Agenda item

I ystyried cais Mr B

 

(copi i Aelodau’r Is bwyllgor yn unig)

 

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

Bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni / hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd

 

Cofnod:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud yn unol â Pholisi Trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf wrth ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r nod o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau:

 

       Bod yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol

       Nad yw'r unigolyn yn fygythiad i'r cyhoedd

       Bod y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl anonest

       Bod plant a phobl ifanc wedi'u diogelu

       Bod pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu

       Bod y cyhoedd yn gallu bod yn hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig

 

Cyflwynodd y Rheolwr Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr B i adnewyddu trwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r hyn sydd yn gysylltiedig ag addasrwydd unigolyn i fod yn yrrwr cerbyd hacni/hurio preifat

 

Roedd yr Awdurdod Trwyddedu yn argymell i’r Is-bwyllgor gymeradwyo’r cais

 

Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais gan roi gwybodaeth am gefndir y pwyntiau cosb, a’i amgylchiadau personol. Nododd nad oedd yn defnyddio ei ffôn i dderbyn galwad nac anfon neges, ac mai gosod y ffôn i’w wefrio a wnaeth wrth eistedd mewn traffig ar y ffordd adref o’i waith. Amlygodd ei fod yn gyrru car ei hun ar y pryd ac nid oedd ganddo gwsmeriaid yn y car. Ategodd ei fod yn mwynhau ei waith fel gyrrwr tacsi.

 

Mewn ymateb i gwestiwn pam nad oedd wedi amlygu manylion y drosedd ar ei ffurflen gais, nododd nad oedd llawer o hyder ganddo mewn cwblhau gwaith papur ac mai camgymeriad oedd hyn ac nid ymgais i guddio’r gwirionedd. Ategodd, o fewn ugain mlynedd, ei fod wedi cael un gosb o oryrru.

 

PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd.

 

Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:

·      GofynionPolisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’

·      Canllawiau Addasrwydd Unigolyn

·      Adroddiad yr Adran Drwyddedu

·      Ffurflen gais yr ymgeisydd

·      Adroddiad Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau

·      Sylwadau llafar gan yr ymgeisydd

 

Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r mater canlynol

 

Cefndir

 

Yn Ebrill 2025, derbyniodd yr ymgeisydd 6 pwynt cosb a dirwy o £200 am dorri gofyniad mewn perthynas â rheoli cerbyd a defnydd o ffôn symudol yn groes i Adran 41D o’r Ddeddf Traffig y Ffyrdd 1988.

 

CYMALAU PERTHNASOL Y POLISI

 

Ystyriwyd paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad oes rheidrwydd i berson sydd â chollfarn am drosedd ddifrifol gael ei wahardd rhag cael trwydded, ond bydd disgwyl iddo fod yn rhydd rhag unrhyw gollfarnau am gyfnod priodol fel y nodir yn y Polisi, a dangos tystiolaeth ei fod yn unigolyn addas a phriodol i ddal trwydded. Mae cyfrifoldeb ar yr ymgeisydd i brofi ei fod yn berson addas a phriodol. Mae paragraff 2.4 yn nodi pan fydd ymgeisydd wedi'i gael yn euog o drosedd(au) neu fod mater arall/materion eraill i'w (h)ystyried yng nghyswllt hynny, ni chaiff y Cyngor adolygu rhinweddau'r gollfarn honno na'r mater arall hwnnw.

 

Ystyriwyd paragraff 4.5 sydd yn nodi bod Gorchymyn Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) (Diwygio) 2002 yn caniatáu’r Is-bwyllgor ystyried pob collfarn, p’run ai ydynt wedi eu treulio o dan Ddeddf 1974 neu beidio.

 

Mae rhan 12 o’r Polisi yn ymwneud â chollfarnau moduro gyda pharagraff gyda pharagraff 12.3 yn nodi y bydd cais yn cael ei wrthod os oes collfarn yn erbyn yr ymgeisydd ac nad yw wedi bod yn rhydd rhag collfarn am 6 mis o leiaf.

 

CASGLIADAU

 

Bu i’r Is-bwyllgor bwyso a mesur yr holl ffactorau perthnasol gan ystyried sylwadau'r ymgeisydd dros dderbyn chwe phwynt cosb am ddefnyddio ffôn symudol wrth yrru fel yr amlinellwyd uchod. Derbyniodd yr Is-bwyllgor ei fod wedi bod yn anffodus o gael ei ddal yn ceisio gwefrio ei ffôn symudol yn hytrach na chymryd neu wneud galwad  tra roedd yn llonydd mewn traffig. Ystyriodd yr Is-bwyllgor bod hyn wedi digwydd tra roedd yn gyrru ei gar ei hun ac nid wrth gyflawni gwasanaethau tacsi. Tynnwyd sylw hefyd bod ychydig mwy na chwe mis wedi mynd heibio ers y drosedd.

 

Penderfynodd yr Is-bwyllgor gymeradwyo’r cais

 

Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei gadarnhau yn ffurfiol drwy lythyr i’r ymgeisydd gan amlygu ei hawl i apelio’r penderfyniad.