I ystyried yr adroddiad a chynnig argymhellion i’r
Cyd-bwyllgor.
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD
Ystyried yr adroddiad gan ychwanegu pryderon ynghylch â Pont
Grog y Fenai yn Sir Ynys Môn yn cau dros dro.
Cofnod:
Cyflwynwyd
yr adroddiad gan Brif Weithredwr Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd y Gogledd a’r Uwch Swyddog Trafnidiaeth.
PENDERFYNWYD
Ystyried
yr adroddiad gan ychwanegu pryderon ynghylch â Pont Grog y Fenai yn Sir Ynys
Môn yn cau dros dro.
RHESYMAU DROS Y
PENDERFYNIAD
TRAFODAETH
Atgoffwyd yr aelodau fod yr Is-bwyllgor
Trafnidiaeth Strategol bellach wedi’i sefydlu ers blwyddyn, a bod eu Cylch
Gorchwyl yn nodi ymrwymiad i baratoi adroddiad chwarterol ar eu gwaith ar gyfer
y Cyd-Bwyllgor Corfforedig (CBC).
Eglurwyd bod yr adroddiad chwarterol yn rhoi
trosolwg strategol ar cynnydd, cyflawniadau allweddol, ac yn amlygu ar feysydd
sydd angen sylw. Ymhelaethwyd mai pwrpas yr adroddiad yw hysbysu aelodau am
faterion allweddol, a phenderfynu a oes unrhyw faterion ymae’r
Is-bwyllgor yn dymuno eu huwchgyfeirio i’r CBC.
Nodwyd bod yr adroddiad bellach yn ystyried y
cyfnod ymgynghoriad cyhoeddus ar gyfer y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol (CTRh), a oedd yn gyfnod o 12 wythnos a daeth i ben ym mis
Ebrill 2025. Cyflwynwyd yr adroddiad yn flaenorol yn yr Is-bwyllgor
Trafnidiaeth Strategol a’r CBC. Ymhelaethwyd bod bron i 1,700 o ymatebion
wedi’u derbyn; o’r rhain, roedd dros 1,400 yn ymwneud ag ymgyrchoedd gan
Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru ynglyn â geiriad
dyhead a oedd yn ystyried yr A55 yn Sir y Fflint. O ganlyniad, addaswyd y
geiriad yn dilyn cyfnod ymgynghori. Bu trafodaethau rhwng Uchelgais Gogledd
Cymru ac Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru hefyd, ac mae hyn wedi’i gynnwys
yn yr atodiadau er gwybodaeth.
Cyflwynwyd pwyntiau allweddol eraill yn yr
adroddiad, a oedd yn cynnwys: y Broses
‘Moderneiddio Grantiau’, sef prosiect Llywodraeth Cymru; amserlenni a sut mae
cynlluniau trafnidiaeth drafft yn cael eu datblygu; a mentergarwch gan
partneriaid, un enwedig Rhwydwaith Gogledd Cymru, sef gweledigaeth buddsoddiad
Llywodraeth Cymru, sy’n gyfwerth â biliynau o bunnoedd ar gyfer rhwydwaith
trafnidiaeth integredig, amledd uchel ar gyfer y rhanbarth.
Mewn ymateb i ymholiad, cytunwyd y byddai
cyflwyniad ar Rhwydwaith Gogledd Cymru o fudd ar gyfer cynlluniau gwaith yn y dyfydol er mwyn nodi’r dyheadau ar gyfer y tair i bedair
blynedd nesaf. Nodwyd y byddai hyn yn dangos y cydymffurfiaeth rhwng y Cynllun
Trafnidiaeth Rhanbathol â dyheadu
a chynlluniau Rhwydwaith Gogledd Cymru.
Gofynnwyd hefyd y byddai diweddaraid
ar Fasnachfreinio Bysiau yn cael ei werthfawrogi, yn
enwedig gan fod llawer o bryderon wedi’u nodi o’r blaen ynglyn
â’r mater hwn.
Tynnwyd sylw at yr angen i fod yn ymwybodol
o’r amrywiadau rhwng siroedd wrth ystyried masnachfreinio
bysiau, yn enwedig yr heriau o sefydlu a sicrhau gwasanaeth dibynadwy ar gyfer
cymunedau gwledig. Nodwyd bod ymgynghoriad ar y gweill gan Drafnidiaeth Cymru
ar fapiau rhwydwaith ar hyn o bryd a’i bod yn bwysig iawn i’r awdurdodau
rhanbarthol gyfrannu at yr ymgynghoriad hwn.
Cwestiynwyd a
allai’r CBC gydweithio â GanBwyll, gan y nodwyd bod rhai
o’r awdurdodau lleol eisoes wedi mewn mewn cysylltiad
â GanBwyll ynghylch â’r ddeddfwriaeth 20mya.
Cadarnhawyd bod y CBC eisoes wedi cael gwahoddiad i ymgysylltu â GanBwyll, ac y byddai'r Uwch Swyddog Trafnidiaeth yn arwain
ar hyn ar lefel rhanbarthol.
Argymhellwyd y byddai pryderon ynghylch cau Pont Menai dros dro yn dilyn
Storm Amy yn cael eu cynnwys yn yr argymhelliad i’r CBC.
Dogfennau ategol: