Cais newid defnydd ar gyfer gosod 12 Caban Gwyliau ar dir yn Y Ffor, Pwllheli.
AELOD LLEOL: Cynghorydd Richard Glyn Roberts
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD: Gwrthod
Rhesymau
Cofnod:
Cais newid
defnydd ar gyfer gosod 12 Caban Gwyliau ar dir yn Y Ffôr, Pwllheli
Tynnwyd sylw at y
ffurflen sylwadau hwyr.
a)
Amlygodd y Rheolwr
Cynllunio mai cais ydoedd ar gyfer datblygu safle llety gwyliau newydd ar gyfer
12 caban gwyliau parhaol a pharcio cysylltiedig, draenio a thirlunio. Byddai’r
cabanau pren o gladin pren wedi ei staenio mewn lliw cadwraeth a byddai pob un
yn cynnwys ystafelloedd cysgu, ystafell ymolchi, ystafell fyw a chegin /
ystafell fwyta.
Adroddwyd y byddai’r unedau yn cael eu gosod
yng nghornel cae amaethyddol yng nghefn gwlad agored. Er nad oes dynodiad
tirwedd arbennig i ardal y cais, mae o edrychiad a chymeriad tirwedd wledig heb
ei ddatblygu gyda sawl eiddo preswyl nad yw ym mherchnogaeth yr ymgeisydd wedi
ei leoli’n agos i’r safle.
Nodwyd bod bwriad darparu system draenio
breifat i ddŵr glân a budr ar gyfer y bwriad ond nad oedd y datblygwr wedi
cyflwyno unrhyw ganlyniadau profion mandylledd / trylifiad mewn perthynas â'r
system garthffosiaeth breifat. Cyflwynwyd cynllun tirlunio gyda’r cais yn
dangos bod bwriad plannu nifer helaeth o goed ar hyd terfyn de gorllewinol a de
ddwyreiniol y safle ynghyd â chryfhau gwrych presennol ar hyd y ffordd sirol,
ond ni dderbyniwyd manylion o’r cynllun hwnnw gyda’r cais.
Amlygwyd mai Polisi TWR 3 oedd y polisi
perthnasol y cai yma gan fod y cabannau yn rhai parhaol. Nodwyd bod rhan gyntaf
y polisi yn cyfeirio’n benodol at ormodedd o ddatblygiadau newydd. Ategwyd, er
mwyn diffinio ‘gormodedd’ yn y cyd-destun yma, tynnwyd sylw at eglurhad 6.3.69
polisi TWR 3 sy’n cyfeirio at ‘Astudiaeth Capasiti a Sensitifrwydd y Dirwedd yn
Ynys Môn, Gwynedd a Pharc Cenedlaethol Eryri 2014. O fewn pob Ardal Cymeriad y
Dirwedd bydd y dirwedd yn cael ei asesu er mwyn canfod beth yw ei gapasiti ar
gyfer mwy o ddatblygiadau sialetau neu garafanau gwyliau.
Ategwyd bod y datblygiad penodol yma yn
disgyn o fewn Ardal Cymeriad y Dirwedd G10 (Canol Llŷn) gyda’r astudiaeth
yn cadarnhau, “Y tu allan i’r AHNEau a’r
ATAau fe all fod rhywfaint o gapasiti ar gyfer datblygiadau ar raddfa fach i
fach iawn wedi eu lleoli yn sensitif ac wedi eu cynllunio’n dda, a ddylai
berthnasu’n dda gyda’r amgylchedd adeiledig / gorchudd tir trefol presennol.”
Nodwyd bod yr Astudiaeth yn diffinio datblygiadau bach iawn fel rhai hyd at 10
uned a datblygiadau bach rhwng 10 - 25 uned. Er bod y bwriad gerbron yn disgyn
o fewn y diffiniad o ddatblygiad bach, ni ystyriwyd fod y safle yma yn lleoliad
sy’n perthnasu’n dda gyda’r amgylchedd adeiledig neu orchudd tir trefol, ac
felly ar sail hynny ni ystyriwyd fod capasiti ar gyfer y bwriad ar y safle
gwledig yma.
Tynnwyd sylw at yr ail faen prawf oedd yn
cyfeirio at ddyluniad, gosodiad ac edrychiad y datblygiad arfaethedig gan
ddatgan ei fod o ansawdd uchel, ac y dylai datblygiadau newydd gael eu lleoli
mewn man anymwthiol. Diffinnir lleoliad anymwthiol fel un sydd wedi cael ei
sgrinio’n dda gan nodweddion o’r dirwedd sy’n bodoli’n barod neu ble gellid
cydweddu’r unedau’n hawdd yn y dirwedd mewn modd sydd ddim yn peri niwed
sylweddol i ansawdd gweledol y dirwedd. Ystyriwyd bod y bwriad yma wedi ei
leoli yng nghornel isaf y cae mewn lleoliad gweledol i’r cyhoedd o’r briffordd.
Cydnabuwyd bod Asesiad Effaith Weledol Tirwedd wedi ei gyflwyno, ond roedd y
swyddogion yn nodi nad oedd y bwriad yn dderbyniol o ran effaith weledol ac
felly’n groes i’r ail faen prawf, yn ogystal â pholisi PCYFF 3 o’r CDLl o ran
mwynderau gweledol.
Adroddwyd bod y safle wedi ei leoli o fewn
ardal wledig, ac ardal sy’n rhydd o weithgareddau masnachol ac eithrio
peiriannau amaethyddol achlysurol ar y caeau ynghyd a thrafnidiaeth ysgafn ar y
ffyrdd. Nodwyd bod maes carafanau sefydlog hanesyddol dros 500 medr i’r de
orllewin a thai preswyl wedi eu gosod yma ac acw, gyda 2 ohonynt o fewn tua 150
medr i’r de ddwyrain a’r de o’r safle. Saif tŷ o’r enw Bodlas (sef y
tŷ agosaf) ger y ffordd gyda mynedfa i’r ffordd. Ystyriwyd y byddai gweithgareddau'r safle ynghyd â chynnydd mewn
trafnidiaeth fydd yn mynychu’r safle ar hyd y ffordd dawel, yn amharu ar
dawelwch yr ardal a chymeriad ac edrychiad deniadol yr ardal wledig leol yma.
Mae gweithgareddau sy’n nodweddiadol o bobl ar eu gwyliau yn wahanol i
weithgareddau eiddo preswyl, ac fe all gynnwys cyfnodau o sŵn uchel ar
adegau gyda’r nos, ynghyd â symudiadau cerbydau cyson. Ystyriwyd y gall hyn
achosi effaith andwyol sylweddol ar fwynderau’r trigolion cyfagos ac felly'r
bwriad yn groes i Bolisi PCYFF 2 o’r Cynllun Datblygu Lleol.
Derbyniwyd sylwadau Heneb ar y cais oedd yn
datgan y dylid cynnal archwiliad archeolegol cyn dod i benderfyniad ar y cais.
Cyfeiriwyd at y wybodaeth gychwynnol oedd wedi ei dderbyn ond cadarnhaodd Heneb
nad oedd y wybodaeth yn ddigonol ar gyfer penderfynu sut y byddai’r bwriad yn
debygol o effeithio unrhyw archeoleg ar y safle. Ar sail hyn, roedd y bwriad yn groes i ofynion polisi AT4 o’r
CDLl.
Nodwyd hefyd fod y bwriad yn cynnwys darparu System Trin
Carthffosiaeth newydd ar gyfer delio gyda gwastraff dŵr budr o’r
datblygiad. Cyfeiriwyd at sylwadau gan Cyfoeth Naturiol Cymru a Gwarchod y
Cyhoedd oedd yn cadarnhau nad oedd gwybodaeth ddigonol wedi ei gyflwyno er mwyn
sicrhau fod y modd yma o ddelio gyda gwastraff dŵr budr yn dderbyniol, ac
felly nid oedd gwybodaeth ddigonol i gadarnhau fod y bwriad yn dderbyniol ac
felly’n groes i ofynion polisi ISA 1 sy’n sicrhau darpariaeth isadeiledd
digonol.
Mynegwyd bod Datganiad Ieithyddol wedi ei
gyflwyno ers cyhoeddi’r adroddiad, a chadarnhawyd bod modd gosod amodau
cynllunio i sicrhau bod y busnes yn ymgorffori enw Cymraeg a bod arwyddion
Cymraeg/dwyieithog yn cael eu defnyddio petai’r bwriad wedi bod yn addas o ran
egwyddor. O ganlyniad i dderbyn Datganiad Iaith nid yw’r cynnig bellach yn
groes i ofyniad Polisi PS1 y CDLl ac y bydd rheswm gwrthod parthed Datganiad
Ieithyddol yn yr adroddiad yn cael ei ddileu.
Ystyriwyd fod y bwriad yn groes i ofynion
meini prawf 1.i a ii. o bolisi TWR 3 a pholisi PCYFF 3 a Chanllaw Cynllunio
Atodol: Llety Gwyliau ar sail effaith weledol, polisi PCYFF 2 ar sail effaith
ar fwynderau trigolion lleol, polisi ISA 1 ar sail diffyg gwybodaeth ddigonol
er mwyn sicrhau darpariaeth isadeiledd digonol i ddelio gyda gwastraff dwr
budr, a pholisi AT4 ar sail diffyg gwybodaeth archeolegol. Roedd y swyddogion
yn argymell gwrthod y cais.
b)
Yn manteisio ar yr hawl
i siarad, nododd asiant yr ymgeisydd y sylwadau canlynol:
·
Bod yr ymgeisydd a'i deulu yn deulu ffermio lleol o Gymru.
·
Bod y cais yn un i arallgyfeirio ac un sydd ei angen i gynnal y fenter, i osgoi rhaniad mewn teulu ffermio lleol, i ddarparu cyflogaeth i blant yr ymgeisydd ac atal gweithwyr rhag symud i ffwrdd o amaethyddiaeth a'r ardal.
·
Bod Profion Trylifiad ac Arolwg Geoffisegol wedi ei gynnal - oherwydd
argaeledd contractwyr, cynhaliwyd y rhain yn ystod y pythefnos diwethaf. Y canlyniadau'n amlygu nad oedd dim yn edrych
yn gynhanesyddol, yn anheddol, yn ddiwydiannol neu'n gysylltiedig ag angladdau.
·
Cyflwynwyd Datganiad Iaith Gymraeg a cadarnhawyd y byddai arwyddion
Cymraeg yn cael eu defnyddio drwy’r safle
·
Cais ar raddfa fach sydd gerbron
ar gyfer 12 Caban Gwyliau Pren mewn lliw ‘cadwraeth’ sydd yn gweddu’r
amgylchedd, mewn lleoliad wedi'i dirlunio'n helaeth.
·
Nid oedd unrhyw wrthwynebiadau gan yr Adran Priffyrdd nac Ecoleg.
·
Ynglŷn â sylwadau a
wnaed, na fydd Derbynfa na goruchwyliaeth ar y safle, nodwyd y bydd ymwelwyr yn
archebu ymlaen llaw gyda mynediad yn cael ei reoli gan ANPR a TCC. Petai angen
derbynfa, gall un o’r cabanau gael ei ddefnyddio ar gyfer y diben hwn -
gellid amodi hyn.
·
Bod y Swyddog Cynllunio
yn dod i gasgliad na ellid cefnogi’r cais oherwydd ei effaith ar y dirwedd a
thrigolion cyfagos. Fodd bynnag, roedd yr Asesiad Effaith Weledol ar y Dirwedd
yn dod i gasgliad, "Ni fyddai gan y datblygiad unrhyw ymyrraeth sylweddol
i batrymau nodedig tir fferm ar lawr gwlad na chymeriad diwylliannol. Mae maint
y newid yn ddibwys, gydag effaith niwtral gyffredinol ym Mlwyddyn 1 a Blwyddyn
10.
·
Bydd holl goed a
gwrychoedd y ffin bresennol yn cael eu cadw ac y bydd lleiniau coed ychwanegol
yn cael eu plannu.
·
Yn berthnasol i’r cais hwn, bod cynnig arall ar gyfer 35 uned gan
breswylydd lleol wedi'i gymeradwyo fis Tachwedd diwethaf yn Allt Fawr,
Pwllheli. Y cynnig yma yn Y Ffor ar gyfer 12 uned yn unig ac yn cydymffurfio â
pholisi.
·
Bod hwn yn achos unigryw gan deulu ffermio Cymreig sy'n ceisio
arallgyfeirio a chreu cyflogaeth ar gyfer y genhedlaeth nesaf gan osgoi rhannu
teuluoedd a gweithlu lleol.
·
Byddai'n cyfrannu at yr economi leol, yn cefnogi atyniadau lleol eraill,
tafarndai, bwytai, a siopau.
·
Yn gofyn i’r Pwyllgor ystyried y manteision y byddai'r bwriad hwn yn ei
gynnig ac y byddai unrhyw elfennau amlwg yn gallu cael eu hamodi.
·
Byddai’n gwerthfawrogi cefnogaeth y Pwyllgor i’r cais
c)
Yn manteisio ar yr hawl
i siarad, nododd yr Aelod Lleol y sylwadau canlynol
·
Ei fod yn cytuno gyda rhesymau gwrthod y swyddogion
·
Bod cryn wrthwynebiad yn lleol i’r cais
·
Bod y Cyngor Cymuned, yn
unfrydol, yn gwrthwynebu’r cais ar sail gorddatblygiad yn yr ardal
·
Byddai’r bwriad yn cael effaith ar fusnesau gweithredol tebyg yn y maes –
nifer o lety gwyliau yn yr ardal yn methu cyrraedd y trothwy gosod ac yn gorfod
talu premiwm treth y Cyngor.
d)
Cynigiwyd ac eiliwyd
gwrthod y cais
Cynigiwyd ac eiliwyd gwelliant o gynnal
ymweld safle.
Mewn ymateb i’r cynnig i gynnal ymweliad
safle, nododd y swyddog bod y rhesymau gwrthod yn ymwneud a diffyg gwybodaeth
ac nid materion gweledol yn unig.
Pleidleisiwyd ar y cynnig i gynnal ymweliad
safle.
Disgynnodd y cynnig
PENDERFYNWYD: Gwrthod
Rhesymau
Dogfennau ategol: