Agenda item

I nodi cynnwys yr adroddiad fel diweddariad o gynnydd yn erbyn cynllun archwilio 2025/26, cynnig sylwadau a derbyn yr adroddiad.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: 

 

·       Derbyn yr adroddiad 

·       Cefnogi gweithrediadau sydd eisoes wedi eu cytuno gyda’r gwasanaethau perthnasol 

 

Nodyn: 

·       Cais i ail ystyried gwell telerau ar gyfer denu mwy o weithwyr i’r maes Gofal 

·       Creu llwybr cyfathrebu ac ystyried modd o rannu canfyddiadau archwiliadau mewnol mewn Cartrefi Gofal gydag Arolygaeth Gofal Cymru 

 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd, er gwybodaeth, adroddiad gan y Rheolwr Archwilio yn diweddaru’r Pwyllgor ar waith archwilio mewnol am y cyfnod o 12 Mai 2025 hyd 28 Medi 2025. Amlygwyd bod 3 o archwiliadau cynllun gweithredol 2024-25 wedi eu cwblhau a 6 o archwiliadau cynllun gweithredol 2025-26 wedi eu cwblhau ac wedi ei gosod ar lefel sicrwydd uchel; digonol neu gyfyngedig.

 

Cyfeiriwyd at bob archwiliad yn ei dro.

 

Materion yn codi o’r drafodaeth ddilynol:

 

Clybiau brecwast

·        aelodau staff (yn ystod yr ymweliadau) heb gwblhau hyfforddiant Tân nac unrhyw un o fodiwlau e-ddysgu mandadol y Cyngor – hyn yn fater sylfaenol

·        polisi alergedd, canllawiau mewn perthynas â darparu offer piws i bob plentyn sydd gydag alergedd

 

Plas Hedd / Plas y Don

·        Staff Gofal wedi gorfod gweithio shifftiau yn y gegin er mwyn sicrhau fod preswylwyr yn cael eu bwydo

·        Nad oedd modd cadarnhau sawl aelod staff sydd wedi darllen y Polisi Diogelu na wedi cwblhau modiwlau E-ddysgu mandadol - hyn yn fater sylfaenol, er derbyn diffyg adnoddau, oes cysondeb yn yr un cartrefi, oes gwelliant o flwyddyn i flwyddyn? Gall hyfforddiant arbed y risg o ddamweiniau a chostau apêl!

·        Bod yr un Cartrefi Gofal yn torri rheoliadau yn gyson – hyn yn bryder mawr

 

Mewn ymateb i’r sylwadau, nodwyd bod cael gweithwyr maes i gwblhau modiwlau hyfforddiant mandadol yn broblem drwy’r Cyngor a bod y Panel Diogelu a’r Grŵp Gweithredol Diogelu yn ymwybodol o’r broblem ac yn ceisio codi ymwybyddiaeth drwy’r Cyngor i geisio datrys modd o sicrhau bod y gweithwyr yn cael at y wybodaeth. Amlygwyd bod côd QR yn cael i dreialu fel un dull o gael gweithwyr i gwblhau modiwlau ar eu ffonau symudol a bod gwaith yn cael ei wneud i annog hyfforddiant wyneb yn wyneb yn hytrach na chwblhau modiwl ar lein.

 

Yng nghyd-destun bod staff heb gymhwyster yn gweithio mewn ceginau yn bryder, nodwyd bod recriwtio staff yn parhau yn broblem o fewn y maes gofal ac yn derbyn nad oedd y sefyllfa yn ddelfrydol. Ategwyd bod y Gweithgor Gwella Rheolaethol wedi cynnal archwiliad gyda rheolwyr rhai o’r Cartrefi Gofal a bod gwelliannau wedi eu cynnig. Nodwyd bod yr archwiliadau yn cael eu cynnal mewn cylch tair blynedd a bod tri o’r cartrefi wedi derbyn archwiliad dilynol gyda bwriad yntau cyflwyno adroddiad dilyniant i’r Pwyllgor neu i’r Gweithgor Gwella Rheolaethol drafod materion penodol mewn manylder gyda’r Rheolwyr cyn adrodd i’r Pwyllgor.

 

Mewn ymateb i gwestiwn os yw Archwilio Mewnol yn rhannu eu canfyddiadau gydag Arolygaeth Gofal Cymru ac os oes llwybr cyfathrebu clir gyda’r Arolygaeth, nodwyd bod Archwilio Mewnol yn edrych ar adroddiadau’r Arolygaeth i gartrefi i weld os oes camau gweithredu wedi eu cynnwys a thystiolaeth o welliant, ond nad oedd Archwilio Mewnol yn rhannu canlyniadau eu harchwiliadau gyda’r Arolygaeth. Ategwyd bod modd ystyried hyn a chanfod llwybr cyfathrebu clir i rannu canfyddiadau.

 

Nododd y Cadeirydd bod Rheolwyr y Cartrefi Gofal wedi mynegi yn y  Gweithgor Gwella Rheolaethol bod addasiadau mewn telerau gwaith wedi arwain at broblemau staffio a recriwtio. Awgrymwyd y dylid ail edrych ar y telerau hyn gan nad yw’r sefyllfa wedi ei chyfarch yn llawn.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

PENDERFYNWYD

 

·        Derbyn yr adroddiad

·        Cefnogi gweithrediadau sydd eisoes wedi eu cytuno gyda’r gwasanaethau perthnasol 

 

Nodyn: 

·        Creu llwybr cyfathrebu ac ystyried modd o rannu canfyddiadau archwiliadau mewnol mewn Cartrefi Gofal gydag Arolygaeth Gofal Cymru

·        Cais i ail ystyried gwell telerau ar gyfer denu mwy o weithwyr i’r maes Gofal 

 

Dogfennau ategol: