Agenda item

Cais llawn i newid defnydd tir er mwyn creu mynwent newydd i bentref Tudweiliog a'r cylch ynghyd a gwaith i greu mynediad a safle parcio a thirlunio

 

Aelod Lleol: Y Cynghorydd Gareth Tudor Jones

 

Dolen i ddogfennau cefndir perthnasol

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Caniatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r amodau canlynol:

 

1. Amser

2. Cydymffurfio gyda chynlluniau

3. Materion priffyrdd/cytuno Cynllun Rheoli Trafnidiaeth/parcio 

4. Materion Bioamrywiaeth

5. Tirlunio

6. Materion draenio

7. Gwarchod llwybr cyhoeddus

8. Cynllun rheoli adeiladu

9. Amod Cyfoeth Naturiol Cymru

10. Cwblhau triniaethau ffin

 

Cofnod:

Cais llawn i newid defnydd tir er mwyn creu mynwent newydd i bentref Tudweiliog a'r cylch ynghyd a gwaith i greu mynediad a safle parcio a thirlunio.

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr oedd yn cadarnhau nad oedd gan yr Uned Drafnidiaeth wrthwynebiad i’r cais.

 

a)               Eglurodd y Rheolwr Cynllunio mai cais llawn gan Gyngor Cymuned Tudweiliog oedd gerbron i newid defnydd tir amaethyddol presennol er mwyn creu mynwent gyhoeddus newydd fyddai’n cynnwys 393 o feddau ar gyfer pentref Tudweiliog a’r cylch. Byddai’r datblygiad arfaethedig yn golygu creu mynedfa gerbydol newydd, creu rhodfa fynediad, maes parcio a chynnal gwaith tirlunio a chodi clawdd pridd.

 

Amlygwyd bod  y safle wedi ei leoli ar gyrion pentref Tudweiliog a thu allan i’r ffin datblygu gyfredol a bod y tir yn bresennol yn dir amaethyddol agored gyda chloddiau a gwrychoedd yn ei amgylchynu. Nodwyd bod y safle a’r ardal ehangach o fewn dynodiadau Tirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Llŷn ac Enlli ac Ardal Tirwedd Arbennig Gorllewin Llŷn.

 

Yng nghyd-destun mynediad, nodwyd bod y ffordd fynediad o’r briffordd gyfagos hefyd yn cael ei defnyddio ar gyfer mynediad i dai preswyl cyfagos, tŷ tafarn ac Ysgol Gynradd Tudweiliog. Ategwyd bod gan yr ysgol faes parcio ar wahân gyda mynedfeydd penodol i mewn ac allan oddi ar y ffordd ddi-ddosbarth. Tynnwyd sylw bod y ffordd fynediad hefyd yn cynnwys dynodiad llwybr cyhoeddus sy’n rhedeg gyfochrog â ffin ddeheuol y safle.

 

Eglurwyd bod y cais yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio oherwydd perthynas yr ymgeisydd i aelod o staff cyfredol y Gwasanaeth Cynllunio.

 

Ystyriwyd bod y bwriad fel a gyflwynwyd yn dderbyniol ar sail bod

·        polisi ISA 2 yn gefnogol i ddatblygiadau am gyfleusterau cyhoeddus cyn belled a bod y bwriad yn cyfarfod meini prawf penodol

·        Pan fydd cyfleuster newydd yn cael eu cynnig y tu allan i ffin datblygu, rhaid dangos mai’r lleolid bwriedig yw’r lleoliad gorau ar gael a’i fod yn hygyrch i’r gymuned.

 

Cyfeiriwyd ar gadarnhad a dderbyniwyd gan y Cyngor Cymuned oedd yn manylu ar sefyllfa bresennol mynwent y pentref gan nodi mai dim ond dau fedd posib newydd y gellid eu darparu yno ac mai dyma’r unig safle oedd ar gael i ddiwallu’r angen. Er bod pryder am leoliad y cynnig, derbyniwyd bod sefyllfa bresennol y pentref o fethu darparu cyfleuster hanfodol i’r dyfodol yn fater dyrys gyda datrysiad amlwg ei angen. Nid oedd tiroedd addas eraill ar gael oodi mewn neu’n ymylu’n uniongyrchol a’r ffin datblygu ac felly rhaid oedd ystyried safle arall.  Wedi ystyried yr holl wybodaeth a’r dystiolaeth berthnasol, ystyriwyd bod cyfiawnhad ar gyfer creu mynwent newydd yn y lleoliad yma ac felly roedd ystyriaethau’r lleolaid yn cwrdd â gofynion perthnasol polisi ISA 2.

 

Roedd y swyddogion yn ystyried bod y cais yn gyson â’r holl bolisïau ac ystyriaethau cynllunio perthnasol ac yn argymell caniatáu’r cais gydag amodau.

 

b)               Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr Aelod Lleol y sylwadau canlynol

·        Ei fod yn gefnogol i’r cais

·        Bod y fynwent bresennol bron yn llawn ac nad oedd tir addas gerbron y fynwent bresennol. Rhaid felly oedd chwilio am safle ar gyfer mynwent newydd ar frys

·        Bod y Cyngor Cymuned wedi bod yn brysur iawn yn chwilio am dir addas

·        Ei fod yn diolch i’r tirfeddiannwr am y tir - y lleoliad yn addas, yn braf, tawel ac agored

·        Bod lle digonol i barcio. Y safle yn un hygyrch

·        Dim effaith ar y llwybr cyhoeddus a dim risg llifogydd

·        Yn cyfarch gofynion ISA 2

·        Bod yr ysgol gynradd, sydd wedi ei lleoli gerllaw, yn gefnogol i’r cais

·        Ei fod yn awgrymu i’r amod cynllun rheoli trafnidiaeth / parcio, gyfeirio at reoli'r ffordd i’r fynwent a’r ffordd heibio’r ysgol.

 

Yn ystod ei anerchiad, mynegodd ei fod yn Llywodraethwr Ysgol Gynradd Tudweiliog. Nododd y Swyddog Monitro y dylai’r Aelod fod wedi datgan hyn ar ddechrau’r cyfarfod

 

Mewn ymateb i’r sylwadau am yr amod Cynllun Rheoli Trafnidiaeth  / Parcio, nododd Pennaeth Cynorthwyol Amgylchedd y byddai’r amod yn ei ffurf lawn yn cyfarch trefniadau parcio ehangach.

 

c)               Cynigiwyd ac eiliwyd caniatáu y cais

 

PENDERFYNIAD: Caniatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r amodau canlynol:

 

1. Amser

2. Cydymffurfio gyda chynlluniau

3. Materion priffyrdd/cytuno Cynllun Rheoli Trafnidiaeth/parcio 

4. Materion Bioamrywiaeth

5. Tirlunio

6. Materion draenio

7. Gwarchod llwybr cyhoeddus

8. Cynllun rheoli adeiladu

9. Amod Cyfoeth Naturiol Cymru

10. Cwblhau triniaethau ffin

 

 

Dogfennau ategol: