Agenda item

Cyflwyno adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau.

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

Nodi a derbyn yr adroddiad.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiadau isod a gwahoddwyd adborth gan yr aelodau ar faterion diogelwch a materion gweithredol yr Harbwr.

 

(1)    Adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau yn rhoi diweddariad bras i’r Pwyllgor ar faterion yr Harbwr am y cyfnod 2025/26.

 

Data Perfformiad

 

Nodwyd bod cytundebau angori ym Mhorthmadog bellach wedi cynyddu i 109. Nodwyd ymhellach bod y ffigurau ar gyfer cytundebau angori ar gyfer tymor 2025 yn cymharu’n ffafriol â blynyddoedd blaenorol. Er bod amrywiadau rhwng harbyrau unigol, roedd y ffigurau cyffredinol wedi aros yn gyson, sy’n gadarnhaol. Ymhelaethwyd bod cynnydd o 8% wedi bod yn nifer y cytundebau angori ym Mhorthmadog dros y tair blynedd ddiwethaf.

 

Nodwyd bod y Gwasanaeth yn gofyn yn garedig i holl gyflenwyr a deiliaid angorfeydd o fewn yr Harbwr ddarparu manylion yr holl gychod a’u cwsmeriaid i swyddfa’r Harbwr cyn gynted â phosibl.

 

Nodwyd bod cynnydd o 10% wedi bod yn nifer y cychod pŵer a gofrestrwyd gyda Chyngor Gwynedd y tymor hwn o gymharu â’r llynedd, gan godi o 2,141 i 2,362. Atgoffwyd bod cychod pŵer bellach yn cael eu cofrestru ar-lein ac felly nid ydynt yn cael eu cynnwys yn y gyllideb gyffredinol, gyda’r ystadegau’n ymwneud â’r cwsmeriaid sy’n dod i’r swyddfa i dalu am ffioedd lansio dyddiol yn unig.

 

Adborth a dderbyniwyd am Harbwr Porthmadog

 

Nodwyd bod arwyddion gyda 'QR Codes' wedi'u lleoli o gwmpas yr harbwr i dderbyn sylwadau gan ddefnyddwyr  ynglŷn â’u profiad o’r harbwr. Nodwyd bod ffigyrau a dderbyniwyd am Harbwr Porthmadog yn dangos cynnydd mewn adborth 'positif' a dderbyniwyd, ynghyd â'r ymdrechion a wnaed gan yr adran i wella profiad cwsmeriaid ac ymwelwyr ymhellach. Esboniwyd bod yr adborth hwn wedi bod yn ddefnyddiol iawn er mwyn gwella'r gwasanaeth yn yr harbwr.

 

Cod Diogelwch Morol Porthladdoedd

 

Nodwyd bod y Cod Diogelwch Morol Porthladdoedd (PMSC) yn amlinellu'r safon genedlaethol ar gyfer pob agwedd o ddiogelwch morol porthladdoedd. Cadarnhawyd penodiad diweddar Mr Owen Morgan, Rheolwr Harbwr ar gyfer Cyngor Ceredigion, fel ein ‘Person Dynodedig’ newydd. Ymhelaethwyd bod Mr Morgan yn cynnal yr archwiliad nesaf yn ystod misoedd y gaeaf ac yn rhoi arweiniad er mwyn sicrhau bod yr harbwr yn cwrdd â gofynion diweddaraf y PMSC. Nodwyd  fod Aelod Cabinet Economi a Chymuned, Medwyn Hughes, wedi’i benodi fel  y ‘dalwr dyletswydd’ newydd.

 

Nodwyd bod cyfleodd hyfforddiant a datblygiad parhaus yn cael eu cynnig i’r staff morwrol. Cyhoeddwyd bod un aelod o staff yn ddiweddar wedi cwblhau'r 'Diploma Harbwrfeistr', tra bod aelod arall wedi dechrau'r cwrs ‘UKHMA Harbour Master Certificate’ diweddaraf. Dymunwyd pob llwyddiant iddynt gyda'u datblygiad proffesiynol.

 

Oherwydd natur eu gwaith, nodwyd bod swyddogion yr harbwr  ar adegau wedi  profi ymddygiad difrïol, bygythiol ac ymosodol. Er mwyn sicrhau diogelwch staff a’r cyhoedd, esboniwyd bod swyddogion nawr yn gorfod gwisgo camerâu cyrff i roi gwarchodaeth iddynt, ac i recordio unrhyw ddigwyddiadau. Nodwyd bod sawl achos o ymddygiad difrifol wedi codi yn ystod 2024, ond ers 2025 mae’r niferoedd wedi lleihau, sydd yn dangos gwerth y camerâu cyrff. Nodwyd ymhellach bod ceisiadau i dderbyn copïau recordiau teledu cylch cyfan o’r harbwr wedi’u derbyn yn ystod y flwyddyn gan Heddlu Gogledd Cymru.

 

Cyhoeddwyd nad oes unrhyw ddigwyddiadau neu ddamweiniau morwrol wedi'u hadrodd i ‘MAIB’ hyd yn hyn eleni.

 

Trinity House GLA (Awdurdod Goleudai Cyffredinol)

 

Adroddwyd bod un flaenoriaeth allweddol i’r gwasanaeth yw sicrhau mordwyo diogel i’r holl forwyr sy’n defnyddio ein dyfroedd. Nodwyd, fel 'AGLl’ (Awdurdod Goleudy Lleol) cofrestredig, ein bod yn cynnal arolygon rheolaidd o sianel yr harbwr i sicrhau bod yr holl Gymhorthion Mordwyo Lleol wedi’u lleoli’n gywir ac yn gweithio’n iawn. Nodwyd bod yr adroddiad diweddaraf yn codi at y casgliad bod 95.47% o Gymhorthion Mordwyo Cyngor Gwynedd ar gael, gyda’r gwasanaeth yn cael ei ystyried mewn "Cyflwr Da".

 

Materion Ariannol

 

Rhoddodd yr Uwch Swyddog Harbyrau a Rheolwr Gwasanaeth Morwrol grynodeb byr o gyllidebau’r Harbwr ar gyfer y cyfnod 01/04/25 – 31/03/26 (Adolygiad Awst 2025), a gynhwyswyd fel atodiad i’r adroddiad. Nodwyd yn benodol:

-        Bod tanwariant sylweddol (£12,928) o dan y pennawd ‘adeiladau’, a allai fod oherwydd nad oedd angen gwaith o ganlyniad i waith cynnal a chadw effeithlon.

-        Bod gorwariant bychan (£3,906) o dan y pennawd ‘gweithwyr’.

-        Bod tanwariant bychan (£154) o dan y pennawd ‘cludiant’.

-        Bod gorwariant bychan (£522) o dan y pennawd ‘cyflenwad’.

-        Bod gwariant un-amser o £3,384 wedi’i wneud er mwyn hwyluso gwaith ffensio ar loc yr Harbwr.

-        Ar y cyfan, rhagwelir tanwariant o £3,050.

-        Bod incwm wedi bod yn well ar y cyfan y tymor hwn, ond er hynny, mae’r ffaith bod y system gofrestru wedi’i symud i system ar-lein yn golygu bod y mwyafrif o’r incwm yn mynd i’r gyllideb traethau, nid yr harbwr, sydd yn esbonio’r diffyg yn yr incwm a ragwelwyd ar gyfer y tymor (£5,604).

-        Bod y maes parcio yn ffynhonnell incwm da. Gobeithir y bydd targedau incwm yn cael eu cyrraedd erbyn diwedd y tymor.

 

Materion Allweddol Eraill

 

Nodwyd sawl materion allweddol eraill:

-        Cefnogwyd y gwaith o ddatblygu swyddfa’r harbwr a’r lloc allanol drwy ‘gronfeydd wrth gefn’ adrannol.

-        Gofynnwyd i Heddlu Gogledd Cymru am luniau o system teledu cylch cyfyng newydd yr harbwr ar sawl achlysur eleni i gynorthwyo gydag ymchwiliadau i ddigwyddiadau yn ardal yr harbwr.

-        Bod sawl digwyddiad o ddwyn moduron allanol wedi’u hadrodd ar hyd yr arfordir; roedd y digwyddiad diweddaraf ym Mhorth-y-gest. Mae’r gwasanaeth yn cynghori y dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth berthnasol gysylltu â HGC.

-        Bod cychod patrôl morwrol (y ‘Powercats’) yn cydymffurfio’n llawn â gofynion codio ‘Cat 6’ ar ôl iddynt gael eu harchwiliad blynyddol gan yr YBDSA.

-        Nodwyd bod y gwasanaeth wedi gweld lefelau staffio is mewn rhai safleoedd dan oruchwyliaeth. Fodd bynnag, nodwyd bod swyddogion harbwr wedi darparu cefnogaeth a chymorth gwerthfawr pan fo angen.

-        Nodwyd bod trafodaethau’n parhau gyda Chlwb Rhwyfo Porthmadog ynglŷn â chytundeb prydles ffurfiol ar gyfer yr ardal o fewn lloc allanol  yr harbwr a ddefnyddir i storio cychod rhwyfo’r Clwb. Adroddwyd nad oes gan y gwasanaeth unrhyw wrthwynebiadau i’r cytundeb arfaethedig ac mae’n nodi bod y Clwb Rhwyfo yn parhau i gynnal yr ardal i safon uchel.

 

Trafodaeth

Mynegwyd llongyfarchiadau i’r tîm yn Harbwr Porthmadog am ganlyniadau’r holiaduron adborth cadarnhaol. Cydnabuwyd y gwaith caled sydd yn mynd i mewn i reoli’r harbwr er mwyn derbyn sylwadau mor bositif. Cwestiynwyd faint o ddefnyddwyr sydd wedi ymateb i’r holiadur a faint o ymatebion mae’r canran 2% yn cyfateb iddynt. Mewn ymateb, nodwyd bod oddeutu 30-35 o ymatebion i’r holiadur yn cael eu derbyn bob mis ar gyfartaledd.

Cwestiynwyd pa fath o unigolion sydd yn arddangos ymddygiad difrifol tuag at weithlu’r harbwr. Mewn ymateb, nodwyd bod hyn yn amrywio, ond yn benodol mae’n ymwneud ag ymwelwyr i’r harbwr. Ymhelaethwyd bod ymddygiad anghymdeithasol yn rhan helaeth o’r achosion, ac y bydd camerâu cyrff yn effeithiol i anghymell y fath ymddygiad a lleihau tensiynau.

Mynegwyd siom bod gweithlu’r harbwr yn profi ymddygiad difrïol, bygythiol ac ymosodol. Pwysleisiwyd yr hawl i bawb deimlo’n ddiogel yn y gweithlu. Cwestiynwyd a yw’r camerâu cyrff yn ddigon i daclo’r broblem, neu a oes angen uchafu’r mater i iechyd a diogelwch/yr heddlu. Mewn ymateb, nodwyd bod pob achos yn cael ei uchafu i iechyd a diogelwch ac, pan fo’n briodol, i’r heddlu. Nodwyd ymhellach bod hyfforddiant ar gael i’r staff ar sut i ymateb yn briodol i’r fath ymddygiad, ond mae’n anodd darparu’r hyfforddiant i weithwyr tymhorol.

Nodwyd bod agweddau defnyddwyr yr harbwr wedi newid ers cyfnod COVID. Esboniwyd bod un achos difrifol wedi digwydd y tymor hwn ar draeth Morfa Bychan, lle’r oedd rhaid i’r heddlu ddod i’r safle. Cadarnhawyd bod gweithdrefnau’r Cyngor yn cael eu dilyn mewn pob achos o ymddygiad difrïol. Nodwyd er bod staff tymhorol ddim yn mynd ar gyrsiau sydd yn ymwneud â delio ag ymddygiad bygythiol, maent yn derbyn cyfarwyddiadau a hyfforddiant gan brif swyddogion ar sut i ddelio ag  achosion ymddygiad difrïol, bygythiol ac ymosodol.

Cadarnhawyd bod mesurau da yn bodoli o fewn y gwasanaeth i ymateb i achosion o ymddygiad difrïol, bygythiol ac ymosodol. Nodwyd bod y gwasanaeth yn edrych i fuddsoddi ymhellach i archebu mwy o gamerâu cyrff, gan fod rhai erbyn hyn wedi dyddio. Mynegwyd diolchgarwch am fod swyddogion profiadol o fewn y gwasanaeth sydd yn gallu ymateb yn addas i’r fath ymddygiad. Mynegwyd barn nad oes angen uchafu’r sefyllfa ar hyn o bryd, ond er hynny, mae’r gwasanaeth yn adnabod y risgiau cysylltiedig ag yn ei fonitro’n gyson.

Mynegwyd diolchgarwch trigolion Porthmadog am gymorth swyddogion yr Harbwr wrth y traeth yn ystod yr haf.

 

(2)      Adroddiad yr Harbwrfeistr yn crynhoi’r materion Mordwyo a Gweithredol a wnaed ac a brofwyd yn y cyfnod rhwng mis Mawrth 2025 a Medi 2025, gan gynnwys materion cynnal a chadw.

 

Nodwyd bod tywydd braf wedi arwain at fwy o weithgarwch ar y dŵr, gan gynnwys cychod hwylio, cychod pŵer, a mwy o badl-fyrddau. Nodwyd bod angorfeydd dŵr dwfn newydd wedi’u hagor i ymwelwyr, sydd wedi profi i fod yn boblogaidd.

 

Nodwyd ers dwy flynedd bod cwsmeriaid sydd eisoes ar y llyfrau wedi cael eu gofyn i ddefnyddio’r system gofrestru angorfa ar-lein, ond er hyn, dim ond 30 allan o 106 sydd wedi cofrestru ar-lein. Pwysleisiwyd bod y gwasanaeth yn edrych i ychwanegu system debyd uniongyrchol ar gyfer tymor nesaf.

 

Nodwyd bod dau Hysbysiad Lleol i Forwyr mewn grym:

-        Hysbysiad Lleol i Forwyr Rhif 5/25. 07-05-2025 Banc Tywod yn Symud yn y Sianel rhwng y "Lookout Post" a'r "Danger Rock". Cynghorir morwyr i lywio'n ofalus yn yr ardal hon.

-        Hysbysiad Lleol i Forwyr Rhif 10/25 (25-08-2025) Mae Marc Starbord Borth y Gest Rhif 15 oddi ar ei safle ar hyn o bryd.

 

Nodwyd bod 'Dixie' y ddraig yn parhau i fod yn atyniad poblogaidd iawn gyda phobl leol ac ymwelwyr, gan dderbyn adborth cadarnhaol, yn enwedig gan blant sy'n tynnu lluniau wrth ei hymyl. Atyniad nodedig arall yw'r gosodiad newydd gan Howard Bowcott, sy'n denu sylw sylweddol. Nodwyd bod y gwasanaeth yn ymchwilio i’r posibilrwydd o osod goleuadau Nadolig ar oddi amgylch yr Harbwr. Nodwyd bod trafodaethau'n parhau ynglŷn ag adleoli'r hen ‘hoist’ i ardal yr harbwr fel gosodiad ychwanegol.

 

Ynglŷn â’r maes parcio, nodwyd bod y gwasanaeth yn bwriadu gosod peiriant 'Talu ac Arddangos' solar newydd yn y maes parcio dros y gaeaf. Nodwyd ymhellach bod pryderon wedi cael eu codi ynglŷn â'r defnydd o’r maes parcio gan gerbydau mawr a chartrefi modur, sy’n amharu ar symudiad defnyddwyr eraill. Mewn ymateb, nodwyd bod arwyddion newydd wedi’u gosod sy’n nodi bod y maes parcio ddim yn addas ar gyfer y math yma o gerbydau.

 

Ynglŷn â Borth-y-Gest, nodwyd bod y gatiau llifogydd wedi dioddef rhywfaint o ddifrod i'r cloeon. Ymhelaethwyd bod y gwasanaeth wedi gofyn am gymorth gan adrannau eraill i gywiro'r broblem. Nodwyd ymhellach bod un mainc newydd wedi’i gosod wrth yr eglwys, 5 mainc wedi’u hadnewyddu ar yr harbwr ac mae Cyngor Tref Porthmadog wedi dangos diddordeb i osod a chynnal dwy mainc newydd.

 

Ynglŷn â lloc yr harbwr, nodwyd bod dau bad concrit newydd wedi’u gosod i ddarparu arwyneb gwaith glanach a mwy defnyddiol. Nodwyd bod ffensys newydd wedi’u gosod ar ochr orllewinol y lloc i gyd-fynd â’r gatiau newydd wrth fynedfa’r lloc. . Esboniwyd y bydd gwaith yn y dyfodol yn cynnwys adnewyddu’r giât fewnol, ffensys newydd a phlanhigion mewn tybiau.

 

Ynglŷn â swyddfa’r harbwr, nodwyd bod gwaith wedi dechrau i greu ystafell newydd tu mewn i’r adeilad i ddarparu swyddfa newydd ar y cyd ar gyfer yr Uwch Swyddog Harbwr a’r Swyddog Traethau. Nodwyd bod hyn hefyd wedi golygu bod modd adleoli’r ffreutur i ardal newydd, gan roi mwy o breifatrwydd i staff sy’n defnyddio’r cyfleusterau newid a thoiledau.

 

Ynglŷn â digwyddiadau, adroddwyd bod un wedi’i gynnal yn ystod y cyfnod dan sylw, sef digwyddiad ‘Vintage Motorbike’.

 

Nodwyd bod digwyddiad trist wedi digwydd ar ddechrau’r cyfnod, wrth i swyddogion yr harbwr darganfod preswyliwr  cwch wedi marw. Diolchwyd i holl aelodau’r staff am eu gwaith yn ystod y cyfnod heriol hwn.

 

Trafodaeth

 

Cwestiynwyd os oes penderfyniad wedi’i wneud ynglŷn â pha addurn/geiriau i’w rhoi ar y bwi sydd wedi’i osod wrth y lôn. Mewn ymateb, nodwyd nad oedd penderfyniad wedi’i wneud hyd at hyn, ond croesawyd unrhyw awgrymiadau. Nodwyd ymhellach, gan ei bod ar brif ffurf, mae’r opsiynau’n gyfyngedig o ran beth sydd yn cael ei roi arno rhag ofn iddo dynnu llygad gyrwyr oddi wrth y ffordd.

 

Diolchwyd i’r Harbwrfeistr a’i dîm am eu gwaith dros y cyfnod. Diolchwyd hefyd i’r staff a oedd yn bresennol yn ystod y sefyllfa drist, ac ymatebwyd gyda phwyslais ar y pwysigrwydd o ystyried lles meddyliol staff. Cwestiynwyd os oedd cynnig cwnsela wedi’i roi i’r staff yn dilyn y sefyllfa hon. Mewn ymateb, nodwyd bod pob aelod o staff sydd yn ymdrin â sefyllfaoedd o’r fath yn cael cynnig cwnsela. Pwysleisiwyd bod y penderfyniad i fanteisio ar y cynnig hwn yn benderfyniad personol i’r aelod staff.

 

Ynglŷn â digwyddiadau, holiwyd os yw’n werth cydweithio gyda’r swyddog digwyddiadau yn yr adran economi er mwyn denu mwy o ddigwyddiadau i’r harbwr. Mewn ymateb, nodwyd bod gwaith cydweithio yn mynd rhagddo yn benodol ar gyfer dathliad 200 mlynedd yr harbwr. Mynegwyd bod efallai lle i hybu adnoddau’r harbwr yn well ar gyfer y flwyddyn nesaf.

 

Cwestiynwyd os bydd cyfnod o ymgysylltu yn cael ei gynnal yn lleol ynglŷn â’r penderfyniad i symud yr hoist o Gob Crwn i’r harbwr. Mewn ymateb, nodwyd bod yr awgrym o gael ymgynghoriad lleol yn un synhwyrol. Nodwyd ar hyn o bryd bod yr ‘hoist’ ddim yn cael ei chynnal a chadw ac yn risg ei golli yn dilyn cyfnod o dywydd drwg. Ymhelaethwyd bod dim penderfyniad cadarn wedi’i wneud hyd at hyn, ac y byddai’r adran yn fodlon gadael yr ‘hoist’ yn Cob Crwn os dyma yw’r penderfyniad gorau. Cadarnhawyd y bydd y cam nesaf yn cynnwys cynnal trafodaeth gyda’r aelodau lleol.

 

PENDERFYNWYD Nodi a derbyn yr adroddiad.

 

Dogfennau ategol: