I dderbyn yr wybodaeth, ystyried risgiau sy’n deillio o’r Cynllun Ariannol Tymor Canolig, a chraffu’r penderfyniadau’r Cabinet
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD:
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Cabinet Cyllid mewn
ymateb i’r heriau ariannol sy’n wynebu’r Cyngor. Pwrpas y cynllun yw gosod
allan y rhagolygon am sefyllfa’r Cyngor dros y tair blynedd ariannol nesaf gan
gynnig rhagdybiaethau yn ogystal â chynigion i fynd i’r afael â’r bwlch
ariannol mae’r Cyngor yn ei wynebu. Eglurwyd bod y ddogfen yn un byw sydd yn
cael ei diweddaru yn gyson fel daw gwybodaeth i law ac i’r rhagolygon neu
dybiaethau ariannu cenedlaethol a lleol newid. Bydd unrhyw ddiweddariadau yn cael
eu cyflwyno i’r Cabinet.
Eglurodd y Pennaeth Cyllid nad yw canfod toriadau ar
gyllideb a gwasanaethau’r Cyngor yn broses newydd gan fod toriadau bellach yn
cael eu cyflwyno yn flynyddol. Ymfalchïwyd bod y Cyngor wedi llwyddo i gynnal
gwasanaethau er lleihad yng nghyllidebau adrannau ond un rhan o’r gwaith yw
adnabod y bwlch ariannol sydd dros y tair blynedd nesaf yn £40 miliwn a gwaith
bellach yn mynd rhagddo i ymdrechu i lenwi’r bwlch drwy gynllun ffeithiol.
Pwysleisiwyd bod y rhagdybiaethau yn seiliedig ar sail gwybodaeth y blynyddoedd
diwethaf ac y bydd pwysau i wario llai, edrych ar gynyddu incwm a gweithredu
cynlluniau arbedion.
Yng nghyd-destun y setliad, nodwyd bod diffyg eglurder o
gyfeiriad y llywodraeth yn golygu fod
cynllunio ymlaen llaw yn anodd ar gyfer 2026/27 o ganlyniad i negeseuon cymysg
bod ychwanegiad i gyllideb y sector gyhoeddus gan Lywodraeth San Steffan ond
daw rhybudd na all Llywodraeth yng Nghaerdydd gynyddu gwariant cyhoeddus o dan
yr amgylchiadau economaidd presennol. Cyfeiriwyd hefyd at y posibilrwydd y bydd
Llywodraeth Cymru yn gosod ‘rollover budget’ ar gyfer 2026/27, sef parhau gyda chyllideb eleni
gydag ychwanegiad bychan tuag at chwyddiant yn unig. Amcangyfrifwyd y byddai’r
ychwanegiad cyfartalog o ddeutu 1.5% i Wynedd o dan y fformiwla dyrannu. Bydd
disgwyliad eglurder ar lefel setliad Gwynedd erbyn Tachwedd 2025.
Materion i’w hystyried:
-
Bydd chwyddiant tal blynyddol i athrawon yn 4%
yn 2026/27 a 3.4% i staff eraill – rhain yn gyflogau sydd yn cael eu cytuno’n
genedlaethol ac mae rheidrwydd i ariannu’r cynnydd blynyddol
-
Bydd cynnydd mewn ardollau
-
Bod cynnydd yn nifer eiddo talu treth, ond dim
ffigwr wedi ei gynnwys
-
Rhagweld gostyngiad i’r gyfradd pensiwn yn dilyn
ailbrisiad. Y gronfa bensiwn mewn sefyllfa iach ac felly cyfle i ostwng
cyfraniadau - rhagweld arbediad yma o £3 miliwn.
-
Bydd pob Adran i gyflwyno achos busnes ar gyfer
arian ychwanegol gyda rhesymeg dros yr angen amdano. Bydd pob bid yn cael ei
ddadansoddi mewn manylder gyda’r gronfa ar gyfer hyn wedi ei leihau o £8 miliwn
i £5 miliwn.
Er bod amser ymateb i’r sefyllfa yn brin (o dderbyn y
setliad i osod cyllideb gytbwys), cadarnhawyd y gobeithir cyflwyno amrywiol
opsiynau ar gamau nesaf i’r dyfodol.
Ategodd yr Uwch Swyddog Gweithredol bod canfod arbedion heb
effaith bellach yn anodd a gydag ansicrwydd yn y meysydd gofal, anghenion dysgu
ychwanegol a digartrefedd, nad oedd angen brysio i wneud toriadau. Adroddwyd y
byddai sesiynau briffio yn cael eu trefnu yn rhoi diweddariadau ar y sefyllfa
i’r holl aelodau etholedig a lleyg.
Diolchwyd am yr adroddiad.
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â sut y gall y Cyngor barhau
i gyflawni arbedion a chynnal gwasanaethau, nodwyd bod pocedi o arbedion
effeithlonrwydd ar gael gan awgrymu er enghraifft, mwy o ddefnydd technoleg (er
bod cyfnod o drawsnewid ac addasu’r ffordd o weithio fel arfer yn hirach na
chyfnod gwireddu’r arbediad). Ategwyd mai’r her yw bod yn arloesol, gan
ddefnyddio dychymyg i weithio yn wahanol, ac er nad yw’r cronfeydd yn llenwi’r
bwlch, mae’n prynu amser cyn i gynlluniau ddod i rym; bod rhai o’r cynlluniau
angen eu mireinio a’u datblygu gyda gwybodaeth a dealltwriaeth o sut bydd y
gwaith yn symud ymlaen.
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â
geiriad gofynion Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, lle disgwylir i’r
Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio graffu rhai materion ariannol gan gynnwys
cynlluniau ariannol yr awdurdod, lle’n briodol, a phwy sydd yn
penderfynu yr hyn sy’r briodol, nodwyd mai geiriad y mesur sydd yma ac mai rôl
y Pwyllgor yw edrych ar y cynllun ariannol tymor canolig fel gofyn statudol y
mesur.
Materion yn codi o’r drafodaeth ddilynol:
-
Bod arbedion wedi eu cyflawni yn y gorffennol -
rhaid ystyried hyn yn risg, er yn parhau yn bosib
-
Bod angen ystyried yr awgrym o roll over budget
yn risg i’r Cyngor
-
Bod angen cydnabod etholiad Mai 2026 fel risg
-
Doeth yw cael cronfa wrth gefn ond angen bod yn
ofalus o’r defnydd
Mewn ymateb i wybodaeth ynglŷn â pham defnyddio Band D
ac os oes bwriad ail-fandio oherwydd gostyngiad mewn
prisiau tai, nodwyd mai Deddf Llywodraeth Leol 2012 sydd yn amlinellu defnydd
Band D fel sylfaen drethiannol a bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i adolygu
bandiau treth cyngor er nad oes mwy o fanylder ar gael. Nodwyd nad yw bandiau
Cymru wedi eu haddasu ers 2003.
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn ag arian sydd heb ei
adnabod a'r posibilrwydd o dderbyn arian ychwanegol, nodwyd bod rhaid, yn
gyfreithiol, gosod cyllideb erbyn Mawrth 11eg 2026 ac felly rhaid amlygu ymlaen
llaw lle fydd yr arian ychwanegol yma yn cael ei ddefnyddio.
Yng nghyd-destun premiwm treth Cyngor a'r bwriad i’w
glustnodi ar gyfer ail fuddsoddi yn y maes tai, gofynnwyd petai dim defnydd yn
cael ei wneud ohono a fydd opsiwn i’w gyfeirio at faes arall. Mewn ymateb,
nodwyd mai penderfyniad i’r Cyngor Llawn fydd hynny ac er nad yw’n cael ei
ystyried ar hyn o bryd, ni ellid ei anwybyddu fel opsiwn i’r dyfodol. Er hynny,
bydd unrhyw drafodaeth neu argymhelliad yn un tryloyw.
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â’r gostyngiad pensiwn a
pham bod penderfyniad wedi ei wneud i gymryd yr arbediad o £3miliwn mewn un
flwyddyn yn hytrach na £1 miliwn dros dair blynedd, nodwyd mai’r dewis oedd
lleihad o 1% bob blwyddyn neu gymryd yr arbediad o £3 miliwn yn llawn.
Ystyriwyd mai dyma oedd yr opsiwn orau gyda phosibilrwydd y bydd mwy na £3
miliwn oherwydd nad oedd y ffigyrau terfynol wedi eu rhyddhau.
Mewn ymateb i gwestiwn petai Llywodraeth Cymru yn methu
pasio’r gyllideb, nodwyd bod mecanwaith statudol mewn lle i barhau
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â gostyngiad arwyddocaol
yn ffigyrau poblogaeth a ddefnyddiwyd ar gyfer setliad 2024/25 ac os mai
marwolaethau oedd y rheswm dros hyn, nodwyd nad y newid ym mhoblogaeth Gwynedd
ynddo ei hun oedd yn creu effaith, ond y newid i boblogaeth Gwynedd mewn
cymhariaeth ac nid ym mhoblogaeth weddill Cymru. Nodwyd mai gostyngiad mewn
myfyrwyr ym Mangor oedd un o’r rhesymau a hynny yn cymharu gyda Siroedd eraill
gyda cholegau a phrifysgolion eraill yng Nghymru. O ran ffigyrau gostyngiad poblogaeth
y Sir, nodwyd bod y wybodaeth ar gael a bod mod ei rannu gyda’r Pwyllgor.
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â defnydd o oddeutu £3.7
miliwn sydd yn incwm o dreth cynhwysion
plastig ac os oes angen ei ddefnyddio ar gyfer isadeiledd gwastraff, nodwyd nad
oes rhaid defnyddio'r arian i gyd ar gyfer y gwasanaethau ail-gychu, bod modd
defnyddio cyfran o’r arian ar wariant cyffredinol.
PENDERFYNWYD
Derbyn y wybodaeth gan nodi’r sefyllfa a’r risgiau
perthnasol yng nghyswllt sefyllfa ariannol y Cyngor
Nodyn:
Paragraff 2.10 o’r Cynllun. Cais i rannu gwybodaeth / ffigyrau gostyngiad
poblogaeth y Sir
Dogfennau ategol: