Agenda item

I dderbyn a nodi Datganiad o Gyfrifon y Cyngor (yn amodol ar archwiliad) am 2024/25.

 

Penderfyniad:

ENDERFYNIAD: 

 

Derbyn a nodi Datganiad o Gyfrifon y Cyngor (yn amodol ar archwiliad) am 2024/25 

 

Nodyn:  

Cais am fwy o wybodaeth am Gronfa Ymddiriedolaeth FMG Morgan 

 

 

COFNODION:

Eglurodd y Pennaeth Cyllid Cynorthwyol - Cyfrifeg a Phensiynau bod y cyfrifon wedi eu cwblhau a’u rhyddhau i’w harchwilio gan Archwilio Cymru, archwilwyr allanol y Cyngor, ers canol Mehefin. Nodwyd bod estyniad eto eleni yn yr amserlen statudol ar gyfer archwilio’r cyfrifon, gyda’r bwriad o gwblhau’r archwiliad a chymeradwyo’r cyfrifon ym Mhwyllgor Tachwedd 13eg 2025. 

  

Adroddwyd ar gynnwys yr adroddiad gan egluro bod chwe set o gyfrifon ar gyfer 2023/24, yn cael eu cwblhau 

1.       Cyngor Gwynedd  

2.       Cronfa Bensiwn Gwynedd  

3.       GwE (cydbwyllgor sylweddol ei faint ac felly Datganiadau Llawn wedi eu paratoi) 

4.       Bwrdd Uchelgais Gogledd Cymru (cydbwyllgor sylweddol ei faint ac felly Datganiadau Llawn wedi eu paratoi) 

5.       Harbyrau Gwynedd a  

6.       Cydbwyllgor Corfforedig y Gogledd 

 

Atgoffwyd yr Aelodau bod sefyllfa ariannol diwedd flwyddyn ar gyfer 2024/25 wedi ei gyflwyno i’r Pwyllgor ar y 21ain o Fai ar ffurf alldro syml, ond bod y Datganiad o’r Cyfrifon, sydd i bwrpas allanol a llywodraethu, yn gorfod cael ei gwblhau ar ffurf safonol CIPFA. Ymddengys bellach yn ddogfen hirfaith a thechnegol gymhleth.

 

Cyfeiriwyd at yr Adroddiad Naratif oedd yn rhoi gwybodaeth am y Cyfrifon ac am weledigaeth a blaenoriaethau Gwynedd, y Strategaeth Ariannol a’r mesuryddion perfformiad ariannol. Arweiniwyd yr Aelodau drwy’r adroddiad gan fanylu ar rai o’r elfennau: 

·        Crynodeb o wariant cyfalaf. Bu gwariant o £85 miliwn yn ystod y flwyddyn o gymharu gyda £57 miliwn yn y flwyddyn flaenorol. 

·        Bod y prif ddatganiadau ariannol yn cynnwys Datganiad Incwm a Gwariant, Mantolen, Llif arian ayyb 

·       Datganiad Symudiad mewn Reserfau sydd yn ddatganiad pwysig ac yn crynhoi sefyllfa ariannol y Cyngor. Amlygwyd bod balansau cyffredinol y Cyngor yn £7.9 miliwn ar ddiwedd Mawrth 2025, sef yr un lefel â Mawrth 2024 a Mawrth 2023.

·       Bod Reserfau yn amlygu cynnydd yn y cronfeydd £102 miliwn ar ddiwedd Mawrth 2024 i £111 miliwn erbyn diwedd Mawrth 2025 

·        Balansau Ysgolion lle gwelir lleihad cyson ym malansau ysgolion sydd wedi disgyn o £12 miliwn ar ddiwedd Mawrth 2023, i £8.5 miliwn erbyn diwedd Mawrth 2024 a £8 miliwn erbyn diwedd 2025 sydd bellach yn ddarlun sy’n agosach at lefel y balansau cyn Covid. Eglurwyd bod hyn yn ddarlun cyffredinol sydd yn cael ei weld yng Nghymru gan fod y balansau ysgolion wedi bod yn uchel yn dilyn nifer o grantiau yn sgil Covid. 

·        Reserfau a Glustnodwyd sy’n cynnwys dadansoddiad o’r £111 miliwn o gronfeydd wrth gefn – reserfau cyfalaf, cronfa Trawsffurfio / Cynllun y Cyngor, cronfa cefnogi’r strategaeth ariannol a chronfa Premiwm Treth y Cyngor

·        Cyfeiriwyd at Nodyn 15 – Eiddo, Offer a Chyfarpar sydd yn cyflwyno dadansoddiad fesul categori tir ac adeiladau, cerbydau, offer a chyfarpar ayyb. Ymrwymiadau Cyfalaf sydd yn cynnwys cynlluniau Gerddi Traphont Abermaw, a gwaith cyfalaf ar Ysgol Ein Harglwyddes, Bangor ac Ysgol Bontnewydd a Thywyn. Hefyd, Datblygiad yng Nghoed Mawr Bangor. 

·        Nodyn 22 Darpariaethau sydd yn berthnasol i Safleoedd Gwastraff a hawliadau yswiriant a Nodyn 32 manylion am Incwm Grant sydd wedi ei dderbyn (dros £207 miliwn yn 2024/25 i’w gymharu gyda £145 miliwn yn 2023/24). 

·       Nodyn 36 -  manylion Pecynnau Terfynu Gwaith y ddwy flynedd ddiwethaf.

·        Nodyn 43 - manylion am Weithrediadau ar y Cyd a Chydbwyllgorau mae Cyngor Gwynedd yn rhan ohonynt

·        Atodiad B -  Cronfa Degwm ac Ymddiriedolaeth FMG Morgan

Diolchwyd am yr adroddiad a canmolwyd yr Adran am gwblhau’r cyfrifon yn amserol a thaclus

 

Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion canlynol: 

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â chrynodeb gwariant cyfalaf a’r ffaith bod gwariant          Gwasanaethau Corfforaethol yn £0 yn 2023/24 ond yn £87,000 yn 2024/25, nodwyd mai  gwariant cyfalaf oedd yma ac nid gwariant refeniw ac fod natur y Gwasanaethau                     Corfforaethol yn golygu fod rhai blynyddoedd yn mynd heibio heb wariant cyfalaf.

 

Mewn ymateb i sylw bod pecynnau ymadael wedi cynyddu yn sylweddol, nodwyd fod y niferoedd yn uwch yn 2024/25 oherwydd ad-drefnu mewn rhai gwasanaethau.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â cheisio gwneud mwy gyda Chronfa Ymddiriedolaeth FMG Morgan, nodwyd bod amodau'r gronfa yn gyfyng iawn - gwariant ar faes penodol mewn ardal benodol. Cytunwyd mai buddiol fyddai rhannu gwybodaeth am y gronfa erbyn y cyfarfod nesaf.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â chasglu trethi a bod y lwfans amhariad ar gyfer diffyg casgliad yn £822,000, nodwyd y gwybodaeth bellach yn cael ei gyflwyno mewn adroddiadCyfraddau Casglu Treth Cyngor’  i gyfarfod y Pwyllgor ym mis Tachwedd.

 

PENDERFYNWYD

Derbyn a nodi Datganiad o Gyfrifon y Cyngor (yn amodol ar archwiliad) am 2024/25

 

Nodyn:

Cais am fwy o wybodaeth am Gronfa Ymddiriedolaeth FMG Morgan

 

Dogfennau ategol: