ADOLYGU
POLISÏAU TACSI CYNGOR GWYNEDD - Polisi Collfarnau Perthnasol –
Meini Prawf Addasrwydd ar gyfer Gyrwyr a Gweithredwyr Dogfen Canllawiau
Addasrwydd y Sefydliad Trwyddedu - Canllawiau ar benderfynu ar addasrwydd
ymgeiswyr a thrwyddedai yn y diwydiant Cerbydau Hacni
a Hurio Preifat
·
I ystyried y cynigion arfaethedig o ran adolygu y ‘Meini Prawf Addasrwydd ar gyfer Gyrwyr a Gweithredwyr’ a’i
cymeradwyo ar gyfer eu gweithredu o’r 1af o Ionawr 2026
·
Cymeradwyo mabwysiadu canllawiau diweddaraf y
Sefydliad Drwyddedu - Canllawiau Addasrwydd ymgeiswyr a thrwyddedai yn y
diwydiant cerbydau hacni a hurio preifat 2024, ac unrhyw ddiweddariadau
fydd yn dilyn fel canllawiau swyddogol ychwanegol
i’w ystyried ochr yn ochr a pholisi collfarnau Meini Prawf Addasrwydd y Cyngor.
·
Ystyried os oes angen cynnwys unrhyw ofyniad arall
yn y Meini prawf addasrwydd
Penderfyniad:
Cofnod:
Polisi Collfarnau Perthnasol – Meini Prawf Addasrwydd ar
gyfer Gyrwyr a Gweithredwyr - Dogfen Canllawiau Addasrwydd y Sefydliad Trwyddedu - Canllawiau ar benderfynu ar addasrwydd
ymgeiswyr a thrwyddedai yn y diwydiant Cerbydau Hacni
a Hurio Preifat.
Cyflwynwyd adroddiad oedd yn amlygu newidiadau arfaethedig i
bolisïau a meini prawf addasrwydd ar gyfer gyrwyr a gweithredwyr tacsi. Gwnaed
cais i’r Pwyllgor fabwysiadau’r newidiadau yn ddi-oed fel bod modd eu cynnwys
yn y Polisi Trwyddedu Tacsi Unedig newydd fydd yn destun ymgynghoriad cyhoeddus
yn dilyn adolygiadau o ganllawiau, gweithdrefnau a pholisïau.
Eglurwyd bod y Meini Prawf Addasrwydd cyfredol wedi eu
datblygu yn 2014 ar y cyd gydag Awdurdodau Trwyddedu Cymru er mwyn ceisio
cysondeb rhwng Cynghorau wrth benderfynu ar addasrwydd ymgeiswyr a thrwyddedai.
Nodwyd nad oedd dehongliad pendant yn y Ddeddf o’r safon ddisgwyliedig i brofi
addasrwydd diogelwch unigolyn i ddal trwydded tacsi, ac o ganlyniad cyhoeddodd
y Sefydliad Trwyddedu ganllawiau yn 2018 i gynorthwyo Awdurdodau Trwyddedu
benderfynu ar addasrwydd unigolyn. Mabwysiadwyd y canllawiau hynny gan y
Pwyllgor Trwyddedu fel canllaw ychwanegol swyddogol i’w ystyried mewn
gwrandawiadau, law yn llaw gyda Polisi Collfarnau Cyngor Gwynedd.
Adolygwyd y canllawiau yn 2024 a bellach cyhoeddwyd dogfen
ddiwygiedig oedd yn caniatáu i swyddogion ac Aelodau roi ystyriaeth i faterion
ehangach sy’n effeithio addasrwydd a diogelwch person i fod yn meddu ar
drwydded tacsi. Ategwyd bod y canllawiau yn cyfarch ystyriaethau fel pryderon
diogelu plant a phobl fregus mewn
manylder.
Tynnwyd sylw at y Meini Prawf Addasrwydd gan nodi bod y prif
egwyddorion yn aros yr un fath ond bod y newidiadau arfaethedig yn canolbwyntio
ar alinio Polisi Meini Prawf y Cyngor gyda Chanllawiau Addasrwydd y Sefydliad
Trwyddedu, ynghyd a pholisïau a weithredir mewn Cynghorau eraill.
Diolchwyd am yr adroddiad
Sylwadau yn codi o’r drafodaeth ddilynol:
·
Yn croesawu canllawiau ychwanegol a
chyfarwyddiadau cadarn
·
Cytuno gyda’r penderfyniad i wrthod trwydded os
bydd gyrrwr yn cael yn euog ddwywaith am yrru o dan ddylanwad alcohol neu
gyffuriau – hyn yn ganllaw mwy pendant
·
Cynnydd mewn amser yn cael ei groesawu - hyn yn
cryfhau'r grym i sicrhau diogelwch ac i’r ymgeisydd ddysgu gwersi
·
Awgrymu diddymu ‘drwy yrru’ yn y frawddeg ‘lle
mae troseddau wedi arwain at farwolaeth drwy yrru’
Mewn ymateb i gwestiwn:
·
ynglŷn â phryd roedd y newidiadau yn dod i
rym, cadarnhawyd, pe byddai’r Pwyllgor yn eu cymeradwyo, byddai’r newidiadau yn
dod i rym ar y 1af o Ionawr 2026. Ategwyd y byddai’r Adran Trwyddedu yn
cyhoeddi’r dogfennau a’r dudalen ceisiadau gan roi gwybod i’r diwydiant tacsi
am y newidiadau gan egluro eu bod yn cyfateb yn well gyda gofynion y diwydiant
cenedlaethol.
·
os oedd y newid i gyfnod amser yn mynd i gael
effaith ar drwyddedau oedd eisoes wedi eu caniatáu, nodwyd mai ychydig o
droseddau fydd yn disgyn i’r categori
‘addasrwydd person’.
·
ynglŷn â rhannu gwybodaeth gyda Chynghorau
eraill, nodwyd bod gan y Cynghorau fynediad at wiriadau o fas data cofnodion
troseddau cenedlaethol a bod hawl gan swyddogion gofnodi gwybodaeth ar y bas
data yma e.e., achlysur lle maent wedi diddymu trwydded. Ategwyd bod y
gwiriadau a’r croesgyfeirio yn cael ei wneud yn drwyadl a’r bas data yn cael ei
ddefnyddio yn aml i osgoi ceisiadau posib o un Awdurdod i’r llall. Gall gwybodaeth sydd yn cael ei rannu gan yr Heddlu
neu Gynghorau eraill fod yn wybodaeth sydd tu hwnt i’r hyn sydd wedi ei gynnwys
ar y DBS.
·
lle mae cyfnod amser aros am ddyddiad
gwrandawiad Llys a’r posibilrwydd o ddedfryd, nodwyd bod gan yr Is-bwyllgor,
wrth wneud penderfyniad, yr hawl i ystyried unrhyw wybodaeth berthnasol yng
nghyd-destun effeithiolrwydd person? Gyda’r Ddeddf yn ben agored o ran
dehongliad pendant o ‘addasrwydd’, bydd gan yr Is-bwyllgor hawl i ystyried holl
amgylchiadau’r ymgeisydd. Ategwyd bod gan yr Heddlu gyfrifoldeb i rannu neu
hysbysu’r Awdurdod Trwyddedu o unrhyw ddatgeliad perthnasol / honiad yn erbyn
yr ymgeisydd. Bydd hawl gan y swyddogion i wneud penderfyniad o atal trwydded
dros gyfnod neu roi diddymiad parhaol yn unol â phenderfyniad yr Is-bwyllgor
trwyddedu.
·
ynglŷn â gwybodaeth sydd yn cael ei rannu
ar y bas data cenedlaethol, cadarnhawyd bod y bas data yn cynnwys gwybodaeth ar
draws y Deyrnas Unedig.
·
ynglŷn â rheidrwydd ymgeisydd i ddatgelu
rhybudd gan yr Heddlu, nodwyd bod cyfrifoldeb ar yr ymgeisydd i ddatgelu hyn.
PENDERFYNWYD
Dogfennau ategol: