Agenda item

I ystyried a nodi yr adroddiad. 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD

 

Derbyn yr adroddiad gan gefnogi’r cysyniad o adolygu dyraniadau cyfalaf.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Brif Weithredwr CBC y Gogledd a’r Uwch Swyddog Trafnidiaeth.

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn yr adroddiad gan gefnogi’r cysyniad o adolygu dyraniadau cyfalaf.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Cyflwynwyd yr adroddiad at ddibenion gwybodaeth.

 

TRAFODAETH

 

Eglurwyd bod yr adroddiad yn manylu ar y broses ac amserlenni ar gyfer rhaglen ddatblygol y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol ar gyfer 2026/27, ar gyfer sicrhau ei fod yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru yn amserol.

 

Manylwyd bod proses ‘Moderneiddio Grantiau’ Llywodraeth Cymru yn cyfuno ffrydiau cyllido sydd wedi bod ar gael i Awdurdodau Lleol. Nodwyd y bydd Cronfa Trafnidiaeth Rhanbarthol yn cael ei ddatblygu i’r dyfodol, a fydd yn gyfuniad o’r holl ffrydiau cyllido isod:

 

·         Cronfa Trafnidiaeth Leol

·         Cronfa Ffyrdd Gwydn

·         Cronfa Teithio Lesol

·         Cronfa Diogelwch ar y Ffyrdd (Refeniw)

·         Cronfa Diogelwch ar y Ffyrdd (Cyfalaf)

·         Cronfa Llwybrau Diogel mewn Cymunedau

·         Cronfa ffyrdd heb eu mabwysiadu

·         Cronfa Trawsnewid Cerbydau Allyriadau Isel Iawn.

 

            Ymhelaethwyd bod Llywodraeth Cymru wedi gosod disgwyliad ar Gydbwyllgorau Corfforedig i gydlynu’r Gronfa Trafnidiaeth Rhanbarthol, gan gynnwys datblygu rhaglen o gynlluniau bydd yn cael eu cyflawni dros y flwyddyn ariannol ddilynol.

 

            Adroddwyd bod manylion y cynlluniau bydd yn cael eu hariannu yn y flwyddyn ariannol 2026/27 wedi cael eu nodi o fewn Cynllun Cyflawni’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol gan ychwanegu bod canllawiau Llywodraeth Cymru yn caniatáu i gynlluniau ychwanegol gael eu hariannu drwy Raglen Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol yn ddarostyngedig i’r cynlluniau hynny dderbyn cymeradwyaeth Llywodraeth Cymru.

 

            Diolchwyd i swyddogion y maes trafnidiaeth o fewn yr holl Awdurdodau Lleol sydd wedi bod yn cydweithio gyda swyddogion Cydbwyllgor Corfforedig y Gogledd er mwyn cadarnhau’r rhestr o gynlluniau a ddylid eu hariannu ar gyfer 2026/27, gan nodi bydd y rhestr lawn yn cael ei gyflwyni i Aelodau mewn cyfarfod anffurfiol i’r Is-bwyllgor hwn sydd wedi ei raglennu ar gyfer 04 Tachwedd er mwyn rhoi cyfle i Aelodau adolygu’r Rhaglen Trafnidiaeth Rhanbarthol arfaethedig. Cadarnhawyd bydd yr Aelodau yn derbyn cadarnhad o’r prosiectau cyn y cyfarfod anffurfiol er mwyn gallu cynnal trafodaethau gyda swyddogion o fewn eu Hawdurdodau Lleol wrth baratoi at y cyfarfod.. Eglurwyd byddai’r rhestr lawn yn cael ei gyflwyno i Gydbwyllgor Corfforedig y Gogledd yn ei gyfarfod ar 07 Tachwedd.

 

            Mewn ymateb i ymholiad, cadarnhaodd yr Uwch Swyddog Trafnidiaeth nad yw’r Cyd-bwyllgor Corfforedig wedi penderfynu dyrannu’r Gronfa Trafnidiaeth Rhanbarthol yn hafal rhwng yr Awdurdodau Lleol. Fodd bynnag, eglurwyd bod y Gronfa yn cael ei ddyrannu yn unol â statws prosiectau o fewn y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol.

 

            Mewn ymateb i ymholiad os oes amserlen mewn golwg ar gyfer cytuno ar fformiwla gyda’r Ysgrifennydd Cabinet perthnasol i ddyrannu’r Gronfa Trafnidiaeth Rhanbarthol, nododd Prif Weithredwr CBC y Gogledd nad yw hyn wedi cael ei gadarnhau ar hyn o bryd. Fodd bynnag, cadarnhawyd bod gosod fformiwlâu ar gyfer dyrannu o’r Gronfa yn ystyriaeth gan Lywodraeth Cymru wrth iddynt osod eu cyllidebau. Ymhelaethwyd y gobeithiwyd derbyn cadarnhad o’r cyllidebau mor fuan â phosib gan Lywodraeth Cymru ac ystyriwyd bydd cynnydd i gyllidebau ar gyfer CBC y Gogledd  o’i gymharu â’r hyn a ragdybiwyd o fewn y cynllun 5 mlynedd a ddarparwyd gan y Llywodraeth. Cytunwyd i dderbyn diweddariad pellach ar y mater hwn o fewn cyfarfod anffurfiol nesaf yr Is-bwyllgor hwn ar 04 Tachwedd.

 

            Cymharwyd cyllidebau gan nodi bod cyllideb refeniw yn isel iawn o’i gymharu â chyllideb cyfalaf (oddeutu 1.35% o gyfanswm cyllideb cyfalaf). Ymhelaethwyd bod cyfanswm cyllidebau refeniw, unwaith y mae wedi cael ei ddyrannu i’r Awdurdodau Lleol, ddim yn ddigonol ar gyfer cyfarch costau perthnasol yr Awdurdodau. Gofynnwyd os oes modd gofyn am fwy o gyllideb refeniw er mwyn sicrhau bod yr Awdurdodau Lleol yn cyfarch eu gofynion disgwyliedig. Mewn ymateb, cadarnhaodd Prif Weithredwr CBC y Gogledd bod darpariaeth o hyd at 3% o gyllideb refeniw wedi cael ei nodi o fewn y dyraniad cyllidol. Ymhelaethwyd nad oes unrhyw gadarnhad pellach gan Lywodraeth Cymru os oes modd derbyn mwy o gyllideb refeniw ar gyfer materion trafnidiaeth  a diogelwch ffordd ar hyn o bryd, gan gadarnhau bydd swyddogion yn trafod hyn ymhellach gyda Llywodraeth Cymru, cyn adrodd yn ôl i’r Is-bwyllgor hwn.

 

Dogfennau ategol: