Cyng. Dilwyn Morgan i gyflwyno’r adroddiad.
Penderfyniad:
Derbyn yr adroddiad a gofyn am adroddiad cynnydd mewn 18
mis.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Cabinet Oedolion a
Llesiant, Cynghorydd Dilwyn Morgan, Pennaeth Adran Oedolion, Pennaeth Oedolion
Iechyd a Llesiant, Mari Wynne Jones.
Adroddwyd bod y prosiect yn cwmpasu gwaith pwysig y
rhwydwaith aml-asiantaeth wrth gefnogi trigolion i ddychwelyd adref o’r ysbyty.
Amlinellwyd y trefniadau presennol y Timau Adnoddau Cymunedol wrth iddynt
gefnogi oedolion ar ôl iddynt gael eu rhyddhau o’r ysbyty. Eglurwyd bod y Timau
yn cefnogi oedolion gydag anghenion corfforol, gwaeledd, cyflyrau cysylltiedig
â henaint a dementia. Rhannwyd manylion ar y llwybrau gofal sydd ar gael i
gleifion yng nghyd-destun egwyddorion y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a
Llesiant. Pwysleisiwyd bod adnoddau personol a chryfderau unigolion yn
greiddiol i asesiadau a chynlluniau anghenion gofal a chefnogaeth, er mwyn
sicrhau bod yr unigolion yn derbyn gofal pwrpasol.
Cadarnhawyd bod yr egwyddorion yn seiliedig ar y Ddeddf
Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Nodwyd y defnyddir y
fframwaith cyfreithiol i adnabod deilliannau personol person ac i asesu ei
anghenion gofal a chefnogaeth. Pwysleisiwyd pwysigrwydd annog pobl i ddychwelyd
adref o’r ysbyty er eu lles hwy, gan nod ei fod yn destun pryder fod “10 diwrnod ychwanegol yn yr ysbyty yn arwain
at gyfwerth a 10 mlynedd o heneiddio yng nghyhyrau pobl dros 80 oed”. Pwysleisiwyd
mai nod y prosiect yw sicrhau gofal gorau posib wrth gefnogi pobl i fod adref
yn eu cymunedau, er mwyn hybu annibyniaeth yr unigolyn a lleddfu’r pwysau ar
ofal cymdeithasol a gwasanaethau cymunedol sydd eisoes dan bwysau.
Ymhelaethwyd bod y prosiect yn gweithredu mewn ymateb i
adroddiad cyhoeddwyd gan Senedd Cymru, a oedd yn ymchwiliad i rôl awdurdodau
lleol wrth gefnogi pobl i adael yr ysbyty yn amserol. Eglurwyd bod llawer o
gydweithio rhwng y Cyngor a’r Bwrdd Iechyd er mwyn ceisio gwella’r daith i
unigolion wrth iddynt ymadael a’r ysbyty. Nodwyd bod y Gymdeithas Cyfarwyddwyr
Cymdeithasol wedi llunio papur yn fframio’r cyd-destun cenedlaethol yng Nghymru
a phwysigrwydd cydweithio rhwng yr asiantaethau gwahanol. Amlygwyd bod y GIG
yng Nghymru yn defnyddio codau penodol i bennu llwybr unigolion sydd yn cael eu
rhyddhau o’r ysbyty, sydd yn seiliedig ar egwyddorion Rhyddhau i Adfer ac yna
Asesu (D2RA). Manylwyd ar y pedair ffrwd,
Manylodd y Rheolwr Prosiect, ei fod yn Gynllun Peilot a fydd
yn rhedeg am gyfnod gan obeithio y bydd y datblygiadau yn cael eu ehangu ar
draws y sir. Rhoddwyd trosolwg o amcanion y prosiect yng nghyd-destun adroddiad
Llechen Lan a Ffordd Gwynedd o weithio. Eglurwyd bydd y galw am ofal a
chefnogaeth yn cynyddu wrth i boblogaeth hŷn gynyddu Cadarnhawyd bydd y
gwaith sydd yn deillio o’r prosiect yn sicrhau bod adnodd addas i fynd i’r
afael a’r heriau cynyddol hirdymor.
Yn ystod y drafodaeth, croesawyd yr adroddiad a diolchwyd am
y gwaith i gefnogi trigolion Gwynedd. Er hyn, mynegwyd siom bod y prosiect yn
gyfyngedig i gleifion yn dychwelyd o Ysbyty Gwynedd. Bu i Aelodau ddatgan eu
rhwystredigaeth nad yw’r prosiect yn cwmpasu cleifion o Wynedd sydd yn
dychwelyd o ysbytai eraill ar draws Cymru a Lloegr. Pwysleisiwyd bod Gwynedd yn
sir eang, a bod trigolion yn aml yn cael eu cyfeirio at Ysbyty Maelor yn
Wrecsam ac Ysbyty Bronglais, Aberystwyth. Nodwyd bod y trigolion yma yn aml o
Feirionnydd, ac felly nad yw’r prosiect yn gynhwysfawr i holl drigolion y sir.
Cydnabuwyd bod cyfyngiadau i’r adroddiad, a nodwyd bydd ymrwymiad i ddatblygu
ac ehangu’r gwaith ar draws y sir.
Manylwyd ar waith yr Academi Gofal ers ei lansiad ym mis
Tachwedd 2024. Nodwyd bod yr Academi yn hyfforddi pobl ifanc a bod hyn yn
gynllun sydd yn cyfrannu yn helaeth at annog pobl i gael swyddi yn y maes Gofal
yng Ngwynedd. . Eglurwyd nad yw'r awdurdod lleol yn cyflogi ffisiotherapyddion
ond cadarnhawyd y byddai’r Aelod Cabinet Oedolion Iechyd a Llesiant yn sôn am
hyn yn ystod trafodaethau rhanbarthol a’ r Bwrdd Iechyd.
Cadarnhawyd bod y Cyngor wedi derbyn Grant Trawsnewid
Llwybrau Gofal yn 2025, gwerth £1,149,449. Eglurwyd mai diben y grant yw
cefnogi gweithgarwch tuag at gynnal asesiadau amserol a darparu pecynnau gofal
i sicrhau y gall pobl adael yr ysbyty. Nodwyd bydd y gronfa yn cael ei
ddefnyddio i gryfhau gwasanaethau gofal cymunedol er mwyn cefnogi pobl i aros
yn iach yn eu cartref. Cadarnhawyd bydd y grant yn cryfhau capasiti
asesu ac adolygu ac yn cynnal ac ehangu’r
ddarpariaeth gofal cartref, yn enwedig mewn rhai ardaloedd heriol o
Wynedd. Nodwyd bydd y Grant hefyd yn galluogi datblygiadau yn y gweithlu i
fabwysiadu’r dull Symud gydag Urddas. Nodwyd bod y dull hwn yn sicrhau bod
gofal yn cael ei ddarparu mewn modd sy’n blaenoriaethu urddas, annibyniaeth a
diogelwch unigolyn wrth wneud y defnydd gorau o’r adnoddau sydd ar gael.
Mynegwyd bod yr adran yn croesawu’r arian ychwanegol ond fod gyllideb
Llywodraeth Leol yn parhau yn isel a bod yr adran yn parhau i weithredu o dan
straen. Cadarnhawyd bod y prosiect yn sicrhau asesiadau amserol a gofal sy’n
canolbwyntio ar y person.
Yn ystod y drafodaeth, mynegodd nifer o Aelodau nad
yw’r broses o dderbyn gofal a
meddyginiaeth yn aml yn ddigon amserol i drigolion ar draws y sir. Cafwyd sgwrs
am rwystredigaeth trigolion wrth geisio cael apwyntiad i weld doctor. Nodwyd
bod hyn yn aml yn arwain at gleifion yn dirywio yn sydyn ac yn gorfod mynd i’r
ysbyty o ganlyniad i ddiffyg gweithredu o’r cychwyn. Nodwyd hefyd bod diffyg
ffisiotherapyddion yng Ngwynedd, yn enwedig ardal Pen Llyn, yn ychwanegu yn
ddifrifol ar y straen o alluogi i gleifion ddychwelyd adref o’r ysbyty.
Pwysleisiwyd bod trigolion yn dioddef oherwydd y diffyg gofal ar gael mewn
ardaloedd mwy gwledig o fewn y sir, a bod hyn yn peri gofid i’r cleifion a’u
teuluoedd wrth iddynt orfod teithio i dderbyn gofal a chefnogaeth. Pwysleisiwyd
nad oes digon o wlâu nyrsio ar gael yn lleol i bobl yn eu cymunedau a bod
diffyg gofal lliniarol ar draws y sir yn broblem frawychus.
Canmolwyd cynnwys yr adroddiad a gofynnwyd a fyddai’n bosib
cael mwy o enghreifftiau penodol o hanesion cleifion yn y dyfodol. Pwysleisiwyd
mai’r claf yw’r unigolyn holl bwysig yn y drafodaeth hon a chanmolwyd y gwaith
pwysig sydd yn mynd ymlaen o fewn y prosiect i weithio dros bobl Gwynedd.
Ategwyd y gobaith y bydd cleifion a phobl Gwynedd yn elwa yn sylweddol o’r
prosiect a bydd y gwaith yn datblygu ac yn ehangu ar draws y sir.
PENDERFYNIAD
Derbyn yr adroddiad a gofyn am adroddiad cynnydd mewn 18
mis.
Dogfennau ategol: