Agenda item

I ystyried cais Mr A

 

(copi i Aelodau’r Is bwyllgor yn unig)

 

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

Nad oedd yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni / hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd

 

Cofnod:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud yn unol â Pholisi Trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf wrth ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r nod o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau:

 

       Bod yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol

       Nad yw'r unigolyn yn fygythiad i'r cyhoedd

       Bod y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl anonest

       Bod plant a phobl ifanc wedi'u diogelu

       Bod pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu

       Bod y cyhoedd yn gallu bod yn hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig

 

Cyflwynodd y Rheolwr Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr A i adnewyddu trwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r hyn sydd yn gysylltiedig ag addasrwydd unigolyn i fod yn yrrwr cerbyd hacni/hurio preifat

 

Roedd yr Awdurdod Trwyddedu yn argymell i’r Is-bwyllgor wrthod y cais.

 

Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais gan roi gwybodaeth am gefndir y tri achlysur y derbyniodd y pwyntiau cosb, a’i amgylchiadau personol. Nododd nad oedd wedi datgelu'r pwyntiau cosb ar ei gais oherwydd iddo ystyried mai achosion o yfed a gyrru a / neu ymddygiad troseddol oedd rhaid ei datgan i’r Uned Trwyddedu. Derbyniodd ddifrifoldeb y sefyllfa, petai yn colli ei drwydded, byddai yn colli ei waith.

 

PENDERFYNWYD nad oedd yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd.

 

Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:

·      GofynionPolisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’

·      Canllawiau Addasrwydd Unigolyn

·      Adroddiad yr Adran Drwyddedu

·      Ffurflen gais yr ymgeisydd

·      Adroddiad Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau

·      Sylwadau llafar gan yr ymgeisydd

 

Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol

 

Cefndir

 

Ym mis Rhagfyr 2022 derbyniodd yr ymgeisydd 3 pwynt cosb am ragori ar y terfyn cyflymder statudol ar ffordd gyhoeddus.

 

Yn mis Tachwedd 2023 derbyniodd yr ymgeisydd 3 pwynt cosb am ragori ar y terfyn cyflymder statudol ar ffordd gyhoeddus.

 

Yn mis Mehefin 2024 derbyniodd yr ymgeisydd 3 pwynt cosb am ragori ar y terfyn cyflymder statudol ar ffordd gyhoeddus.

 

CYMALAU PERTHNASOL Y POLISI

 

Ystyriwyd paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad oes rheidrwydd i berson sydd â chollfarn am drosedd ddifrifol gael ei wahardd rhag cael trwydded, ond bydd disgwyl iddo fod yn rhydd rhag unrhyw gollfarnau am gyfnod priodol fel y nodir yn y Polisi, a dangos tystiolaeth ei fod yn unigolyn addas a phriodol i ddal trwydded. Mae cyfrifoldeb ar yr ymgeisydd i brofi ei fod yn berson addas a phriodol. Mae paragraff 2.4 yn nodi pan fydd ymgeisydd wedi'i gael yn euog o drosedd(au) neu fod mater arall/materion eraill i'w (h)ystyried yng nghyswllt hynny, ni chaiff y Cyngor adolygu rhinweddau'r gollfarn honno na'r mater arall hwnnw.

 

Ystyriwyd paragraff 4.5 sydd yn nodi bod Gorchymyn Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) (Diwygio) 2002 yn caniatáu’r Is-bwyllgor ystyried pob collfarn, p’run ai ydynt wedi eu treulio o dan Ddeddf 1974 neu beidio.

 

Mae rhan 13 yn ymwneud a mân droseddau traffig ac yn cyfeirio yn bennaf at droseddau sydd heb eu rhestru ym mharagraff 12.2 o’r Polisi gyda pharagraff 13.1 yn diffinio ‘man drosedd traffig fel trosedd sydd yn derbyn rhwng 1 a 3 pwynt cosb. Ystyriwyd paragraff 13.3 sy’n datgan y “Gallai mwy nag un gollfarn am fân drosedd traffig neu fater arall i'w ystyried arwain at wrthod cais, yn enwedig os oes sawl collfarn neu faterion eraill i’w hystyried ar gyfer yr un drosedd, e.e. goryrru. Mae’n bosibl y caiff gyrrwr trwyddedig ei gyfeirio at sylw Is-bwyllgor Trwyddedu os oes mwy na dwy drosedd ac/neu gyfanswm o 6 phwynt ar ei drwydded

 

CASGLIADAU

 

Derbyniodd yr Is-bwyllgor bod gan yr ymgeisydd dair trosedd o oryrru o fewn ychydig dros flwyddyn a hanner i'w gilydd a cafwyd eglurhad am bob un o’r digwyddiadau goryrru a’u lleoliadau.  Derbyniwyd hefyd ei fod yn edifar, ei fod wedi dysgu gwers a’I fod bellach yn gyrru o fewn terfynau cyflymder.

 

Yn unol â'r Polisi, gallai mwy nag un gollfarn ar gyfer mân drosedd draffig, yn enwedig os oes patrwm i'r ymddygiad, arwain at wrthod trwydded. Ar ôl pwyso a mesur yr holl ffactorau yn ofalus, gan gydnabod bod yr ymgeisydd wedi dangos edifeirwch am y troseddau, penderfyniad yr is bwyllgor oedd bod tri achos o oryrru yn amlygu patrwm ac felly nid oeddynt wedi eu darbwyllo ei fod yn cyrraedd safonau disgwyliedig gyrrwr tacsi.

 

Penderfynodd yr Is-bwyllgor wrthod y cais

 

Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei gadarnhau yn ffurfiol drwy lythyr i’r ymgeisydd gan amlygu ei hawl i apelio’r penderfyniad