I ystyried
cais Mr C
(copi i Aelodau’r
Is bwyllgor yn unig)
Penderfyniad:
Nad oedd yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar
gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni / hurio preifat
gyda Chyngor Gwynedd
Cofnod:
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
Amlygodd y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud
yn unol â Pholisi Trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd
mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau
ar y meini prawf wrth ystyried
cais yr ymgeisydd gyda’r nod o ddiogelu’r
cyhoedd drwy sicrhau:
• Bod
yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol
• Nad yw'r unigolyn yn
fygythiad i'r cyhoedd
• Bod
y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl
anonest
• Bod
plant a phobl ifanc wedi'u diogelu
• Bod pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu
• Bod
y cyhoedd yn gallu bod yn
hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig
Cyflwynodd y Rheolwr
Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig
ar gais a dderbyniwyd gan
Mr C am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol
â’r hyn sydd
yn gysylltiedig ag addasrwydd unigolyn i fod yn yrrwr
cerbyd hacni/hurio preifat.
Roedd yr Awdurdod
Trwyddedu yn argymell i’r Is-bwyllgor wrthod y cais
Gwahoddwyd yr ymgeisydd
i ymhelaethu ar ei gais a’i amgylchiadau
personol. Gofynnwyd iddo hefyd egluro
pam gafodd ei arestio a hynny
wedyn yn arwain at ddiddymu ei drwydded gyrrwr
tacsi yn Ionawr 2025.
Mewn ymateb
i gwestiwn pam nad oedd wedi
apelio penderfyniad Cyngor
Sir Fflint i ddiddymu ei drwydded o ystyried bod ‘dim gweithrediad
pellach’ oherwydd ‘problemau tystiolaethol’ ar ol iddo
gael ei arestio,
nododd ei fod yn dioddef
straen oherwydd y digwyddiad ac nid oedd awydd ganddo
ddychwelyd i’r swydd a wynebu swyddogion y Cyngor. Erbyn hyn, nododd bod
angen swydd arno a’i fod
yn ystyried symud ardal.
Mewn ymateb
i gwestiwn pam na ddatgelwyd gwybodaeth angenrheidiol ar ei ffurflen gais, nododd nad oedd
ganddo reswm dros wneud hynny
ar wahân i’r ffaith ei
fod yn anghyfforddus ac yn poeni y byddai’n golygu na
allai gael swydd yn y dyfodol. Ategodd
nad oedd wedi derbyn collfarn
ac nid oedd yn euog o drosedd.
PENDERFYNWYD nad oedd yr ymgeisydd yn berson addas
a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda
Chyngor Gwynedd.
Wrth gyrraedd
eu penderfyniad, roedd yr
Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:
·
Gofynion ‘Polisi
Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’
·
Canllawiau Addasrwydd
Unigolyn
·
Adroddiad yr Adran
Drwyddedu
·
Ffurflen gais yr ymgeisydd
·
DBS yr ymgeisydd
·
Copi o drwydded
gyrru'r ymgeisydd
·
Adroddiad Asiantaeth
Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau
·
Datganid Cyngor Sir y Fflint
·
Datganiad Heddlu
Swydd Gaer
·
Sylwadau llafar
gan yr ymgeisydd
Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol
Cefndir
Ym mis Ionawr 2025 cafodd yr ymgeisydd ei arestio am ymosodiad
rhywiol yn groes i adran
3 o Ddeddf Troseddau Rhywiol 2003. Yn yr un mis diddymwyd
ei drwydded gan yr Awdurdod perthnasol gan nad oeddent yn
fodlon ar sail tebygolrwydd ei fod yn parhau
i fod yn
berson addas a phriodol i ddal trwydded.
Yn mis Ebrill 2025 cyflwynwyd
cais i Gyngor
Gwynedd am drwydded tacsi /
llogi preifat, ond ni fu i’r
ymgeisydd ddatgelu ei fod wedi
dal trwydded gydag Awdurdod Lleol arall yn flaenorol
na bod yr Awdurdod hwnnw wedi diddymu’r
drwydded.
CYMALAU PERTHNASOL Y POLISI
Ystyriwyd
paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad oes rheidrwydd i berson sydd â
chollfarn am drosedd ddifrifol gael ei wahardd rhag cael trwydded, ond bydd
disgwyl iddo fod yn rhydd rhag unrhyw gollfarnau am gyfnod priodol fel y nodir
yn y Polisi, a dangos tystiolaeth ei fod yn unigolyn addas a phriodol i ddal
trwydded. Mae cyfrifoldeb ar yr ymgeisydd i brofi ei fod yn berson addas a
phriodol. Mae paragraff 2.4 yn nodi pan fydd ymgeisydd wedi'i gael yn euog o
drosedd(au) neu fod mater arall/materion eraill i'w
(h)ystyried yng nghyswllt hynny, ni chaiff y Cyngor adolygu rhinweddau'r
gollfarn honno na'r mater arall hwnnw.
Ystyriwyd
paragraff 4.5 sydd yn nodi bod Gorchymyn Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974
(Eithriadau) (Diwygio) 2002 yn caniatáu’r Is-bwyllgor ystyried pob collfarn,
p’run ai ydynt wedi eu treulio o dan Ddeddf 1974 neu beidio.
Ystyriwyd cymal
3.29 o’r Ddogfen Sefydliad Trwyddedu sydd yn nodi bod rhaid ystyried ffactorau
ehangach na’r wybodaeth a geir mewn tystysgrif DBS a phrofion eraill, a’i bod
yn angenrheidiol ystyried cymeriad unigolyn yn ei gyfanrwydd.
CASGLIADAU
Bu i’r Is-bwyllgor bwyso a mesur yr holl ffactorau perthnasol gan ystyried sylwadau'r ymgeisydd ynglŷn â chael ei arestio
am drosedd, o dan Ddeddf Troseddau Rhywiol 2003, yn dilyn digwyddiad
tra roedd yn yrrwr tacsi.
Amlygodd ei fod wedi codi
person oedd yn feddw a bregus, ac wrth geisio gofyn
iddi hi dalu am fod yn sâl
yn y car, arweiniodd hyn at honiadau yn ei erbyn.
Derbyniwyd cadarnhad gan yr Heddlu bod yr achos wedi'i gau
oherwydd anawsterau tystiolaethol ac nid oedd unrhyw wybodaeth
bellach wedi dod i law.
Wrth ystyried sylwadau’r ymgeisydd dros beidio datgan
ei fod wedi
dal trwydded gydag Awdurdod arall ac na fu iddo herio
penderfyniad y swyddogion dros ddiddymu’r drwydded honno, roedd yr Is-bwyllgor yn bryderus am y rhesymau a gyflwynwyd gan nodi bod gonestrwydd yn nodwedd hanfodol
i addasrwydd gyrrwr tacsi.
Roedd yr Is-bwyllgor yn ystyried yr honiadau a wnaed yn rai difrifol iawn. Ystyriwyd cyfrifoldebau
disgwyliedig yr ymgeisydd ar y noson o fod
yn gyrru tacsi i berson
oedd yn agored
i niwed - diogelu'r cyhoedd yw un o’r prif
nodweddion i’w hystyried wrth asesu addasrwydd ymgeisydd i ddal
trwydded gyrru tacsi.
Ar sail tebygolrwydd,
nid oedd yr Is-bwyllgor yn fodlon
y gallent fod yn hyderus fod
yr ymgeisydd yn cyrraedd safonau gyrrwr tacsi. Yn unol â Dogfen y Sefydliad Trwyddedu mae’n rhaid i’r Is-bwyllgor
fodloni eu hunain bod yr ymgeisydd wedi amlygu ei
hun i fod
yn berson cyfrifol, addas a phriodol i ddal trwydded.
Penderfynodd yr Is-bwyllgor wrthod y cais
Adroddodd y Cyfreithiwr
y byddai’r penderfyniad yn cael ei
gadarnhau yn ffurfiol drwy lythyr
i’r ymgeisydd gan amlygu ei hawl
i apelio’r penderfyniad.