfeirnod C20/1063/22/AC (Estyniad dwyreiniol arfaethedig ar gyfer echdynnu tywod a graean a gwaith adfer graddol) er mwyn rhoi 4 mlynedd ychwanegol i gwblhau’r gwaith mwynau ac adfer  

 

a)           Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais ydoedd am estyniad amser o bedair blynedd i gwblhau gweithrediadau mwynau a gwaith adfer yng Nghefn Graianog. Eglurwyd bod safle'r cais yn ardal sydd wedi'i hymestyn ar ystlys ddwyreiniol y brif ardal echdynnu, tua 530m o AHNE Llŷn i'r gorllewin gyda Pharc Cenedlaethol Eryri oddeutu 1,500m i'r de-ddwyrain.  Ategwyd bod y safle yn cynnwys tir sydd wedi ei adfer yn flaenorol, ond ail-ymwelwyd â’r tir i ail-weithio mwynau a ystyriwyd yn aneconomaidd yn flaenorol, ond hefyd i alluogi'r un cynllun echdynnu i gael mynediad at ddyddodion pellach, yn ymestyn tua'r dwyrain.

 

Nodwyd y byddai'r dulliau gweithio'r un fath â'r rhai sy'n cael eu defnyddio yn y chwarel ar hyn o bryd a byddant yn defnyddio'r un echdynwyr, cludyddion a'r peiriannau symudol eraill fel y rhai presennol.

 

O ran egwyddor y datblygiad, bydd parhad mewn cloddio tywod a graean ar y safle yn sicrhau bod y Cyngor yn diwallu ei oblygiadau dyraniad yn y Datganiad Technegol Rhanbarthol, i gyflenwi mwynau ar gyfer isranbarth Gogledd Cymru a chadw banc tir saith mlynedd o dywod a graean.  Amlygwyd mai ychydig o gronfeydd tywod a graean a ganiateir sydd ar gael yng Ngogledd Orllewin Cymru a bydd y cynnig hwn yn sicrhau cyflenwad hanfodol o dywod a graean i'r economi adeiladu leol; egwyddor y datblygiad yn dderbyniol ac yn cyd-fynd a gofynion polisïau MWYN 2, MWYN 3 a Pholisi Strategol PS 22 y CDLl.

 

Yng nghyd-destun mwynderau gweledol a’r dirwedd, adroddwyd nad yw’r cais yn cynnwys unrhyw estyniad neu addasiadau ffisegol i'r ardal weithio sydd eisoes wedi'i chymeradwyo. Ystyriwyd yn ddi-os, byddai natur y cynnig i ymestyn oes y gweithrediadau yn ymestyn yr effeithiau gweledol yn y tymor canolig, ond o ystyried ei gyd-destun cyffredinol mewn gwaith mwynau sydd wedi'i sefydlu, ni fyddai'n arwain at unrhyw lefelau mawr o effeithiau gweledol. Er bod ffin AHNE Llŷn yn agos i’r safle cadarnhaodd yr Uned AHNE nad oedd unrhyw bryderon ynghylch yr effaith ar yr AHNE o ystyried mae dim ond cais am estyniad amser cyfyngedig oedd yam. Roedd yr Awdurdod Cynllunio Mwynau yn ystyried fod y bwriad yn cydymffurfio gyda gofynion polisïau PCYFF 3, PCYFF 4 a MWYN 9 y CDLl.

 

Wrth ystyried mwynderau preswyl, nodwyd nad oedd  unrhyw eiddo sensitif wedi'i leoli o fewn parth clustogi 100m o'r datblygiad a bydd yn ddarostyngedig i'r un amodau gwaith â'r amodau presennol, gan gynnwys rheoli sŵn, llwch ac oriau gweithio. Ystyriwyd mai'r dasg o lwytho'r hopran a'r cludwr fyddai’r ffynhonnell sŵn mwyaf ymwthiol ar wyneb y gwaith gan fod peiriannau'r gwaith yn gweithredu mewn safle ymgodol mewn perthynas â lefel y tir o amgylch. Yn ddarostyngedig i amodau priodol i reoli effeithiau sŵn a llwch ac oriau gweithio, ystyriwyd na fydd y cynnig yn cael effaith andwyol ar fwynderau'r ardal ac felly'n cydymffurfio â pholisi PCYFF 2, MWYN 3 a MWYN 5 y CDLl.

 

Nid yw'r bwriad yn cynnwys unrhyw newid i symudiadau traffig a chludo i'r safle ac oddi yno a tynnwyd sylw at yr asesiad bioamrywiaeth oedd wedi'i ddiweddaru ac yn gefnogol i’r cais i ymestyn yr amser. Ystyriwyd yr holl gynefinoedd presennol sydd yn y safle ac aseswyd p'un a fu unrhyw newid i'r cynefinoedd hyn ers y cynhaliwyd yr arolygon ecolegol blaenorol. Argymhellwyd bod y gofynion i weithredu'r mesurau osgoi rhesymol i warchod moch daear ac ymlusgiaid yn ystod unrhyw waith clirio terfynau caeau neu stripio pridd yn cael ei gynnal.

Roedd mesurau lliniaru ar gyfer ymlusgiaid yn gofyn cael ecolegydd cymwys yn bresennol wrth waredu waliau cerrig cyn mynd ati i wneud unrhyw waith stripio pridd a/neu echdynnu mwynau. Bydd unrhyw ymlusgiaid y daw'r ecolegydd o hyd iddynt yn cael eu dal a'u hadleoli ar unwaith i safleoedd derbyn addas y tu allan i'r ardal echdynnu a gynlluniwyd, ond yn yr ardal o dir sydd dan reolaeth yr ymgeisydd; y datblygiad yn dderbyniol gyda’r amodau a mesurau lliniaru priodol ac yn cyd-fynd a Pholisi Strategol PS 19 a Pholisi AMG 3, AMG 5, MWYN 3 a MWYN 9 y CDLl.

 

Yng nghyd-destun Hydroleg eglurwyd bod mesurau lliniaru ar gyfer gwarchod cyrsiau dŵr, nentydd a gwlypdiroedd eisoes wedi'u cyflwyno a'u hasesu yn ôl yr angen dan amod 36 y rhiant-ganiatâd (C16/0816/34/MW). Ystyriwyd na fyddai'r datblygiad arfaethedig yn cael unrhyw effaith niweidiol ar nodweddion hydrolegol a pherygl llifogydd ac yn cydymffurfio â gofynion Polisi Strategol PS 19 a Pholisi AMG 3, AMG 5, PCYFF 2, PCYFF 3, PCYFF 6 a MWYN 3 y CDLl.

 

Roedd y swyddogion yn ystyried bod y datblygiad arfaethedig yn gyson â’r holl bolisïau ac ystyriaethau cynllunio perthnasol, ac yn argymell caniatáu’r cais gydag amodau.

b)           Cynigiwyd ac eiliwyd caniatáu y cais.

PENDERFYNWYD: Dirprwyo'r hawl i Bennaeth yr Adran Amgylchedd gymeradwyo'r cais, gydag amodau

 

1.     Daw'r gwaith o echdynnu mwynau i ben erbyn 31 Rhagfyr 2028 ac erbyn hynny bydd yr holl weithfeydd a pheiriannau wedi'u gwaredu o'r safle; bydd y gwaith adfer wedi'i gwblhau erbyn 31 Rhagfyr 2039

2.     Cyfyngu ar yr Hawliau Datblygu a Ganiateir, adeiladau, strwythurau, rhai a godir, ffyrdd preifat, llifoleuadau a ffensys

3.     Mesurau lliniaru ar gyfer effeithiau posib ar ffynhonnau i'r gogledd o'r ardal echdynnu

4.     Mesurau lliniaru ar gyfer bioamrywiaeth leol, Moch Daear, adar sy'n bridio ac ymlusgiaid 

5.     Gweithgareddau a ganiateir a Chydymffurfiaeth â’r Manylion/Cynlluniau a Gyflwynwyd

6.     Oriau Gweithio

7.     Diogelu hawliau tramwy cyhoeddus

8.     Ymdrin â phridd a hwsmonaeth

9.     Draenio, mesurau i atal llygru cyrsiau dŵr lleol 

10.  Adfer i ddefnydd amaethyddol cymysg a chadwraeth natur

11.  Ail-adfer terfynau caeau

12.  Micro-addasu lefelau adfer i sicrhau llif dŵr wyneb i'r gwlypdir tua'r gogledd o ardal y cais

13.  Lliniaru a chofnodi archeolegol

14.  Mesurau ôl-ofal ar gyfer defnyddiau amaethyddol a rheoli bioamrywiaeth

15.  Rheolaethau llwch a chyfyngu ar sŵn yn yr un modd ag y gwneir eisoes, ond hefyd, gosod larymau sŵn gwyn ar beiriannau'r gwaith yn yr wyneb gweithio.

 

 

Dogfennau ategol: