Cyflwyno adroddiad Cadeirydd y Panel Strategol Diogelu.
Penderfyniad:
Derbyn yr Adroddiad gerbron sy’n adrodd ar waith y Panel Strategol Diogelu ar gyfer y flwyddyn 2024/25.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Menna
Trenholme, Cadeirydd y Panel Strategol Diogelu yn ystod 2024/25.
Diolchwyd am y cyfle i rannu’r adroddiad sydd yn amlygu sut
mae’r Cyngor yn cyflawni ei ddyletswyddau diogelu statudol sy’n cynnwys plant,
oedolion bregus, trais difrifol a gwrthderfysgaeth. Eglurwyd fod y Grŵp
Gweithredol ynghyd ag archwiliad allanol, yn sicrhau fod trefniadau diogelu yn
gadarn ar draws y Cyngor.
Nodwyd yn ystod 2024/25 fod cynnydd sylweddol mewn
cyfeiriadau plant gydag achosion cymhleth sydd wedi rhoi pwysau sylweddol ar y
gweithlu.
Mynegwyd fod digwyddiad difrifol yn Ysgol Friars ym mis Medi 2023 wedi arwain ar weithredu brys gydag
adolygiad pen-desg a chomisiynau Adroddiad Adolygiad Plant gan Fwrdd
Diogelu Gogledd Cymru. Comisiynwyd bargyfreithiwr arbenigol yn y maes
diogelu plant i edrych ân benodol ar yr hyn a godwyd yn yr achos llys.
Yn y maes Oedolion eglurwyd fod nifer y cyfeiriadau’n
cynyddu’n raddol gyda chymhlethdod achosion wedi dwysau. Amlygwyd fod
gwasanaeth DOLS yn parhau yn heriol ond fod buddsoddiad ac anodau ychwanegol
bellach ar waith.
Esboniwyd fod camau sylweddol wedi’u cymryd i gryfhau
diogelu mewn Ysgolion, gyda phob ysgol bellach yn wedi derbyn ymweliad o fewn
18mis. Ychwanegwyd fod canrannau uchel ymhlith staff a llywodraethwyr bellach
wedi cwblhau hyfforddiant penodol a sylfaenol. Tynnwyd sylw at nifer gynyddol o
blant yn derbyn addysg adref.
O ran trais yn y cartref amlygwyd fod y Cyngor yn pahrau i godi ymwybyddiaeth a gweithredu’n rhagweithiol
drwy hyfforddiant, partneriaethau amlasiantaethol ac
adolygiadau achos. Nodwyd fod cynnydd mewn achosion o ystelcian ac aflonyddu
wedi arwain ar waith partneriaeth gyda’r Heddlu. Amlygwyd fod lleihad wedi bod
mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol ond fod caethwasiaeth fodern yn parhau i fod
yn fater o bryder.
Wrth edrych ymlaen, nodwyd mai blaenoriaeth y Panel yw bod
y gweithlu yn deall systemau diogelu ac wedi cwblhau’r hyfforddiant
angenrheidiol, dan ddysgu yn barhaus. Ategwyd fod trefniadau diogelu yn parhau
i ddatblygu mewn ymateb i ddeddfwriaeth, partneriaethau rhanbarthol a
phrofiadau, a drwy hyn sicrhau diogelwch trigolion Gwynedd.
Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig
sylwadau.
Diolchwyd am yr adroddiad a gofynnwyd am gadarnhad os yw’r
adolygiadau o fewn yr ysgolion yn cael ei wneud gan staff tu hwnt i’r ysgol.
Cadarnhawyd fod tîm o fewn yr Adran Addysg yn mynd i’r ysgolion i wneud yr
adolygiadau diogelwch.
Amlygwyd yn y Cylch Gorchwyl nad oedd staff Iechyd a
Diogelwch yn rhan o’r grŵp monitro.
Tynnwyd sylw at y cynnydd mewn nifer y plant sydd yn cael ei
haddysgu adref, gan holi sut mae’r adran yn mynd i ddiogelu’r plant
yma. Nodwyd fod yr adran yn ceisio dod i wraidd y rhesymau, gan eu bod yn
awyddus cael y plant yn yr ysgol er mwyn monitro eu diogelwch. Er hyn nodwyd
fod camau penodol i gadw golwg ar ddiogelwch y plant.
Mynegwyd gyda 2 flynedd ers i Bennaeth Ysgol Friars gael ei arestio, a bod cyhoeddi’r Adolygiad
Amddiffyn Plant wedi ei ohirio holwyd os oes modd i’r Cyngor wneud camau
datblygu a gwella heb i’r adroddiad ei gyhoeddi. Mynegwyd fod gwaith
wedi cyc hwyn a'u
bod yn rhagdybio beth fydd yn yr adolygiad ac yn ceisio gweithredu ar hyn yn
barod.
Codwyd pryder am les plant ar fysus Ysgol ynghyd a pwy sy’n
gneued penderfyniadau am fysus plant. Derbyniwyd y pwynt o ran diogelwch a
chytunwyd i edrych ar y mater a chael sgwrs ehangach ar y
mater.
PENDERFYNWYD
Derbyn yr Adroddiad gerbron sy’n adrodd ar waith y Panel
Strategol Diogelu ar gyfer y flwyddyn 2024/25.
Dogfennau ategol: