Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol.
Penderfyniad:
Nodwyd cynnwys yr adroddiad sydd wedi ei gyflwyno gan y
Cyfarwyddwyr Statudol ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol yr awdurdod.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ei bod wedi bod yn flwyddyn
a hanner i Wasanaethau Cymdeithasol yng Ngwynedd gyda’r gweithlu wedi wynebu
heriau. Amlygwyd fod dros ddwy flynedd wedi mynd heibio ers arestio Foden,
a fod y gwaith wedi bod yn drwm ar bawb gan gynnwys Cynghorwyr.
Eglurwyd fod yr adroddiad hwn yn un statudol er
mwyn adrodd ar y gwaith sydd yn cael ei wneud a diolchwyd i’r holl staff am eu
gwaith. Pwysleisiwyd fod gwaith yr Adroddiad Adolygiad Plant wedi bod yn heriol
dros ben dros y flwyddyn ddiwethaf gyda’r ddwy adran wedi cael ei ysgwyd yn
llwyr. Er gwaethaf y pethau ofnadwy rhaid pwysleisio fod gwaith da yn cael ei
wneud ac ymfalchïo yn y gweithlu sy’n gweithio mor galed. Mynegwyd fod y
dathliad yn cael ei liniaru gan effaith beth sydd wedi digwydd ac mae angen cydnabod
hyn.
Amlygwyd 6 egwyddor wreiddiol sy’n sail ddiogelu'r Cyngor
sef grymuso, atal, diogelu, cymesuredd, diogelu, gweithio mewn partneriaeth ac
atebolrwydd.
Pwysleisiwyd nad oes “ni” a “nhw” pan yn son am ofal cymdeithasol oherwydd
gall unrhyw un fod angen y gwasanaeth. Eglurwyd fod cynnydd aruthrol
wedi bod yn y galw ac mae hyn yn cael ei amlygu yn y data ac yr amlycaf yw
nifer y cyfeiriadau i’r adran blant. Wrth edrych ar ddiogelu nodwyd fod maint y
gwaith bron yn 8,000 o gyfeiriadau sydd yn amlygu’r pwysau ychwanegol sydd ar y
staff i ymateb i’w galw sydd ei angen. Pwysleisiwyd mai dim ond un dihiryn sydd
ei angen i wneud llanast o’r holl system.
Tynnwyd sylw at y cynnydd sydd wedi ei wneud mewn taliadau
uniongyrchol, gan nodi y gobeithir y bydd cynnydd eto dros y blynyddoedd i
ddod. Drwy’r cynnydd hyn nodwyd y bydd mwy o bobl yn byw yn eu cymuned, ond yr
ochor arall y geiniog yw bod pobl yn gyson yn aros am ofal cartref.
Amlygwyd y cynlluniau anhygoel sydd wedi ei chyflawni dros y
flwyddyn gyda phrosiectau newydd yn ddiddiwedd. Nodwyd fod y Cyngor wedi derbyn
Achrediad Gwynedd Oed Gyfeillgar a'u bod wedi derbyn arian ar gyfer parhau
gyda’r gwaith. Mynegwyd fod Academi Gofal Newydd wedi ei lansio, gyda
llwyddiant gyda recriwtio a rhai degau wedi manteisio ar yr hyfforddiant.
Eglurwyd fod gwaith ymchwil Llechen Lan sydd yn edrych ar ddemograffig Gwynedd
gan edrych sut y gall hyn ymateb i heriau i’r dyfodol. Pwysleisiwyd
y bydd rhaglen waith yn cael ei drafod yn fuan. Nodwyd fod nifer o bobl gydag
anableddau sydd mewn gwaith wedi dyblu sydd yn galluogi pobl i gael
cyflog ac urddas a gobeithio y bydd modd parhau i ddyblu. Eglurwyd fod cynnydd
wedi ei wneud mewn defnydd o dechnoleg (Technology Enabled Care/TEC). O ganlyniad, nodwyd fod nifer o
bethau i ymfalchïo ynddynt.
. Mynegwyd fod problemau yn parhau gyda Diogelu rhag Colli
Rhyddid (DoLS) gyda rhestrau aros yn hirfaith. Er
hyn, yn dilyn argymhelliad y Pwyllgor Craffu Gofal, nodwyd fod yr adran wedi
cyflogi staff newydd a gobeithir y bydd hyn yn arwain at wella’r sefyllfa.
Eglurwyd fod cael gofalwyr yn parhau yn heriol gyda 11% o swyddi cartrefi gofal
ar hyn yn wag.
Pwysleisiwyd ei fod wedi gobeithio y buasai’r adroddiad
Amddiffyn Pant wedi ei gyhoeddi erbyn y cyfarfod hwn ond nid oedd hyn yn bosib.
Esboniwyd er hyn fod y gwaith yn parhau ac wedi dechrau mynd i’r afael a’r
materion maent yn rhagweld bydd yn yr adroddiad, ond yn amlwg
mynegwyd bydd mwy i’w wneud.
Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig
sylwadau.
Diolchwyd am yr adroddiad a’r gwaith sydd yn cael ei wneud
yn y maes gofal, ond holwyd pan saff yn gadael y maes gofal neu yn mynd yn wael
pa effaith mae hyn yn ei gael at staff. Atebwyd drwy nodi ei fod yn ddibynnol
ar y sefyllfa ond ei fod yn gallu bod yn heriol oherwydd prinder gofalwyr ac yn
benodol os yw’r achos mewn lleoliad gwledig. Mynegwyd fod Llechen Lan
wedi amglygu fod camau i’w wneud i
wella’r sefylla er mwyn gwneud gwahaniaeth
megis tai gofal ychwanegol.
Gofynnwyd a chytunwyd y bydd Protocol Cwympo yn cael ei
thrafod flwyddyn nesaf.
Diolchwyd i’r staff am eu gwaith mewn blwyddyn mor anodd, ac
am eu hymrwymiad i wasanaethau Gwynedd. Diolchwyd i’r gofalwyr di-dâl am eu
gwaith a holwyd os oes angen sylw pellach i’w cefnogi a pa gynlluniau sydd ar
gael i ddarparu i’r dyfodol. Pwysleisiwyd fod gofalwyd di-dâl yn hanfodol i’n
cymunedau a bod oddeutu 10% o bobl Gwynedd yn ofalwyr di-dâl. Er hyn nodwyd nad
yw’r gwasanaeth er o safon uchel yn ddigon da gan nad ydynt yn dod yn agos i
weld 10% o’r boblogaeth. Amlygwyd fod nifer yr asesiadau i ofalwyr wedi dyblu,
a bod cefnogaeth well i bobl ifanc. Nodwyd fod angen trefniadau wrth gefn mewn
lle ar gyfer gofalwyr di-dâl fel bod modd adnabod beth fyddai unigolion ei
angen os gofalwr yn mynd i'r ysbyty er enghraifft. Pwysleisiwyd ei fod yn hapus
i ddod i’r Pwyllgor Craffu Gofal i gael trafodaeth bellach.
Pwysleisiwyd mai diogelu plant yw gwraidd gwaith y
gwasanaethau cymdeithasol a gofynnwyd a yw ein systemau'r gorau y gallant fod. Ymatebwyd drwy nodi ei bod yn amhosib
rhoi gwarant fod pob system yn ddi-ffael, ond fod yr adran yn byw mewn system
ble mae lle i wella, gwersi i’w dysgu sy’n datblygu yn gyson. Pwysleisiwyd fod
newidiadau wedi ei wneud i’r system a bod angen sicrhau fod llais y plentyn yn
ganolog i hyn. Amlygwyd fod polisi diogelu newydd wedi ei mabwysiadu ac
amlygwyd fod camau bellach mewn lle i groes gyfeirio achosion yn benodol pan fo
mwy nac un cyfeiriad yn dod i mewn i weld os oes patrymau neu resymau. Nodwyd
balchder mai nifer isel iawn sydd a mwy nac un cyfeiriad a llai fyth yn
ymchwiliadau heddlu byw. Eglurwyd fod trefn yn ei le i sicrhau nad yw
penderfyniad yn cael ei wneud gan un person, ond ei fod ar y cyd neu yn aml
asiantaeth gyda thrafodaeth gyda’r heddlu am bob achos. Pwysleisiwyd
pwysigrwydd mynychu’r hyfforddiant i staff ac i Gynghorwyr, gan fod angen
ymwybyddiaeth ar y lefel uchaf i bawb.
Holwyd faint o wlâu gwag sydd yng Nghartrefi Preswyl Gwynedd
ar hyn o bryd gan ei fod yn effeithio ar unigolion yn gadael yr ysbyty.
Gofynnwyd yn ogystal fod yr adroddiad yn nodi nifer o lefydd gwag yng
Nghartrefi'r Sir, a holwyd os oedd hyn oherwydd prinder mewn staff. O ganlyniad
i hyn mae unigolion yn aros yn yr ysbyty ac yn cadw gwely yn llawn. Mynegwyd
fod rhestr aros hir am ofal cartref, a bod cyhoeddiad gan Ddyfed Edwards wedi
amlygu fod £30m o arian ychwanegol ar gyfer awdurdodau lleol er mwyn darparu
gofal cartref - a yw Cyngor Gwynedd wedi ei dderbyn, gan fod angen gwneud beth
y gallwn i gefnogi’r Bwrdd Iechyd i leihau amser aros yn yr Uned Gwasanaeth
Brys. Atebwyd y cwestiynau drwy nodi fod cartrefi gofal oddeutu 84% llawn - a
bod yr adran yn anelu am oddeutu 90% i fod yn hyfyw. Eglurwyd fod rhesymau dros
y nifer yn isel - fel gwaith yn cael ei wneud ac felly yn gorfod cau rhai
ystafelloedd am gyfnod o amser. Amlygwyd fod 11% o swyddi mewn cartrefi gofal
yn wag ar hyn o bryd, ac felly ydi ei bod yn anodd darparu’r gofal sydd angen
ei wneud. O ganlyniad i hyn nodwyd fod effaith ar Ysbytai oherwydd bod
gweithredu'r llwybrau gofal yn gallu bod yn herio, ond y bydd yr arian
ychwanegol yn cynorthwyo gyda’r gwaith. Mynegwyd fod angen defnyddio gofal cartref
a thaliadau uniongyrchol er mwyn lleihau yr angen i fynd i'r ysbyty i
sicrhau fod Gwynedd yn sir oed gyfeillgar ble mae modd i bobl barhau i fyw yn
eu cartrefi mor hir â phosib.
Gofynwyd o
ystyried fod systemau diogelu wedi methu dros y blynyddoedd a
chynnydd wedi bod mewn trais tuag at ferched, gofynnwyd a oes angen rolau megis
Swyddog Eiriolaeth Trais gan Bartner Agos (IPVA) neu Swyddog Eiriolaeth Trais i
Bobl Ifanc o fewn y Cyngor. Atebwyd drwy nodi fod y swyddi yma i’w gweld gan yr
Heddlu, a bod y Cyngor yn dueddol o brynu gwasanaethauo’r math
yma i mewn i sicrhau safon uchel, ond yn sicr mae’n awgrym i’w ystyried.
Amlygwyd pryder sy’n codi’n flynyddol am y diffyg cartrefi
nyrsio yn ardal Dwyfor, ac yr angen i fynd ar ôl y Llywodraeth i gael dechrau’r
gwaith yn y lleoliad ym Mhenrhos. Amlygwyd
pryder am DoLs a gofynnwyd a oes modd cael
hyfforddiant i Gynghorwyr unwaith eto. Ymatebwyd gan nodi ei fod yn
cytuno 100% nad yw’r prinder gwlâu nyrsio yn ddigon da. Eglurwyd mai’r ateb
amlwg yw Penrhos a'i fod yn hyderus y bydd yn digwydd ond ei fod am gymryd 3
blynedd i’w ddatblygu yn dilyn cael cadarnhad gan y Llywodraeth. Felly er bod
cynllun yno nid yw’n mynd i gael ei sortio dros nos. O ran DoLs, mynegwyd ei fod yn sefyllfa heriol ond fod hyn yn wir
yn genedlaethol. Eglurwyd gan fod angen asesiad blynyddol, mae hyn ac unigolion
angen asesiadau yn arwain at broblemau adnoddau.
Mynegwyd o ran yr Adolygiad Amddiffyn Pant nodwyd yr angen i
ofyn am Adolygiad Cyhoeddus gan ei bod yn teimlo nad oes gan yr
adroddiad fel ac y mai ddigon o ddannedd. Ymatebwyd drwy nodi fod yr adroddiad
yn un trwyadl ac gyda nifer uchel o’r unigolion wedi bod yn rhan
ohono. Mynegwyd na fydd yn ddarlleniad pleserus a'i fod yn go heriol, a
bod hyn yn amlygu pa mor drwyadl maent wedi bod, ond fod angen edrych arno ac
wedyn gwneud penderfyniad yn dilyn hyn.
Nodwyd balchder fod gwaith yn cael ei wneud i edrych ar
recriwtio a chadw staff, yn benodol gan fod gwaith gofal yn gallu bod yn anodd
a heriol ar gyflog mor isel. Gyda thaliadau uniongyrchol, amlygwyd nad oes
llawer o bobl yn ei ddeall ac efallai fod angen dangos yn well sut mae’n
gweithio. Amlygwyd gwymp yn y niferoedd sydd yn derbyn gofal Teleofal - a holwyd os oedd hyn oherwydd newid i
systemau digidol. Atebwyd gan nodi fod lleihad wedi bod oherwydd effaith
digideiddio gan eu bod yn canfod nad oedd unigolion yn gwneud defnydd ohono.
Adroddwyd fod cynnydd wedi bod ers mis Ebrill.
Holwyd am gynlluniau ar gyfer Cartref Fron Deg yng
Nghaernarfon, gan fod cynlluniau flynyddoedd yn ôl i’r ddymchwel ac adeiladau
cartrefi gofal ychwanegol yno, a gofynnwyd a oedd diweddariad. Nodwyd fod y
cynllun hwn yn un sydd yn dal i gael ei drafod ond fod y gwaith yn cymryd amser
ac nad oedd derbyn grantiau yn hawdd. Mynegwyd ei fod yn hapus i ddod yn ôl at
y Cynghorydd gyda gwybodaeth bellach.
PENDERFYNWYD
Nodwyd cynnwys yr adroddiad sydd wedi ei gyflwyno gan y
Cyfarwyddwyr Statudol ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol yr awdurdod.
Dogfennau ategol: