I graffu
Adroddiad Blynyddol Cynllun Argyfwng Hinsawdd a Nature 2024/25.
Penderfyniad:
Penderfynwyd:
1. Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau
a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth.
2. Argymell i’r Aelod Cabinet Amgylchedd bod angen ail-edrych ar uchelgais y Cyngor i fod yn garbon sero net erbyn 2030 a dylid ystyried gosod targed realistig ar gyfer lleihau allyriadau carbon.
COFNODION:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Aelod Cabinet Amgylchedd a Rheolwr y Rhaglen Newid Hinsawdd.
Adroddwyd bod y Cynllun Argyfwng Hinsawdd a Natur bellach
wedi cwblhau ei drydedd flwyddyn weithredol. Cyflwynwyd ystadegau ar faint o
garbon sydd yn cael ei amsugno gan diroedd y Cyngor yn ogystal â’r allyriadau
carbon gan egluro bod 18,132,729 kgC0ze o fwlch er mwyn cyrraedd sefyllfa o
sero net carbon. Ymhelaethwyd ar allyriadau carbon gan gynnwys caffael yn ystod
y flwyddyn 2024/25 gan egluro bod y gwybodaeth caffael yn seiliedig ar wariant
ariannol, yn unol â gofynion Llywodraeth Cymru, yn hytrach na wir effaith y
datblygiadau. Cadarnhawyd bod trafodaethau yn cael eu cynnal er mwyn sicrhau
nad yw’r wybodaeth ar allyriadau carbon yn seiliedig ar wariant ariannol i’r
dyfodol oherwydd bod hyn yn arwain at gamargraff o’r gwir sefyllfa wrth i
gostau nwyddau gynyddu’n barhaus. Darparwyd diweddariad o lefelau allyriadau
carbon heb gynnwys gwariant ariannol caffael hefyd, gan fod hynny yn rhoi
darlun mwy eglur a chywir o wir sefyllfa’r Cyngor.
Cadarnhawyd bod pob Awdurdod Lleol a chorff cyhoeddus yng
Nghymru yn defnyddio’r un fformiwla ar gyfer mesur eu hallyriadau carbon.
Eglurwyd bod y system hon wedi bod yn weithredol ers 2019 ac mae’r flwyddyn
honno yn cael ei ddefnyddio fel gwaelodlin ar gyfer y blynyddoedd dilynol.
Mynegwyd balchder bod allyriadau carbon y Cyngor wedi lleihau 32% ers 2019.
Cydnabuwyd bod cynnydd o 4% i’w weld yn ystadegau ar gyfer y flwyddyn 2023/24
gan egluro bod y cynnydd hwn yn deillio o’r angen i ddefnyddio mwy o nwy ar
gyfer gwresogi adeiladau’r Cyngor yn sgil tywydd oer.
Nodwyd bod gwaith wedi bod yn cael ei wneud ar nifer o
adeiladau’r Cyngor, ar gyfer insiwleiddio a sicrhau eu bod yn cyfrannu llai at
lefelau allyriadau carbon. Cadarnhawyd nad oes blwyddyn lawn o ddata ar gael ar
hyn o bryd er mwyn gallu dadansoddi’r data o’r gwaith hwnnw, ond y bydd yn
debygol o gael ei gynnwys yn yr adroddiadau i’r dyfodol.
Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan yr
Aelodau:-
Mewn ymateb i ymholiadau am wybodaeth bellach ar sut mae’r
Cyngor yn annog mwy o fioamrywiaeth o fewn adran Defnydd Tir o’r Cynllun
Argyfwng, cadarnhaodd y Rheolwr Rhaglen bod cynllun blodau gwyllt ar ymylon
ffyrdd yn cyfrannu i’r nod hwn. Ymhelaethwyd bod y cynllun i blannu mwy o
flodau gwyllt wedi dod yn weithredol yn ystod ymgyrch yr Eisteddfod
Genedlaethol ym Moduan yn 2023 gan gadarnhau bod cynlluniau gan y Cyngor i’w
ymestyn i ardal Meirionnydd yn y dyfodol. Sicrhawyd bod yr hadau ar gyfer
blodau gwyllt yn cael eu plannu yn ystod tymor yr hydref gan hefyd bwysleisio
nad oes chwynladdwyr gyda chemegau niweidiol yn cael ei ddefnyddio. Cadarnhawyd
bod gwaith dadansoddol ar waith er mwyn mesur faint o garbon mae’r prosiect hwn
yn ei amsugno a data ar faint mae’n ei gyfrannu at lefelau bioamrywiaeth. Mewn
ymateb i’r sylwadau, awgrymwyd i’r Cyngor edrych i mewn i gynnal peilot ar
chwynladdwr Foamstream, fel awdurdodau eraill, gan ei fod yn chwynladdwr
di-gemegion ac yn effeithiol.
Mewn ymateb i ymholiad os yw’n debygol bydd y Cyngor yn
llwyddo i gyrraedd targed Llywodraeth Cymru o fod mewn sefyllfa sero net carbon
erbyn 2030, cydnabuodd y Rheolwr Rhaglen y bod hwn yn darged heriol iawn i’w
gyfarch. Pwysleisiwyd os yw data allyriadau carbon caffael yn parhau i gael ei
gynnwys fel rhan o holl allyriadau carbon y Cyngor, ni fydd modd i’r Cyngor
gyrraedd y targed. Fodd bynnag, tynnwyd sylw bod nifer o ffactorau eraill yn
effeithio ar allu’r Cyngor i wireddu’r targed hwn megis technoleg, costau o brynu
nwyddau ac adnoddau, yr angen am adnodd ariannol sylweddol a’r ffaith bod nifer
o agweddau y tu hwnt i reolaeth yr awdurdod. Rhannwyd enghraifft o sefyllfa ble
mae’r Cyngor wedi gweithio i leihau allyriadau carbon drwy addasu goleuadau
stryd i fod yn olau LED. Fodd bynnag, nodwyd bod y Cyngor yn nodi lefelau o
allyriadau carbon o’r goleuadau stryd hynny gan fod y trydan a ddefnyddir o’r
grid cenedlaethol ddim yn deillio o ynni adnewyddadwy, sydd yn agwedd sydd y tu
hwnt i reolaeth y Cyngor. Ychwanegodd yr Aelod Cabinet bod Cyngor Gwynedd yn
arwain ar y maes hwn ond bod y targed yn parhau i fod yn heriol. Nodwyd bod y
Cyngor yn cydweithio gyda siroedd eraill er mwyn rhannu syniadau ac arfer dda.
Awgrymodd aelod ei fod yn amserol i osod targed mwy realistig.
Gofynnwyd a allai’r Cyngor osod targed amgen ar gyfer
cyrraedd sero net carbon yn hytrach na glynu at yr hyn a osodwyd gan Lywodraeth
Cymru. Mewn ymateb, cadarnhaodd y Rheolwr Rhaglen bod y targed o garbon net
sero wedi cael ei osod ar gyfer y sector gyhoeddus yn ei gyfanrwydd a byddai
angen trafodaeth genedlaethol er mwyn gallu mynd i’r afael a’i addasu
Ystyriwyd prosiect 3 o fewn Adran Symud a Thrafnidiaeth y
Cynllun, gan holi os oedd y ddarpariaeth pwyntiau gwefru yn ddigonol ar gyfer
anghenion y fflyd. Mewn ymateb i’r ymholiadau, nododd y Rheolwr Rhaglen bod y
gwaith o sefydlu pwyntiau gwefru yn cael ei wneud law yn llaw gyda datblygiad y
fflyd. Cadarnhawyd bod y datblygiadau cyfochrog hyn yn derbyn adolygiadau
parhaus i gyfarch anghenion y Cyngor. Ychwanegodd yr Aelod Cabinet bod cryn
dipyn o heriau yn wynebu’r Cyngor wrth osod pwyntiau gwefru ar gyfer y fflyd
a’r cyhoedd gan nad oes gan y Cyngor awdurdod i ofyn i ddarparwyr trydan i’w
pweru. Nodwyd bod hyn yn her ers rhai blynyddoedd ac nid oes datrysiad amlwg
iddo ar hyn o bryd.
Mewn ymateb i sylw mai dim ond 43% o gerbydau’r fflyd sydd
wedi cael eu diweddaru i fod yn gerbydau trydan, cadarnhaodd y Rheolwr Rhaglen
bod hyn yn deillio o’r ffaith nad oes cerbydau trydan addas ar gael ar gyfer
peiriannau trwm. Cydnabuwyd nad oes modd i’r Cyngor gynyddu’r ganran yn
sylweddol nes bod y dechnoleg ar gyfer peiriannau trwm wedi cael ei ddatblygu
ac ar gael mewn modd sydd yn gwneud
synnwyr ariannol i’r Cyngor. Fodd bynnag, sicrhawyd bod faniau a cheir y fflyd
yn cael eu diweddaru i fod yn gerbydau trydan pan mae’r cerbydau presennol yn
dod i ddiwedd eu hoes a bod gwahaniaeth i weld yn lefelau allyriadau carbon y
fflyd o’r newidiadau hyn sydd eisoes wedi cael eu cyflawni. Mewn ymateb i
ymholiad os oedd hydrogen yn opsiwn sydd yn cael ei ystyried i bweru cerbydau
trwm, cadarnhaodd y Rheolwr Rhaglen bod Uchelgais Gogledd Cymru yn datblygu
prosiect hydrogen yng Nglannau Dyfrdwy ar hyn o bryd a bod y Cyngor yn awyddus
i fonitro’r prosiect er mwyn ystyried hydrogen fel dull o bweru cerbydau trwm
i’r dyfodol. Ychwanegodd yr Aelod Cabinet y byddai’n fuddiol i edrych ar
wahanol brosiectau sydd yn ymwneud â hydrogen ar lefel cenedlaethol er mwyn
ystyried os fyddai hydrogen yn opsiwn
i’w ddefnyddio yng Ngwynedd yn y dyfodol.
Gofynnwyd i’r Aelod Cabinet beth oedd ei gynlluniau i’r
Bwrdd Newid Hinsawdd a Natur i’r dyfodol a pha ystyriaethau am drafnidiaeth
gyhoeddus sydd ar waith er mwyn lleihau allyriadau carbon. Mewn ymateb,
cadarnhaodd yr Aelod Cabinet ei fod o’r farn bod y Cyngor yn perfformio’n dda
wrth ymateb i newid hinsawdd. Fodd bynnag, nododd y gobeithiai weld newid yng
ngwaith y bwrdd i’r dyfodol er mwyn rhoi blaenoriaethau’r Cynllun yn ganolog i
waith holl adrannau’r Cyngor fel bod ymateb i newid hinsawdd yn rhan o ddiwylliant
yr awdurdod. Mewn ymateb i’r ymholiad ar drafnidiaeth gyhoeddus, adroddodd yr
Aelod Cabinet ei fod yn rhan o drafodaethau gyda’r Cyd-bwyllgor Corfforedig y
Gogledd ar y materion hyn ond bod heriau sylweddol yn gysylltiedig â’r maes yn
sgil diffyg ariannol i gefnogi prosiectau trafnidiaeth gyhoeddus werdd.
Mewn ymateb i ymholiad os oes cynlluniau i ehangu
darpariaeth bysiau Fflecsi i ardaloedd eraill o Wynedd, cadarnhaodd y Rheolwr
Rhaglen eu bod wedi bod yn effeithiol iawn yn y cymunedau hynny sydd wedi elwa
ohonynt hyd yma. Fodd bynnag, pwysleisiwyd bod anghenion trigolion pob cymuned
yn amrywio a byddai angen ystyriaeth fanwl cyn cyflwyno bysiau fflecsi mewn
ardaloedd eraill o Wynedd er mwyn sicrhau bod y gwasanaeth yn cael defnydd a
bod y buddsoddiad ariannol yn un gost effeithiol.
Nodwyd bod y Cyngor wedi bod yn llwyddiannus i ddenu grant
gwerth £1.7miliwn drwy gynllun grant Gwres Carbon Isel Llywodraeth Cymru ar
gyfer uwchraddio cartref preswyl Plas Ogwen, Bethesda i safon EnerPHit. Holwyd os oes ystyriaeth i
uwchraddio cartrefi preswyl eraill er mwyn lleihau eu hallyriadau carbon. Mewn
ymateb, nododd y Rheolwr Rhaglen bod y prosiect hwn ym Mhlas Ogwen yr un cyntaf
o’i fath ym Mhrydain. Ymhelaethwyd y byddai’n galonogol os byddai modd ehangu’r
cynllun i leoliadau eraill o fewn y sir gan y disgwylir arbediad o 80% mewn
allyriadau carbon o’r prosiect hwn. Sicrhawyd bod swyddogion yn ymgeisio am
grantiau perthnasol er mwyn ehangu’r prosiect gan y byddai’n galluogi’r Cyngor
i arbed arian ac ynni yn y dyfodol.
Nodwyd bod y posibilrwydd o ddatblygu ffermydd solar wedi
cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor hwn yn y gorffennol, a gofynnwyd am ddiweddariad
ar y mater. Mewn ymateb, cadarnhaodd y Rheolwr Rhaglen nad oedd hyn yn opsiwn
sydd yn parhau i gael ei ystyried ar hyn o bryd gan y Cyngor. Eglurwyd bod data
diweddaraf yn awgrymu na fyddai budd ariannol nac lleihad mewn cyfraddau
allyriadau carbon i’r Cyngor oherwydd byddai unrhyw ynni a gynhyrchir drwy’r
paneli solar yn cael ei anfon yn ôl i’r grid cenedlaethol. Fodd bynnag, nodwyd
nad yw cynlluniau o’r fath wedi cael eu diystyru’n llwyr, gan gadarnhau bydd eu
datblygu yn cael eu hail- ystyried os byddai’n effeithiol i’r Cyngor wneud
hynny yn y dyfodol.
Ar derfyn y drafodaeth, bu i’r Pwyllgor ystyried os dylid
gwneud argymhelliad penodol i’r Aelod Cabinet o ran ail-edrych ar uchelgais y
Cyngor i fod yn garbon net sero erbyn 2030.
Diolchwyd am yr adroddiad.
1. Derbyn
yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y
drafodaeth.
2. Argymell
i’r Aelod Cabinet Amgylchedd bod angen ail-edrych ar uchelgais y Cyngor i fod
yn garbon sero net erbyn 2030 a dylid ystyried gosod targed realistig ar gyfer
lleihau allyriadau carbon.
Dogfennau ategol: