· Ystyried y Datganiad Llywodraethu Blynyddol Drafft sy’n ymddangos yn yr atodiad
· Herio’r Pennaeth Cyllid am sgoriau risg sydd wedi eu nodi, a’r naratif sy’n egluro’r cyfiawnhad am y sgôr
· Ystyried Cynllun Gweithredu’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol drafft
· Cymeradwyo’r Datganiad, ac argymell fod Arweinydd y Cyngor a’r Prif Weithredwr yn ei arwyddo
Penderfyniad:
ENDERFYNIAD:
Nodyn:
Cofnod:
Cyflwynwyd y Datganiad gan y Pennaeth Cyllid. Eglurodd bod y Datganiad, er nad yn rhan o’r cyfrifon,
yn ddogfen statudol ac angen ei chyhoeddi gyda’r cyfrifon. Yn unol â Rheoliadau
Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) a Chod ymarfer CIPFA mae’n rhaid i bob Awdurdod
Lleol sicrhau bod datganiad o reolaeth fewnol yn ei le a bod y system reoli yn
cael ei adolygu o leiaf unwaith mewn blwyddyn. Adroddwyd mai’r Prif Weithredwr
ac Arweinydd y Cyngor sydd yn arwyddo’r datganiad er bod angen cymeradwyaeth
gan y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu.
Rhoddwyd ychydig o gefndir i’r datganiad sydd yn seiliedig ar Fframwaith
CIPFA / SOLACE a gyhoeddwyd yn 2016, sydd yn adnabod 7 egwyddor craidd ar gyfer
llywodraethu da sydd wedyn yn cael eu rhannu ymhellach i is-egwyddorion.
Amlygwyd bod y Grŵp Asesu Trefniadau Llywodraethu, o dan arweiniad y Prif
Weithredwr, yn ystyried yr egwyddorion a’r is-egwyddorion ac yn llunio Cofrestr
Risg Llywodraethu sydd yn rhan o Gofrestr Risg Corfforaethol y Cyngor.
Adnabuwyd risgiau mewn 24 o feysydd llywodraethu gwahanol, gan nodi’r
rheolaethau sydd gan y Cyngor yn eu lle er mwyn lliniaru’r risgiau hynny.
Adroddwyd bod 4 math o risg a bod pob risg gyda pherchnogaeth adrannol;
y Grŵp wedi dod i gasgliad bod 0 maes gyda risgiau uchel iawn, 6 maes
risgiau uchel, 9 maes risgiau canolig a 9 maes risgiau isel. Derbyniwyd er bod
6 maes risg uchel, bod y Grŵp yn ymwybodol o’r gwaith sydd angen cael ei
wneud i leihau’r risgiau hyn.
O ran addasiadau, mynegwyd bod sgôr risg cyfredol Cyllid wedi lleihau o
20 i 15. Ategwyd y byddai diweddariad ar gamau gweithredu blynyddoedd blaenorol
yn cael eu hadrodd yn yr Adroddiad Perfformiad Blynyddol a Hunanasesiad Cyngor
Gwynedd 2024/25 yng nghyfarfod mis Hydref 2025.
Diolchwyd am yr adroddiad.
Sylwadau gan Aelodau ac ymatebion gan Swyddogion:
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â diffyg manylder y risgiau, nodwyd y
bydd adroddiad gwariant manylach yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor ym mis
Hydref, ac mai ymgais i grynhoi materion oedd yma i gydymffurfio gyda gofynion
Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio Cymru.
Mewn ymateb i sylw ynglŷn â nifer isel o staff (Arolwg Llais Staff)
a thrigolion (Arolwg Preswylwyr Cenedlaethol) oedd wedi ymateb i’r ddau arolwg
yma a beth oedd yn cael ei wneud i annog mwy o ymatebion i’r dyfodol, nodwyd er
bod nifer ymatebion i’r Arolwg Preswylwyr Cenedlaethol yn ymddangos yn isel
iawn, ei fod yn cymharu yn dda gyda niferodd ymatebion y gorffennol. Ategwyd,
gyda’r Arolwg hefyd yn un cenedlaethol, bod modd cymharu ymatebion fesul
Awdurdod Lleol, ac o’r naw Awdurdod Lleol a gymerodd rhan yn yr arolwg (y
cyntaf o’i fath yng Nghymru), yn ystod 2024/25 roedd cyfradd Gwynedd ymysg yr
uchaf. Er hynny, derbyniwyd bod lle i wella a bod gwaith wedi ei wneud i
gynnwys camau newydd yn y broses ymgysylltu i annog mwy o ymatebion. Un
enghraifft o welliant oedd gofyn am gyd-destun neu naratif wrth ymateb yn
hytrach na rhoi tic yn erbyn da iawn, da neu wael. Nodwyd hefyd bod
canlyniadau’r Arolwg Preswylwyr Cenedlaethol wedi gosod gwaelodlin ac felly bod
modd mesur cynnydd i’r gwelliannau i’r dyfodol.
Wrth gyfeirio at y term ‘diwylliant’, nodwyd bod angen gwell dehongliad
o’r gair gan fod iddo ystod eang o ystyriaethau posib. Nodwyd mai yn y
cyd-destun yma mai diwylliant Ffordd Gwynedd oedd dan sylw a rôl y Pwyllgor
oedd ystyried sicrwydd bod y wybodaeth yr oeddynt yn ei dderbyn am y diwylliant
gwaith yn cael ei wreiddio fel ffordd o weithio’r Cyngor.
Mewn ymateb i sylw bod sgôr risg cyfredol Cyllid wedi lleihau o 20 i 15
a bod hynny yn gynamserol gan nad oedd tystiolaeth wedi ei gyflwyno bod y
gorwariant wedi dod i ben, nododd y Pennaeth Cyllid, yn ei swyddogaeth fel
Swyddog Adran 151 bod sgôr 15 yn sgôr risg teg. Cytunodd efallai bod codi'r
sgôr i 20 yn ystod 2024/25 wedi bod yn ymateb rhy fyrbwyll a bod sgôr o 20 yn
golygu cyflwyno rhybudd terfynol Adran 114 na fyddai’r gyllideb yn ddigonol ar
gyfer cynnal gwasanaethau. Mynegodd nad oedd Cyngor Gwynedd yn y sefyllfa yma a
gydag adolygiad parhaus o’r sefyllfa, roedd yn hyderus yng nghostyngiad
y sgôr. Yn nhermau gorwariant, atgoffwyd
yr Aelodau bod y Pwyllgor yn derbyn adroddiadau ddwywaith y flwyddyn ar wariant
yr adrannau yn dilyn adolygiadau gwasanaethau.
Mewn ymateb i gwestiwn atodol ynglŷn â chyflwyno Cynllun Ariannol
Tymor Canolig, nodwyd y byddai’r cynllun hwnnw yn cael ei gyflwyno i gyfarfod
Hydref 2025.
Wrth dynnu sylw at y ffaith mai Hunanasesiad oedd yma ac os oedd tuedd i
beidio bod yn rhy galed ar berfformiadau personol, gofynnwyd sut gellid cael
sicrwydd bod y sefyllfa yn un realistig. Mewn ymateb, nodwyd mai rôl y Pwyllgor
oedd herio’r hunanasesiad ac nad oedd unrhyw fudd i’r Cyngor dan-sgorio risg.
Awgrymwyd rhannu penawdau a chyflwyno gwybodaeth fanylach am y risgiau dros y
flwyddyn fel bod gan yr Aelodau well dealltwriaeth o’r meysydd.
Canmolwyd llwyddiant y Cynllun Prentisiaethau
Wrth gyfeirio at yr adolygiad mewnol i wella trefniadau casglu Treth
Cyngor, a’r bwriad i gyflwyno adroddiad i’r Pwyllgor ym mis Tachwedd, gwnaed
cais i amlygu gwybodaeth am y premiwm tai yn yr adroddiad hwnnw.
Mewn ymateb i sylw bod angen ystyried risg i gostau hawliadau posib
adolygiad Erthygl 4, nodwyd y byddai hyn yn cael sylw yn y datganiad cyfrifon
(nodyn 39 - ymrwymiadau dibynnol). Ategwyd, pe byddai’r risg yn fwy na 50% yna
bydd arian yn cael ei roi o’r neilltu i gwrdd â’r costau
Yng nghyd-destun maes Rheoli Gwybodaeth (sgôr risg o 12 oherwydd
‘methiant i fodloni gofynion statudol wrth ymdrin â gwybodaeth a data’), nodwyd
bod gofynion ‘statudol’ yn cynnwys dwy elfen i’r gwaith ac er bod y Cyngor yn
cydymffurfio gyda gofynion Deddf Gofynion Data, bod gan y Cyngor le i wella
wrth wneud y defnydd gorau o ddata / gwybodaeth i wella gwasanaethau.
Yng nghyd-destun maes System Rheoli Iechyd, Diogelwch a Llesiant a bod y
system yn aneffeithiol (sgôr risg 15), nodwyd mai cyfeiriad at system
weithdrefnol oedd yma ac nid system dechnegol a bod y sgôr wedi ei osod ar y
tebygolrwydd y gall rhywbeth fynd o’i le.
PENDERFYNWYD:
·
Derbyn y Datganiad
Llywodraethu Blynyddol (drafft)
·
Derbyn Cynllun
Gweithredu’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol (drafft)
·
Cymeradwyo’r Datganiad,
ac argymell fod Arweinydd y Cyngor a’r Prif Weithredwr yn ei arwyddo
Nodyn:
·
Cywiro sgôr cyfredol
Risg Cyllid o 20 i 15 yn yr adroddiad Cymraeg, pwynt 4.2
·
Bod cyd-destun risg
‘diwylliant’ yn cyfeirio at egwyddorion sylfaenol Ffordd Gwynedd
·
Cais am fwy o wybodaeth
i sicrhau bod trefniadau mewn lle i wella gwasanaethau
·
Cais i’r adroddiad
Cyfraddau Casglu Treth Cyngor amlygu premiwm tai
Dogfennau ategol: