Cyflwyno adroddiad yr Rheolwr Hafan a Harbwr Pwllheli.
Penderfyniad:
Penderfynwyd:
COFNODION:
Derbyniwyd diweddariad ar faterion rheolaethol yr harbwr gan
Reolwr Hafan a Harbwr Pwllheli.
Tywyswyd yr aelodau drwy’r adroddiad gan fanylu ar faterion
data perfformiad a boddhad cwsmer.
Manylwyd bod holiadur boddhad cwsmer yn cael eu rhannu gyda deiliaid
angorfeydd yn fuan iawn, gan gadarnhau bydd canlyniadau’r holiadur yn cael ei
rannu gyda’r Aelodau yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor hwn.
Yn ystod y drafodaeth, derbyniwyd nifer o sylwadau am
faterion carthu yn yr Harbwr. Mewn ymateb, cadarnhaodd y Rheolwr bod swyddogion
yn y broses o baratoi dau gais trwydded forol i ddelio â materion craffu, mewn
cydweithrediad ag Ymgynghoriaeth Gwynedd. Ymhelaethwyd byddai’r trwyddedau hyn
yn galluogi swyddogion i bwmpio deunydd sydd wedi ei garthu allan i’r môr yn
ogystal ag adennill tir. Esboniwyd bod gwahanol ardaloedd wedi cael eu hadnabod
ar gyfer y gwaith hwn a bod gwaith yn mynd rhagddo er mwyn casglu tystiolaeth
ar gyfer y cais am drwydded. Nodwyd nad oes sicrwydd bydd yr holl ardaloedd yn
derbyn sylw nes bydd y cais adborth yn cael ei dderbyn am y ceisiadau trwydded.
Cydnabuwyd nad oes datrysiad cyflym i faterion carthu ar hyn o bryd oherwydd
bod y gwaith o baratoi i ymgeisio am y trwyddedau hyn yn mynd rhagddo hyd at
Ebrill 2026. Manylwyd bod y broses o ymgeisio am drwyddedau morol yn un sydd yn
cymryd oddeutu 12 mis, oherwydd yr angen i gynnal amrywiol archwiliadau, gan
bwysleisio bod swyddogion yr harbwr yn cynnal cyfarfodydd cyson gydag
Ymgynghoriaeth Gwynedd er mwyn sicrhau nad oes llithriad i’r amserlen hon.
Diweddarwyd y disgwylir derbyn adborth yn dilyn cyflwyno ceisiadau trwydded
forol gan Gyfoeth Naturiol Cymru yn eithaf cyflym gan bod swyddogion yn
cydweithio’n agos â nhw drwy gydol y broses o ddatblygu’r ceisiadau, er mwyn
sicrhau bod yr holl wybodaeth angenrheidiol yn cael ei gynnwys a symleiddio’r
broses. Mewn ymateb i ymholiad, sicrhaodd Pennaeth Cynorthwyol yr Adran Economi
a Chymuned nad oedd y broses hon o
ymgeisio am drwyddedau morol er mwyn canfod datrysiad hirdymor yn mynd i gael
effaith niweidiol ar y gwaith carthu rheolaidd sydd eisoes ar waith.
Ymhelaethwyd bod mynedfa’r harbwr wedi cael ei garthu yn
gynharach eleni a bod trefniadau yn eu lle er mwyn ei garthu eto yn y cyfnod
rhwng Ionawr a Mawrth 2026. Eglurwyd bod swyddogion yn chwilio am ardaloedd ble
mae llaid yn casglu yn rheolaidd, ac yn ymwybodol bod hyn i’w weld yn digwydd
ger pontŵn 11 ar hyn o bryd. Diolchwyd i ddefnyddwyr yr harbwr am hysbysu
swyddogion o unrhyw ardal ble mae llaid yn ymgasglu. Nodwyd hefyd bod arolwg
manwl wedi cael ei gyflawni ym mis Mai er mwyn derbyn data manwl ar gyflwr y
sianel, gan gadarnhau nad oedd unrhyw broblemau i’w weld yn deillio o
ganlyniadau’r arolwg hwnnw.
Mewn ymateb i ymholiad a oedd yn ystyried a oedd cyfran o
elw’r Harbwr yn cael ei gadw ar ôl er mwyn sicrhau bod cyllideb ddigonol ar
gyfer carthu’n effeithiol, cadarnhaodd Pennaeth Cynorthwyol yr Adran Economi a
Chymuned bod Cynllun Rheoli Asedau Cyngor Gwynedd wedi sicrhau bod £6miliwn
wedi cael ei glustnodi ar gyfer yr Harbwr ar gyfer diweddaru adnoddau a
gwireddu’r rhaglen garthu, gan rannu gobeithion bydd cyllideb bellach yn gallu
cael eu cynnig i’r dyfodol.
Mewn ymateb i ymholiad os yw’n bosib i swyddogion yr harbwr
ddiweddaru’r defnyddwyr yn fwy cyson am faterion carthu, nododd y Rheolwr bod
cyswllt cyson yn cael ei wneud gyda deiliaid angorfeydd eisoes. Cydnabuwyd bod
cyswllt wedi bod yn heriol yn y gorffennol ond bod hyn wedi gwella yn
ddiweddar, gan gysidro os oes modd i swyddogion rannu diweddariad i deiliaid
angorfeydd unwaith bod 3 mis ar y materion hyn i’r dyfodol. Cyfeiriwyd hefyd at
newyddlen yr harbwr sydd yn rhannu’r gwybodaeth ddiweddaraf pob deufis, gan
nodi gall unrhyw un danysgrifio iddo drwy’r wefan er mwyn derbyn y wybodaeth
ddiweddaraf am faterion yr Harbwr. Cadarnhawyd bydd rhanddeiliaid yr harbwr a
cynrychiolwyr Cyngor Tref Pwllheli yn derbyn cadarnhad pan bydd y cylchlythyr
yn cael ei gyhoeddi i’r dyfodol.
Yn sgil y drafodaeth, cadarnhaodd Pennaeth Cynorthwyol yr
Adran Economi a Chymuned y byddai’n rhannu cyflwyniad llawn yn ystod y cyfarfod
nesaf o’r Pwyllgor hwn ar wahanol ffrydiau gwaith yr harbwr. Manylwyd bydd y
cyflwyniad hwn yn manylu ar wybodaeth dechnegol ac amgylcheddol yn ogystal â’r
gwahanol opsiynau sydd ar gael i’r safle.
Adroddwyd ar faterion diogelwch, adnoddau a chyllideb yr
Harbwr, grant Pysgodfeydd Llywodraeth Cymru, adeilad yr harbwr a materion
gweithredol.
Ar ddiwedd y drafodaeth, nododd cynrychiolydd Clwb Hwylio
Pwllheli nad oedd yn credu ei fod yn llwyddo i ymrwymo i’r rôl fel sylwedydd i
bwyllgorau harbyrau eraill yng Ngwynedd i’r dyfodol
yn sgil ymrwymiadau eraill, gan ofyn i’r Pwyllgor ethol cynrychiolydd arall yn
ei le. Enwebwyd ac eiliwyd y Cynghorydd John Brynmor Hughes fel sylwedydd
newydd y Pwyllgor hwn ac fe’i hetholwyd yn dilyn pleidlais ffurfiol.
Derbyniwyd diweddariad ar ddigwyddiadau hwylio ym Mhlas
Heli, gan ymfalchïo bod y safle wedi bod yn brysur iawn dros gyfnod yr haf a
bod adborth cadarnhaol wedi cael ei dderbyn gan ddefnyddwyr ac ymwelwyr.
Llongyfarchwyd Plas Heli ar gynnal digwyddiad hwylio ble roedd 240 o
gystadleuwyr wedi teithio yn rhyngwladol er mwyn cymryd rhan.
Nodwyd bydd gwybodaeth fanwl am faterion craffu yn cael ei
rannu gyda’r Aelodau yn y cyfarfod nesaf. Mewn ymateb i ymholiad am gynnal
cyfarfod wyneb yn wyneb, cynigiodd y Rheolwr i gynnal noson agored y tu hwn i’r
Pwyllgor hwn er mwyn i aelodau dderbyn diweddariad ar faterion craffu a darparu
cyfle i dderbyn adborth a sylwadau. Cefnogwyd y syniad hwn gan gytuno i estyn
gwahoddiad i ddeiliad angorfeydd i’r cyfarfod anffurfiol hwnnw.
PENDERFYNWYD
1.
Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a
godwyd yn ystod y drafodaeth.
2.
Derbyn cyflwyniad llawn ar gynlluniau ac
effeithiau carthu fel rhan o’r cyfarfod nesaf a gynhelir ar 10 Mawrth 2026.
3.
Cynnal noson agored yn Hafan ym mis
Mawrth ar gyfer trafod materion carthu a lleddfu gofidion defnyddwyr gwasanaeth
a’r cyhoedd ar y materion hynny.
4.
Ethol y Cynghorydd John Brynmor Hughes yn
sylwedydd y Pwyllgor ar gyfer Pwyllgorau Harbwr Aberdyfi, Porthmadog ac
Abermaw.
Dogfennau ategol: