Agenda item

I graffu trefniadau graeanu a biniau halen.

Penderfyniad:

Penderfynwyd:

1.         Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth.

2.         Cefnogi bwriad yr Adran Priffyrdd, Peirianneg a YGC i lythyru Cynghorau Cymuned a Thref i gadarnhau trefniadau biniau halen ac anfon copï i’r Cynghorwyr Sir.

3.         Argymell i’r Adran Priffyrdd, Peirianneg a YGC bod angen ystyried mynediad diogel i diroedd ysgolion yn ystod tywydd garw fel rhan o’r adolygiad o’r cylchdeithiau graeanu.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Aelod Cabinet Priffyrdd, Peirianneg a YGC, ynghyd â Phennaeth yr Adran Priffyrdd, Peirianneg a YGC a Pheiriannydd Ardal Dwyfor.

 

Nodwyd bod tair blynedd wedi bod ers i’r trefniadau rheolaeth biniau halen gael ei graffu, fel rhan o’r Gwasanaeth Cynnal Gaeaf. Atgoffwyd bod y cyfnod cynnal y gaeaf yn weithredol o 1af Hydref hyd at 30 Ebrill yn flynyddol gan gadarnhau bod y gwasanaethau yn cynnwys graeanu llwybrau blaenoriaeth gyntaf ac ail-flaenoriaeth yn ogystal â’r ddarpariaeth biniau halen. Amlygwyd bod hyblygrwydd gyda’r amserlen hon gan ei bod yn bosib parhau i raeanu yn hwyrach yn y flwyddyn ac adolygir trefniadau’r gwasanaeth yn dilyn cyfnod y gaeaf er mwyn gweld os oes gwersi i’w dysgu ac ymateb i unrhyw her sydd wedi amlygu ei hun dros y gaeaf.

 

Diweddarwyd bod y Gwasanaeth wedi mabwysiadu System Monitro Cerbydau Graeanu ers Tachwedd 2024 er mwyn cofnodi’r cylchdeithiau. Eglurwyd bod y dechnoleg hon yn allweddol er mwyn sicrhau bod pob ffordd ar y cylchdeithiau yn cael eu graeanu ynghyd â sicrhau diogelwch gyrwyr y lorïau graeanu gan fod modd eu tracio’n fyw a gellir gweld os oes unrhyw gerbyd wedi mynd i drafferth. Pwysleisiwyd bod y gweithlu yn cael ei ddyblu ar gyfer y cyfnodau hynny ble mae eira ar y rhagolygon oherwydd bod y gwaith yn cael ei gynnal yn y tywyllwch ac mewn amgylchiadau a all fod yn beryglus. Adroddwyd bod adborth cadarnhaol wedi cael ei dderbyn gan y staff am y dechnoleg hon a gobeithir bydd technoleg gyffelyb yn gallu cael ei ddefnyddio i gynorthwyo meysydd gwaith eraill y Cyngor.

 

Ymhelaethwyd bod y flaenoriaeth gyntaf ar gyfer llunio cylchdeithiau yn cael ei roi ar gyfer y cylchdeithiau hynny ble mae bysiau ysgol yn defnyddio’r ffyrdd. Ychwanegwyd bod nifer o ffactorau yn cael eu hystyried wrth ddynodi ffyrdd yn rhai blaenoriaeth gyntaf i’w graeanu, megis traffig uchel, darparu o leiaf un mynediad i’r canolfannau sy’n ymateb i argyfwng, derbyniadau argyfwng neu ffordd dosbarth sirol 2 neu 3 gydag oddeutu un mynediad i drefi a phentrefi.

 

Eglurwyd mai’r Cyngor sydd yn gyfrifol am ddarparu gwasanaeth gaeaf ar yr holl briffyrdd cyhoeddus sydd wedi eu mabwysiadu gan y Sir, fel yr Awdurdod Priffyrdd. Ymhelaethwyd bod y  Cyngor hefyd yn trin cefnffyrdd y Sir ar ran Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru. Yn ogystal â rhan o’r A55 a reolir gan UK Highways A55 Ltd.

 

Adroddwyd bod holl finiau halen y sir bellach wedi cael eu rhifo a bod gwaith yn mynd rhagddo er mwyn sicrhau bod eu lleoliad yn weladwy ar Map Gwynedd ar wefan y Cyngor, er mwyn i drigolion a Chynghorau Cymuned adrodd rhif a lleoliad y bin halen penodol os oes problem yn codi.

 

Cadarnhawyd bod y Cyngor yn derbyn darpariaeth rhagolygon tywydd y gaeaf a gwasanaethau cynghori gan gwmni MetDesk. Ymhelaethwyd bod hon yn wasanaeth sydd yn cael ei gynnal am 24 awr y dydd o 1 Hydref i 20 Ebrill. Cadarnhawyd bod hyn yn caniatáu i bob swyddfa ardal weithredu ar y wybodaeth ddiweddaraf ac ymateb i’r tywydd gaeafol yn amserol drwy gynllunio gwaith.

 

Darparwyd data am y niferoedd o dunelli o halen sydd yn cael eu sortio mewn storfeydd yng Nghaernarfon, Chwilog, Dolgellau, Bala, Blaenau Ffestiniog a Llandygai. Nodwyd bod y cyfanswm o dunelli sydd ar gael yn ddibynnol ar y rhagolygon o’r tywydd am y tymor. Adroddwyd bod y gyllideb ar gyfer cynnal y gaeaf oddeutu 17.5% o gyllideb cynnal ffyrdd y Cyngor, gan gadarnhau bod hyn gyfwerth â £1,127,770. Tynnwyd sylw gall y gost o gynnal gaeaf fod yn llawer uwch na’r hyn sydd wedi cael ei ymrwymo yn y gyllideb os yw’r tywydd yn amrywiol i’r hyn a ragdybiwyd dros gyfnod y gaeaf, gan nodi bod swyddogion yn ymateb i hynny yn ôl y galw.

 

Rhannwyd fideo am waith y gwasanaeth gan nodi y byddai’n cael ei rannu gyda’r cyhoedd ar gyfryngau cymdeithasol y Cyngor yn fuan iawn.

 

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan yr Aelodau:-

 

Mewn ymateb i ymholiad os yw’r Adran yn bwriadu caniatáu i amaethwyr raeanu ffyrdd gwledig er mwyn arbed arian i’r Cyngor, cadarnhaodd Pennaeth yr Adran bod hon yn derbyn ystyriaeth. Ymhelaethwyd bod trafodaethau wedi bod gyda Chyngor Ceredigion sydd â threfniant tebyg a bod eu system i’w weld yn gweithio. Fodd bynnag, pwysleisiwyd nad oes trefniadau o’r fath i’w weld yng Ngwynedd ar hyn o bryd a bod ystyriaethau manwl yn cael ei wneud er mwyn sicrhau ei fod yn drefniant diogel a bod asesiadau risg effeithiol yn cael eu datblygu.

 

Mewn ymateb i ymholiad am wybodaeth bellach ar gynnwys biniau halen ar Map Gwynedd, cadarnhaodd Pennaeth yr Adran mai dim ond yn fewnol mae’r wybodaeth hwn ar gael ar hyn o bryd. Eglurwyd bod lleoliad pob bin yn cael ei gofrestru a bod yr Adran yn cydweithio gyda swyddogion Technoleg Gwybodaeth y Cyngor er mwyn i’r wybodaeth ymddangos ar Map Gwynedd ar wefan y Cyngor. Eglurwyd mai’r gobaith yw os nad yw trigolion yn gallu dod o hyd i’w bin halen agosaf, neu yn adrodd problem gydag unrhyw fin, bod modd iddynt nodi’r union leoliad gan ddefnyddio’r map, wrth iddynt adrodd ar y broblem. Cydnabuwyd nad oes amserlen pryd bydd y wybodaeth ar gael i’r cyhoedd ond dymunir iddo fod yn barod mor fuan â phosib.

 

Llongyfarchwyd yr adran am eu gwaith o sicrhau bod cylchdeithiau blaenoriaeth gyntaf ac ail-flaenoriaeth yn cael eu graeanu yn amserol dros y gaeaf diwethaf, gan nodi nad oedd angen i’r Aelodau gysylltu â’r Adran i ofyn am y gwasanaeth hwn, gan ei bod eisoes wedi cael ei gwblhau. Mewn ymateb, cadarnhawyd bod hyn yn deillio o’r ffaith bod lorïau graeanu llai yn cael eu defnyddio ar gyfer cylchdeithiau ail flaenoriaeth pan mae’r tymheredd yn isel am gyfnod o 3 diwrnod, gan sicrhau bod hynny yn cael ei wneud yn ystod y dydd yn hytrach na’r nos. Eglurwyd bod hyn yn caniatáu i’r cylchdeithiau eraill barhau fel ag yr arfer a bod llai o siawns bydd ffyrdd eraill yn cael eu gadael heb eu graeanu.

 

Mewn ymateb i ymholiad am bwy sydd â’r cyfrifoldeb dros finiau halen, cadarnhaodd Pennaeth yr Adran mai asedau’r Cyngor ydynt. Nodwyd y golyga hyn mai’r Cyngor sydd yn gyfrifol am lenwi’r biniau ac am y gwaith cynnal a chadw cyffredinol. Tynnwyd sylw bod rhai o’r aelodau wedi nodi bod biniau halen yn eu hardaloedd hwy wedi torri a nododd Pennaeth yr Adran y dylid dod i gyswllt gyda’r Cyngor er mwyn trefnu iddynt gael eu gwaredu a rhoi bin yn eu lle. Amlygwyd bod biniau halen yn cael eu harchwilio fel rhan o’r rhaglen archwiliadau ffyrdd arferol ac yn cael archwiliadau pellach ar ddechrau’r gaeaf er mwyn sicrhau eu bod yn safonol ac yn llawn.

 

Mewn ymateb i ymholiadau am sut i gael bin halen o’r newydd, eglurodd Pennaeth yr Adran bod modd cytuno ar hyn gyda’r Cyngor Cymuned. Nodwyd bod y gwasanaeth cynnal gaeaf yn edrych ar ail-leoli bin halen presennol yn hytrach na ychwanegu bin newydd.  Adroddwyd bod y niferoedd o finiau halen sydd o gwmpas y sir ar ei uchaf a'i fod yn anodd cymeradwyo unrhyw gais am fin newydd neu ychwanegol heb gefnogaeth gan y Cynghorau Cymuned.  Soniwyd hefyd gall Cynghorau Cymuned wneud y penderfyniad o brynu bin halen o’r newydd ond eglurwyd mai  cyfrifoldeb   Cyngor Gwynedd ydi ei ail-lenwi. Pwysleisiwyd bydd y ceisiadau hyn yn cael eu hystyried ar sail achosion unigol gan ystyried:

 

·       Ydi’r lleoliad ar lwybr graeanu cyfredol blaenoriaeth gyntaf neu ail-flaenoriaeth

·       A fuasai’r cerbyd graeanu yn gallu trin y ffordd os yw’r angen yn codi

·       Oes yna fin halen arall cyfagos – os oes, defnyddir y bin hwnnw

·       Uchder y lleoliad – tir uchel neu arfordirol

·       Yw’r ffordd yn serth neu anwastad

·       Oes problemau dwr yn bodoli yno

 

Nododd yr Aelodau bod aneglurder ymysg cynghorau cymuned am drefniadau biniau halen. Mewn ymateb, cadarnhaodd Pennaeth yr Adran y byddai’r Peirianwyr Ardal yn llythyru’r holl Gynghorau Cymuned yn egluro’r prosesau cyn cyfnod y gaeaf, gan ddarparu copïau o’r llythyr hwnnw i’r Aelodau Etholedig er gwybodaeth. Ymhelaethwyd bydd y llythyr hwn yn manylu ar y gost o archebu bin halen o’r newydd, sef oddeutu £300-£350.

 

Mewn ymateb i ymholiad os oedd meysydd parcio a thiroedd ysgolion yn cael eu graeanu er mwyn sicrhau bod ysgolion yn parhau ar agor yn ystod tywydd gaeafol, eglurodd Peiriannydd Ardal Dwyfor nad yw hyn yn digwydd ar hyn o bryd yn gyffredinol yn y sir. Fodd bynnag, eglurwyd bod modd  gwneud hyn ar safle Ysgol Eifionydd. Cyfeiriodd aelodau eraill at esiamplau yn ymwneud ag ysgolion yn eu wardiau. Mewn ymateb, nodwyd bydd y trefniadau hyn yn cael eu hasesu a’u hadolygu er mwyn gweld os oes modd dod i drefniant tebyg.  Ymhelaethwyd bod gwaith ychwanegol yn cael ei wneud fel rhan o’r gwasanaeth er mwyn sicrhau bod llwybrau troed ysgolion ac ysbytai yn cael eu graeanu’n amserol.

 

Diolchwyd am yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD

1.     Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth.

2.     Cefnogi bwriad yr Adran Priffyrdd, Peirianneg a YGC i lythyru Cynghorau Cymuned a Thref i gadarnhau trefniadau biniau halen ac anfon copi i’r Cynghorwyr Sir.

3.     Argymell i’r Adran Priffyrdd, Peirianneg a YGC bod angen ystyried mynediad diogel i diroedd ysgolion yn ystod tywydd garw fel rhan o’r adolygiad o’r cylchdeithiau graeanu.

 

Dogfennau ategol: