Agenda item

Hedd Vaughan-Evans i gyflwyno’r adroddiad.

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

  1. Nodi Adroddiad Perfformiad Chwarter 1 a Chofrestr Risg y Portffolio wedi'i diweddaru.
  2. Cymeradwyo cyflwyno Adroddiad Perfformiad Chwarter 1 i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, ynghyd â phwyllgorau craffu'r awdurdodau lleol.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Hedd Vaughan-Evans, Pennaeth Gweithrediadau.

 

PENDERFYNWYD

 

1.     Nodi Adroddiad Perfformiad Chwarter 1 a Chofrestr Risg y Portffolio wedi'i diweddaru.

2.     Cymeradwyo cyflwyno Adroddiad Perfformiad Chwarter 1 i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, ynghyd â phwyllgorau craffu'r awdurdodau lleol.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Mae adrodd chwarterol ar gynnydd yn erbyn Cynllun Twf Gogledd Cymru yn un o ofynion

Cytundeb Terfynol y Cynllun Twf.

 

TRAFODAETH

Cyflwynwyd adroddiad perfformiad chwarter 1, yn cwmpasu’r cyfnod rhwng Ebrill a Mehefin eleni. Nodwyd bod sawl carreg filltir bwysig wedi’i chyrraedd yn ystod y cyfnod, gan gynnwys trosglwyddo’r gwaith Cynllun Twf i’r CBC. Adroddwyd bod adolygiad o’r portffolio wedi’i gynnal, gyda phenderfyniadau allweddol wedi’u gwneud ar brosiectau unigol, a bod y rhestr wrth gefn newydd, ynghyd â’r trefniadau sicrwydd a chymeradwyo, wedi’u symleiddio ac wedi’u gweithredu’n llwyddiannus.

Cyfeiriwyd at gymeradwyo dau achos busnes llawn yn ystod y chwarter, sef 4G+ a’r prosiect Ynni Lleol Blaengar. Yn ogystal, nodwyd bod y cytundeb benthyciad ar gyfer prosiect Cydnerth wedi’i gwblhau, bod yr achos busnes ar gyfer Theatr Clwyd wedi’i gymeradwyo, a bod y prif adeilad ym Mhlas Coch, fel rhan o brosiect EEOC, wedi’i gwblhau gyda lansiad meddal, tra bod y cyfleusterau labordy ym Mhlas Henfaes wedi’u hadnewyddu’n llawn.

Atgoffwyd bod pedwar prosiect yn parhau i adrodd statws coch ar hyn o bryd, a nodwyd y byddant yn rhan o’r ailgylch adolygu portffolio nesaf, gyda chynigion ac argymhellion i’w cyflwyno’n ôl i’r Bwrdd ym mis Tachwedd. Nodwyd bod nifer o achosion busnes ar rhaglen yr cyfarfod hwn, ac y byddai eu cymeradwyo’n gosod y Bwrdd mewn sefyllfa fwy cadarnhaol o ran perfformiad.

O ran buddion, nodwyd bod y nifer o swyddi a grëwyd erbyn diwedd chwarter 1 yn sefyll ar 38. Derbyniwyd nad oedd y ffigur hwn yn sylweddol ar hyn o bryd, ond bod hynny’n adlewyrchu nifer y prosiectau sydd yn y cam cyflawni presennol. Disgwylir cynnydd sylweddol yn y blynyddoedd nesaf wrth i fwy o brosiectau symud i gam cyflawni. Nodwyd bod gwaith ar y gweill gyda’r cynlluniau twf eraill i safoni’r broses o gasglu data ar swyddi adeiladu a swyddi sydd wedi’u diogelu, er mwyn gallu darparu darlun mwy cynhwysfawr i’r Bwrdd a’r Llywodraeth o’r effaith y mae’r prosiectau’n ei chael.

Nodwyd bod buddsoddiad y Cynllun Twf erbyn diwedd chwarter 1 yn sefyll ychydig dros £22.6 miliwn, gyda chyfanswm y buddsoddiad dros £24 miliwn. Nodwyd ymhellach bod yr adroddiad hefyd yn cynnwys gwybodaeth am y buddion ehangach sy’n dechrau dod i’r amlwg, megis incwm ychwanegol wedi’i sicrhau, myfyrwyr yn cwblhau cymwysterau, a chamau i gryfhau cadwyni cyflenwi. Nodwyd y bydd yr elfen hon yn cael ei datblygu ymhellach mewn adroddiadau yn y dyfodol wrth i fwy o brosiectau symud i gyflawni a mwy o ddata ddod ar gael am eu heffaith.

O ran risg, nodwyd bod y sefyllfa’n weddol gyson â chwarter 4 2024/25. Nodwyd bod y risg weddilliol ar oedi wedi lleihau ychydig, yn sgil gweithredu’r rhestr wrth gefn. Fodd bynnag, nodwyd bod y risg weddilliol o ran cynllunio wedi cynyddu, gan bod rhai risgiau sylfaenol yn parhau yn y system ac angen eu monitro’n agos.

Nodwyd falchder o weld lliwiau’r gofrestr risg yn gwella, ond er hyn nodwyd pryder ynghylch cymryd y ffaith hon allan o’i chyd-destun, gan nad oedd y ffigur o 38 o swyddi newydd yn adlewyrchu’n llawn y gwaith a gyflawnwyd hyd yma. Nodwyd bod nifer o brosiectau ar y gweill yn dangos bod y Cyngor yn symud tuag at ei dargedau, a bod angen bod yn aeddfed ac yn gadarn wrth symud ymlaen gyda’r gwaith hwn.

Mynegwyd pryder ynghylch y ffigur swyddi newydd, sef 38. Nodwyd ymhellach bod yn bwysig egluro pa fath o swyddi oedd y rhain ac adeiladu’r eglurhad hwn i mewn i’r dashfwrdd. Cwestiynwyd a oedd y swyddi hyn yn rhai llawn amser ac o ansawdd uchel. Nodwyd bod yn bwysig anelu at greu swyddi o werth uchel er mwyn cadw pobl o fewn eu cymunedau. Mewn ymateb, nodwyd bod y 38 swydd yn swyddi cyfwerth llawn amser ac yn deillio o brosiectau DSP Prifysgol Bangor, EEOC Prifysgol Wrecsam a swyddi llawn amser o fewn swyddfa rheoli’r portffolio. Pwysleisiwyd y byddai llawer mwy o fanylder ar gael yn y dyfodol ynglŷn â’r swyddi sy’n cael eu creu.

Mynegwyd pryder ynghylch prosiectau heb ganiatâd cynllunio. Cwestiynwyd a oedd yn bosibl cael diweddariad ar y rhestr wrth gefn, yn enwedig ar brosiect Trawsfynydd. Mewn ymateb, nodwyd bod cynllunio’n broses gymhleth sy’n ddibynnol ar benderfyniadau’r awdurdod lleol. Nodwyd bod y rhestr wrth gefn yn symud ymlaen yn dda, gyda phedwar o’r prosiectau hynny ar raglen y cyfarfod hwn. Nodwyd yn benodol ynghylch Trawsfynydd bod y prosiect yn symud ymlaen yn gadarnhaol, gyda diweddariadau cadarnhaol yn cael eu derbyn gan y tîm ynglŷn â’r gyllideb a’r fframwaith llywodraethu. Nodwyd ymhellach y byddai gweithdy’n cael ei gynnal ar ddiwedd y mis ar gyfer y rhanddeiliaid sy’n ymwneud â phrosiect Trawsfynydd.

Nodwyd bwysigrwydd cynnwys naratifau cryfach ynghylch y swyddi a fydd yn cael eu creu dros oes y prosiectau hyn yn y tymor hir, yn enwedig yn y maes adeiladu. Nodwyd ymhellach bod nifer o’r swyddi hyn ddim yn dod yn weithredol tan bod y prosiectau wedi’u cwblhau ac wedi symud i’r cyfnod gweithredu, gan achosi oedi yn ystadegau’r swyddi.

Pwysleisiwyd yr angen i ailfframio’r naratif ynghylch y swyddi, gan bwysleisio’r swyddi anuniongyrchol sy’n cael eu creu o fewn cymunedau lleol ac yn y cadwyni cyflenwi o ganlyniad i’r Cynllun Twf. Cytunwyd y byddai’r swyddogion yn cylchredeg rhagor o wybodaeth ynghylch y swyddi, yn enwedig o ran ansawdd y swyddi sy’n cael eu creu. Nodwyd, os nad oedd digon o wybodaeth ar gael, y byddai’n briodol ailedrych ar y fframwaith casglu data yn y dyfodol er mwyn sicrhau bod y wybodaeth berthnasol yn cael ei chasglu.

Cwestiynwyd ynghylch yr amserlen ar gyfer y pedwar prosiect sydd ar y rhestr wrth gefn ac sy’n ddisgwyl dod gerbron y pwyllgor ym mis Tachwedd, gan ofyn i’r swyddogion gadarnhau eu bod ar y trywydd iawn i wneud hynny, gan fod angen penderfyniad ar y pryd ynghylch a ddylid eu hariannu ai peidio. Mewn ymateb, cadarnhawyd bod y pedwar prosiect hyn ar y trywydd iawn i ddod gerbron y pwyllgor ym mis Tachwedd.

Diolchwyd am y drafodaeth a’r gwaith craffu ar y pwnc. Pwysleisiwyd bod craffu a herio o’r fath yn iach ac yn cael eu croesawu.

 

Dogfennau ategol: