Agenda item

Cyng. Dilwyn Morgan i gyflwyno’r adroddiad.

Penderfyniad:

a)    Derbyn yr adroddiad.

b)    Annog gweithredu’r cynllun mewn mannau eraill o’r sir.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan yr Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant a’r Pennaeth Adran.

 

Nodwyd fod yr adroddiad hwn yn un hynod ddiddorol, sydd yn elfen arall o’r darlun mawr. Eglurwyd fod y gwaith sydd yn y cynllun hwn yn cynorthwyo i gadw pobl allan o’r ysbytai ac o wasanaethau yn ardal Dyffryn Nantlle. Eglurwyd nad yw’n gynllun cwbl unigryw ond yn gam pellach i’w hybiau cymunedol sydd i’w gweld ar draws y sir.

 

Ymhelaethodd y swyddog ei fod yn gynllun syml, sydd yn dod a phobl at ei gilydd ac i gyd-weithio gyda’r gymuned i ymateb i’r heriau o ddarparu gwasanaethau ataliol ar lefel leol. Mynegwyd ei bod yn helpu trigolion ardal Dyffryn Nantlle i gael y gefnogaeth maen nhw ei angen yn rhwydd a heb orfod cnocio ar nifer o ddrysau gwahanol asiantaethau. Ychwanegwyd mai’r nod yw rhoi grym i’r rhai sy’n gweithio a byw yn yr ardal i gynorthwyo unigolion yn eu cymuned. Pwysleisiwyd mai un partner o nifer o fewn y cynllun yw’r Cyngor, ond fod y Cyngor a’r rôl o hwyluso’r gwaith i roi'r sgyrsiau sydd eu hangen eu lle.

 

Mynegwyd fod 3 prif beth wedi arwain y gwaith o ddatblygu’r bartneriaeth hon. Y cyntaf oedd comisiynu gwaith ymchwil gan fudiad National Development Team for Inclusion i drafod a mudiadau yn yr ardal i weld beth oedd y sefyllfa o ran cefnogi pobl ac i weld os oedd awydd yno i ddatblygu rhywbeth ychydig yn wahanol er mwyn cefnogi pobl o fewn eu cymunedau.

 

Yr ail oedd bod aelodau’r Tîm Arweinyddiaeth wedi gosod her o ystyried beth all y Cyngor ei wneud o ran cynorthwyo pobl i gael y gefnogaeth oeddent eu hangen heb orfod mynd at bob asiantaeth neu adran Cyngor ar wahân. Arweiniodd hyn at weithdy aml-adran i drafod y mater a arweiniodd at yr holl adrannau yn neilltuo amser staff a oedd yn gweithio yn Nyffryn Nantlle i ddod at ei gilydd i drafod ymhellach.

 

Y trydydd oedd creu Lles Nantlle er mwyn tynnu gwahanol fudiadau i mewn megis y feddygfa, Cynefin, Adra a mudiadau lleol megis yr Orsaf. Drwy ddod at ei gilydd roedd modd creu gweledigaeth, dod i adnabod ei gilydd ond yn fwy na dim deall gwaith ei gilydd er mwyn cyd-weithio i ymateb i’r galw. Pwysleisiwyd nad oeddent yn dod at ei gilydd i siarad ond yn hytrach i ddeall beth oedd yn digwydd yn yr ardal. Erbyn heddiw mae Cydlynydd wedi ei phenodi am gyfnod o 6 mis a fydd yn gweithio yn yr Orsaf ym Mhen y Groes. Bydd modd galw mewn i’r Lolfa am sgwrs â swyddogion ble fydd modd defnyddio eu cysylltiadau i ymateb i’w anghenion.

 

Pwysleisiwyd fod ymrwymiad clir gan y sefydliadau i fod yn rhan o’r cynllun hwn sydd yn datblygu ac yn esblygu drwy ddysgu yn barhaus. Eglurwyd ei fod yn fwy ‘na darparu gwasanaethau unigol ond yn hytrach creu amgylchedd cyd-weithio sy’n arwain at arloesi i lenwi blychau gofal. Mynegwyd fod y model hwn yn ysbrydoli mewn ffordd bositif a fydd yn arwain at gymuned iachach.

 

Bu i’r Aelod Lleol ym Mhen y Groes nodi ei brofiad ef o fod yn rhan o’r cynllun. Nodwyd ei fod wedi datblygu o gyfarfod ble roedd ymwybyddiaeth fod ffordd wahanol o weithio yn gymunedol. Amlygodd fod awydd cryf yn yr ardal i’w weithredu ac mai hwn yw’r tro cyntaf i gyfarfodydd o’r fath fod, gyda mwy a mwy o bobl yn cael ei tynnu i mewn ac yn parhau i ddod i’r cyfarfodydd. Mynegwyd fod teimlad positif o drawsnewid, ble mae’r gymuned yn rhan hanfodol gyda’r Cyngor yn cydlynu ac nid yn arwain. Pwysleisiodd ei fod yn brosiect cymunedol i gadw pobl draw o wasanaethau ac i fyw bywyd ffyniannus, gwdyn a hyfyw yn eu cymunedau sydd angen ei efelychu ar draws y sir.

 

Wrth drafod yr adroddiad holwyd os yw’r prosiect ar gyfer Dyffryn Nantlle yn ei gyfanrwydd neu ar gyfer Pen y Groes yn unig, a phryd fydd y Lolfa yn agored i’r cyhoedd. Nodwyd ei fod ar gyfer Dyffryn Nantlle a'u bod yn gobeithio y bydd modd i’r Lolfa agor ym mis Hydref. 

 

Wrth drafod y Lolfa holwyd pwy fydd ar gael yno i drigolion – hynny yw a fydd mudiadau gwahanol yno o wythnos i wythnos. Eglurwyd nad oedd trefniadau pendant yn eu lle eto, ond nodwyd drwy’r cyfarfodydd ble mae pawb wedi dod i adnabod gwaith ei gilydd bod swyddogion yn ymwybodol o rôl pawb a sut y gall wahanol asiantaethau cynorthwyo gyda gwahanol problemau.

 

Holwyd o ran trefn y cyfarfodydd Lles Nantlle, pa fath o eitemau sydd yn cael ei rhoi ar y rhaglen. Nodwyd fod fframwaith penodol yn cael ei ddilyn gan gwmni sy’n arbenigo mewn darparu cefnogaeth sy’n cael ei arwain gan y gymuned. Eglurwyd hefyd nad yw’r cyfarfodydd yn rhai ffurfiol ond yn gyfarfodydd sydd yn cael eu hwyluso. Amlygwyd fod cyd-drafod wedi adnabod mai'r un rhwystrau sydd i’w gweld gan wahanol fudiadau ac felly eu bod yn gallu gweithio gyda’i gilydd i ddod dros y rhwystrau hyn.

 

Gofynnwyd sut mae’r cynllun yn cael ei gyllido ac os oes adnoddau i’w ymestyn ymhellach. Eglurwyd fod yn gyllideb fach iawn gydag amryw o’r mudiadau yn cyfrannu a bod angen edrych am arian i’w gyllido wedi’r cyfnod 6 mis. O ran symud ymlaen ac ymestyn ymhellach dros y sir, nodwyd fod yr adroddiad o’u blaenau heddiw er mwyn blaen graffu i weld os oes cefnogaeth i gynlluniau o’r math hwn.

 

Amlygwyd fod cynllun tebyg ym Mangor ble mae Hwb Cymunedol wedi agor yng nghanol y Ddinas. Diolchwyd i’r swyddogion sydd wedi cynorthwyo i wneud cynllun o’r fath ym Mangor yn ogystal.

 

PENDERFYNIAD

 

a)    Derbyn yr adroddiad. 

b)    Annog gweithredu’r cynllun mewn mannau eraill o’r sir.  

 

Dogfennau ategol: