Cyng. Paul Rowlinson i gyflwyno’r adroddiad.
Penderfyniad:
Derbyn yr adroddiad.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Cabinet Tai ac Eiddo, Cyng. Paul
Rowlinson.
Cyfeiriwyd at yr argyfwng tai sy’n wynebu Gwynedd, gan nodi bod y nifer
sylweddol o dai gwag yn ychwanegu at y problemau presennol. Nodwyd bod rheoli
tai gwag yn un o brif flaenoriaethau Cynllun y Cyngor a’r Cynllun Gweithredu
tai. Nodwyd fod y Premiwm Treth Cyngor wedi ei godi ar dai yng Ngwynedd sydd
wedi bod yn wag am 12 mis neu fwy, er mwyn annog perchnogion i adfer yr eiddo a
dod a’r tai nol i ddefnydd. Ymhelaethwyd bod y Cyngor yn cynnig nifer o
gynlluniau sy’n rhoi cymorth i bobl adnewyddu tai gwag i ddod a nhw i safon byw
diogel. Cadarnhawyd bod 123 o dai yng Ngwynedd wedi elwa o’r Grant Tai Gwag.
Nodwyd bod hyn yn cael effaith cadarnhaol ar yr economi yn lleol trwy’r defnydd
o gontractwyr lleol.
Cadarnhawyd bod prynwyr tro cyntaf yn aml yn derbyn eithriad ar y
Premiwm Tai Gwag am flwyddyn, i hwyluso’r broses o adfer yr eiddo. Er hyn,
nododd Aelod bryder am y Premiwm Tai Gwag a chyfnod yr eithriad talu am
flwyddyn. Mynegwyd bod Gwynedd yn ardal unigryw lle mae ardaloedd yn amrywio yn
helaeth ar draws y sir. Nodwyd y dylid cydymdeimlo a’r rhai sydd yn etifeddu
tŷ fel rhan o stad anwylyd, a sylwi bod straen gwerthu’r eiddo yn gallu
peri gofid yn ystod amser anodd. Tynnwyd sylw at anawsterau trigolion wrth
geisio gwerthu eiddo mewn rhai ardaloedd, yn sgil y cynnydd o brisiau tai, ac
felly nodwyd y dylid ystyried hyn wrth osod a gweithredu ar y polisïau.
Mewn ymateb i ymholiad ar y nifer o ail dai sydd wedi eu hadnewyddu i
fod yn gartrefi, cadarnhawyd fod y grant wedi ariannu adnewyddu amryw o dai a
oedd eisoes yn ail dai i safon byw dderbyniol, sydd wedi darparu cartrefi i
bobl leol yn y sir. Nodwyd bod yr adran eisoes wedi cyflawni’r targed o ddod a
282 o dai gwag yn ôl i ddefnydd yng Ngwynedd, gyda 299 o dai wedi dod yn ôl i
ddefnydd yn sgil cefnogaeth gan y Cyngor trwy’r Grant Tai Gwag. Er hyn, nodwyd
bod 1,306 o dai yn parhau i fod yn wag yng Ngwynedd hyd heddiw, sy’n
adlewyrchiad o’r gwaith parhaus sydd gan yr adran yng Ngwynedd.
Mewn ymateb i ymholiad ar y nifer o dai gwag hir dymor sydd yn parhau i
fod yn wag ers blynyddoedd, eglurwyd bod y perchenogion yn cael gohebiaeth gan
yr adran er mwyn eu hannog i ddod a’r eiddo yn ôl i ddefnydd byw. Cadarnhawyd
bod yr adran yn targedu ardaloedd lle mae’r tai wedi bod yn wag am beth amser
gan ddefnyddio ffigyrau o’r adran dreth. Nodwyd bod hyn yn rhan elfennol o’r
gwaith trawsadrannol sydd yn mynd rhagddo gan yr Uned Gorfodaeth, o fewn y
Cynllun Gweithredu Tai, sy’n gweithredu ar adeiladau gwag sy’n achosi problemau
dyrys yn y sir.
Mynegwyd pryder bod rhai tai gwag yn sefyll yn wag yng Ngwynedd am amser
maith wrth fynd ar goll yn y system, ac felly nid yw’r perchnogion yn talu
trethi na phremiwm o gwbl ar yr eiddo. Mynegwyd rhwystredigaeth am y broses o
ymafael a’r eiddo gwag o fewn y sir. Cydnabuwyd fod hyn yn her i’r adran ond
cadarnhawyd bod y tîm yn cydweithio ag adrannau eraill o fewn y Cyngor er mwyn
cyflawni'r targedau a osodwyd yn y Cynllun Gweithredu Tai.
Tynnwyd sylw at ddarganfyddiadau ac argymhellion Adroddiad Sefydliad
Bevan, a’r pwyslais ar yr angen i adnewyddu eiddo gwag er mwyn cynyddu’r stoc
dai a chartrefu pobl sydd a’r angen am dai. Holwyd os ydi unrhyw eiddo gwag yn
cael ei drin yn yr un modd a thai gwag, o fewn y Cynllun Gweithredu Tai.
Cadarnhawyd y byddai angen cadarnhau’r sefyllfa gyda’r adran trethi.
Cyfeiriwyd at adroddiad Bevan
wrth nodi pryder ynghylch anhyblygrwydd dynodiad safonau polisïau Llywodraeth
Cymru wrth adnewyddu tai ac eiddo i ddefnydd byw. Gofynnwyd a yw Cyngor Gwynedd
yn seilio eu polisi Grant Tai Gwag ar yr un safonau a Llywodraeth Cymru. Mewn
ymateb i hyn, cadarnhawyd bod y Cyngor yn seilio ac yn cydymffurfio a’r safonau
dynodedig o fewn y fframwaith Grant Tai Gwag Cyngor Gwynedd er mwyn
cymeradwyo’r gwaith adnewyddu eiddo i ddod a’r tai gwag i ddefnydd diogel ac o
safon byw dderbyniol o fewn y sir. Nodwyd y canolbwyntir ag ymdrin â gwaith
mewnol ac allanol, gwaith plymio a trydanol ayyb er mwyn dod a’r tai i ddefnydd
o safon byw derbynion. Nodwyd bod yr adran yn monitro’r gwaith sy’n cael ei
gymeradwyo yn rheolaidd, er mwyn sicrhau defnydd priodol o’r grant. Cadarnhawyd
bod cyfyngiad yn cael ei roi yn erbyn yr eiddo ar y gofrestr tir am gyfnod o 5
mlynedd, yn nodi bydd disgwyl i’r perchennog ad-dalu dyraniad i’r Cyngor petai
yn gwerthu’r eiddo o fewn cyfnod 5 mlynedd.
Nodwyd bod yr adran eisoes wedi cyflawni’r targed o adnewyddu tai gwag
yn y sir am y flwyddyn. Gofynnwyd a oes targed newydd neu os yw’r targed wedi
cynyddu yn sgil hyn. Eglurwyd bod yr adran yn parhau i weithio yn effeithlon ac
yn cyflawni gwaith da o fewn rhwydwaith trawsadrannol y Cyngor i wireddu’r
cynlluniau. Nodwyd bod y Cynllun eisoes wedi ehangu ers 1 Awst, fel rhan o
gyfnod treialu, er mwyn caniatáu mwy o bobl i fod yn gymwys i dderbyn y Grant
Tai Gwag, ac o ganlyniad bydd mwy o bobl leol yn elwa o’r cymorth. Nodwyd eu
bod mewn cyfnod treialu am 3 mis, a bydd y newidiadau yn cael eu hymgorffori yn
ffurfiol o fis Tachwedd 2025 ymlaen. Cadarnhawyd y byddai’r adran yn parhau i
hyrwyddo cynlluniau drwy ddefnydd cyfryngau cymdeithasol a digwyddiadau. Pwysleisiwyd effaith negyddol tai gwag ar gymunedau,
diwylliant a’r iaith Gymraeg, a atgyfnerthwyd ymrwymiad y Cyngor i fynd i’r
afael o lenwi ail dai.
PENDERFYNIAD
Derbyn yr adroddiad.
Dogfennau ategol: